{"id":39101,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/addysg-yng-nghymru-cenhadaeth-ein-cenedl\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"addysg-yng-nghymru-cenhadaeth-ein-cenedl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/addysg-yng-nghymru-cenhadaeth-ein-cenedl\/","title":{"rendered":"Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynllun addysg cenedlaethol newydd. Yma, y mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, sy\u2019n ysgrifennu yn arbennig i\u2019r Athrofa, yn cyflwyno ei gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Addysg yng Nghymru&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Ym maes addysg yng Nghymru, rydym yn adeiladu ar sylfeini cadarn. Mae&#8217;r arbenigwyr byd-eang ar berfformiad addysg, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, wedi cydnabod yn ddiweddar bod y llywodraeth a&#8217;r sector yn gweithio&#8217;n agos gyda&#8217;i gilydd a bod ymrwymiad i wella sydd i&#8217;w weld ar bob lefel o&#8217;r system addysg.<\/p>\n<p>Nid yw ein cynllun gweithredu &#8211; <a href=\"http:\/\/gov.wales\/topics\/educationandskills\/allsectorpolicies\/education-in-wales\/?skip=1&amp;lang=cy\">Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol<\/a>\u00a0\u2013 yn ddogfen a ddyfeisiwyd mewn swyddfa gefn yn y llywodraeth. Canlyniad bod yn agored i syniadau, adborth ac adolygu ydyw.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gymuned ryngwladol o arbenigwyr, gan gynnwys y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yn helpu i lunio ein gweithgareddau datblygu arweinyddiaeth, ein ffocws ar lesiant a chyfleoedd dysgu proffesiynol. Mae ein hysgolion arloesol yn gweithio mewn partneriaeth ar y cwricwlwm ac yn cymryd camau breision ym maes cymhwysedd digidol.<\/p>\n<p>Mae ein partneriaid yn Estyn, yr Undebau, y Consortia, Cymwysterau Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg yn gwneud cyfraniadau hollbwysig at system hunanwella wirioneddol. Yn bwysicaf oll mae rhieni a dysgwyr eu hunain, ynghyd ag athrawon, yn mynnu&#8217;r gorau posibl o&#8217;n system addysg. Dyna pam rydym yn disgrifio&#8217;r diwygiadau addysg hyn fel cenhadaeth genedlaethol.<\/p>\n<p>Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i godi safonau, lleihau&#8217;r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system sy&#8217;n destun balchder cenedlaethol gwirioneddol a hyder y cyhoedd. Mae&#8217;n rhaid i ysgolion baratoi pobl ifanc ar gyfer swyddi nad ydynt wedi cael eu creu eto a heriau nad ydym wedi eu hwynebu eto. A dweud y gwir &#8211; ar lefel dysgwr, lefel ysgolion ac ar lefel genedlaethol \u2013 ni fu addysg erioed mor bwysig.<\/p>\n<p>Mae a wnelo&#8217;r genhadaeth hon \u00e2 phennu a chyflawni&#8217;r disgwyliadau uchaf posibl i&#8217;n pobl ifanc, i&#8217;n proffesiwn addysgu ac i&#8217;n gwlad. Eisoes mae gennym lawer i ymfalch\u00efo ynddo, ond cydnabyddir y gallwn, gyda&#8217;n gilydd, fod hyd yn oed yn well. Mae ein cynllun yn nodi pwynt hollbwysig ar y daith honno.<\/p>\n<p>Rydym wedi myfyrio ar y cyngor clir a roddodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i ni. Daliwch ati, ond gwnewch fwy i gyfathrebu ac egluro. Canolbwyntiwch ar arweinyddiaeth a chyflawnwch gwricwlwm newydd mewn ffordd brydlon.<br \/>\nMae ein cynllun yn nodi&#8217;r camau gweithredu y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i&#8217;w cymryd i wella&#8217;r system addysg gan gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Lleihau meintiau dosbarthiadau;<\/li>\n<li>Diwygio hyfforddiant athrawon;<\/li>\n<li>Cryfhau&#8217;r gefnogaeth sy&#8217;n cael ei rhoi i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol;<\/li>\n<li>Sefydlu dull cenedlaethol o ddatblygu gyrfaoedd athrawon yn y tymor hir;<\/li>\n<li>Sefydlu <a href=\"http:\/\/learning.gov.wales\/resources\/collections\/national-academy-for-educational-leadership?cr=4&amp;ts=1&amp;lang=cy\">Academi Genedlaethol newydd ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol<\/a>;<\/li>\n<li>Lleihau&#8217;r fiwrocratiaeth ddiangen ar athrawon;<\/li>\n<li>Buddsoddi \u00a31.1 biliwn i uwchraddio ansawdd adeiladau ysgolion.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gwn o&#8217;m hymweliadau ledled Cymru fod llawer o optimistiaeth a rennir a llawer o arfer o&#8217;r radd flaenaf. Rydym yn gwneud llawer o&#8217;r gwaith yn iawn.<\/p>\n<p>Gwn hefyd fod rhai mythau a chamwybodaeth am y cwricwlwm newydd ond mae ein cynllun gweithredu yn glir ynghylch y ffordd ymlaen. Rwyf wedi cymryd yr amser i fyfyrio ar sgyrsiau gydag athrawon, rhieni, addysgwyr ac undebau, a&#8217;r her a&#8217;r cyngor gan y pwyllgor craffu yn y Cynulliad.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n iawn ein bod yn cyflwyno&#8217;r cwricwlwm newydd yn raddol yn hytrach na&#8217;i gyflwyno dros nos un mis Medi. Rhaid i ni hefyd sicrhau bod gan ysgolion ac athrawon ddigon o amser paratoi.<\/p>\n<p>Nid amser i sefyll yn stond ydyw, ond amser i roi adborth, ymgysylltu ymhellach \u00e2&#8217;r cwricwlwm newydd a bod yn hollol barod ar gyfer y dull gweithredu newydd. Bydd y trefniadau newydd ar gyfer y cwricwlwm ac asesu ar gael i ysgolion roi adborth arnynt, eu profi a&#8217;u mireinio yn ystod Pasg 2019.<\/p>\n<p>Yn dilyn y cyfnod hwnnw, bydd gan bob ysgol fynediad i&#8217;r cwricwlwm terfynol o 2020, a bydd hyn yn galluogi pob ysgol i fod yn hollol barod i&#8217;w gyflwyno&#8217;n raddol yn statudol ym mis Medi 2022. Caiff ei gyflwyno yn y dosbarthiadau meithrin hyd at Flwyddyn 7 yn 2022, ym Mlwyddyn 8 yn 2023, ym Mlwyddyn 9 yn 2024 ac yn y blaen wrth i bob carfan symud drwy&#8217;r ysgol.<\/p>\n<p>Fel y dywedodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei adolygiad yn ddiweddar: Er mwyn gwireddu ei hamcanion addysg ac, yn y pen draw, ei gweledigaeth ar gyfer y dysgwr yng Nghymru, dylai Cymru barhau i ddiwygio&#8217;r cwricwlwm&#8230; gan sicrhau bod ei thaith ddiwygio yn gynhwysfawr ac effeithiol.<\/p>\n<p>Gyda&#8217;n gilydd, byddwn yn cyflawni ein cwricwlwm newydd, gan gymryd yr amser i sicrhau bod popeth yn iawn. Nid yw cynnwys yr amser ychwanegol hwnnw yn golygu arafu pethau.<\/p>\n<p>Mae ein cynllun yn nodi nodau clir \u2013 Sicrhau proffesiwn addysg o ansawdd uchel; Nodi ac ysbrydoli arweinwyr i godi safonau; Ysgolion cynhwysol sy&#8217;n ymroddedig i ragoriaeth, cydraddoldeb a llesiant a dulliau asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn a gwell o fewn system hunanwella.<\/p>\n<p>Mae sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr un cyfle i gyrraedd y safonau uchaf wrth wraidd y genhadaeth hon. Rydym yn helpu ein disgyblion o&#8217;r cefndiroedd mwyaf difreintiedig drwy&#8217;r Grant Datblygu Disgyblion, yr ydym yn ei gynyddu ac yn ei ymestyn.<\/p>\n<p>Gallwn bob amser wneud mwy, ond rydym yn lleihau&#8217;r bwlch cyrhaeddiad a cheir straeon dirifedi gan rieni ac athrawon ynghylch sut mae&#8217;r <a href=\"http:\/\/gov.wales\/about\/cabinet\/cabinetstatements\/2017\/pupil\/?skip=1&amp;lang=cy\">Grant Datblygu Disgyblion<\/a> wedi arwain at gyfleoedd a phrofiadau trawsnewidiol. Mae ein cynllun gweithredu yn cynnwys yr un ymrwymiad i godi safonau i bawb.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n hanfodol ein bod yn cefnogi proffesiwn addysgu o ansawdd uchel, gan flaenoriaethu dysgu proffesiynol parhaus ac arweinyddiaeth gadarn, sy&#8217;n nodi ac yn cyflawni disgwyliadau uchel i&#8217;n dysgwyr, ein hysgolion a&#8217;r system gyfan.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n hyderus ein bod yn gweithio&#8217;n gyda&#8217;n gilydd i fynd i&#8217;r afael \u00e2 rhai arferion a wnaeth ostwng disgwyliadau a chamddefnyddio&#8217;r system. Os ydym bob amser yn ymrwymedig i roi lles y dysgwr yn gyntaf \u2013 a sicrhau y gall gyflawni ei botensial \u2013 yna byddwn ar y trywydd iawn.<\/p>\n<p>Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn perthyn i bob dysgwr, rhiant, athro ac arweinydd yng Nghymru. Mae&#8217;n adeg gyffrous i addysg yng Nghymru. Cenhadaeth a rennir i ysbrydoli pobl ifanc iach, mentrus a hyderus sy&#8217;n meddu ar y wybodaeth a&#8217;r sgiliau sydd eu hangen arnynt nawr ac yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Ni fydd yn hawdd bob amser. Ceir boddhad drwy anelu at safonau hyd yn oed yn uwch, dyfodol gwell i&#8217;n pobl ifanc, a chydnabyddiaeth gan rieni, busnesau a&#8217;r gymuned ryngwladol fod Cymru yn arwain y ffordd. Mae ein dull arloesol \u2013 a pharodrwydd i weithio a dysgu gyda&#8217;r gorau yn y byd \u2013 eisoes yn denu sylw. Ond gallwn gyflawni hyd yn oed yn fwy.<\/p>\n<p>Rydym yn dysgu gan y gorau fel y gallwn fod hyd yn oed yn well. Ni fu erioed amser gwell i fod yn gysylltiedig ag addysg yng Nghymru. Nawr yw&#8217;r amser i wneud gwahaniaeth, gyda&#8217;n gilydd gallwn gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol.<\/p>\n<ul>\n<li><strong><em>Kirsty Williams yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg<\/em><\/strong><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynllun addysg cenedlaethol newydd. Yma, y mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, sy\u2019n ysgrifennu yn arbennig i\u2019r Athrofa, yn cyflwyno ei gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Addysg yng Nghymru&#8230; &nbsp; Ym maes addysg yng Nghymru, rydym yn adeiladu ar sylfeini cadarn. Mae&#8217;r arbenigwyr byd-eang ar berfformiad addysg, y Sefydliad ar&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39101","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39101","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39101"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39101\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39101"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39101"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39101"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}