{"id":39102,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/cyfnod-newydd-a-llewyrchus-i-addysg-yng-nghymru\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"cyfnod-newydd-a-llewyrchus-i-addysg-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/cyfnod-newydd-a-llewyrchus-i-addysg-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Cyfnod newydd a llewyrchus i addysg yng Nghymru?"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae strategaeth addysg newydd Llywodraeth Cymru wedi\u2019i lansio gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams. Yma, mae Gareth Evans yn adfyfyrio ar gynnwys y ddogfen a gweledigaeth hir-dymor newydd Cymru ar gyfer addysg&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Erbyn hyn, bydd athrawon, gwneuthurwyr polis\u00efau, arweinwyr undebau a chwaraewyr allweddol eraill sydd ar y s\u00een addysg yng Nghymru wedi cael maddeuant am chwysu\u2019n oer wrth gerdded i mewn i\u2019r Amgueddfa Genedlaethol nos Fawrth ddiwethaf.<\/p>\n<p>Oherwydd dyma\u2019r lle y cyflwynwyd yr araith ddrwg-enwog \u2018Mae Addysgu\u2019n Gwneud Gwahaniaeth\u2019 a lle dadorchuddiwyd cynllun gwella afrosgo 20-pwynt Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Wrth i mi eistedd yn Theatr Reardon Smith, roedd brathau pigog Leighton Andrews yn dal i ganu yn fy nghlustiau.<\/p>\n<p>Mae chwe blynedd a hanner wedi mynd heibio ers galwad ddiarbed y cyn Weinidog Addysg i\u2019r g\u00e2d \u2013 ond gwnaiff gymryd llawer yn hirach na hynny i\u2019w ddileu o\u2019m cof.<\/p>\n<p>Amser i Kirsty Williams gyflwyno ei gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru oedd hi y tro hwn, a gyda\u2019r weledigaeth hon, safbwynt mwy optimistaidd yngl\u0177n \u00e2\u2019r heriau sydd o\u2019n blaenau.<\/p>\n<p>Mae llawer i\u2019w groesawu yn \u2018<a href=\"http:\/\/gov.wales\/topics\/educationandskills\/allsectorpolicies\/education-in-wales\/?skip=1&amp;lang=cy\">Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl<\/a>\u2019, heb s\u00f4n am y newid amlwg yn y d\u00f4n.<\/p>\n<p>Ynddo, mae, Ms Williams yn dyfynnu\u2019r \u201csylfeini cadarn\u201d y mae ei chynllun gweithredu yn seiliedig arnynt, a\u2019i hyder ein bod \u201cni\u2019n symud i\u2019r cyfeiriad cywir\u201d.<\/p>\n<p>Ychwanega \u201cMae\u2019n gyfnod cyffrous i fyd addysg yng Nghymru\u201d.<\/p>\n<p>Cymharwch hwn \u00e2 geiriau Mr Andrews, pan wnaeth e\u2019 gyfeirio yn 2011 at \u201csystem hunanfodlon\u201d sy\u2019n wynebu \u201cargyfwng\u201d.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhain yn amseroedd gwahanol iawn.<\/p>\n<p>Gwn yr hyn sydd yn eich meddwl \u2013 gweinidog newydd, strategaeth addysg newydd arall. Wel, ie a nage.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ddogfen wedi cael ei hail-frandio gyda theitl a slogan newydd.<\/p>\n<p>Ond i bob pwrpas, mae\u2019r cynnwys mwy neu lai\u2019r un peth \u2013 ond yn fwy caboledig, ac yn fy marn i, yn fwy credadwy.<\/p>\n<p>Yr hyn y mae Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl yn ei wneud, nad yw\u2019r ddogfen flaenorol Cymwys am Oes (2014) yn gwneud, yw troi\u2019r geiriau yn weithred.<\/p>\n<p>Yn lle rhestr o ymyriadau diamser, ceir cynllun gweithredu diriaethol, sy\u2019n canolbwyntio ar ganlyniadau.<\/p>\n<p>Mae\u2019n ymddangos fel petai mwy o gydlynu rhwng y gwahanol \u2018amcanion galluogi\u2019, ac mae Llywodraeth Cymru, heb os, wedi mireinio ei naratif.<\/p>\n<p>Dro ar \u00f4l tro, rydym ninnau yng Nghymru wedi cael ein cyhuddo o ddiffyg gweledigaeth o ran addysg.<\/p>\n<p>Gwnaeth y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) dylanwadol Organisation for Economic Co-operation and Development (OECD) grisialu\u2019r hyn a ystyrir yn un o\u2019n problemau mwyaf yn ei adroddiad ar Gymru yn 2014.<\/p>\n<p>Yn syml, dywedodd \u201cmae cyflymdra\u2019r diwygio wedi bod yn uchel, ond mae diffyg gweledigaeth hir-dymor, isadeiledd gwella ysgolion digonol, a strategaeth weithredu glir y gall yr holl randdeiliaid eu rhannu\u201d.<\/p>\n<p>Mae Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl yn cynrychioli cais Llywodraeth Cymru i fynd i\u2019r afael \u00e2 phryderon yr OECD.<\/p>\n<p>Ceir diffiniad mawr ei angen o\u2019r \u2018system hunan-wella\u2019 a sefydliadau dysgu (y cyntaf, hyd y gwn i, yn y cyd-destun Cymreig) \u2013 yn ogystal ag eglurhad o rolau a chyfrifoldebau\u2019r holl randeiliaid allweddol.<\/p>\n<p>Ond hefyd, ceir addasiadau mwy cynnil.<\/p>\n<p>Ac er ei bod hi\u2019n swnio\u2019n rhyfedd, mae\u2019n hawdd iawn mewn strategaethau addysg uchel eu cloch i golli golwg o\u2019r pethau sydd fwyaf pwysig.<\/p>\n<p>Gall gwneuthurwyr polis\u00efau ymglymu eu hunain yn y broses a\u2019r dasg sydd ar waith heb roi ystyriaeth deilwng i\u2019r dysgwyr eu hunain.<\/p>\n<p>Yr hyn sydd orau gennyf o ran Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl yw gweledigaeth Ms Williams ar gyfer ein plant a\u2019n pobl ifanc.<\/p>\n<p>Medd Ms Williams \u201cBydd ein dysgwyr yn gydnerth, yn ddychmygus, yn dosturiol ac yn uchelgeisiol \u2013 byddant yn anelu\u2019n uchel ac yn cyflawni eu nodau.<\/p>\n<p>\u201cRhaid i rieni a gofalwyr ledled y wlad fod yn hyderus bod eu plant yn mynychu ysgolion sy\u2019n eu paratoi\u2019n dda ar gyfer y dyfodol, o dan arweiniad athrawon talentog sy\u2019n llawn brwdfrydedd, ac sy\u2019n cyflwyno cymwysterau sy\u2019n eu grymuso ar gyfer heriau a chyfleoedd personol, cenedlaethol a rhyngwladol.<\/p>\n<p>\u201cMae angen unigolion tosturiol a chyflawn ar ein cenedl, unigolion sydd nid yn unig yn meddu ar ddealltwriaeth dda o lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ond hefyd y sgiliau meddwl beirniadol, y dychymyg a\u2019r cydnerthedd i ragori yn swyddi newydd y dyfodol, a chreu\u2019r swyddi hynny hefyd. Rhaid i ni sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed ac nad yw\u2019r un plentyn yn cael ei adael ar \u00f4l.\u201d<\/p>\n<p>Mae Ms Williams yn mynegi\u2019n glir ei disgwyliadau uchel ar gyfer dysgwyr sy\u2019n rhan o system addysg Cymru.<\/p>\n<p>Ac ni ddylent gael eu cyfaddawdu gan \u201cddaearyddiaeth, amddifadedd na phrofiadau plentyndod\u201d.<\/p>\n<p>Pennawd mawr y ddogfen, wrth gwrs, yw\u2019r oedi yn llinellau amser arfaethedig y cwricwlwm \u2013 ond mae gweithredu yn raddol, fesul tipyn, i\u2019w weld yn hollol synhwyrol.<\/p>\n<p>Mae diwygio\u2019r cwricwlwm, sydd wedi\u2019i arwain yn bennaf gan y proffesiwn, yn broses organig na ellir ei rhuthro.<\/p>\n<p>Mae\u2019n llawer gwell cymryd ein hamser er mwyn sicrhau ein bod yn cael <a href=\"https:\/\/pigion.wordpress.com\/\">Dyfodol Llwyddiannus<\/a> yn iawn yn hytrach na\u2019i wthio trwodd a\u2019i gael yn anghywir \u2013 byddai\u2019r canlyniadau o wneud hynny yn annirnadwy.<\/p>\n<p>Y problemau nad oes neb eisiau eu trafod yw cyllid \u2013 a\u2019r effaith y gwnaiff straen ar arian cyhoeddus ei chael ar weithredu \u2013 a PISA \u2013 sydd heb ei drafod rhyw lawer o ystyried y bri gwleidyddol enfawr sydd ganddo.<\/p>\n<p>Heblaw am gyhoeddi Cerdyn Adrodd Addysg Cymru yn flynyddol (roedd yr un diwethaf yn darllen fel pamffled hyrwyddo gwenieithus), nid yw hi\u2019n glir iawn sut y caiff gwneuthurwyr polis\u00efau eu dal yn atebol am y gweithredu.<\/p>\n<p>Er hynny, mae <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/09\/29\/addysg-yng-nghymru-cenhadaeth-ein-cenedl\/\">Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl<\/a>\u00a0yn ddogfen llawer mwy cytbwys na\u2019r rhai blaenorol, a thrwy gydol y darn ceir dro ar \u00f4l tro yr un thema, sef teimlad newydd o undod.<\/p>\n<p>Nid oes unrhyw deimlad o \u2018ni a nhw\u2019 ac mae Ms Williams yn mynnu \u201cdrwy ddysgu gyda\u2019n gilydd gallwn ddatblygu Cymru well\u201d.<\/p>\n<p>Mae hyn yn rhywbeth symbolaidd ar sawl lefel, gan fod Llywodraeth Cymru\u2019n derbyn nad oes ganddi\u2019r atebion i gyd ac na all, ar ei phen ei hun, gyflawni\u2019r lefel o newid sydd ei hangen.<\/p>\n<p>Personolwyd hyn gan Ysgrifennydd y Cabinet a wnaeth gymryd yr amser ar \u00f4l lansio\u2019r ddogfen i gymysgu gyda\u2019r gwesteion a oedd wedi ymgynnull.<\/p>\n<p>Ni wnaeth ruthro, fel y mae gweinidogion blaenorol wedi\u2019i wneud, i mewn i gar a yrrwyd gan chauffeur a oedd yn aros amdani.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ffaith ei bod hi wedi cymryd yr amser i anfon copi caled o\u2019i chynllun gweithredu at yr ysgolion \u2013 yn ogystal \u00e2\u2019r fersiwn e-bost arferol, yn gydnabyddiaeth bellach o\u2019i dymuniad i ymgysylltu\u2019n ystyrlon \u00e2\u2019r proffesiwn.<\/p>\n<p>Mae hyd yn oed y pethau lleiaf yn gallu gwneud gwahaniaeth.<\/p>\n<p>Felly, wrth i ni ymlwybro allan o\u2019r Amgueddfa Genedlaethol, roedd yna deimlad cadarnhaol diffuant, a\u2019r gobaith ein bod ni ar drothwy cyfnod newydd a llewyrchus o addysg yng Nghymru.<\/p>\n<p>A dyna\u2019r rheswm i mi wrthod gwahoddiad i\u2019r arddangosfa ddinosoriaid newydd.<\/p>\n<p>Daliwn ati i gredu y gwnaiff Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl \u00a0oroesi ei hynafiaid \u2013 dyn a \u0175yr, mae gan addysg yng Nghymru ddigon o sgerbydau yn ei chwpwrdd yn barod.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Gareth Evans yw Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae strategaeth addysg newydd Llywodraeth Cymru wedi\u2019i lansio gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams. Yma, mae Gareth Evans yn adfyfyrio ar gynnwys y ddogfen a gweledigaeth hir-dymor newydd Cymru ar gyfer addysg&#8230; &nbsp; Erbyn hyn, bydd athrawon, gwneuthurwyr polis\u00efau, arweinwyr undebau a chwaraewyr allweddol eraill sydd ar y s\u00een addysg yng Nghymru wedi cael maddeuant&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39102","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39102","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39102"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39102\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39102"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39102"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39102"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}