{"id":39103,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/straeon-o-doronto-penaethiaid-ysgolion-yn-adfyfyrio-ar-wersi-a-ddysgwyd-oddi-wrth-ganada\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"straeon-o-doronto-penaethiaid-ysgolion-yn-adfyfyrio-ar-wersi-a-ddysgwyd-oddi-wrth-ganada","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/straeon-o-doronto-penaethiaid-ysgolion-yn-adfyfyrio-ar-wersi-a-ddysgwyd-oddi-wrth-ganada\/","title":{"rendered":"Straeon o Doronto: Penaethiaid Ysgolion yn adfyfyrio ar wersi a ddysgwyd oddi wrth Ganada"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae penaethiaid ysgolion ledled De Cymru wedi dweud eu bod nhw\u2019n rhoi ar waith yn barod yr hyn y gwnaethant ei ddysgu wrth fynd ar ymweliad astudio i Ganada yn gynharach eleni.<\/strong><\/p>\n<p>Adfyfyriodd arweinwyr ysgol o ardaloedd GCA (Gwasanaeth Cyflawni Addysg), ERW a CCD (Consortiwm Canolbarth y De) ar eu gwibdaith haf i Ontario mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd gan <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">yr Athrofa<\/a>.<\/p>\n<p>Gwnaeth yr ymweliad astudio, a ariannwyd\u00a0 gan y <a href=\"https:\/\/wales.britishcouncil.org\/\">Cyngor Prydeinig<\/a>, gynnwys cyfarfodydd gydag uwch-swyddogion Gweinyddiaeth Addysg Ontario, Coleg Athrawon Ontario\u00a0 a\u2019r Swyddfa\u00a0 Ansawdd Addysg ac Atebolrwydd (EQAO).<\/p>\n<p>Yn ychwanegol i\u2019r rhain, trefnwyd ymweliadau ag ysgolion elfennol, canol ac uwch lleol, lle rhoddwyd i\u2019r cynrychiolwyr y cyfle i rannu syniadau gyda phenaethiaid, athrawon a disgyblion.<\/p>\n<p>Gwnaeth y symposiwm \u2018Straeon o Doronto\u2019, a gynhaliwyd yng nghanolfan newydd yr Athrofa, a leolir yn <a href=\"http:\/\/tramshedtech.net\/cy\/home-page-cy\/\">Tramshed Tech<\/a> yng Nghaerdydd, gynnwys cyfraniadau gan staff y brifysgol, swyddogion Llywodraeth Cymru a phob un o bum pennaeth ysgol a wnaeth deithio i\u2019r ddinas ym mis Mehefin.<\/p>\n<p>Yn eu plith oedd Russell Dwyer, pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas, Abertawe, a ddisgrifiodd yr ymweliad fel \u201c y profiad mwyaf gwerthfawr i mi ei gael yn ystod fy ngyrfa gyfan\u201d.<\/p>\n<p>Ychwanegodd: \u201cMae rhyw deimlad cryf o hyder cyhoeddus mewn addysg yn Ontario &#8230; ac roedd hefyd deimlad bod pawb, gyda\u2019i gilydd, yn rhan ohono.<\/p>\n<p>\u201cMae angen i ni ganolbwyntio yn fwy ar hynny yng Nghymru. Ar hyn o bryd, rydym, yn y b\u00f4n yn benseiri addysg yng Nghymru, ac mae rhaid i ni gymryd o ddifri\u2019r cyfrifoldeb hwnnw a roddwyd i ni.<\/p>\n<p>Dywedodd Tegwen Ellis, pennaeth Ysgol Cynwyd Sant, Pen-y-bont ar Ogwr, fod yr hyder sydd gan y cyhoedd yn addysg y wladwriaeth wedi rhoi i ysgolion Ontario\u00a0 y rhyddid i gymryd mwy o risgiau.<\/p>\n<p>Roedd y canolbwyntio gan Ontario ar gydraddoldeb yn atyniad arbennig i Rhian Ellis, pennaeth Ysgol Gyfun Cymer Rhondda, Rhondda Cynon Taf.<\/p>\n<p>Meddai \u201c Roedd hi\u2019n fraint i ymweld \u00e2 Toronto a gweld cymaint o bethau sydd wedi gwneud argraff ddwys arnaf.\u201d<\/p>\n<p>Gwelwyd hefyd, fel rhan o\u2019r digwyddiad, lansio\u2019r adroddiad \u2018Straeon o Doronto\u2019 gan yr Athrofa, sy\u2019n cymharu addysg yng Nghymru a Chanada.<\/p>\n<p>Mae\u2019r adroddiad yn amlinellu nifer o ganlyniadau allweddol,\u00a0 ac mae\u2019n cynnwys cyflwyniadau ysgrifenedig gan bob un o\u2019r penaethiaid ysgol a aeth ar y daith.<\/p>\n<p>Mae\u2019n diweddu gyda rhestr o argymhellion ar gyfer Cymru a Llywodraeth Cymru, sy\u2019n cynnwys gwneud gwell ddefnydd o ddata; creu perthnasau gwaith cryfach rhwng rhanddeiliaid; a datblygu naratif cyson ac iaith diwygio addysg a rennir.<\/p>\n<p>Ymatebodd Steve Davies, Cyfarwyddwr Addysg <a href=\"http:\/\/gov.wales\/topics\/educationandskills\/?skip=1&amp;lang=cy\">Llywodraeth Cymru<\/a>, i argymhellion yr adroddiad yn ei gyflwyniad a gynhaliwyd yn Tramshed Tech.<\/p>\n<p>Dywedodd, \u201cI finnau, mae\u2019r her yn dod n\u00f4l i hyder ymhlith y cyhoedd\u201d. \u00a0\u201cMae angen i bob un ohonom sefyll ar ein traed a chydnabod beth allai, a beth ddylai ein r\u00f4l fod wrth i ni symud ymlaen.\u201d<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Peter Rabbett, Dirprwy Ddeon Yr Athrofa ac arweinydd y cynrychiolwyr: \u00a0\u201cGwnaeth ein symposiwm Straeon o Doronto roi i gynrychiolwyr fewnwelediad diddorol i un o systemau addysg blaenllaw\u2019r byd.<\/p>\n<p>\u201cRoedd gan bob un o\u2019n penaethiaid stori wahanol i\u2019w dweud, er gwnaeth hefyd nifer o them\u00e2u ddod i\u2019r golwg dro ar \u00f4l tro \u2013 heb s\u00f4n am y cyfrifoldeb o gyflawni\u2019r safonau uchaf posib a rennir gan bawb sy\u2019n rhan o fyd addysg Ontario.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn ddiolchgar iawn am y cyfraniadau a wnaed gan ein cydweithwyr mewn ysgolion a chan Llywodraeth Cymru \u2013 ac roedd hi\u2019n wych i weld sut mae gwersi a ddysgwyd yn Ontario yn effeithio yn barod ar addysgu a dysgu yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Mae cop\u00efau o <em>Straeon o Doronto: Cymharu Addysg yng Nghymru a Chanada<\/em> ar gael <a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Tales-from-Toronto-Welsh.pdf\">yma<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae penaethiaid ysgolion ledled De Cymru wedi dweud eu bod nhw\u2019n rhoi ar waith yn barod yr hyn y gwnaethant ei ddysgu wrth fynd ar ymweliad astudio i Ganada yn gynharach eleni. Adfyfyriodd arweinwyr ysgol o ardaloedd GCA (Gwasanaeth Cyflawni Addysg), ERW a CCD (Consortiwm Canolbarth y De) ar eu gwibdaith haf i Ontario mewn&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39103","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39103","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39103"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39103\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39103"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39103"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39103"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}