{"id":39104,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/cofrestrun-gynnar-rhoi-buddiannaur-dysgwr-yn-gyntaf\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"cofrestrun-gynnar-rhoi-buddiannaur-dysgwr-yn-gyntaf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/cofrestrun-gynnar-rhoi-buddiannaur-dysgwr-yn-gyntaf\/","title":{"rendered":"Cofrestru&#8217;n Gynnar &#8211; rhoi buddiannau&#8217;r dysgwr yn gyntaf"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau\u2019n ddiweddar i leihau nifer y disgyblion sy\u2019n sefyll eu harholiadau TGAU yn gynnar wedi cynnydd amlwg yn nifer y rhai sy\u2019n gwneud hynny. Yma, gan ysgrifennu\u2019n benodol ar gyfer yr Athrofa, mae Ysgrifennydd y Cabinet Kirsty Williams yn esbonio pam\u2026<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Yr haf hwn gwelwyd cynnydd anferth yn nifer y bobl ifanc oedd yn sefyll eu harholiadau TGAU flwyddyn yn gynnar.<\/p>\n<p>Mae hyn yn dilyn tueddiad diweddar lle mae rhai grwpiau cyfan ym Mlwyddyn 10 wedi bod yn sefyll arholiadau a hwythau ddim ond wedi astudio hanner y maes llafur.<\/p>\n<p>Oherwydd hyn, gofynnais i&#8217;r rheoleiddiwr annibynnol, Cymwysterau Cymru, adolygu&#8217;r arfer hwn.<\/p>\n<p>Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i&#8217;r amryw weithwyr o fyd addysg a gefnogodd y gwaith hwn, ynghyd \u00e2&#8217;r holl athrawon, rhieni a dysgwyr wnaeth gysylltu \u00e2 mi am y mater. Dyma rai o brif gasgliadau Cymwysterau Cymru:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae\u2019r defnydd eang a pharhaus o gofrestru dysgwyr i sefyll arholiadau TGAU yn gynnar a mwy nag unwaith yn peri risg i fyfyrwyr ac i\u2019r system, ac nid yw\u2019n hawdd cyfiawnhau hynny;<\/li>\n<li>Mae&#8217;n annog agwedd o \u201caddysgu ar gyfer yr arholiad\u201d ar draul datblygu gwybodaeth ehangach am y pwnc;<\/li>\n<li>Gwariwyd dros \u00a33.3m gan ysgolion ar gofrestru dysgwyr i sefyll arholiadau TGAU yn gynnar yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Fel Ysgrifennydd Cabinet, rwy&#8217;n gweld codi safonau, lleihau&#8217;r bwlch o ran cyrhaeddiad, a sicrhau system y mae gan y cyhoedd hyder ynddi, yn elfennau canolog o&#8217;n cenhadaeth genedlaethol.<\/p>\n<p>Gan ganolbwyntio ar hynny, mae&#8217;n glir imi nad yw&#8217;r defnydd parhaus o gofrestru dysgwyr i sefyll arholiadau&#8217;n gynnar yn fuddiol i\u2019n dysgwyr.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n derbyn y gall cofrestru&#8217;n gynnar fod yn fanteisiol i gyfran fach o ddysgwyr mewn amgylchiadau penodol, er enghraifft dysgwyr sy&#8217;n barod i ddangos dealltwriaeth ehangach o&#8217;r pwnc ac sy&#8217;n dymuno dysgu mwy amdano.<\/p>\n<p>Ond, yn syml, mae gormod o ddisgyblion yn cael eu hamddifadu o&#8217;r cyfle i gyrraedd eu llawn botensial.<\/p>\n<p>Er enghraifft, fe wnaeth bron 9,500 o ddisgyblion sefyll arholiad TGAU Mathemateg-Rhifedd yn gynnar ym mis Tachwedd 2016 a chael gradd A neu is. Ni chafodd y rhain eu hail-gofrestru i sefyll yr un arholiad yr haf canlynol.<\/p>\n<p>O&#8217;r disgyblion hynny, fe gafodd 30% radd C. I siarad yn blaen, mae&#8217;n syndod mawr na chafodd y disgyblion hyn gyfle i wella eu marciau. Derbyn canlyniadau yw hyn, yn hytrach nag ymdrechu i\u2019w gwella.<\/p>\n<p>Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn tynnu sylw at y defnydd amhriodol o asesiadau TGAU at ddibenion ffurfiannol. Nid dyma ddiben TGAU.<\/p>\n<p>Dylai fod gan ysgolion ffyrdd o asesu cynnydd dysgwyr a chynllunio dulliau addysgu a dysgu parhaus heb ddibynnu ar arholiadau TGAU allanol, sy&#8217;n bwysig ac yn gostus.<\/p>\n<p>Er bod safbwyntiau gwahanol, mae&#8217;n amlwg bod amser addysgu yn mynd tuag at baratoi at arholiadau TGAU. Mae tystiolaeth bod llwyth gwaith yr athrawon a&#8217;r dysgwyr yn uwch, bod cynnydd yn y gwaith asesu, a mwy o debygrwydd y bydd dysgwyr yn blino ar arholiadau.<\/p>\n<p>Mae Cymwysterau Cymru&#8217;n argymell yn glir y dylid newid mesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 fel mai dim ond y canlyniad cyntaf sy&#8217;n cyfrif. Rwy&#8217;n derbyn yr argymhelliad hwn yn llawn. I fod yn glir: nid gwahardd ysgolion rhag cofrestru dysgwyr i sefyll arholiadau&#8217;n gynnar ydw i.<\/p>\n<p>Bydd ysgolion yn parhau i allu dewis cofrestru dysgwyr yn gynnar. Fodd bynnag, bydd yn annog ysgolion i gofrestru dysgwyr pan f\u00f4nt yn hyderus ac yn barod i gael y canlyniad gorau posibl.<\/p>\n<p>Bydd ein pobl ifanc yn parhau i allu defnyddio eu canlyniad gorau. Dim ond o ran perfformiad ysgolion y bydd y newid yn cael effaith. Bydd hyn yn rhan o&#8217;n fframwaith asesu a gwerthuso ehangach y byddwn yn ei gyhoeddi&#8217;r flwyddyn nesaf.<\/p>\n<p>Rwyf hefyd wedi derbyn safbwynt Cymwysterau Cymru y dylai ysgolion allu cofrestru dysgwyr i sefyll arholiadau Cymraeg a Saesneg Iaith am y tro cyntaf ym mis Tachwedd. Dim ond ar gyfer y ddau arholiad TGAU Mathemateg y mae modd gwneud hyn ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Bydd hyn yn rhoi dewisiadau priodol a hyblyg i ysgolion o ran cofrestru dysgwyr yn gynnar os ydynt o&#8217;r farn y byddai hynny&#8217;n fanteisiol iddynt, yn enwedig o ran y rheini sy&#8217;n debygol o golli diddordeb neu sy&#8217;n barod i symud ymlaen at ddysgu pellach.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r amserlen ar gyfer y newidiadau yn bwysig. Pan gyhoeddwyd penderfyniad tebyg yn Lloegr, gorfodwyd ysgolion i ymateb i&#8217;r newidiadau o fewn ychydig ddyddiau, a hynny hanner ffordd drwy&#8217;r flwyddyn ysgol.<\/p>\n<p>Yn wahanol i hynny, dw i wedi gwrando ar bryderon yr ysgolion. Dw i&#8217;n cydnabod bod angen amser ar ysgolion i gynllunio eu haddysgu, eu dysgu, a&#8217;u hymagwedd o ran TGAU.<\/p>\n<p>O ganlyniad, ni fydd y newidiadau i&#8217;r mesurau perfformiad yn dod i rym nes adroddiadau haf 2019. Golyga hyn y bydd cyfrifiadau diwygiedig mesurau perfformiad ysgolion yn seiliedig ar ganlyniadau&#8217;r dysgwyr hynny sydd newydd ddechrau ym Mlwyddyn 10.<\/p>\n<p>Penderfyniad y rheoleiddiwr fydd caniat\u00e1u sefyll arholiadau Cymraeg a Saesneg Iaith am y tro cyntaf yng nghyfres arholiadau mis Tachwedd, ond rwy&#8217;n deall eu bod yn bwriadu i\u2019r opsiwn hwn fod ar gael i ysgolion yn y flwyddyn academaidd nesaf.<\/p>\n<p>I gefnogi gwaith ysgolion o wneud penderfyniadau, bydd Llywodraeth Cymru&#8217;n cyhoeddi canllawiau diwygiedig yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd hon ynghylch pryd y gall sefyll arholiadau&#8217;n gynnar fod yn fanteisiol i ddysgwyr penodol, a phryd nad yw&#8217;n fanteisiol iddynt.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r newidiadau yr wyf wedi\u2019u cyhoeddi\u2019n rhan o&#8217;n trefniadau pontio ar gyfer atebolrwydd, a byddant yn helpu ysgolion i weithredu er lles y dysgwyr.<\/p>\n<p>Mae TGAU yn arholiadau sydd wedi eu cynllunio i\u2019w sefyll ar \u00f4l dwy flynedd o addysgu, nid un. Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael mynediad at gwricwlwm eang a chytbwys, sy&#8217;n canolbwyntio ar yr hyn sydd orau i\u2019n pobl ifanc.<\/p>\n<p>Os ydym yn ymrwymo i roi&#8217;r dysgwyr yn gyntaf bob amser, a sicrhau eu bod yn gallu cyrraedd eu potensial, yna gallwn fod yn hyderus y byddwn, gyda&#8217;n gilydd, yn parhau i godi safonau a lleihau&#8217;r bwlch o ran cyrhaeddiad.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Kirsty Williams yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau\u2019n ddiweddar i leihau nifer y disgyblion sy\u2019n sefyll eu harholiadau TGAU yn gynnar wedi cynnydd amlwg yn nifer y rhai sy\u2019n gwneud hynny. Yma, gan ysgrifennu\u2019n benodol ar gyfer yr Athrofa, mae Ysgrifennydd y Cabinet Kirsty Williams yn esbonio pam\u2026 &nbsp; Yr haf hwn gwelwyd cynnydd anferth yn nifer&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39104","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39104","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39104"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39104\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39104"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39104"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39104"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}