{"id":39105,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/croesewir-effaith-cyrsiau-datblygiad-proffesiynol-gan-athrawon\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"croesewir-effaith-cyrsiau-datblygiad-proffesiynol-gan-athrawon","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/croesewir-effaith-cyrsiau-datblygiad-proffesiynol-gan-athrawon\/","title":{"rendered":"Croesewir effaith cyrsiau datblygiad proffesiynol gan athrawon"},"content":{"rendered":"<p><strong>Anogir athrawon sydd \u00e2 diddordeb mewn datblygiad proffesiynol ysgogiadol i gofrestru am ddau gyfle dysgu proffesiynol cyffrous.<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r Rhaglen Athrawon Rhagorol (Outstanding Teacher Programme\u00a0&#8211; OTP) a\u2019r Rhaglen Athrawon sy\u2019n \u00a0Gwella (Improving Teacher Programme &#8211; ITP) yn gyrsiau rhyngweithiol ac ymarferol sydd wedi\u2019u cynllunio\u2019n bwrpasol ar gyfer codi datblygiad proffesiynol mewn addysg i lefel uwch.<\/p>\n<p>Mae gan y ddau gwrs hanes cadarn o lwyddiant mewn ysgolion, gyda mwy na 200 o athrawon wrth eu gwaith yng Nghymru yn manteisio yn barod oherwydd ymagwedd gydweithredol unigryw\u2019r rhaglenni hyn.<\/p>\n<p>Drwy weithio gydag athrawon eraill, caiff cyfranogwyr eu cynorthwyo i herio\u2019r ffordd maent yn meddwl am addysgu a dysgu o fewn amgylchedd cefnogol ac adfyfyriol.<\/p>\n<p>Bydd Junnine Thomas-Walters o <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">Athrofa Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/a>\u00a0yn gweithio mewn partneriaeth gydag ysgolion ac OLEVI, y Ganolfan Ddysgu ac Addysgu Ryngwladol, er mwyn cyflwyno\u2019r rhaglenni OTP ac ITP.<\/p>\n<p>Hyd yn hyn, mae\u2019r brifysgol wedi hwyluso rhaglenni ar gyfer cydweithwyr yn Abertawe, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Powys a Cheredigion \u2013 ond mae lle ar \u00f4l i ymestyn ymhellach, ac mae hwyluswyr yn awyddus i weithio gyda phartneriaid ledled y wlad.<\/p>\n<p>Wedi\u2019u dylunio gan OLEVI, a\u2019u hwyluso gan athrawon a darlithwyr profiadol, defnyddiwyd y rhaglenni OTP ac ITP yn effeithiol ym mhrosiectau Her Llundain a\u2019r Dinasoedd mawr eu parch, a ch\u00e2nt eu cefnogi gan y National College, a leolir yn Lloegr.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhaglenni yn arbennig o effeithiol, oherwydd nid yn unig y maent yn cynorthwyo\u2019r athrawon a\u2019r arweinwyr gyda\u2019u datblygiad proffesiynol, maent hefyd yn darparu mecanweithiau a fframwaith sy\u2019n rhoi\u2019r grym iddynt i sicrhau bod y gwelliant yn gyson ac yn gynaliadwy.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhaglen OTP yn cynnwys tri diwrnod cyfan a thri hanner diwrnod dros gyfnod o ddeng wythnos, sy\u2019n golygu cyflwyno sesiynau gr\u0175p mewn ysgol letyol, ynghyd ag \u2018ymarfer yn yr ysgol\u2019 a gaiff ei gynnal yn ysgolion cartref y cynrychiolwyr, yn ogystal ag ysgolion partner.<\/p>\n<p>Drwy gydol y rhaglen, gall cynrychiolwyr gymhwyso eu dysgu ac ymgymryd ag arsyllu ar gymheiriaid.<\/p>\n<p>Gwnaiff cyfranogwyr ganolbwyntio ar ystod o agweddau addysgu a dysgu, megis herio, ymgysylltu, asesu, gwahaniaethu, holi, cynllunio a hyfforddi.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ITP yn cynnwys chwe gwers dros gyfnod o chwe wythnos, gyda\u2019r cynrychiolwyr wedi\u2019u grwpio mewn triawdau er mwyn galluogi profiad dysgu a chynorthwyo dwys sy\u2019n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn. Mae\u2019r sesiynau yn cynnwys arsylliadau, gweithgareddau ymarferol, adborth a mentora cydweithwyr.<\/p>\n<p>Bydd hefyd gyfle i redeg y rhaglen &#8216;Power of Coaching&#8217;, a gaiff ei chynnal o fewn yr OTP, fel rhaglen ar wah\u00e2n.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gyfres nesaf o raglenni, y gellid ei rhedeg naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019r Saesneg, yn dechrau yn ystod tymor y gwanwyn, ac rydym yn awr ar agor i dderbyn ceisiadau.<\/p>\n<p>Meddai Ms Thomas-Walters, arweinydd strategol\u00a0 OTP\/ ITP yr Athrofa: \u00a0\u201cRwyf wrth fy modd ein bod wedi cael cymaint o lwyddiant hyd yn hyn o ran hwyluso\u2019r rhaglenni OTP ac ITP. Maent yn rhaglenni sy\u2019n enghreifftio ansawdd a chyfanrwydd, gan alluogi athrawon i ragori \u00a0mewn ffordd gyson a chynaliadwy.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r adborth a ddaw yn sgil y rhaglenni bob amser yn ardderchog, ac mae ymgysylltu\u2019r athrawon ar y ddwy raglen yn ysbrydoledig.<\/p>\n<p>\u201cRwyf wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i greu ein hysgol gyflwyno bwrpasol gyntaf, sef Ysgol Gymunedol Cwmtawe, a wnaeth gydnabod potensial y rhaglenni o ran y staff ac er lles y disgyblion, ac a oedd hefyd am wneud gwahaniaeth i athrawon eraill.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Lee Hitchings, pennaeth Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Castell-nedd Port Talbot: \u201cRydym wedi bod yn gweithio\u2019n agos gyda PCYDDS am y ddwy flynedd ddiwethaf gan gyflwyno rhaglenni OTP ac ITP OLEVI ledled ardal ERW.<\/p>\n<p>Hyd yn hyn, mae 50% o\u2019n staff addysgu wedi derbyn hyfforddiant, ac mae\u2019r ddwy raglen wedi cael effaith arwyddocaol ar ein hysgol. Maent wedi codi ansawdd yr addysgu a\u2019r dysgu; gan ddarparu\u2019r staff \u00e2 strategaethau a sgiliau, a magu\u2019r hyder i fod yn fwy arbrofol wrth gynllunio.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r elfen gynllunio sy\u2019n seiliedig ar driawdau wedi bod yn llwyddiannus dros ben, gyda\u2019r staff yn ymgysylltu \u00e2 chydweithwyr y tu allan i\u2019w maes pwnc, yn cymryd perchenogaeth o wersi ei gilydd ac yn sgwrsio yn fanwl am gynllunio effeithiol a chreadigol. Mae\u2019r adborth ar sesiynau arsyllu ar wersi wedi amlygu ymhellach welliant mewn ansawdd ac hunan-adfyfyrio craff.<\/p>\n<p>\u201cHefyd, mae cynllunio gan ddefnyddio triawdau wedi hyrwyddo ethos \u2018drws agored\u2019, lle mae staff yn fodlon cael eu harsyllu er mwyn cynorthwyo datblygiad proffesiynol eu cydweithwyr.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhaglenni yn costio rhwng \u00a3590 (ITP) a \u00a3620 (OTP), ac am ragor o wybodaeth, cysylltwch \u00e2\u2019r gweinyddwr dysgu proffesiynol Leslie Morgan, os gwelwch yn dda, gan ddefnyddio lesleymorgan@uwtsd.ac.uk neu 01792 482070.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Anogir athrawon sydd \u00e2 diddordeb mewn datblygiad proffesiynol ysgogiadol i gofrestru am ddau gyfle dysgu proffesiynol cyffrous. Mae\u2019r Rhaglen Athrawon Rhagorol (Outstanding Teacher Programme\u00a0&#8211; OTP) a\u2019r Rhaglen Athrawon sy\u2019n \u00a0Gwella (Improving Teacher Programme &#8211; ITP) yn gyrsiau rhyngweithiol ac ymarferol sydd wedi\u2019u cynllunio\u2019n bwrpasol ar gyfer codi datblygiad proffesiynol mewn addysg i lefel uwch. Mae&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39105","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39105","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39105"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39105\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39105"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39105"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39105"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}