{"id":39106,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/torri-hualau-diwygior-cwricwlwm\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"torri-hualau-diwygior-cwricwlwm","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/torri-hualau-diwygior-cwricwlwm\/","title":{"rendered":"Torri hualau diwygio\u2019r cwricwlwm"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae Gareth Evans yn edrych ar ddatblygiad Dyfodol Llwyddiannus ac ymagwedd newydd at ei weithredu\u2026<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Ceir ym myd addysg duedd i chwyrl\u00efo mewn cylchoedd.<\/p>\n<p>Daw polisi newydd i mewn gyda bang ac ymadael yn ddistaw bach.<\/p>\n<p>Yna, bydd yr holl gylchred yn dechrau eto.<\/p>\n<p>Mae\u2019n deg dweud bod system addysg Cymru wedi gwrthsefyll digon o newidiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.<\/p>\n<p>Rhwng Y Wlad sy\u2019n Dysgu gan Jane Davidson a chynllun 20 pwynt Leighton Andrews \u2013 rydym ni bron iawn wedi cael popeth.<\/p>\n<p>Mathau newydd o atebolrwydd; cymunedau dysgu newydd; bygythion ofer a digon o ddadlau.<\/p>\n<p>Ond daw amser pan fydd rhaid i system fod yn ddigon aeddfed i gadw at gynllun a gwrthsefyll y temtasiwn i ailddechrau.<\/p>\n<p>Ni fydd mynd yn \u00f4l ac ymlaen yn ddiddiwedd yn ennill unrhyw dir.<\/p>\n<p>Diolch i\u2019r drefn, mae\u2019n ymddangos bod cytundeb eang ar y cyfeiriad rydym yn symud iddo \u2013 ac mae <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">Dyfodol Llwyddiannus<\/a> yn darparu colfach canolog y gallwn seilio ein hymdrechion cyfunol arno.<\/p>\n<p>Dyma\u2019r amser i dynnu llinell yn y tywod a dechrau rhoi cnawd ar yr esgyrn.<\/p>\n<p>Ond nid yw diwygio\u2019r cwricwlwm yng Nghymru wedi bod yn ddidrafferth.<\/p>\n<p>Newid cyfnodau amser; cyfathrebu cyfyngedig rhwng ysgolion arloesi ac ysgolion nad ydynt yn ysgolion arloesi; ac adroddiad a ysgrifennwyd gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad a gododd amheuaeth yngl\u0177n \u00e2\u2019r cynnydd a wneir.<\/p>\n<p>Yn gynharach eleni, fe\u2019n rhybuddiwyd gan Aelodau Cynulliad am yr anawsterau a\u2019r heriau sy\u2019n codi wrth drosi gweledigaeth yr Athro Donaldson yn weithredu diriaethol.<\/p>\n<p>Y mae nifer o resymau am hyn\u2026<\/p>\n<p>Rwyf am i chi ddychmygu anifail mewn caets.<\/p>\n<p>Mae wedi treulio lawer o flynyddoedd yn gaeth.<\/p>\n<p>Mae\u2019n byw mewn ystafell gae\u00ebdig, a\u2019i draed wedi\u2019u cadwyno i\u2019r llawr.<\/p>\n<p>Sbarion yw ei fwyd \u2013 ac o dro i dro, caiff ei guro ar ei ben am anufuddhau i orchmynion a pheidio \u00e2 chydymffurfio.<\/p>\n<p>Swnio\u2019n gyfarwydd?<\/p>\n<p>Dychmygwch dorri\u2019r anifail yn rhydd ac agor y drws, gan ddangos iddo fyd cyfan newydd \u2013 byd nad oedd braidd yn gwybod ei fod yn bodoli.<\/p>\n<p>Mae\u2019r anifail, sydd mor gyfarwydd \u00e2\u2019i amgylchedd cae\u00ebdig, yn betrusgar.<\/p>\n<p>Mae\u2019n cropian i gyfeiriad y drws, ond nid yw am fynd allan oherwydd mae\u2019n ofni\u2019r hyn a allai ddigwydd.<\/p>\n<p>Gwelai athrawon yng Nghymru eu bod hwythau mewn sefyllfa debyg.<\/p>\n<p>Wedi\u2019u rhyddhau o hualau\u2019r diwygio o\u2019r brig i lawr a chael caniat\u00e2d i fod wrth y llyw o ran datblygu\u2019r cwricwlwm, mae\u2019r rhain yn amseroedd tra gwahanol.<\/p>\n<p>Nid yw athrawon bellach yn wylwyr goddefol.<\/p>\n<p>Maen nhw wrth y llyw ac yn y canol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r grym yn eu dwylo nhw.<\/p>\n<p>Wrth edrych yn \u00f4l, gan gofio am adroddiad y Pwyllgor, rwy\u2019n teimlo efallai ein bod ni heb lawn werthfawrogi\u2019r symud mewn diwylliant sydd ei angen er mwyn i athrawon arwain o ran datblygu polis\u00efau.<\/p>\n<p>Byddai wedi bod yn na\u00eff i ni ddisgwyl i\u2019n cwricwlwm newydd esblygu\u2019n gyflym, a hynny heb unrhyw ddigwyddiad na rhwystr.<\/p>\n<p>Mae hon yn ffordd newydd o weithio, gyda phawb yn teimlo eu ffordd.<\/p>\n<p>Mae\u2019n anodd haeddu ymddiriedaeth, ond mae\u2019n hawdd ei cholli.<\/p>\n<p>Ond mae\u2019r momentwm yn dechrau symud, ac mae perthnasau newydd yn dechrau dwyn ffrwyth.<\/p>\n<p>O ddechrau anaddawol, mae\u2019r gweithgarwch arloesi yn dechrau cyflymu.<\/p>\n<p>Dros y chwech i naw mis diwethaf, rwyf innau\u2019n bendant wedi sylwi bod y g\u00e2n wedi newid.<\/p>\n<p>Mae optimistiaeth a chynnwrf wedi disodli rhwystredigaeth ac anesmwythyd.<\/p>\n<p>Clywn yn aml fod y rhain yn amseroedd cyffrous i fod yn ymarferydd yng Nghymru.<\/p>\n<p>A dweud y gwir, fe\u2019i clywn mor aml nes iddo ddatblygu\u2019n dipyn o clich\u00e9.<\/p>\n<p>Ond yn bendant, y mae peth gwirionedd yn yr honiad nad oes erioed wedi bod gwell amser i fod yn athro yng Nghymru.<\/p>\n<p>Pa mor aml y caiff y proffesiwn y cyfle i ddylunio, datblygu a gweithredu cwricwlwm cenedlaethol newydd?<\/p>\n<p>Rhaid i bob un ohonom ni gydio yn y cyfle hwn gyda dwy law.<\/p>\n<p>Bydd tipyn o amser cyn i\u2019r cyfle godi eto.<\/p>\n<p>A dweud y gwir, wn i ddim lle byddwn ni mewn degawd.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/10\/03\/36898\/\">Erbyn 2027, bydd ein cwricwlwm cenedlaethol newydd wedi\u2019i roi ar waith ar draws yr ystod oedran<\/a>.<\/p>\n<p>Ond, a fydd e\u2019n wahanol iawn i\u2019r hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd?<\/p>\n<p>Dewch i ni wynebu ffeithiau, nid yw gweithredu polis\u00efau addysg yn un o gryfderau Cymru.<\/p>\n<p>Nid oes neb yn\u00a0 gwybod yn iawn beth fydd diwedd hwn, na sut bydd y cwricwlwm newydd yn edrych.<\/p>\n<p>Ond os nad yw Dyfodol Llwyddiannus wedi gwneud unrhyw beth arall, mae wedi bywiogi proffesiwn a oedd wedi hen ddiflasu.<\/p>\n<p>Mae ethos cydweithredol newydd a chreu perthnasau wedi cael effaith ysgogol, ac rydym ni Gyda\u2019n Gilydd yn Gryfach.<\/p>\n<p>Ond nid ydym wedi cyrraedd y lan eto.<\/p>\n<p>Os yw Dyfodol Llwyddiannus am lwyddo, bydd angen neges gyson a dealladwy arnom sy\u2019n esbonio\u2019r hyn sydd ei eisiau arnom a sut bwriadwn ei gael.<\/p>\n<p>Nid yw ennill calonnau a meddyliau yn beth hawdd, ac mae ymgysylltu\u2019n gadarnhaol yn ystod yr adeg hollbwysig hon i addysg yng Nghymru yn hollol hanfodol.<\/p>\n<p>Ond mae diddymu\u2019r hen rwystrau rhwng llunwyr polis\u00efau a\u2019r bobl maen nhw\u2019n ei gwasanaethu yn mynd i gymryd llawer o amser ac egni.<\/p>\n<p>Er hynny, rwy\u2019n hyderus bod gennym ni yn Kirsty Williams Ysgrifennydd y Cabinet sy\u2019n fodlon chwarae\u2019r g\u00eam hir.<\/p>\n<p>Mae ei hymrwymiad i gydweithio a\u2019i hawydd i dorri lawr yr hen seilos yn amlwg i bawb.<\/p>\n<p>Ond mae gan wleidyddiaeth enw drwg am ymwneud \u00e2\u2019r tymor byr, a sut gallwn ni fod yn sicr y caiff diwygio\u2019r cwricwlwm yr amser sydd ei angen arno i esblygu?<\/p>\n<p>Wel, a dweud y gwir, ni allwn. Nid oes dim yn sicr, a gallai ffactorau allanol, fel y profion PISA rhyngwladol, eto danseilio\u2019r hyn rydym ni am ei gyflawni.<\/p>\n<p>Y gwirionedd yw, mae Gweinidogion yn ffynnu ar enillion tymor byr.<\/p>\n<p>Mae eu hoes wleidyddol yn lled fyr, ac am hynny, maen nhw\u2019n byw am yr eiliad gan ddyheu am etifeddiaeth i\u2019w gyrfaoedd.<\/p>\n<p>Yn fy marn i, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn haeddu llawer o barch.<\/p>\n<p>Drwy fynd ymlaen \u00e2 chynlluniau gwleidydd o\u2019r Blaid Lafur &#8211; dewch i ni beidio ag anghofio mai Huw Lewis a roddodd y mwyafrif helaeth o\u2019r polisi cyfredol ar waith \u2013 <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/09\/29\/addysg-yng-nghymru-cenhadaeth-ein-cenedl\/\">gwrthsafodd Ms Williams y temtasiwn i\u2019w rwygo ac ailddechrau<\/a>.<\/p>\n<p>Rhoddodd anghenion y system o flaen ei hanghenion ei hun.<\/p>\n<p>Wrth wneud hynny, rhoddodd i\u2019r sector y cyfle i anadlu, ac os bydd Dyfodol Llwyddiannus yn arwain at y system addysg chwyldroadol y mae pob un ohonom ni\u2019n dyheu amdani, bydd hi wedi chwarae rhan fawr yn y broses o wneud i hynny ddigwydd.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l y doethion, ni fydd Kirsty Williams yn y swydd pan aiff y cwricwlwm yn fyw. Felly, mae\u2019n bosib mai parhad yw ei hetifeddiaeth, ac nid ymyrryd er mwyn ymyrryd.<\/p>\n<p>Ac am hynny, dylem ni i gyd fod yn ddiolchgar.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Gareth Evans yn gyfarwyddwr gweithredol polisi addysg yn yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Dyma ddarn o\u2019i araith fel prif siaradwr yng nghynhadledd\u00a0 Fforwm Polis\u00efau Cymru: Camau Nesaf ar gyfer Diwygio\u2019r Cwricwlwm a gynhali.<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Gareth Evans yn edrych ar ddatblygiad Dyfodol Llwyddiannus ac ymagwedd newydd at ei weithredu\u2026 &nbsp; Ceir ym myd addysg duedd i chwyrl\u00efo mewn cylchoedd. Daw polisi newydd i mewn gyda bang ac ymadael yn ddistaw bach. Yna, bydd yr holl gylchred yn dechrau eto. Mae\u2019n deg dweud bod system addysg Cymru wedi gwrthsefyll digon&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39106","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39106","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39106"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39106\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39106"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39106"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39106"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}