{"id":39107,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/golwg-holistig-ar-ddiwygior-cwricwlwm-yng-nghymru\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"golwg-holistig-ar-ddiwygior-cwricwlwm-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/golwg-holistig-ar-ddiwygior-cwricwlwm-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Golwg holistig ar ddiwygio\u2019r cwricwlwm yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Er cyffro llafur diwygio\u2019r cwricwlwm, mae Natalie Williams yn esbonio pam na ddylem golli golwg ar y darlun ehangach\u2026<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Bu\u2019n bleser gen i ddarllen yn rheolaidd am y derbyniad cadarnhaol i argymhellion adroddiad Donaldson. Wedi treulio dros ddegawd mewn cyhoeddi adnoddau cynhaliol i ddiwygio cwricwlwm yn y DU a thramor, mae\u2019r her a ddaw gyda diwygio\u2019r cwricwlwm yn amlwg i mi.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r galw ar adnoddau ariannol a dynol, yn aml iawn bydd ansicrwydd ynghylch gwir oblygiadau unrhyw newidiadau a sut i\u2019w gweithredu, sgiliau set ac addasrwydd y gweithlu addysg, ystyriaethau ynghylch yr amser ar gyfer paratoi, ffynonellau adnoddau cynhaliol\u2026 mae\u2019r rhestr yn faith.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, bydd her wrth unrhyw newid ar y fath raddfa, ond fel cymuned addysg mae\u2019n amlwg bod modd i ni yng Nghymru godi\u2019n golygon y tu hwnt i\u2019r her ac edrych ar y darlun cyfan \u2013 y cyfle i ddatblygu system <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/09\/29\/addysg-yng-nghymru-cenhadaeth-ein-cenedl\/\">addysg i\u2019r dyfodol<\/a> sy\u2019n gwneud synnwyr ac sydd hefyd yn arloesi.<\/p>\n<p>Mae cyfle i ni yn y blynyddoedd nesaf i atgoffa\u2019r byd y gall gwlad fechan feddu ar addysg flaengar, ac i estyn llaw i alluogi cenedlaethau\u2019r dyfodol i ragori ac ymuno yn y reng flaen ym mha faes bynnag. Ac eto, gyda hyn oll o fewn cyrraedd, rhaid wrth fanylder tra yn blaenaru\u2019r tir ar gyfer dysgu ein cwricwlwm newydd.<\/p>\n<p>Cyhoeddwyd fis diwethaf y bydd gohirio pellach ar weithredu dysgu\u2019r cwricwlwm newydd, a fydd erbyn hyn yn cychwyn yn 2022 er mwyn gwarantu amser digonol ar gyfer ei ddatblygu. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o\u2019r angen i fuddsoddi er mwyn sicrhau canlyniadau.<\/p>\n<p>Eto, mae\u2019r her yn parhau\u2019n sylweddol, hyd yn oed ar ragolwg pum mlynedd \u2013 yn y cyfnod hwnnw, bydd rhaid i\u2019r holl adnoddau cynhaliol yn ogystal \u00e2\u2019r cwricwlwm newydd fod yn barod ac yn eu lle.<\/p>\n<p>Ym mis Hydref 2017, cafwyd cyfarfod ar y cyd rhwng cyfranddalwyr ar gyfer seminar diwygio\u2019r cwricwlwm, a thrafodwyd beth a gyflawnwyd hyd yn hyn. Roedd yn gyfle pwysig a defnyddiol i wrando ar sylwadau amrywiaeth o unigolion a sefydliadau sydd (neu a fyddant) yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y cwricwlwm newydd.<\/p>\n<p>O ddiddordeb arbennig i mi oedd clywed cynrychiolaeth ysgol arloesol yn trafod &#8216;<a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">Dyfodol Llwyddiannus<\/a>&#8216; a\u2019i oblygiadau ymarferol. Roedd hi\u2019n ysbrydoliaeth hefyd i glywed Graham Donaldson yn trafod cyfundrefn addysg wedi\u2019i chreu ar gyfer dyfodol na fedrwn ni eto ei ddychmygu, a sut y mae\u2019r broses ei hun yn addysg i bob un ohonom.<\/p>\n<p>Clywsom gan Donaldson, fel y pwysleisiodd Gareth Evans o\u2019r Athrofa yn ei gyflwyniad yntau (<a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/11\/06\/torri-hualau-diwygior-cwricwlwm\/\">sydd hefyd ar gael ar y blog yma<\/a>), am yr her wrth gamu o\u2019r nod dilychwin i weithredu\u2019n ymarferol, a\u2019r risg a ddaw gyda hynny o golli golwg ar y weledigaeth yng nghanol y bwrlwm beunydd.<\/p>\n<p>Y bwrlwm hynny yw ein realiti ni, wrth gwrs. Codwyd cwestiynau call ac ymarferol \u2013 pryd fydd y cwricwlwm ar gael? Sut caiff yr holl ddiwygio ei ariannu? Pa ffurf fydd ar ddeunyddiau hyfforddi a chynhaliol i athrawon? Pryd fydd y deunyddiau hyn ar gael? Beth am yr isadeiledd? Sut gall asesu weithio o blaid, yn hytrach nag yn erbyn, y weledigaeth?<\/p>\n<p>A phwy \u0175yr beth arall a drafodwyd dros baned o goffi!<\/p>\n<p>Mae diwygio\u2019r cwricwlwm yn broses gymhleth a llafurus. Cynsail i\u2019r cwricwlwm newydd yw meddwl am ein dinasyddion a\u2019u dyfodol mewn modd sy\u2019n cyfannu \u2013 mewn modd holistig \u2013 a dyna fydd raid wrth baratoi\u2019r cwricwlwm. Bydd rhaid ateb yr holl gwestiynau yn gynt nag yn hwyrach.<\/p>\n<p>Nawr yw\u2019r amser i\u2019r sawl sydd am gyfrannu \u2013 ymchwilwyr, arbenigwyr digidol, hyfforddwyr athrawon, aseswyr, cyhoeddwyr ac yn y blaen \u2013 er mwyn lledaenu meddyliau (a phyrth!) a dod at ein gilydd ar gyfer 2022 gan arwain drwy esiampl. Wedi\u2019r cyfan, anaml iawn y daw\u2019r fath gyfle i gydweithio fel cymuned ar raddfa mor eang.<\/p>\n<p>Estyn allan, rhannu syniadau, meddwl i\u2019r dyfodol, parhau i drafod! Byddwn ar drothwy newid cyffrous iawn cyn pen dim, felly dewch i ni baratoi amdano.<\/p>\n<ul>\n<li><strong><em>Natalie Williams yw Cyfarwyddwraig Gwasg Prifysgol Cymru<\/em><\/strong><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Er cyffro llafur diwygio\u2019r cwricwlwm, mae Natalie Williams yn esbonio pam na ddylem golli golwg ar y darlun ehangach\u2026 &nbsp; Bu\u2019n bleser gen i ddarllen yn rheolaidd am y derbyniad cadarnhaol i argymhellion adroddiad Donaldson. Wedi treulio dros ddegawd mewn cyhoeddi adnoddau cynhaliol i ddiwygio cwricwlwm yn y DU a thramor, mae\u2019r her a ddaw&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39107","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39107","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39107"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39107\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39107"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39107"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39107"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}