{"id":39108,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/datblygu-proffesiynoliaeth-newydd-ym-myd-addysg\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"datblygu-proffesiynoliaeth-newydd-ym-myd-addysg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/datblygu-proffesiynoliaeth-newydd-ym-myd-addysg\/","title":{"rendered":"Datblygu proffesiynoliaeth newydd ym myd addysg"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae Dyfodol Llwyddiannus wedi denu digon o sylw ers ei gyhoeddi yn 2015. Ond mae ei ffocws ar sgiliau entrepreneuraidd heb ei ddogfennu cystal. Mae Alison Evans yn esbonio\u2026<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Un o ddibenion allweddol y cwricwlwm a amlinellir yn \u2018<a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">Dyfodol Llwyddiannus<\/a>\u2019 yw sicrhau bod pob dysgwr yn \u2018gyfrannwr mentrus a chreadigol\u2019 sy\u2019n medru meddwl yn greadigol, yn gallu mentro\u2019n ofalus, ac sy\u2019n dangos y gwydnwch emosiynol a\u2019r dymuniad i gydweithio er ei lles ei hun ac eraill.<\/p>\n<p>Gellid dehongli hyn fel hyrwyddo safbwynt mwy dyngarol, allgarol, a hyd yn oed cyfeillgar at ddiben addysg sy\u2019n canolbwyntio nid ar yr unigolyn yn unig, ond ar yr uned gyfunol o ran sut mae ei buddion cyfannol o fantais i\u2019r gymuned ehangach.<\/p>\n<p>Gellid dadlau, yng nghyd-destun y pocedi o amddifadedd sylweddol a geir yng Nghymru (23% o oedolion a 30% o blant yn byw mewn tlodi cymharol), fod y canolbwyntio tosturiol a hunanddigonol hwn ar addysg yn weddus pe baem am fynd i\u2019r afael o ddifri \u00e2 materion sy\u2019n ymwneud \u00e2 chydraddoldeb a symudedd cymdeithasol.<\/p>\n<p>Yn ystod fy ngyrfa o 20 mlynedd fel athrawes Addysg Fusnes, roedd y cysyniad o \u2018fentergarwch\u2019, yn ogystal ag unrhyw beth arall a oedd yn ymwneud \u00e2 datblygu \u2018agweddau entrepreneuraidd\u2019, yn gyfrifoldeb penodol i\u2019r adran Fusnes yn unig mewn ysgolion.<\/p>\n<p>Heblaw\u2019r nifer cymharol fach o ddysgwyr a wnaeth gofrestru ar gyfer cymryd rhan mewn cynllun, megis \u2018Young Enterprise\u2019, lle y cawsant brofiad credadwy o gymryd r\u00f4l mewn rhedeg eu busnes eu hunain, fel arfer byddai cyfleoedd i brofi\u2019n ffurfiol gyfleoedd dysgu \u2018mentrus a chreadigol\u2019 yn brin ac wedi\u2019u cyfyngu i un \u2018diwrnod mentergarwch\u2019 a gynhelir bob blwyddyn academaidd.<\/p>\n<p>Fel arfer, byddai\u2019r digwyddiadau unigol hyn yn cynnwys heriau a osodid ar gyfer timau o ddysgwyr i ddylunio cynnyrch neu ymgyrch farchnata, neu i gynnig syniad ger bron panel neu debyg. Er y gallai\u2019r digwyddiadau annibynnol hyn fod yn fuddiol ar y pryd, byddent, yn aml, yn cael eu hamserlennu tuag at ddiwedd y flwyddyn academaidd, ac o safbwynt y dysgwyr a\u2019r rhan fwyaf o staff, achlysuron arbennig oeddent pan allai dysgwyr fwynhau ychydig o hwyl, ac roedd y dysgu a\u2019r asesu yn gyfyngedig.<\/p>\n<p>Felly, dewch i ni ddychwelyd at \u2018Dyfodol Llwyddiannus\u2019 a\u2019i gynigion ar gyfer datblygu \u2018cyfranwyr mentrus, creadigol\u2019 yng nghyd-destun diwygio\u2019r <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/11\/20\/golwg-holistig-ar-ddiwygior-cwricwlwm-yng-nghymru\/\">cwricwlwm yn radicalaidd ac yn fwy eang<\/a>. Gellid dadlau, wrth i ni fynd i mewn i gyfnod lle mae gan athrawon lawer mwy o ryddid i ddewis deunydd sy\u2019n briodol i anghenion eu dysgwyr, a chyda chymaint o bwyslais ar asesu a arweinir gan athrawon, fod angen proffesiynoliaeth newydd ym myd addysg.<\/p>\n<p>Athrawon yw gwarcheidwaid allweddol addysg, ac yn fwy nag erioed o\u2019r blaen, mae angen arnom weithlu cryf a hyblyg sy\u2019n gallu arloesi a datblygu\u2019r sgiliau, tueddiadau ac agweddau mwy \u2018meddal\u2019 yn ein dysgwyr, er mwyn bodloni anghenion y gymdeithas fodern a geir yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae diwydiant wedi hir gydnabod gwerth creadigedd, arloesedd a mentergarwch o ran llwyddiant, ac mae ymchwil wedi dangos bod gan y syniad o annog agweddau entrepreneuraidd lawer o fuddion, megis twf economaidd, creu gwaith, gwydnwch cynyddol, ac yn enwedig ymroi\u2019n fwy i fywyd ysgol a\u2019i fwynhau\u2019n fwy.<\/p>\n<p>Os yw agweddau entrepreneuraidd a chreadigedd yn rhai o nodweddion canolog bywyd modern, yna, dylid eu datblygu a\u2019u hymestyn drwy gydol unrhyw yrfa mewn ysgol. Mae hyn yn golygu ailfeddwl ac ail-gategoreiddio\u2019r diffiniad cul (a goroedol?) o fentergarwch a nodweddion entrepreneuraidd, ac yn ei le, hyfforddi, annog a galluogi pob athro\/athrawes i fodelu a mabwysiadu\u2019r fath gymwyseddau yn ei (h)arfer.<\/p>\n<p>O\u2019m safbwynt i fy hun, atgyfnertha hyn y galw am broffesiynoliaeth newydd, un sydd wedi\u2019i hadeiladu ar adfyfyrio beirniadol, un sy\u2019n ystyried y proffesiwn addysgu yn broffesiwn dysgu. Gellid ystyried addysg fenter yn bwnc i\u2019w addysgu (Astudiaethau Busnes neu Economeg) ond hefyd yn ffordd o addysgu unrhyw destun drwy chwilio am broblemau, cynnig datrysiadau, dylunio tasgau prosiect-seiliedig a dod o hyd i ffyrdd o hwyluso cydweithio.<\/p>\n<p>Yn ystod yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, mae cydnabod r\u00f4l ymagweddau creadigol addysgol wedi tyfu ac mae angen ar athrawon fodelu\u2019n glir eu hagweddau creadigol eu hunain, meithrin disgwyliadau uchel o ran eu dysgwyr a \u2013 a dyma\u2019r elfen fwyaf pwysig, rhoi lle i\u2019r anhysbys ddigwydd. Mae llawer o astudiaethau wedi dangos nad yw creadigedd yn sefydlog \u2013 yn hytrach, mae\u2019n datblygu ac yn esblygu dros gyfnod o ganlyniad i ymyriadau \u2018naturiol\u2019 a rhai sydd wedi\u2019u targedu.<\/p>\n<p>Dylai profiadau pobl ifanc o ysgol ysgogi eu dychmygion mewn ffyrdd sy\u2019n hyrwyddo creadigedd a mentergarwch; pob un ohonynt yn cael ei gyflwyno gan athrawon sy\u2019n arbenigwyr ac yn fedrus mewn celfyddyd ddychmygus ac entrepreneuraidd.<\/p>\n<p>Swnio\u2019n aruthrol? Mae rhwystrau yn bodoli o hyd, sef mesurau atebolrwydd risg mawr sy\u2019n atal athrawon rhag symud ymlaen yn bellach a hyrwyddo ffyrdd mwy creadigol o ddysgu. Mae angen cynnig i ymarferwyr yr hyfforddiant a\u2019r cymorth cywir, oherwydd pan mae\u2019n dod i sgiliau, mae\u2019n bosib bod gan rai ohonynt ddiffyg hyder, neu efallai nad ydynt yn gweld unrhyw werth yn mabwysiadu\u2019r fath ymagweddau.<\/p>\n<p>Gallai fod gan athrawon gysyniadau gwahanol o greadigedd a mentergarwch, ac mae\u2019n bosib nad yw rhai ohonynt yn ymwybodol bod eu harfer presennol yn gallu rhwystro creadigedd. Gellid dadlau bod Bagloriaeth Cymru, gyda\u2019i ffocws ar fentergarwch, i ryw raddau yn dylanwadu ar gymwyseddau entrepreneuraidd mewn addysg, ond a ydy hyn yn mynd yn ddigon pell? Beth am ddysgwyr iau? Beth am ganfyddiadau rhai dysgwyr a rhieni (a staff?) o werth y cymhwyster?<\/p>\n<p>Wedi symud i addysg uwch dair blynedd yn \u00f4l fel addysgwr sy\u2019n gyfrifol am hyfforddi athrawon Astudiaethau Busnes y dyfodol, mae\u2019n amlwg mai ond megis dechrau mae\u2019r ddadl hon, er, fy ngobaith yw na fydd y cysyniad o \u2018fentergarwch\u2019 yn dioddef yr un ffocws cul a wynebais i yn fy ngyrfa fel athrawes, sef ei fod yn berthnasol i arbenigwyr y pwnc hwnnw yn unig.<\/p>\n<p>Rhaid dod \u00e2\u2019r blog hwn i ben gan gyfeirio at Adroddiad Furlong ar addysg gychwynnol athrawon (2015) sy\u2019n dweud bod angen ar \u2018athrawon yfory\u2019 fath newydd o broffesiynoliaeth a all gyflwyno\u2019r pedwar diben cwricwlwm a gynigiwyd \u00a0gan Donaldson, drwy gymryd cyfrifoldeb am arloesedd. Mae ein siwrne ar fin dechrau&#8230;<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Alison Evans yn Diwtor Astudiaethau Busnes TAR yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Dyfodol Llwyddiannus wedi denu digon o sylw ers ei gyhoeddi yn 2015. Ond mae ei ffocws ar sgiliau entrepreneuraidd heb ei ddogfennu cystal. Mae Alison Evans yn esbonio\u2026 &nbsp; Un o ddibenion allweddol y cwricwlwm a amlinellir yn \u2018Dyfodol Llwyddiannus\u2019 yw sicrhau bod pob dysgwr yn \u2018gyfrannwr mentrus a chreadigol\u2019 sy\u2019n medru meddwl yn&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39108","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39108","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39108"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39108\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39108"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39108"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39108"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}