{"id":39109,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/gweledigaeth-newydd-ar-gyfer-addysg-gychwynnol-athrawon-yng-nghymru\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"gweledigaeth-newydd-ar-gyfer-addysg-gychwynnol-athrawon-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/gweledigaeth-newydd-ar-gyfer-addysg-gychwynnol-athrawon-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Gweledigaeth newydd ar gyfer addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae\u2019r Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol wedi cyflwyno ger bron Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) dair rhaglen addysg gychwynnol athrawon i\u2019w hachredu.<\/strong><\/p>\n<p>Wrth wneud hynny, mae Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA) wedi rhoi arwydd o\u2019i bwriad i fod yn rhan o arlwy AGA newydd a chyffrous sy\u2019n ystyried cyfres o bolis\u00efau addysg newydd a gaiff eu cyflwyno fesul cam gan Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ewc.wales\/site\/index.php\/cy\/achredu-aga\">Roedd gan Bartneriaethau a leolir yng Nghymru tan Ragfyr 1af i gyflwyno eu rhaglenni AGA arfaethedig<\/a>, yn unol \u00e2 meini prawf manwl a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Bydd y rhaglenni newydd yn weithredol o fis Medi 2019, ac maent wedi\u2019u llunio gan gadw mewn golwg ofynion y cwricwlwm cenedlaethol newydd a\u2019r Safonau Addysgu Proffesiynol.<\/p>\n<p>Cyhoedda datblygiad PDPA ymagwedd newydd ac arloesol at addysg athrawon, gyda\u2019r <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">Athrofa<\/a> a\u2019r ysgolion partner yn gyd-gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno\u2019r holl raglenni AGA.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/professional-learning-partnership\/\">Am hynny, mae PDPA yn cyfuno arbenigedd y sector ysgolion a\u2019i holl brofiad ymarferol ag arbenigedd y sector addysg uwch (AU)<\/a>, o\u2019r ddealltwriaeth o sut i gynllunio a chyflwyno ymchwil yn ofalus i\u2019r grefft tra medrus o dysgu athrawon a darpar athrawon.<\/p>\n<p>Gyda\u2019i gilydd, mae gan <a href=\"http:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/\">Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS)<\/a> a\u2019r ysgolion partner hanes hir a chadarn o dysgu a mentora myfyrwyr israddedig ac \u00f4l-raddedig yn llwyddiannus ar raglenni sydd wedi gwrthsefyll traul amser.<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Dylan Jones, Deon Yr Athrofa: \u201cEr mwyn paratoi athrawon dan hyfforddiant ar gyfer y newidiadau sydd i ddod i\u2018r system addysg yng Nghymru, cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd buddiol, gan gynnwys staff yr Athrofa a dros 150 o ysgolion, gyda\u2019r bwriad o ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o\u2019r rhaglenni addysg athrawon hynny sy\u2019n perfformio orau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.<\/p>\n<p>\u201cCanlyniad net y datblygu ar y cyd eang hwn oedd datblygiad cwricwlwm craidd cynhwysfawr sy\u2019n rhychwantu\u2019n casgliad o raglenni AGA, gan gynnig diffiniad clir o rolau a chyfrifoldebau\u2019r ysgolion a\u2019r brifysgol.<\/p>\n<p>\u201cMae hyn yn sicrhau bod PDPA mewn sefyllfa gadarn i ddarparu rhaglenni AGA sydd yn ymarferol drwyadl ac yn heriol yn ddeallusol.\u201d<\/p>\n<p>Wrth graidd model AGA PDPA mae\u2019r ddealltwriaeth fod ysgolion a phrifysgolion yn bartneriaid cyfartal a bod ganddynt ill dau ran annatod i\u2019w chwarae yn natblygiad addysg athrawon, trefn lywodraethol y bartneriaeth a\u2019r prosesau sydd eu hangen ar gyfer sicrwydd ansawdd trwyadl.<\/p>\n<p>Dywedodd Russell Dwyer, pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas, Abertawe: \u201cFel rhywun sydd wedi gweithio\u2019n agos gyda\u2019r Athrofa, fel partner cyfartal wrth ddatblygu ar y cyd raglenni PDPA, rwy wrth fy modd gyda\u2019r cyflwyniadau terfynol.<\/p>\n<p>\u201cMaent yn uchafbwynt misoedd lawer o gydweithio didwyll rhwng y brifysgol ac ysgolion, ac mae\u2019r ymagwedd bartneriaeth effeithiol hon wedi bod yn gryfder mawr i\u2019r broses.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r cyfle i ysgolion fod yn ganolog i\u2019r broses o ddatblygu, gyda\u2019r brifysgol, gyfeiriad AGA i\u2019r dyfodol, wedi bod yn ysbrydoledig iawn, ac mae mynd \u00e2\u2019r bartneriaeth hon ymhellach fel ysgol arweiniol wedi fy nghynhyrfu.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd yr Athro Jones: \u201cMae gan PCYDDS draddodiad hir o addysg athrawon. Hwn yw un o bileri ein cenhadaeth, ac rydym wedi ymrwymo i\u2019r broses o adeiladu cyfalaf proffesiynol.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn falch iawn o\u2019r hyn yr ydym wedi\u2019i greu ar y cyd gyda\u2019r ysgolion ac mae\u2019r cyfleoedd sydd o\u2019n blaenau yn ein cynhyrfu.\u201d<\/p>\n<ul>\n<li>Cynhelir ym mis Ionawr \u2018sioe deithiol\u2019 fechan o ddigwyddiadau rhagarweiniol wedi\u2019u cynllunio er mwyn arddangos gweledigaeth gyffredin PDPA ar gyfer AGA. Bwriedir defnyddio\u2019r digwyddiadau anffurfiol hyn yn bennaf i dargedu llywodraethwyr, staff ysgolion ac unrhyw un arall nad yw&#8217;n hollol ymwybodol o ddatblygiadau PDPA. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch \u00e2 partnership@uwtsd.ac.uk os gwelwch yn dda.<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol wedi cyflwyno ger bron Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) dair rhaglen addysg gychwynnol athrawon i\u2019w hachredu. Wrth wneud hynny, mae Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA) wedi rhoi arwydd o\u2019i bwriad i fod yn rhan o arlwy AGA newydd a chyffrous sy\u2019n ystyried cyfres o bolis\u00efau addysg newydd a gaiff&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39109","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39109","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39109"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39109\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39109"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39109"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39109"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}