{"id":39110,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/llawer-mwy-na-chyfaill-gorau-dyn\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"llawer-mwy-na-chyfaill-gorau-dyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/llawer-mwy-na-chyfaill-gorau-dyn\/","title":{"rendered":"Llawer mwy na chyfaill gorau dyn\u2026"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae Helen Lewis yn archwilio sut y gallai\u2019r cwlwm agosrwydd rhwng plentyn a ch\u0175n esgor ar fanteision sy\u2019n effeithio ar ddysgu&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>\u2018Arfer meddwl a gweithredu lled barhaol\u2019 yw tueddfryd, sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019n hagweddau a\u2019n teimladau.\u00a0Mae tueddfryd yn effeithio ar sut yr ydym yn gweld ein hunain fel dysgwyr, a pha mor hyderus yr ydym wrth fynd i\u2019r afael \u00e2 sefyllfaoedd dysgu newydd.<\/p>\n<p>Pa un ai ydym yn cyfeirio at y tueddfryd hwn fel \u2018Arfer Meddwl\u2019, \u2018Meddylfryd Twf\u2019 neu nodweddion penodol megis brwdfrydedd, cydnerthedd a dyfalbarhad, gwyddom fod angen i ni roi\u2019r elfennau hyn i\u2019n plant er mwyn iddynt fod yn barod, yn frwd ac yn abl i ddysgu.<\/p>\n<p>Un ymagwedd bosib ar gyfer cynorthwyo datblygiad tueddfryd o\u2019r fath yw \u2018<a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/03\/06\/hud-anifeiliaid-mae-darllen-gyda-chwn-o-fudd-i-ddisgyblion\/\">Ymyriad a Gynorthwyir gan Anifeiliaid<\/a>\u2019.<\/p>\n<p>Awgryma ymchwil y gall rhyngweithio ag anifeiliaid gael effaith ar ddeilliannau cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol, corfforol a gwybyddol dysgwyr.<\/p>\n<p>Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, b\u00fbm yn cymryd rhan mewn prosiect newydd sy\u2019n ymwneud \u00e2 ch\u0175n, ac sydd wedi cael effaith ddiddorol ar agweddau, diddordeb a llythrennedd dysgwyr.<\/p>\n<p>Mae \u2018<a href=\"http:\/\/www.burnsbyyourside.org\/index.php?id=2\">Burns By Your Side<\/a>\u2019 (BBYS; cangen o\u2019r Burns Pet Nutrition Foundation), yn hyfforddi gwirfoddolwyr a\u2019u c\u0175n\u00a0 i ymweld ag ysgolion er mwyn cynorthwyo plant i wella eu llythrennedd, cyfathrebu, hyder a\u2019u cymhelliant i ddysgu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cynllun wedi dod yn gynyddol boblogaidd, ac erbyn hyn mae dros 30 o g\u0175n, sydd wedi\u2019u hyfforddi\u2019n dda, yn ymweld \u00e2 meithrinfeydd, ysgolion, llyfrgelloedd a cholegau ar draws de Cymru.<\/p>\n<p>Neilltuir ar gyfer pob ysgol gi a hyfforddwr sy\u2019n ymweld \u00e2 hi yn rheolaidd, fel arfer unwaith yr wythnos. Maent yn gweithio gyda phlant a dargedir sy\u2019n darllen i\u2019r ci, fesul un-i-un.<\/p>\n<p>Gwnaethom gynnal arolwg o\u2019r plant, athrawon a gwirfoddolwyr ar ddechrau\u2019r prosiect ac ar \u00f4l iddynt ymwneud ag ef, er mwyn archwilio effaith darllen i gi.<\/p>\n<p>Edrychom ar sut y mae plant yn gweld eu hunain fel dysgwyr (wedi\u2019i fesur gan ddefnyddio graddfeydd agwedd), eu sgoriau darllen mewn profion safonedig a\u2019u diddordeb mewn gwersi. Mae\u2019r canlyniadau cychwynnol yn bositif.<\/p>\n<p>Teimlir gan bawb fod y prosiect wedi bod o les i ddysgwyr, yn enwedig o ran darllen, llefaredd a hyder, ac mae\u2019r plant yn adrodd yn \u00f4l eu bod nhw\u2019n mwynhau yn fawr y cyfle i weithio gyda\u2019r c\u0175n.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ffordd y mae\u2019r plant yn gweld eu hunain fel dysgwyr wedi dangos gwelliannau sylweddol. Postiodd gwirfoddolwyr negeseuon rheolaidd ar gyfrif gr\u0175p cyfryngau cymdeithasol am eu profiadau o weithio gyda\u2019r plant, a chafodd y negeseuon dienw hyn eu dadansoddi.<\/p>\n<p>O\u2019r 57 neges a anfonwyd, roedd 52 ohonynt yn cynnwys sylwadau cadarnhaol.\u00a0 Roedd y rhan fwyaf o\u2019r negeseuon yn ymwneud \u00e2 newidiadau positif o ran hyder, mwynhad, llefaredd, ac ymgysylltu.<\/p>\n<p>Mae Grace a\u2019i chi Hoola wedi bod yn ymweld yn rheolaidd, drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, \u00e2\u2019u hysgol gynradd bartner, ac yn ystod yr amser hwnnw, mae Grace wedi sylwi ar wahaniaethau clir yn hyder, llefaredd a diddordeb y plant wrth iddynt ddarllen i Hoola.<\/p>\n<p>Adroddir gan athrawon fod yr agweddau cadarnhaol hyn tuag at ddysgu yn cael eu trosglwyddo i wersi eraill. Yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau, gwelwyd gwelliannau nodedig yn agweddau disgyblion at ddysgu, sgiliau cymdeithasol a\u2019u diddordeb mewn darllen, ers i Lorna a\u2019i chi Bella ddechrau ymweld \u00e2\u2019r ysgol honno.<\/p>\n<p>Mae gan blant yn Uned Myrddin, a leolir yn Ysgol Gynradd Myrddin, anawsterau dysgu difrifol, dwys a lluosog\/neu awtistiaeth. Ymwela Carole a\u2019i chi Sally yn wythnosol, ac maent wedi dod yn ffefrynnau ymhlith y staff a\u2019r disgyblion.<\/p>\n<p>Adrodda\u2019r athrawon fod presenoldeb Sally wedi gwella sgiliau cymdeithasol, hyder a chyfathrebu\u2019r plant.<\/p>\n<p>Gall effaith ymweliad barhau hefyd y tu hwnt i\u2019r diwrnod ysgol. Er enghraifft, gwnaeth rhieni plant cyn ysgol, mewn lleoliad yr ymwelwyd ag ef gan June a\u2019i chi Honey, adrodd fod eu plant yn awyddus i siarad am Honey ar \u00f4l iddi ymweld \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>Maent yn cynhyrfu hefyd pan fyddant yn gwybod fod Honey yn mynd i ymweld \u00e2 nhw, ac maent yn awyddus i fynd i\u2019r feithrinfa i\u2019w gweld.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhieni eu hunain hefyd yn frwdfrydig am y fenter ac yn dod i siarad \u00e2\u2019r athrawon am Honey, \u2013 gan feithrin sianeli cyfathrebu cadarnhaol rhwng y cartref a\u2019r lleoliad.<\/p>\n<p>Mae poblogrwydd Ymyriadau a Gynorthwyir gan Anifeiliaid yn cynyddu \u2013 ac er bod angen sail dystiolaeth fwy systematig a chadarn arnom, mae corff cynyddol o ymchwil yn awgrymu y gall rhyngweithio ag anifeiliaid fod o fudd i ddysgwyr.<\/p>\n<p>Gallai dod ag anifail i mewn i\u2019ch amgylchedd dysgu fod yn ymagwedd gyffrous, ysgogol a gwerthfawr i\u2019w hystyried. Ond bydd rhaid cynllunio, monitro a rheoleiddio\u2019r ymyriadau hyn yn ofalus, a rhaid hefyd ystyried yr anifail yn greadur ymdeimladol \u2013 nid arf dysgu na chwiw addysgol.<\/p>\n<p>Ni fyddai\u2019r dull hwn yn gweithio ym mhob lleoliad a gyda phob dysgwr, ond mae ein hastudiaeth yn awgrymu y gall y cyfle i ymlacio ac ymgysylltu \u00e2 chyfaill blewog nad yw\u2019n barnu arwain at fuddion sylweddol i nifer.<\/p>\n<p>Felly, os ydych yn chwilio am ymagwedd wahanol at ddatblygu dysgwyr hyderus a brwdfrydig,\u00a0 efallai wir mai ci fydd eich ffrind gorau newydd!<\/p>\n<ul>\n<li><strong><em>Helen Lewis yw Arweinydd TAR Cynradd Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/em><\/strong><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Helen Lewis yn archwilio sut y gallai\u2019r cwlwm agosrwydd rhwng plentyn a ch\u0175n esgor ar fanteision sy\u2019n effeithio ar ddysgu&#8230; &nbsp; \u2018Arfer meddwl a gweithredu lled barhaol\u2019 yw tueddfryd, sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019n hagweddau a\u2019n teimladau.\u00a0Mae tueddfryd yn effeithio ar sut yr ydym yn gweld ein hunain fel dysgwyr, a pha mor hyderus yr ydym&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39110","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39110","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39110"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39110\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39110"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39110"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39110"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}