{"id":39112,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/ysgrifennydd-addysg-kirsty-williams-yn-ymweld-ar-athrofa\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"ysgrifennydd-addysg-kirsty-williams-yn-ymweld-ar-athrofa","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/ysgrifennydd-addysg-kirsty-williams-yn-ymweld-ar-athrofa\/","title":{"rendered":"Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn ymweld \u00e2\u2019r Athrofa"},"content":{"rendered":"<p><strong>Roedd yn bleser mawr gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant groesawu\u2019r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams i\u2019r Athrofa yn y brifysgol i ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf o athrawon dosbarth.<\/strong><\/p>\n<p>Cwrddodd Ysgrifennydd y Cabinet ag athrawon dan hyfforddiant ar gampws Townhill y brifysgol <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/01\/12\/ysgrifennydd-y-cabinet-dros-addysg-kirsty-williams-yn-fyw-yn-yr-athrofa\/\">a chymerodd ran mewn sesiwn holi ac ateb fyw<\/a> gyda myfyrwyr, staff a chydweithwyr mewn ysgolion.<\/p>\n<p>Hefyd yn ystod ei hymweliad rhoddwyd diweddariad iddi hithau ynghylch dull newydd radical y brifysgol ym maes addysg athrawon gan yr Is-Ganghellor yr Athro Medwin Hughes a\u2019r Athro Dylan Jones, Deon yr Athrofa.<\/p>\n<p>Gan annerch y myfyrwyr, meddai Ysgrifennydd y Cabinet: \u201cGyda\u2019n gilydd rydym yn gyfrifol am sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf. Chi yw\u2019r genhedlaeth newydd o athrawon, y gweithredwyr newid, sy\u2019n newid bywydau ac yn gwneud gwahaniaeth.<\/p>\n<p>\u201cFyddwn i ddim yn sefyll yma heddiw oni bai am f&#8217;athro hanes. Newidiodd yntau fy mywyd i. Gwelodd ef rywbeth ynof i ac roedd hwnnw wedi fy sbarduno i wneud rhywbeth. Mae gennych chi&#8217;r cyfle i wneud yn union yr un peth hefyd.\u201d<\/p>\n<p>Cyflwynir gweledigaeth uchelgeisiol y brifysgol i rymuso athrawon a chefnogi ysgolion i ddatblygu\u2019r gweithlu addysg drwy dri llinyn craidd yr Athrofa \u2013 <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/professional-learning-partnership\/\">Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA)<\/a>; Canolfannau Ymchwil ac Arloesi; a Chomisiwn Addysg Cymru \u2013 sy\u2019n adeiladu ar hanes balch addysg athrawon yn ne-orllewin Cymru.<\/p>\n<p>Cafodd y PDPA, a luniwyd ar sail parch cydradd a chyd-atebolrwydd, ei sefydlu gyda gr\u0175p o 120 o ysgolion ledled Cymru ac mae wedi ail-ddiffinio\u2019r modd y gellir darparu addysg gychwynnol athrawon (AGA) a dysgu proffesiynol.<\/p>\n<p>Y canlyniad clir fydd datblygu cwricwlwm AGA newydd, gyda&#8217;r brifysgol ac ysgolion partner yn gyfrifol ar y cyd am lunio a darparu\u2019r holl raglenni hyfforddi.<\/p>\n<p>Mae\u2019n wyriad radical oddi wrth ddulliau addysg athrawon mwy traddodiadol ac mae\u2019n dilyn cyfarwyddyd clir gan Ms Williams bod angen i system AGA Cymru newid.<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Jones: \u201cRoedd yn bleser mawr gennym ni groesawu ail ymweliad gan Ysgrifennydd y Cabinet, a gadawodd ei chyflwyniad ysbrydolgar y rheini oedd yn bresennol heb unrhyw amheuaeth ynghylch ei hymrwymiad i athrawon wrth eu gwaith ac athrawon y dyfodol.<\/p>\n<p>\u201cMae hi wedi galw am ailwampio AGA yng Nghymru ac rydym yn cydnabod r\u00f4l bwysig prifysgolion, mewn partneriaeth ag ysgolion, o ran codi safonau.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n hanfodol fod gan athrawon y presennol a\u2019r dyfodol y sgiliau a\u2019r wybodaeth angenrheidiol i ddarparu cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru \u2013 a bydd gwella ansawdd yr addysg a\u2019r hyfforddiant sydd ar gael yn hanfodol.<\/p>\n<p>\u201cCeir potensial aruthrol yn system addysg Cymru ac rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i ysgogi newid cadarnhaol a grymuso ysgolion er lles yr holl ddysgwyr.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r PDPA wedi ymateb yn gadarnhaol i gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio\u2019r cwricwlwm ac AGA, gydag ysgolion wrthi\u2019n cynllunio cwrs newydd a chyffrous ar gyfer athrawon y presennol a\u2019r dyfodol.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet ac i\u2019r Athro Graham Donaldson, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/05\/18\/blaen-arbenigwr-ar-y-cwricwlwm-yn-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf-o-athrawon\/\">sydd hefyd wedi ymweld \u00e2 ni<\/a>, am gymryd amser o&#8217;u hamserlenni prysur i ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf o athrawon dosbarth gyda negeseuon cadarn a chadarnhaol o gyfle a chefnogaeth.\u201d<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Hughes: \u201cRoedd yn bleser groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i annerch ac i ymgysylltu \u00e2\u2019n hathrawon dan hyfforddiant ac i roi diweddariad iddi ar ein cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r brifysgol yn falch o\u2019i hanes cyfoethog mewn addysg athrawon a, thrwy ein Hathrofa newydd, edrychwn ymlaen at adeiladu gwaddol newydd a chyffrous.<\/p>\n<p>\u201cRydym wedi ymrwymo\u2019n llwyr i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau \u2013 ac ystyriwn mai cenhadaeth ein cenedl yw defnyddio\u2019r cryfder sy\u2019n bodoli yn system addysg Cymru a\u2019r tu hwnt er budd yr holl ddysgwyr.<\/p>\n<p>\u201cMae pobl ifanc Cymru yn haeddu\u2019r addysg orau ac mae athrawon Cymru yn haeddu\u2019r gefnogaeth orau bosibl. Dyna fydd flaenllaw yn ein meddyliau wrth inni symud ymlaen at ein pennod nesaf.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Roedd yn bleser mawr gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant groesawu\u2019r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams i\u2019r Athrofa yn y brifysgol i ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf o athrawon dosbarth. Cwrddodd Ysgrifennydd y Cabinet ag athrawon dan hyfforddiant ar gampws Townhill y brifysgol a chymerodd ran mewn sesiwn holi ac ateb fyw gyda myfyrwyr, staff a chydweithwyr&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39112","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39112","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39112"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39112\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39112"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39112"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39112"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}