{"id":39113,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/rhy-ychydig-rhy-hwyr-i-ysgolion-bychain-yng-nghymru\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"rhy-ychydig-rhy-hwyr-i-ysgolion-bychain-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/rhy-ychydig-rhy-hwyr-i-ysgolion-bychain-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Rhy ychydig, rhy hwyr i ysgolion bychain yng Nghymru?"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae disgyblion ar draws Cymru ar fin elwa yn sgil grant newydd o \u00a32.5m i gynorthwyo ysgolion bychain a chefn gwlad. Ond tybed a wnaiff hyn unrhyw wahaniaeth? Mae Nanna Ryder yn ymchwilio i\u2019r mater&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Unwaith eto\u2019r wythnos hon, un o brif benawdau\u2019r papur newydd lleol wythnosol, y \u2018Cambrian News\u2019, yw cau ysgolion bach yng Ngheredigion. Dros y pymtheg mis diwethaf, caewyd saith ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd o fewn dalgylch o ddeg milltir yn ne\u2019r sir.<\/p>\n<p>Unwyd tair o\u2019r ysgolion bach hyn er mwyn ffurfio un ysgol gynradd ardal hollol newydd ar safle ganolog, tra unwyd y gweddill i ffurfio ysgol 3-19 mewn adeilad pwrpasol newydd sbon. Y newyddion diweddaraf hefyd yw bod o leiaf wyth ysgol arall o fewn yr un dalgylch o rhyw ugain milltir eto tan fygythiad.<\/p>\n<p>Dyma batrwm cyfarwydd nid yn unig yng nghefn gwlad Ceredigion ond ar hyd a lled cymunedau gwledig yng Nghymru, ar waethaf protestiadau rhieni, teuluoedd ac aelodau o\u2019r gymuned. Mae\u2019r cynghorau sir yn gwneud eu gorau glas i gyfiawnhau bod ysgolion mwy o faint yn darparu gwell adnoddau, gwell cyfleoedd dysgu, ac addysg o safon uwch i ddisgyblion yr unfed-ganrif-ar-hugain.<\/p>\n<p>O\u2019r ysgolion a restrwyd uchod, derbyniodd y mwyafrif raddau \u2018da\u2019 neu \u2018ragorol\u2019 o ran perfformiad presennol a rhagolygon gwella yn eu harolygon Estyn terfynol. Nid oedd yr un ohonynt chwaith yn y band coch o ran y system goleuadau traffig i fandio ysgolion.<\/p>\n<p>Ceir ymchwil yn y wlad hon ac yn rhyngwladol i brofi nad oes gwahaniaeth rhwng cyraeddiadau disgyblion mewn ysgolion bach o\u2019u cymharu \u00e2\u2019r rhai sydd mewn ysgolion mawr, ac mewn rhai achosion mae plant sy\u2019n derbyn eu haddysg mewn ysgolion bach yn rhagori.<\/p>\n<p>Noda ymchwil sydd eisoes yn bodoli, profiad personol fel cyn-riant a chyn-aelod o staff yn ogystal ag fel tiwtor i fyfyrwyr ar brofiad addysgu mewn ysgolion yn yr ardal, bod rhai agweddau tipyn cryfach mewn ysgolion llai o faint. Gall hyn gynnwys ymrwymiad rhieni, cyfleoedd allgyrsiol, meistrolaeth o\u2019r iaith Gymraeg (yn enwedig o safbwynt newydd-ddyfodiaid) a\u2019r syniad o berthyn i \u2018un teulu\u2019 o fewn cymuned ysgol. Felly rhaid gofyn ai cau ar draul safonau a phrofiadau addysgol neu ar sail arbed arian i\u2019r cynghorau a wneir yn yr achosion hyn?<\/p>\n<p>Rhaid ystyried hefyd a roddir ystyriaeth i lais, lles a datblygiad cyfannol y plant a\u2019r bobl ifanc yn y penderfyniadau allweddol yma am ddyfodol eu haddysg. Yn anochel mae nifer y disgyblion sydd yn y dosbarthiadau a\u2019r canran oedolyn i blentyn tipyn yn fwy mewn ysgolion mawr.<\/p>\n<p>Anodd felly rhoi sylw penodol i bob unigolyn er mwyn sicrhau eu lles a\u2019u datblygiad cyflawn. Gall llwytho disgyblion mewn bysiau cyn toriad gwawr a\u2019u cludo allan o\u2019u cymunedau lleol i\u2019w haddysgu gael effaith niweidiol ar hunaniaeth bersonol a\u2019r syniad o berthyn i gymuned.<\/p>\n<p>Gellid dadlau bod hyn i\u2019r gwrthwyneb i ofynion <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">cwricwlwm trawsnewidiol Donaldson<\/a> gan mai un o\u2019r pedwar diben yw \u2018datblygu dinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd&#8230; yn wybodus am&#8230; eu cymuned [a\u2019u] cymdeithas\u2019. Trwy orfodi cenedlaethau\u2019r dyfodol i symud o\u2019u milltir sgw\u00e2r i gael eu haddysgu, gallant gael eu hamddifadu o\u2019r cyfoeth profiadau sy\u2019n bodoli ar eu stepen drws.<\/p>\n<p>Mewn rhai ardaloedd, gyda chau siopau lleol a lleihad yn y nifer sy\u2019n mynychu\u2019r capeli a\u2019r eglwysi, yr ysgol yn fynych yw\u2019r unig man cyfarfod i\u2019r trigolion. Serch hynny gyda\u2019r lleihad mewn nifer y disgyblion sy\u2019n mynychu a\u2019r her o gyflogi penaethiaid yn ogystal \u00e2 diffyg cefnogaeth ariannol oddi wrth y cynghorau lleol, cau yn fynych yw\u2019r unig opsiwn i ysgolion llai o faint.<\/p>\n<p>O ganlyniad gall cau drysau\u2019r ysgol arwain hefyd at \u2018ladd\u2019 y cymunedau eu hunain. Mae hon yn hen stori, a dyma fu\u2019r drefn dros y pum-mlynedd-ar-hugain olaf yma yng Nghymru.<\/p>\n<p>Ond, daeth tro ar fyd a gwelwyd tro pedol ym mholisi addysg Llywodraeth Cymru yn ddiweddar gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn lansio grant o \u00a32.5m i gefnogi ysgolion bach, gwledig er mwyn \u2018&#8230;delio \u00e2\u2019r heriau unigryw y maent yn eu hwynebu&#8230; [a] helpu ysgolion i weithio gyda\u2019i gilydd er lles disgyblion, athrawon a\u2019r gymuned ehangach\u2019.<\/p>\n<p>Atgyfnerthwyd hyn ymhellach yn y ddogfen bolisi \u2018<a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/09\/29\/addysg-yng-nghymru-cenhadaeth-ein-cenedl\/\">Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl<\/a>\u2019 sy\u2019n argymell y dylid ystyried pob opsiwn posib gan gynnwys ffederaleiddio cyn cau ysgolion bach neu wledig. Tybed felly oes goleuni ar y gorwel i ysgolion bach ond ydy\u2019r tro pedol yma wedi dod ddegawd neu fwy yn rhy hwyr?<\/p>\n<p>Gwaredwyd yr adeiladau, chwalwyd cymunedau ac anodd credu bydd modd troi n\u00f4l o\u2019r fan hyn. Cofiwch y ddihareb \u2013 \u2018rhy hwyr codi pais&#8230;\u2019 a tybed a ydy hi\u2019n rhy hwyr i\u2019n hysgolion bach gwledig ni yma yng Nghymru heddiw?<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Nanna Ryder yn uwch ddarlithydd (Anghenion Dysgu Ychwanegol) yn yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae disgyblion ar draws Cymru ar fin elwa yn sgil grant newydd o \u00a32.5m i gynorthwyo ysgolion bychain a chefn gwlad. Ond tybed a wnaiff hyn unrhyw wahaniaeth? Mae Nanna Ryder yn ymchwilio i\u2019r mater&#8230; &nbsp; Unwaith eto\u2019r wythnos hon, un o brif benawdau\u2019r papur newydd lleol wythnosol, y \u2018Cambrian News\u2019, yw cau ysgolion bach&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39113","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39113","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39113"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39113\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39113"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39113"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39113"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}