{"id":39114,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/rhannu-gwersi-o-gymru-a-dirprwyaeth-o-dde-affrica\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"rhannu-gwersi-o-gymru-a-dirprwyaeth-o-dde-affrica","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/rhannu-gwersi-o-gymru-a-dirprwyaeth-o-dde-affrica\/","title":{"rendered":"Rhannu gwersi o Gymru \u00e2 dirprwyaeth o Dde Affrica"},"content":{"rendered":"<p><strong>Rhoddwyd cipolwg ar fodelau newydd, arloesol o addysg athrawon i Weinidog Addysg rhyngwladol blaenllaw yn ystod ymweliad \u00e2\u2019r Athrofa.<\/strong><\/p>\n<p>Debbie Schafer, Gweinidog Addysg Taleithiol ar gyfer Llywodraeth y Penrhyn Gorllewinol, De Affrica, oedd arweinydd dirprwyaeth i\u2019r Athrofa Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am ei hanes hir o AGA.<\/p>\n<p>Yn ogystal, achubodd yr Athro Dylan Jones a&#8217;r Athro Peter Rabbett ar y cyfle i rannu cynlluniau uchelgeisiol <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">yr Athrofa<\/a> ar gyfer AGA, gan gyflwyno\u2019r ddirprwyaeth i <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/professional-learning-partnership\/\">Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa<\/a>.<\/p>\n<p>Mae Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA) yn gydweithrediad go iawn rhwng yr Athrofa ac ysgolion partner ac mae\u2019n datblygu rhaglenni ar y cyd ar gyfer athrawon ar bob cam o\u2019u bywyd proffesiynol ac ar gyfer arweinwyr, sef sefydliadau arweiniol wedi\u2019u seilio yn yr ystafell ddosbarth, neu arweinwyr systemau.<\/p>\n<p>Mae\u2019r PDPA yn un o dri llinyn craidd yng ngwaith yr Athrofa i gefnogi gweithredu strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/09\/29\/addysg-yng-nghymru-cenhadaeth-ein-cenedl\/\">Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl<\/a>.<\/p>\n<p>Roedd y cyfarfod yn cynnwys trafodaeth ynghylch lle addysg athrawon yn natblygiad newydd Abertawe yn SA1, trawsnewid Campws Caerfyrddin y Brifysgol ac ymestyn yr Athrofa ar draws Cymru drwy\u2019r PDPA.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ddirprwyaeth yn casglu tystiolaeth o Gymru, Iwerddon a\u2019r Ffindir cyn dychwelyd i Dde Affrica.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 Ms Schafer, roedd dirprwyaeth y Penrhyn Gorllewinol yn cynnwys Brian Schrader, Uwch-arolygydd Gwasanaeth Addysg Cyffredinol y Penrhyn Gorllewinol, Dr Peter Beets, Dirprwy Gyfarwyddwr y Cwricwlwm Cyffredinol ac Asesu, John Curran, Cyfarwyddwr Addysg ym Mellon Educate a Holly Hayes, Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu ym Mellon Educate.<\/p>\n<p>O\u2019r Drindod Dewi Sant aeth y ddirprwyaeth ar ymweliad \u00e2\u2019r Senedd gan gwrdd ag uwch swyddogion o Adran Addysg Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Jones: \u201cRoedd yn bleser mawr gennym ni groesawu gr\u0175p mor nodedig o gynrychiolwyr rhyngwladol i\u2019r Athrofa i gymharu nodiadau a rhannu arbenigedd ym maes amrywiol addysg athrawon.<\/p>\n<p>\u201cMae ein <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/professional-learning-partnership\/\">PDPA<\/a> yn mynd o nerth i nerth ac roedd yn bleser cyflwyno ein model arloesol o weithio cydweithredol i gynulleidfa ehangach, ryngwladol.<\/p>\n<p>\u201cYma yng Nghymru mae gennym ni lawer i\u2019w ddathlu ac mae\u2019n bwysig rhannu arfer da gyda chydweithwyr o bob cwr o\u2019r byd. Rhaid i ni chwifio\u2019r faner dros ein systemau addysg ein hunain ac roeddem ni\u2019n ffodus bod Ms Schafer a\u2019i chydweithwyr wedi cymryd yr amser i ymweld \u00e2\u2019r Athrofa a dysgu o\u2019n profiad.<\/p>\n<p>\u201cYn sicr cymeron ni lawer o\u2019r cyfle i gymharu a chyferbynnu ein gwaith ni yng Nghymru \u00e2 gwaith cenedl flaenllaw arall ym myd addysg.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rhoddwyd cipolwg ar fodelau newydd, arloesol o addysg athrawon i Weinidog Addysg rhyngwladol blaenllaw yn ystod ymweliad \u00e2\u2019r Athrofa. Debbie Schafer, Gweinidog Addysg Taleithiol ar gyfer Llywodraeth y Penrhyn Gorllewinol, De Affrica, oedd arweinydd dirprwyaeth i\u2019r Athrofa Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am ei hanes hir o AGA. Yn&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39114","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39114","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39114"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39114\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39114"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39114"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39114"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}