{"id":39115,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/tango-teirieithog-archwilio-rhythmau-iaith\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"tango-teirieithog-archwilio-rhythmau-iaith","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/tango-teirieithog-archwilio-rhythmau-iaith\/","title":{"rendered":"Tango Teirieithog \u2013 archwilio rhythmau iaith"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Gwnaeth Mererid Hopwood a Si\u00e2n Brooks roi\u2019r droed orau ymlaen yn ystod prosiect newydd sy\u2019n cysylltu iaith, cerddoriaeth a dawnsio&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Dechreuodd yr hyfforddiant \u00e2\u2019r \u2018balanceo\u2019, sef y siglo rhythmig sy\u2019n synhwyro safle eich partner cyn i chi gymryd cam cyntaf y tango. A bant \u00e2 ni drwy wers dawnsio Archentaidd: roedd hon yn mynd i fod yn sesiwn Datblygiad Proffesiynol wahanol i\u2019r arfer.<\/p>\n<p>Cynigwyd y cwrs i athrawon yr ysgolion cynradd hynny o gonsortiwm Erw sy\u2019n rhan o brosiect <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/03\/23\/prosiect-cerddoriaeth-teirieithog-yn-taror-nodau-cywir\/\">Cerdd Iaith\/ Listening to Language<\/a>.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwaith yn archwilio cysylltiadau posib rhwng cerddoriaeth a dysgu iaith drwy ystyried yr hyn sy\u2019n digwydd pan fo athrawon yn cyflwyno nid un, nac ychwaith ddwy, ond tair iaith yn gydamserol i blant ysgol gynradd, gan dynnu eu sylw\u2019n benodol i\u2019r hyn y gellid ei alw\u2019n \u2018fydryddiaeth; yr ieithoedd dan sylw, h.y. i ddimensiwn cerddorol yr ymadrodd llafar.<\/p>\n<p>Dechreuodd y prosiect creadigol a thairieithog ym mis Medi 2016 fel partneriaeth rhwng Sefydliad Paul Hamlyn, Cyngor Prydeinig Cymru, Cerddorfa Genedlaethol BBC Cymru, ERW a <a href=\"http:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/\">Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/a>.<\/p>\n<p>Yn y sesiynau cynnar, dewiswyd geiriau unigol Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg a oedd yn golygu\u2019r un peth yn y tair iaith ond a oedd ac iddynt werth rythmig wahanol. Esiampl dda fyddai \u2018Pa\u00eds de Gales\u2019\/ \u2018Cymru\u2019\/ \u2018Wales\u2019.<\/p>\n<p>Gan weithio gyda disgyblion blynyddoedd 5 a 6, pwysleisiwyd y gwahaniaeth rhwng y geiriau gan gysylltu nodyn \u00e2 phob sillaf ynghyd \u00e2 gwerth rhythmig, a chreu felly uned fach gerddorol. Ar bob achlysur, roedd y disgyblion yn gweld a chlywed yr ieithoedd ochr yn ochr.<\/p>\n<p>Wrth i\u2019r prosiect ddatblygu, cyflwynwyd disgyblion i unedau mwy cymhleth a oedd yn datblygu o eiriau unigol i ymadroddion llawn. Ymadroddion cyffredin oedd y rhain, ond rhai sydd \u00e2 si\u00e2p cerddorol (o ran rhythm, aceniad a goslef) gwahanol\u00a0 ganddynt yn y tair iaith, ac ymadroddion nad oes modd eu trosi air am air.<\/p>\n<p>Er enghraifft, mae\u2019r ymadrodd Cymraeg \u2018mae eisiau bwyd arnaf i\u2019 yn cyfuno trydydd person unigol presennol y ferf afreolaidd \u2018bod\u2019\u00a0\u2013 \u2018mae\u2019, gyda\u2019r enw \u2018eisiau\u2019, yna mae\u2019n nodi enw arall\u00a0\u2013 \u2018bwyd\u2019, cyn rhoi\u2019r arddodiad \u2018ar\u2019 wedi ei redeg i gyd-fynd \u00e2\u2019r person cyntaf unigol \u2013\u00a0\u2018arnaf\u2019, gan orffen gyda rhagenw uniongyrchol person cyntaf unigol \u2013 \u2018i\u2019.<\/p>\n<p>Yn Saesneg, dywedir \u2018I\u2019m hungry\u2019, sy\u2019n cyfuno\u2019r person cyntaf unigol presennol y ferf \u2018to be\u2019 gydag ansoddair, \u2018hungry\u2019. Yn Sbaeneg, cyfl\u00ebir hyn oll gyda\u2019r ymadrodd \u2018tengo hambre\u2019, sy\u2019n cyfuno person cyntaf unigol y ferf afreolaidd \u2018tener\u2019 \u2013 \u2018tengo\u2019 (a drosir i\u2019r Gymraeg fel \u2018mae gen i\u2019, neu i\u2019r Saesneg fel \u2018I have\u2019), gydag enw, \u2018hambre\u2019 sef \u2018newyn\u2019\u2026<\/p>\n<p>O\u2019i roi felly, mae\u2019r cyfan yn ymddangos yn gymhleth tu hwnt! Tybed a allai eu dysgu nhw i gyd gyda\u2019i gilydd gan ganolbwyntio ar rythm hwyluso pethau?<\/p>\n<p>Tra bod y sesiynau arsylwi go iawn heb ddigwydd eto, mae tystiolaeth anecdotaidd gynnar yn awgrymu bod tarfu ar drefn a phatrymau confensiynol dysgu ail a thrydedd iaith yn y modd hwn wedi dwyn ffrwyth; nid yn unig o ran cofio a deall geiriau ac ymadroddion mewn tair iaith, ond hefyd o ran parodrwydd disgyblion ac athrawon i roi tro arni a\u2019u cywirdeb wrth ynganu\u2019r ymadroddion a\u2019r geiriau.<\/p>\n<p>Ymddengys bod y prosiect hefyd wedi dangos sut y mae mynd ati drwy\u2019r celfyddydau, yn benodol, cerddoriaeth, yn diddymu\u2019r rhwystrau sy\u2019n draddodiadol wedi atal athrawon rhag dod yn arweinwyr dysgu iaith hyderus; rhwystrau megis:<\/p>\n<ul>\n<li>Ofn gwneud camgymeriadau (h.y. drwy beidio \u00e2 chyfleu\u2019r gyfatebiaeth gywir rhwng yr iaith ddieithr a\u2019r un gyfarwydd);<\/li>\n<li>Ymwrthod ag amwysedd ystyr;<\/li>\n<li>Diffyg gwerthfawrogi pwysigrwydd gwrando\u2019n ddwys;<\/li>\n<li>Yr angen i greu\u2019r amgylchedd addas i annog dysgwyr i gymryd risg wrth ynganu patrymau sain newydd.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yng Nghymru, wrth i ni ddechrau meddwl am y cwricwlwm yn nhermau \u2018<a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">Meysydd Dysgu a Phrofiad<\/a>\u2019, mae\u2019r prosiect o ddiddordeb arbennig. Mae wedi rhoi cyfle i athrawon a disgyblion \u2018brofi\u2019 ail a thrydedd iaith mewn modd emosiynol a chorfforol.<\/p>\n<p>Mae ganddo arwyddoc\u00e2d pellach wrth i bolis\u00efau addysg Ewropeaidd ddod yn fwyfwy ymwybodol o\u2019r ddolen sydd rhwng dysgu mwy nag un iaith a hybu cynhwysiant a chydlyniad cymdeithasol, cydraddoldeb a pharch at amrywiaeth.<\/p>\n<p>Wrth baratoi ar gyfer ail flwyddyn o\u2019r prosiect, cynhaliwyd y cwrs hwn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Yn ogystal \u00e2\u2019r wers Tango, dysgom Tai Chi gan hyfforddwr llais proffesiynol, Gareth Evans. Helpodd hwn ni i ddysgu technegau anadlu cyn mynd ati i ddysgu ymarferion bywiog y gellid eu defnyddio \u00e2\u2019r disgyblion i gynhesu\u2019r llais.<\/p>\n<p>Roeddem bellach yn barod i roi tro ar ddysgu rhai o ganeuon allweddol y prosiect \u2013 caneuon o waith y cyfansoddwr arbennig, Gareth Glyn. Cododd Tango\u2019r Tengo ni i gyd ar ein traed a\u2019n gadael yn awchu am y Tapas ac yn barod i drio siarad ychydig o Sbaeneg.<\/p>\n<p>Drannoeth, cawsom gyfle i arbrofi \u00e2 pheth o\u2019r deunyddiau sydd ar y wefan a luniwyd yn arbennig ar gyfer y prosiect, ac agorwyd ein clustiau i rythmau iaith mewn sesiynau egn\u00efol dan arweiniad aelodau Cerddorfa Genedlaethol y BBC a chantorion y BBC.<\/p>\n<p>Ohrwurm, yn llythrennol, lindysen yr \u0177d, yw\u2019r gair Almaeneg ar y caneuon hynny\u2019n sy\u2019n mynnu troi a throsi yn y cof. Wrth i ni droi am adref, roedd pentwr o Ohrw\u00fcrmer tairieithog yn chwyrl\u00efo yn ein pennau, heb s\u00f4n am \u00f4l y tango yn ein cerddediad.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae\u2019r Athro Mererid Hopwood a Si\u00e2n Brooks yn arbenigwyr iaith ac wedi\u2019u lleoli yn yr Athrofa<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gwnaeth Mererid Hopwood a Si\u00e2n Brooks roi\u2019r droed orau ymlaen yn ystod prosiect newydd sy\u2019n cysylltu iaith, cerddoriaeth a dawnsio&#8230; &nbsp; Dechreuodd yr hyfforddiant \u00e2\u2019r \u2018balanceo\u2019, sef y siglo rhythmig sy\u2019n synhwyro safle eich partner cyn i chi gymryd cam cyntaf y tango. A bant \u00e2 ni drwy wers dawnsio Archentaidd: roedd hon yn mynd&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39115","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39115","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39115"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39115\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39115"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39115"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39115"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}