{"id":39116,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/cam-ymlaen-ir-cwricwlwm-cenedlaethol-newydd\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"cam-ymlaen-ir-cwricwlwm-cenedlaethol-newydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/cam-ymlaen-ir-cwricwlwm-cenedlaethol-newydd\/","title":{"rendered":"Cam ymlaen i\u2019r cwricwlwm cenedlaethol newydd"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae prosiect ymchwil pwysig sy\u2019n llywio agwedd hanfodol ar ddiwygio\u2019r cwricwlwm yng Nghymru wedi cyflwyno ei ddarganfyddiadau cyntaf.<\/strong><\/p>\n<p>Wedi\u2019i ddatblygu mewn partneriaeth gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Phrifysgol Glasgow, mae prosiect CAMAU yn ceisio datblygu dealltwriaeth a rennir o \u2018ddilyniant\u2019 yng nghyd-destun Dyfodol Llwyddiannus.<\/p>\n<p>Cyhoeddwyd adolygiad eang yr <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/05\/18\/blaen-arbenigwr-ar-y-cwricwlwm-yn-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf-o-athrawon\/\">Athro Graham Donaldson<\/a> o\u2019r cwricwlwm a threfniadau asesu yn 2015, a chynigiwyd ganddo\u2019r cyfle i ailymweld \u00e2, ac i ailddatgan dibenion sylfaenol addysg ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru.<\/p>\n<p>Yn y cynllun i ddiwygio\u2019r cwricwlwm a ddeilliodd o\u2019r arolwg, cynigiwyd nifer o argymhellion sy\u2019n cael eu gweithredu cyn y bwriedir rhoi\u2019r cwricwlwm ar waith o 2022.<\/p>\n<p>Sefydlwyd CAMAU gan ddefnyddio cyllid a roddwyd gan PCYDDS a Llywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu fframweithiau dilyniant sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth, ac sy\u2019n cynorthwyo arferion asesu sy\u2019n cyd-fynd ag \u2018ysbryd\u2019 yn hytrach na \u2018llythyren\u2019 asesu ar gyfer dysgu.<\/p>\n<p>Mae cyfnod cyntaf y prosiectau yn ymwneud \u00e2 datblygu ar y cyd fframweithiau dilyniant sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth.<\/p>\n<p>Dylunnir yr ail gyfnod i adolygu a dysgu o\u2019r broses o dreialu\u2019r fframweithiau dilyniant drafft, a gwnaiff y trydydd cyfnod gwblhau\u2019r trefniadau hyn.<\/p>\n<p>Ym mhob cyfnod o\u2019r prosiect, y mae athrawon, disgyblion, gwneuthurwyr polisi ac ymchwilwyr yn gyd-ymchwilwyr sy\u2019n rhannu\u2019r un dyhead, sef datblygu ar gyfer Cymru gwricwlwm, addysgeg a threfniadau asesu o ansawdd uchel a gwybodus.<\/p>\n<p>Mae staff <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">Athrofa Addysg PCYDDS<\/a>, Prifysgol Glasgow a Llywodraeth Cymru wedi bod yn cwrdd yn rheolaidd gyda chydweithwyr mewn ysgolion arloesol i symud ymlaen y weledigaeth a amlinellir yn\u00a0 Dyfodol Llwyddiannus.<\/p>\n<p>Datblygwyd cyfres gyntaf adroddiadau interim y t\u00eem\u00a0CAMAU yn gyfres o adnoddau sydd wedi\u2019u defnyddio i gynorthwyo i fynegi \u2018beth sy\u2019n bwysig\u2019 wrth gysyniadu\u2019r cwricwlwm newydd ar draws y rhwydwaith ysgolion arloesol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhain yn cynnwys adolygiadau ymchwil i ddilyniant plant a dysgu gan bobl ifanc; adolygiadau o bolis\u00efau dilyniant a ddaw o wledydd eraill; ac adolygiad a dadansoddiad o ddilyniant fel y mae\u2019n ymddangos yn <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">Dyfodol Llwyddiannus<\/a>.<\/p>\n<p>Rhoddwyd i ysgolion arloesol y dasg o nodi\u2019r hyn sy\u2019n bwysig er mwyn cyflawni dibenion cyffredinol y cwricwlwm newydd a darganfod sut orau y gellid disgrifio a chanfod cynnydd.<\/p>\n<p>Meddai Dr Jane Waters, Deon Cynorthwyol Ymchwil a Throsglwyddo Gwybodaeth yr Athrofa: \u201cCaiff fframweithiau eu dylunio gan, ac ar gyfer y proffesiwn, ac o\u2019r cychwyn cyntaf, cawsant eu datblygu i fod yn hollol gynhwysol, er mwyn sicrhau eu haddasrwydd ar gyfer pob dysgwr.<\/p>\n<p>\u201cDrwy ddefnyddio gwahanol fathau o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth er mwyn archwilio sut orau i ddisgrifio a datblygu dilyniant mewn perthynas \u00e2 Meysydd Dysgu a Phrofiad (AOLEs), mae gan CAMAU r\u00f4l bwysig i\u2019w chwarae wrth greu ein cwricwlwm cenedlaethol newydd.<\/p>\n<p>\u201cOnd mae i\u2019r gwaith hwnnw lawer o elfennau \u00a0ac rydym yn ddyledus i\u2019r nifer mawr o gydweithwyr sydd wedi ymuno \u00e2 ni ar ein siwrne.<\/p>\n<p>\u201cByddwn yn edrych ar ac yn dysgu o\u2019r dulliau rhyngwladol diweddaraf, yn ogystal \u00e2\u2019r arfer da a geir yng Nghymru, er mwyn llywio dylunio, datblygu a chyflwyno gwaith CAMAU, wrth iddo fynd rhagddo.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro Dylan Jones, Deon yr Athrofa: \u201cRydym wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi\u2019r cyfle i ni gynorthwyo\u2019r gwaith pwysig hwn, ac mae\u2019r her o ddatblygu, mewn partneriaeth \u00e2 chydweithwyr, drefniadau asesu newydd ac arloesol ar gyfer Cymru, wedi ein cynhyrfu.<\/p>\n<p>\u201cMae prosiect CAMAU yn symud ymlaen yn dda, ac mae pob rhanddeiliad allweddol wedi chwarae ei ran i ddod \u00e2 chynllun penodedig yr Athro Donaldson ynghyd.<\/p>\n<p>\u201cMae mewnwelediad staff ysgolion wedi bod yn werthfawr dros ben \u2013 mae athrawon yn weithredwyr newid, ac felly maent yn teilyngu chwarae rhan flaenllaw mewn unrhyw arloesi.<\/p>\n<p>\u201cYn ogystal, rydym yn ddiolchgar dros ben am gefnogaeth ein cydweithwyr yn Glasgow, oherwydd mae eu harbenigedd helaeth wedi bod yn hanfodol wrth yrru\u2019r prosiect hwn ymlaen.<\/p>\n<p>\u201cMae <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">Dyfodol Llwyddiannus<\/a> yn torri tir newydd, ac nid oes model diwygio\u2019r cwricwlwm yn bodoli sydd mor eang \u00e2\u2019r un yr ymgymerir ag ef ar hyn o bryd yng Nghymru.<\/p>\n<p>\u201cCynigia hwn gyfle unigryw i ni lunio system addysg sydd \u00e2 dilyniant dysgwyr yn ganolog iddi, ac y gallwn ymfalch\u00efo ynddi.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae prosiect ymchwil pwysig sy\u2019n llywio agwedd hanfodol ar ddiwygio\u2019r cwricwlwm yng Nghymru wedi cyflwyno ei ddarganfyddiadau cyntaf. Wedi\u2019i ddatblygu mewn partneriaeth gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Phrifysgol Glasgow, mae prosiect CAMAU yn ceisio datblygu dealltwriaeth a rennir o \u2018ddilyniant\u2019 yng nghyd-destun Dyfodol Llwyddiannus. Cyhoeddwyd adolygiad eang yr Athro Graham Donaldson&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39116","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39116","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39116"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39116\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39116"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39116"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39116"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}