{"id":39117,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/y-bwlch-mawr\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"y-bwlch-mawr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/y-bwlch-mawr\/","title":{"rendered":"Y Bwlch Mawr"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Pryd y mae cyfrifoldeb am addysg yn dechrau ac yn gorffen? A swydd pwy yw addysgu ein plant ieuaf? Yma, y mae Natalie MacDonald yn ceisio ateb y cwestiynau a gaiff yn aml eu hysgubo dan y carped&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Un o\u2019r cwestiynau sydd wedi bod ym mlaen fy meddwl yn ddiweddar yw ble y dylai addysg ddechrau.<\/p>\n<p>Mae\u2019r polisi presennol ac arfaethedig, a\u2019r datblygiad cwricwlwm yn ogystal, yn targedu plant tair blwydd oed a thu hwnt \u2013 a ydy hyn yn golygu bod addysg yn dechrau o\u2019r eiliad y mae\u2019r plant yn cerdded drwy ddrysau\u2019r ysgol ac yn gorffen pan maent yn ymadael?<\/p>\n<p>Ystyrir \u2018<a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">Dyfodol Llwyddiannus<\/a>\u2019 yn gyfle \u2018i lunio cwricwlwm newydd i Gymru, sy\u2019n \u00a0addas i&#8217;r 21ain ganrif a thu hwnt.\u00a0\u2019 \u2013 chwyldro o fath, ac er bod cyfle sylweddol i ni wella a datblygu addysg ein cenedlaethau yn y dyfodol, y mae rhywbeth ar goll. Beth sy\u2019n digwydd cyn tair blwydd oed?<\/p>\n<p>Mae Dyfodol Llwyddiannus yn s\u00f4n deirgwaith am \u2018flynyddoedd cynnar\u2019 gan gyfeirio at\u00a0 \u2018flynyddoedd cynnar ysgolion uwchradd\u2019 ddwywaith, ac unwaith ym mywgraffiad un o\u2019r ymgynghorwyr; ni chrybwyllir \u2018cyn ysgol\u2019, \u2018genedigaeth\u2019 na \u2018dan dair blwydd oed\u2019 o gwbl.<\/p>\n<p>Mae\u2019r un peth yn wir am \u2018<a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/10\/03\/36898\/\">Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl<\/a>\u2019, nad yw\u2019n cydnabod nac yn cynnwys y blynyddoedd cynnar o gwbl yn rhan o\u2019r cynllun ar gyfer addysgu ein plant.<\/p>\n<p>Fel ymchwilydd, darlithydd ac ymarferydd blynyddoedd cynnar, mae hyn yn fy nrysu.<\/p>\n<p>Ystyrir ennyn diddordeb a gweithio gyda theuluoedd a phlant dan dair blwydd oed yn flaenoriaeth, ac mae mentrau, megis Investors in Families a chyfarwyddyd cynorthwyol ar gyfer y <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/09\/29\/addysg-yng-nghymru-cenhadaeth-ein-cenedl\/\">Grant Datblygu Disgyblion<\/a> yn argymell defnyddio\u2019r cyllid hwn er mwyn gwneud cysylltiadau \u00e2 theuluoedd a chymunedau.<\/p>\n<p>Mae gweithio yn agos gyda phlant o fewn y blynyddoedd cynnar ar hyn o bryd, ac erioed, wedi bod yn anghenraid sylfaenol. Caiff rhwydweithiau cymunedol eu sefydlu ar draws y byd sy\u2019n darparu ymagwedd gyfannol at addysg, megis yr Harlem Children\u2019s Zone yn Efrog Newydd.<\/p>\n<p>Yr hyn sy\u2019n ddiddorol yma yw\u2019r mur sy\u2019n bodoli rhwng rhieni ac addysg, ac sy\u2019n amrywio o \u2018nid fy swydd i yw eu haddysgu\u2019\u00a0 hyd at \u2018nid yw\u2019r rhieni yn ymwneud \u00e2 nhw beth bynnag\u2019.<\/p>\n<p>Cyn dechrau yn yr ysgol, nid oes unrhyw ddisgwyliadau i\u2019r rhieni ennyn diddordeb eu plant naill ai o ran addysg neu ddatblygiad, ac yna, yn sydyn reit, ar ddechrau yn yr ysgol, disgwylir i rieni ymgymryd ag unrhyw waith a anfonir adref gan yr ysgol.<\/p>\n<p>Rhaid hefyd i leoliadau blynyddoedd cynnar gymryd peth cyfrifoldeb yngl\u0177n \u00e2 hyn. Hyd yn oed ymhlith y plant ieuaf, sefydlir perthnasau rhwng y rhieni a\u2019r gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar, y ddau ohonynt yn cydweithio a gofalu am eu plant, ond unwaith eto, caiff eu haddysg ei hesgeuluso, ac yn aml, nid yw\u2019r rhieni yn cyfrannu at ddysgu a datblygiad eu plentyn.<\/p>\n<p>Mae\u2019r bwlch sy\u2019n bodoli rhwng gofal ac addysg yn gyfrifol i raddau am hyn. Nid oes rhaid i weithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar fod yn atebol am addysg, a chaiff\u00a0 cysylltiadau rhwng cynorthwyo datblygiad a dysgu plant nad ydynt eto yn dair blwydd oed, yn ogystal \u00e2\u2019r sgiliau sydd eu hangen arnynt i barhau \u00e2\u2019u datblygiad ym myd addysg, eu hesgeuluso.<\/p>\n<p>Nid yw hyn yn golygu y dylai\u2019r blynyddoedd cynnar ganolbwyntio ar \u2018baratoi plant ar gyfer ysgol\u2019 yn fwy\u00a0 nag y mae cynorthwyo plant yn ystod y blynyddoedd cynnar yn eu helpu i fod yn \u2018barod i ddysgu\u2019.<\/p>\n<p>Y mae angen yma gydnabyddiaeth a dealltwriaeth gilyddol o waith, gwybodaeth a rolau gweithwyr proffesiynol ac athrawon blynyddoedd cynnar.<\/p>\n<p>Mae cydnabod bod dysgu sgiliau echddygol manwl a bras mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yn cyfrannu at eu datblygiad llythrennedd nes ymlaen, ynghyd \u00e2 dysgu i hunan-reoleiddio a rhannu gyda\u2019u cymheiriaid, yn hwyluso datblygiad gwaith gr\u0175p a gwaith t\u00eem.<\/p>\n<p>Mae gan bolisi a phontio r\u00f4l allweddol i\u2019w chwarae yma; mae angen creu cysylltau cryfach er mwyn sefydlu proffesiwn unedig sy\u2019n galluogi rhieni, gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar ac athrawon i ddarparu ymagwedd gyson at gynorthwyo dysgu a datblygiad eu plant.<\/p>\n<p>Gadewch i ni edrych ar bontio, er enghraifft. Darperir cyfleoedd i rieni newydd fynychu dosbarthiadau geni, sy\u2019n eu tywys drwy wahanol gyfnodau\u2019r beichiogrwydd, yr enedigaeth a\u2019r ychydig o wythnosau cyntaf sy\u2019n eu dilyn.<\/p>\n<p>Pam nad ydym yn darparu cyfleoedd i rieni ddarganfod sut bydd eu plentyn yn dysgu ac yn datblygu, beth allant ei ddisgwyl, a\u2019u r\u00f4l o ran cynorthwyo\u2019r broses hon?<\/p>\n<p>Byddai hyn yn rhoi rywfaint o berchenogaeth i rieni yngl\u0177n \u00e2 datblygiad eu plant, gan greu rhyw deimlad o gyfrifoldeb y gellid ei feithrin a\u2019i barhau wrth weithio yn gyntaf gyda gweithwyr blynyddoedd cynnar, ac yna gydag athrawon, ac felly dileu\u2019r elfen \u00a0\u00a0\u2018nhw a ni\u2019 o\u2019r cychwyn cyntaf.<\/p>\n<p>Rwy\u2019n sicr y byddai rhieni, athrawon a gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar\u00a0 yn sefydlu partneriaeth gwaith fwy effeithiol pe bai ganddynt ddealltwriaeth fwy clir o rolau, cyfrifoldebau a diben.<\/p>\n<p>Ond y mae un anhawster ar \u00f4l, hynny yw, y mae angen newid y diwylliant \u2013 rhywbeth y gellid ei gyflawni dim ond yn y tymor hir, ac nid pan fo\u2019r polisi a\u2019r amgylchedd ariannu yn newid byth a beunydd.<\/p>\n<p>Mae angen ymddiried yn y dystiolaeth sy\u2019n cefnogi\u2019r ymagwedd hon a rhoi digon o amser i ymgorffori\u2019r newidiadau hyn cyn y cawn weld gwelliannau o ran cyrhaeddiad a pherthnasau gwaith, ond nid wyf yn hollol argyhoeddedig bod llywodraethau yn ddigon dewr i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r her hon.<\/p>\n<p>Ond un peth y gallwch fod yn hollol sicr ohono yw y byddai cymryd yr amser a\u2019r egni\u00a0 i bontio\u2019r bwlch mawr hwn o fantais i bawb.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Natalie MacDonald yn ddarlithydd blynyddoedd cynnar yn Yr Athrofa<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pryd y mae cyfrifoldeb am addysg yn dechrau ac yn gorffen? A swydd pwy yw addysgu ein plant ieuaf? Yma, y mae Natalie MacDonald yn ceisio ateb y cwestiynau a gaiff yn aml eu hysgubo dan y carped&#8230; &nbsp; Un o\u2019r cwestiynau sydd wedi bod ym mlaen fy meddwl yn ddiweddar yw ble y dylai&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39117","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39117","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39117"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39117\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39117"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39117"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39117"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}