{"id":39118,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/byw-la-dolce-vita\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"byw-la-dolce-vita","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/byw-la-dolce-vita\/","title":{"rendered":"Byw \u2018La Dolce Vita\u2019"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae Sarah Stewart yn cymryd rhan mewn prosiect cydweithredol newydd sy\u2019n canolbwyntio ar degwch ym myd addysg. Gan dynnu ar arbenigedd ar draws Ewrop, mae\u2019r prosiect hwn yn ceisio mynd i\u2019r afael \u00e2 rhai o\u2019r rhwystrau mwyaf i lwyddiant disgyblion. Yma, y mae Sarah yn esbonio ei rhan yn y prosiect&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Wrth i Gymru gychwyn ar ddiwygio\u2019r cwricwlwm, daw\u2019r ffocws ar ansawdd profiadau bywyd plant yn rhan ganolog o gynllun y cwricwlwm a\u2019r profiad yn yr ysgol.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar, cyflwynodd dogfen gan Lywodraeth Cymru, sef <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/09\/29\/addysg-yng-nghymru-cenhadaeth-ein-cenedl\/\">Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth Ein Cenedl<\/a>, weledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru sy\u2019n seiliedig ar egwyddorion cynwysoldeb a thegwch, gan sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu datblygu ei wir botensial, pa heriau bynnag y gallai eu hwynebu ar hyd y ffordd.<\/p>\n<p>Wedi\u2019i hymgorffori o fewn <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">Dyfodol Llwyddiannus<\/a> a Cenhadaeth Ein Cenedl, ceir ymdeimlad cyffredinol ein bod am gael mwy i\u2019n plant. Rydym am iddynt ennill rhagoriaeth bersonol o ran cyrhaeddiad academaidd, gan ddod yn chwaraewyr cystadleuol ar lwyfan byd-eang; ond rydym hefyd am iddynt fod yn blant hapus ac iach, sydd wedi ymaddasu\u2019n dda i fywyd ac sy\u2019n wydn wrth wynebu\u2019r heriau a ddaw i\u2019w rhan mewn byd cyfnewidiol.<\/p>\n<p>Fel rhiant i blentyn sydd ar fin dechrau ar ei thaith drwy\u2019r system addysg, rwyf am iddi fwynhau mynd i\u2019r ysgol \u2013 i gael cyfleoedd i chwarae, i fod yn greadigol, i fod yn chwilfrydig&#8230; i ddysgu, wrth gwrs! Ond gyda chymaint o\u2019i hamser yn cael ei dreulio yn yr ysgol, rwyf hefyd am iddi fyw bywyd hapus, ac i\u2019r bywyd hwnnw yn yr ysgol i fod yn un da.<\/p>\n<p>A chyda\u2019r weledigaeth honno o addysg ar flaen fy meddwl, dechreuais ar daith i chwilio am y \u2018dolce vita\u2019 hwnnw ym Monza, yr Eidal. Yno, cwrddais \u00e2 phartneriaid o naw sefydliad (prifysgolion, arolygiaethau ac ysgolion) o\u2019r Eidal, Romania, Catalonia, Gwlad Belg a Chymru, oedd wedi\u2019u huno yn rhan o brosiect Erasmus+.<\/p>\n<p>Canolbwyntia\u2019r prosiect, \u2018Supporting Opportunity in Schools\u2019 ar fater tegwch ym myd addysg. Bydd y prosiect yn rhedeg am ddwy flynedd, gan geisio datblygu fframwaith cysyniadol ar gyfer tegwch a fydd yn adlewyrchu\u2019r ddealltwriaeth amrywiol o\u2019r term ar draws Ewrop. Bydd hefyd yn ceisio llunio nifer o offer ymarferol y gall arweinwyr ysgolion a rhanddeiliaid eu defnyddio i fesur ac i asesu ymagwedd ysgol at degwch.<\/p>\n<p>Caiff penaethiaid gyfle i ymgymryd \u00e2 datblygiad proffesiynol drwy ddefnyddio porth adnoddau e-ddysgu ar-lein, ac i fynychu cynadleddau sy\u2019n canolbwyntio \u00a0ar degwch. Roedd penderfynu ar yr amcanion prosiect hyn yn elfen allweddol o\u2019r daith gyntaf hon i Monza, a gwnaeth hefyd ddechrau ein trafodaeth am ein cyd-ddealltwriaeth o\u2019r cysyniad tegwch.<\/p>\n<p>Er bod dealltwriaeth pob un ohonom o\u2019r term \u2018tegwch\u2019 ychydig yn wahanol, roedd hi\u2019n amlwg fod gan bob partner prosiect frwdfrydedd ac ymrwymiad at wella deilliannau plant ysgol, pa sut bynnag a pha le bynnag y c\u00e2nt eu haddysgu. Roedd hi hefyd yn amlwg ein bod yn rhannu nifer o\u2019r un heriau. Sut ydym yn datblygu tegwch mewn ysgolion ar adeg pan fo\u2019r bwlch rhwng bywydau\u2019r tlawd a\u2019r cyfoethog yn parhau i dyfu?<\/p>\n<p>Wrth i dlodi plant barhau i dyfu fwyfwy ym mhob gwlad a gynrychiolwyd, sut y gwnawn ni ddiogelu ein plant rhag yr effeithiau y gall amddifadedd eu cael ar eu cyrhaeddiad? Sut y gallwn ennyn diddordeb a thanio brwdfrydedd dysgwyr i fod yn yr ysgol, yn hytrach nag yn rhywle arall? Sut y gallwn ni gyfleu\u2019n well y stori bod addysg uwch yn ffordd o wella cyfleoedd mewn bywyd? Sut y gallwn ni orau gynnwys plant o gefndiroedd sy\u2019n amrywio\u2019n gyson, gan sicrhau bod eu holl ofynion yn cael eu bodloni? Dyma rai o\u2019r cwestiynau allweddol a gafodd eu hystyried yn y cyfarfod cyntaf hwnnw.<\/p>\n<p>Drwy gydweithredu, mae\u2019r prosiect yn ceisio cyfuno gwybodaeth academaidd a gwybodaeth broffesiynol. Wrth fynd ati i ddatblygu fframwaith tegwch ar y cyd, byddwn yn manteisio ar ddealltwriaeth a phrofiadau academyddion, ysgolion a chymorth ychwanegol arbenigwyr gwerthuso ysgolion o ddwy arolygiaeth.<\/p>\n<p>Daw datrysiadau pellach ar ffurf cyfle i rannu nid yn unig yr heriau a wynebwn i gyd, ond hefyd y modd yr ydym yn wynebu ac yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r heriau hynny. Drwy rannu\u2019r arfer gorau, mae\u2019r prosiect yn ceisio darparu dulliau clir ac ymarferol a fydd yn fodd i ysgolion wella cyfleoedd pob dysgwr o ran cael tegwch.<\/p>\n<p>Gobeithir, gydag amser, y byddwn yn rhan o\u2019r stori sy\u2019n esblygu am ddatblygiad tegwch yng Nghymru a thu hwnt fel bod pob plentyn, gan gynnwys fy merch fach i, sydd ar ddechrau ei\u00a0 hantur yn yr ysgol, yn gallu byw \u2018la dolce vita\u2019 i\u2019r eithaf.<\/p>\n<p><em>Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yng nghamau nesaf y prosiect hwn, neu os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach, neu gopi o gylchlythyr y prosiect, yna e-bostiwch s.stewart@uwtsd.ac.uk<\/em><\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Sarah Stewart yn ddarlithydd astudiaethau addysg gynradd yn Yr Athrofa<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Sarah Stewart yn cymryd rhan mewn prosiect cydweithredol newydd sy\u2019n canolbwyntio ar degwch ym myd addysg. Gan dynnu ar arbenigedd ar draws Ewrop, mae\u2019r prosiect hwn yn ceisio mynd i\u2019r afael \u00e2 rhai o\u2019r rhwystrau mwyaf i lwyddiant disgyblion. Yma, y mae Sarah yn esbonio ei rhan yn y prosiect&#8230; &nbsp; Wrth i Gymru&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39118","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39118","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39118"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39118\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39118"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39118"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39118"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}