{"id":39119,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/cenhadaeth-ein-cenedl-a-habitus-syn-symud-addysg-gychwynnol-athrawon-yng-nghymru\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"cenhadaeth-ein-cenedl-a-habitus-syn-symud-addysg-gychwynnol-athrawon-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/cenhadaeth-ein-cenedl-a-habitus-syn-symud-addysg-gychwynnol-athrawon-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"\u2018Cenhadaeth ein Cenedl\u2019 a habitus sy\u2019n symud: Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae nifer o ffyrdd o hyfforddi fel athro dosbarth. Yma, mae Dr Alex Southern yn cyflwyno ei hymchwil ei hun yn y maes hwn, ac yn ystyried effaith rhaglenni hyfforddi athrawon pwrpasol ar y proffesiwn ei hun\u2026<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae dysgu yng Nghymru wrthi\u2019n newid. Bu hwn yn broffesiwn deinamig erioed, ond mae lansio \u2018<a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/09\/29\/addysg-yng-nghymru-cenhadaeth-ein-cenedl\/\">Cenhadaeth ein Cenedl<\/a>&#8216; Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg yn nodi newid arwyddocaol a bwriadol o ran yr hyn y mae bod yn \u2018athro\u2019 yn ei olygu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Genhadaeth yn nodi safonau proffesiynol newydd i athrawon; yn diwygio Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA); a dysgu proffesiynol gydol gyrfa, ar sail ymchwil a chydweithredu yn y sector, ymhlith mentrau eraill sy\u2019n anelu at godi safonau mewn ysgolion. Caiff y newidiadau hyn effaith ar athrawon unigol ac ar y proffesiwn yn ei gyfanrwydd.<\/p>\n<p>Mae ymchwil, academaidd wedi ymchwilio\u2019n aml i&#8217;r modd y mae llywodraethau\u2019n ailddiffinio\u2019r system addysg, er mwyn ailddiffinio\u2019r effeithiau ar ysgolion. Yn 2010, disgrifiodd Leaton-Gray a Witty sut mae rheolaeth y llywodraeth ar ysgolion, ac ar yr habitus addysgu, wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.<\/p>\n<p>Yr hyn a olygwn wrth habitus yw\u2019r gofynion a\u2019r disgwyliadau penodol ar athro sy\u2019n dylanwadu arno\/i ac sy\u2019n disgrifio sut y mae\u2019n cyflawni ei r\u00f4l. Mae AGA wedi symud mewn ymateb i alwad flaenorol Llywodraeth Glymblaid y DU am \u2018broffesiynoli\u2019 y sector.<\/p>\n<p>Bellach ceir rhaglenni ADA sy\u2019n canolbwyntio ar ddatblygu gyrfa raddedig generig, yn hytrach nag ymrwymiad hirdymor i addysgeg. Un o\u2019r rhaglenni hyn yw Teach First sydd, yn \u00f4l yr ymchwilwyr Stanfield a Cremin, yn creu gweithlu addysg dros do o \u2018Raddedigion Elit\u2019 sy\u2019n gofalu am eu hunain, heb gyfrannu i ddatblygu\u2019r proffesiwn addysgu yn ei gyfanrwydd, a thrwy hynny yn amharu ar yr habitus.<\/p>\n<p>Dilynodd y gyfres ddogfen deledu, Tough Young Teachers, yn 2014 brofiadau hyfforddeion Teach First mewn ysgolion yn Llundain. Yn y gyfres cyflwynir rhaniadau deuaidd rhwng llwyddiant, a gynrychiolir gan athrawon Teach First, a methiant, a gynrychiolir gan y disgyblion a oedd yn cael \u2018trafferthion\u2019 mewn ysgolion \u2018difreintiedig\u2019, ac yn y pen draw rhwng y \u2018Graddedigion Elit\u2019 dosbarth canol a\u2019u disgyblion dosbarth gweithiol.<\/p>\n<p>Gwelir yr un hollt yn rhai o bapurau poblogaidd Prydain. Cyfeirir yn barhaus at \u2018gyfranogwyr\u2019 Teach First yn raddedigion \u2018disglair\u2019, \u2018o\u2019r radd flaenaf\u2019 o&#8217;r \u2018prifysgolion gorau\u2019 sy\u2019n \u2018gwneud gwahaniaeth\u2019 trwy \u2018roi rhywbeth yn \u00f4l\u2019 o dan amgylchiadau \u2018heriol\u2019 i ddisgyblion mewn ysgolion \u2018difreintiedig\u2019.<\/p>\n<p>Afraid dweud nad yw\u2019r darluniau hyn yn helpu i greu gweithlu sy\u2019n meithrin ac sy\u2019n cefnogi disgyblion, ac nad ydynt yn adlewyrchu gweledigaeth gydweithredol, gynhwysol diwygio a fynegwyd yng <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/10\/03\/36898\/\">Nghenhadaeth ein Cenedl Llywodraeth Cymru<\/a>. Ond i ba raddau y mae\u2019r portreadau hyn i\u2019w gweld yn ymarferol?<\/p>\n<p>Yn ystod blwyddyn ysgol 2014-2015, cynhaliais ychydig o waith ymchwil i archwilio\u2019r union gwestiwn hwn. Cynhaliais grwpiau ffocws a chyfweliadau \u00e2 chyfranogwyr ar Teach First Cymru (n=4) a\u2019r Rhaglen Addysgu i Raddedigion (GTP; n=6) yn Y Drindod Dewi Sant i archwilio a oedd yr iaith am Teach First yn y cyfryngau\u2019n benodol i\u2019r rhaglen arbennig honno, ac i ba raddau yr oedd darluniau cyhoeddus o Teach First yn cyfateb i farn a chanfyddiadau detholiad bach o gyfranogwyr yng Nghymru.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019r modd y mae\u2019r gr\u0175p hwn o gyfranogwyr Teach First yn disgrifio eu profiadau eu hunain o addysgu yn adlewyrchu yn unig yr hollt rhagorol\/heriol, sy\u2019n amlwg yn y sylw a roddwyd i\u2019r rhaglen yn y cyfryngau. Nid oeddent yn gweld, er enghraifft, fod naill ai\u2019r ysgolion neu\u2019r disgyblion yn heriol.<\/p>\n<p>Iddynt hwy, daeth yr her o\u2019u datblygiad eu hunain yn athrawon, megis lles, hyder yn y coridorau, hyrddiadau emosiynol dysgu. Roedd yr heriau a ddisgrifiwyd gan y gr\u0175p GTP yn fwy ymarferol eu natur, ac oddi allan i\u2019r hyfforddeion, megis y llwyth gwaith, neu TGCh.<\/p>\n<p>Roedd strategaethau\u2019r gr\u0175p Teach First ar gyfer goresgyn yr heriau hefyd yn wahanol i&#8217;r hyfforddeion GTP. Dywedodd un o gyfranogwyr Teach First wrth ei gr\u0175p mai \u2018hunan-arweinyddiaeth\u2019 oedd yr ateb i oresgyn yr her. Daw\u2019r Term o Werthoedd Teach First, a adlewyrchwyd gan y strategaethau a gynigiwyd gan weddill y gr\u0175p.<\/p>\n<p>Er enghraifft, \u201cadfyfyrio\u201d, \u201cgonestrwydd\u201d, a \u201cchymryd cyfrifoldeb\u201d. Mewn cyferbyniad, trafododd y gr\u0175p GTP bwysigrwydd profiad wrth oresgyn yr heriau yr oeddent yn eu hwynebu, a gwerth perthynas dda \u00e2 chydweithwyr profiadol, i ddysgu\u2019r sgiliau a\u2019r technegau a fyddai\u2019n eu galluogi i ddod yn athrawon effeithiol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ymatebion yn dangos y gwahaniaeth rhwng hunan-ddibyniaeth, a hunaniaeth gorfforaethol, cyfranogwyr Teach First, a\u2019r agwedd fwy cydweithredol \u00a0at y broses hyfforddi a ddisgrifiwyd gan y cyfranogwyr GTP yn eu grwpiau ffocws, ac mewn cyfweliadau dilynol. \u00a0Er nad yw hyn yn ddigon i ddod i gasgliadau terfynol, mae hyn yn awgrymu bod amrywiadau o ran dealltwriaeth hyfforddeion o\u2019r proffesiwn addysgu, ac yn eu hymarfer.<\/p>\n<p>O ystyried y cynnydd o ran rhaglenni Teach First yn gyffredinol, a chryfder y sylwadau sy\u2019n cylchredeg, byddwn yn dadlau y byddai ymchwil pellach i effaith Teach First ar yr habitus dysgu o fudd i\u2019r proffesiwn.<\/p>\n<p>Yn ogystal, rhaid i\u2019r symudiad presennol i \u2018broffesiynoli\u2019 addysgu yng Nghymru, fel y\u2019i mynegir gan Genhadaeth ein Cenedl, gymryd i ystyriaeth brofiad hyfforddeion wrth ymgodymu \u00e2\u2019r cysyniad newydd ynghylch proffesiynoldeb, a\u2019r effaith ddilynol ar yr habitus addysgu, felly mae\u2019r hyn a olyga bod yn \u2018athro\u2019 yn gysyniad nad yw mynegiannau gwrthgyferbyniol pellach yn amharu arno ymhellach.<\/p>\n<p>Gweler <a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/abs\/10.1080\/13540602.2018.1435526\"><em>Disrupting the habitus? Media representations and participant experience of Teach First: an exploratory case study in Wales<\/em><\/a>, i weld erthygl lawn am y gwaith ymchwil hwn.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Dr Alex Southern yn Gydymaith Ymchwil yn Yr Athrofa,\u00a0Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae nifer o ffyrdd o hyfforddi fel athro dosbarth. Yma, mae Dr Alex Southern yn cyflwyno ei hymchwil ei hun yn y maes hwn, ac yn ystyried effaith rhaglenni hyfforddi athrawon pwrpasol ar y proffesiwn ei hun\u2026 &nbsp; Mae dysgu yng Nghymru wrthi\u2019n newid. Bu hwn yn broffesiwn deinamig erioed, ond mae lansio \u2018Cenhadaeth ein&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39119","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39119","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39119"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39119\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39119"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39119"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39119"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}