{"id":39120,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/dysgu-gwersir-alban-adeiladu-cwricwlwm-ar-graig-ac-nid-ar-dywod\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"dysgu-gwersir-alban-adeiladu-cwricwlwm-ar-graig-ac-nid-ar-dywod","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/dysgu-gwersir-alban-adeiladu-cwricwlwm-ar-graig-ac-nid-ar-dywod\/","title":{"rendered":"Dysgu gwersi\u2019r Alban \u2013 adeiladu cwricwlwm ar graig, ac nid ar dywod"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae Gareth Evans yn ystyried y ddadl gyfredol yngl\u0177n \u00e2 chwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru \u2013 a pha wersi y gallwn eu dysgu oddi wrth eraill sydd mewn sefyllfa debyg&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Am y tair blynedd diwethaf, mae diwygio\u2019r cwricwlwm wedi dominyddu\u2019r ddadl ymhlith addysgwyr yng Nghymru.\u00a0Ac mae rheswm da am hynny, o ystyried y goblygiadau mawr ar gyfer pob ysgol wladol ar draws y wlad.<\/p>\n<p>Y diben yw bod y cyfnod cyfan o addysg statudol yn cael ei weld yn gyfanwaith cydlynol, cynyddol.\u00a0Cyn bo hir, pethau\u2019r oes a fu fydd darnau a ddysgir ar y cof, unffurfiaeth gyffredinol a meysydd pwnc cul ag iddynt ddeilliannau penodol.<\/p>\n<p>Ond bydd symud o ragnodi, ac yn ei sgil oddefedd, yn cymryd amser ac egni; mae arferion y dyddiau gynt wedi\u2019u hymgorffori mor ddwfn fel mai dim ond un ffordd o wneud pethau sy\u2019n wybyddus i lawer.<\/p>\n<p>Felly, nid yw\u2019n syndod mawr fod tipyn o drafod o ddifri wedi bod ynghylch ailwampio\u2019r hyn y mae plant yn ei ddysgu, a sut maent yn ei ddysgu, yn ystafelloedd dosbarth Cymru.<\/p>\n<p>Er bod y proffesiwn addysgu, yn fy marn i, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/11\/06\/torri-hualau-diwygior-cwricwlwm\/\">wedi\u2019i rymuso gan adroddiad arloesol yr Athro Graham Donaldson<\/a>, sef Dyfodol Llwyddiannus (y ddogfen hollbwysig honno sy\u2019n sylfaen ar gyfer diwygio cwricwlwm Cymru), mae llawer ar \u00f4l i\u2019w wneud o hyd.<\/p>\n<p>Dair blynedd wedi iddo gael ei gyhoeddi, nid oes rhyw lawer iawn i\u2019w ddangos o hyd, er gwaethaf misoedd lawer o waith caled ac ymdrech.<\/p>\n<p>Mae\u2019r glasbrint wedi\u2019i ddatgymalu, gan adael ar \u00f4l yr \u2018hyn sy\u2019n bwysig\u2019 yn unig, ac nid yw pwysigrwydd gosod seiliau ar gyfer ein cwricwlwm newydd wedi ei amcangyfrif yn rhy isel.<\/p>\n<p>Ni allwn adeiladu ar dywod yr hyn y bydd cenedlaethau\u2019r dyfodol yn ei ddefnyddio yn sail i\u2019w holl fywydau.\u00a0Wrth gwrs, gellid bod wedi gwneud hyn oll yn llawer mwy cyflym.<\/p>\n<p>Cwricwlwm parod wedi\u2019i deilwra i ddiwallu anghenion Cymru (a\u2019i roi at ei gilydd gan wasanaeth sifil yn un o swyddfeydd cefn y llywodraeth) oedd y dewis arall realistig ar gyfer gwneud hyn.<\/p>\n<p>Yn lle hynny, mae\u2019r proffesiwn wedi bod wrth y llyw ac yn ganolog i\u2019r broses gyfan.\u00a0Mae model \u2018arloesol\u2019 Llywodraeth Cymru wedi ailddosbarthu\u2019r awdurdod, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/10\/03\/36898\/\">a rhaid cymeradwyo ei hymagwedd gydweithredol<\/a>.<\/p>\n<p>Mae profiad yn ein dysgu bod polisi yn fwy tebygol o lwyddo os ydy\u2019n ennyn diddordeb ac ymroddiad y sawl sy\u2019n gyfrifol am ei weithredu\u2019n ymarferol.<\/p>\n<p>Ond does dim byd yn hawdd ym myd addysg, ac yn anffodus yr Alban yw achos y drwg o hyd.\u00a0Erbyn hyn, does dim troi\u2019n \u00f4l, ac mae\u2019r fframwaith ar gyfer Cymru wedi ei fodelu yn bennaf ar yr un a ddefnyddiwyd gan ein cydweithwyr Celtaidd.<\/p>\n<p>Ond mae Curriculum for Excellence (CfE) newydd yr Alban wedi cychwyn yn anaddawol, ac i ddyfynnu academydd brodorol, mae \u201cwedi bod yn destun anesmwythyd eang\u201d.<\/p>\n<p>Mae\u2019r CfE wedi cael ei blagio gan honiadau o fiwrocratiaeth ddianghenraid, baich gwaith mwy i athrawon, a dryswch yngl\u0177n \u00e2\u2019i amcanion.<\/p>\n<p>Mae methiant amlwg iawn yr Alban i gyflawni holl fesurau PISA wedi ychwanegu tanwydd at d\u00e2n sydd eisoes yn ffyrnig.\u00a0Ond peidiwch ag ofni, nid yw ceidwaid Cymru yn ddall i\u2019r heriau a wynebwyd i\u2019r gogledd o\u2019r ffin, ac maent yn benderfynol o gywiro\u2019r hyn a aeth o chwith mewn mannau eraill.<\/p>\n<p>Mae\u2019n wir y gallwn, drwy ddefnyddio CfE fel model, geisio cywiro camgymeriadau ein rhagflaenwyr i\u2019r un graddau ag y gallwn geisio cop\u00efo ac adeiladu ar eu llwyddiannau.<\/p>\n<p>Pan oeddwn ar ymweliad astudio \u00e2\u2019r Alban yn ddiweddar, cefais gipolwg ar wir natur cynllunio a gweithredu cwricwlwm.\u00a0Yno, siaradais gydag athrawon, athrawon dan hyfforddiant ac addysgwyr athrawon \u2013 roedd gan bob un ohonynt reswm gwahanol pam gwnaeth CfE brofi\u2019n ddiffygiol.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l un, cyflymdra\u2019r penderfyniad i\u2019w roi ar waith oedd y rheswm, gan roi amser annigonol i arweinwyr ysgolion fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r hyn y gofynnwyd iddynt ei wneud.<\/p>\n<p>Er gwaethaf y chwe blynedd sydd wedi mynd heibio rhwng cyhoeddi dogfen sefydlu\u2019r CfE a gweithredu\u2019r cwricwlwm am y tro cyntaf yn 2010, mae\u2019n debyg nad oedd athrawon wedi cael eu paratoi\u2019n ddigonol ar gyfer ei gyflwyno mewn ysgolion.<\/p>\n<p>Dywedwyd mai ffactor arall a wnaeth gyfrannu oedd y gofynion gweinyddol newydd a roddwyd ar ysgwyddau athrawon.\u00a0Roedd hi\u2019n amlwg bod cynllunio o flaen llaw a pharatoi gwersi yn pwyso\u2019n drwm ar rai (yn eironig, ystyriwyd prinder adnoddau parod yn anfantais enfawr).<\/p>\n<p>Efallai\u2019r peth mwyaf chwerw i\u2019w lyncu oedd yr awgrym nad oedd athrawon yn feddyliol barod i newid.<\/p>\n<p>\u201cMae goresgyn llesgedd yn lled anodd,\u201d meddai un arbenigwr yn y maes sy\u2019n teimlo bod llawer wedi \u201ccolli eu sgiliau a\u2019u cymhelliant\u201d.<\/p>\n<p>Mae\u2019n ein hatgoffa\u2019n amserol fod diwygio cwricwlwm yn gofyn llawer gan y proffesiwn addysgu ac y bydd yn gorfodi nifer sylweddol o bobl i wneud pethau nad ydynt yn gyfforddus \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>Mae\u2019n iawn, felly, ein bod ni\u2019n sicrhau bod athrawon yn cael eu cynorthwyo\u2019n ddigonol yn ystod y cyfnod o drawsnewid, a golyga hyn yn ddieithriad eu bod nhw\u2019n cael mynediad at adnoddau cywir a phriodol.<\/p>\n<p>Mae undebau addysg yn parhau i\u2019n rhybuddio am yr effaith y gallai cyfyngiadau ariannol ei chael, ac y mae eisoes yn ei chael, ar ein hysgolion, <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-43407448\">a dim ond yn ddiweddar gwnaeth y Prif Arolygydd ein rhagrybuddio am y risgiau posib i\u2019r cwricwlwm<\/a>.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019n bosib diwygio\u2019r cwricwlwm yn rhad, a bydd paratoi\u2019r sawl sydd yn rhengoedd blaen addysg ar gyfer y newid mawr sy\u2019n ein hwynebu yn costio\u2019n sylweddol.\u00a0Mae llwyddiant yn dibynnu ar raglen dysgu proffesiynol barhaus a chynhwysfawr \u2013 a bydd gwneuthurwyr polis\u00efau yn ymwybodol iawn o\u2019r peryglon.<\/p>\n<p>Yn fy marn i, nid yw gwir fanteision y Cyfnod Sylfaen wedi\u2019u gwireddu\u2019n llawn oherwydd prinder arian priodol (mae dadansoddiadau Wiserd yn ddefnyddiol yn hyn o beth), ac ni allwn adael i weledigaeth Dyfodol Llwyddiannus fynd yr un ffordd.<\/p>\n<p>Trwy gyd-ddigwyddiad, mae datblygu cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle perffaith i adfywio\u2019r Cyfnod Sylfaen \u2013 pa beth bynnag yw\u2019r ffurf y mae\u2019n ei gymryd, er mwyn sicrhau bod ei holl botensial yn cael ei wireddu o\u2019r diwedd.<\/p>\n<p>Gwerthfawrogaf fod yr amseroedd yn galed ac nid ydym yn byw mewn gwlad gyfoethog.\u00a0Mae rhestr hir o flaenoriaethau sy\u2019n cystadlu \u00e2\u2019i gilydd, ac ni allwn blesio pawb.<\/p>\n<p>Ond yn gyntaf, bydd rhaid i\u2019r Prif Weinidog Carwyn Jones fynd ati o ddifri er mwyn plant a phobl ifanc Cymru \u2013 rydym yn dibynnu ar yr <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/09\/29\/addysg-yng-nghymru-cenhadaeth-ein-cenedl\/\">Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams<\/a>, i ymladd yn y mannau uchaf ar ein rhan.<\/p>\n<p>Pan ymunodd hi \u00e2 Llywodraeth Cymru yn 2016, soniodd Mr Jones am \u201cr\u00f4l allweddol\u201d Ms Williams \u201cwrth yrru ymlaen un o gwricwla blaenllaw\u2019r byd a chodi safonau ar draws y proffesiwn\u201d.<\/p>\n<p>Mae\u2019n hanfodol ei bod hi\u2019n cael yr arfau i wneud hynny.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Gareth Evans yw Cyfarwyddwr Polisi Addysg Yr Athrofa: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Gareth Evans yn ystyried y ddadl gyfredol yngl\u0177n \u00e2 chwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru \u2013 a pha wersi y gallwn eu dysgu oddi wrth eraill sydd mewn sefyllfa debyg&#8230; &nbsp; Am y tair blynedd diwethaf, mae diwygio\u2019r cwricwlwm wedi dominyddu\u2019r ddadl ymhlith addysgwyr yng Nghymru.\u00a0Ac mae rheswm da am hynny, o ystyried y goblygiadau mawr&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39120","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39120","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39120"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39120\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39120"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39120"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39120"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}