{"id":39121,"date":"2021-02-26T16:23:03","date_gmt":"2021-02-26T16:23:03","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/newid-adborth-er-lles-disgyblion-ac-athrawon\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:03","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:03","slug":"newid-adborth-er-lles-disgyblion-ac-athrawon","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/newid-adborth-er-lles-disgyblion-ac-athrawon\/","title":{"rendered":"Newid adborth er lles disgyblion ac athrawon"},"content":{"rendered":"<p><strong>Yn \u00f4l adroddiad newydd, gall adborth geiriol gan ddefnyddio technoleg leihau baich gwaith athrawon a rhoi profiad adborth mwy personol i ddysgwyr.<\/strong><\/p>\n<p>Dangosodd ymchwil a wnaed gan academyddion yn <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">yr Athrofa<\/a> fod amlbwrpasedd adborth geiriol gan ddefnyddio technoleg\u00a0 yn gryfder arbennig, oherwydd gallai fod yn gysylltiedig ag oedran a cham datblygiadol disgyblion, neu faes pwnc penodol.<\/p>\n<p>Archwiliodd yr astudiaeth y defnydd a wneir o dechnoleg er mwyn cynorthwyo strategaethau asesu ffurfiannol yn Ysgol Bae Baglan, ysgol ar gyfer plant 3-16 mlwydd oed a leolir yng Nghastell-nedd Port Talbot.<\/p>\n<p>Gwelwyd disgyblion Blwyddyn 5 hyd at Flwyddyn 10 yn llwytho eu gwaith i fyny i \u2018OneNote\u2019, a\u2019u hathrawon yn ymateb ar-lein a rhoi adborth personol gan ddefnyddio rhaglen o\u2019r enw \u2018Office Mix\u2019.<\/p>\n<p>Roedd yr ysgol am archwilio effaith adborth geiriol ar faich gwaith athrawon ac ymgysylltu disgyblion \u00e2\u2019u dysgu eu hunain.<\/p>\n<p>Byddai manteision defnyddio technoleg ar gyfer darparu\u2019r adborth hwn hefyd yn cael eu harchwilio.<\/p>\n<p>Meddai\u2019r adroddiad, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/staff\/\">a ysgrifennwyd gan Dr Helen Lewis, Si\u00e2n Brooks a Diane Thomas o\u2019r Athrofa<\/a>, ynghyd \u00e2\u2019r consortiwm ERW \u201cAr ddechrau\u2019r astudiaeth, dywedodd 34% o ddisgyblion yn unig eu bod nhw\u2019n teimlo\u2019n gyfforddus gyda derbyn adborth a gynorthwyir gan TGCh.<\/p>\n<p>\u201cRoeddent yn ansicr yngl\u0177n \u00e2 sut i gael mynediad at, deall ac ailymweld ag adborth a gyflwynir yn y fformat hwn.\u00a0 Roedd adborth geiriol, o gymharu \u00e2 sylwadau ysgrifenedig, yn newydd iddynt ac felly, roeddent yn teimlo\u2019n ansicr yngl\u0177n \u00e2\u2019i werth.\u201d<\/p>\n<p>Erbyn diwedd yr astudiaeth, dywedodd 70% o ddisgyblion o bob oedran eu bod nhw\u2019n hapus i dderbyn adborth geiriol.<\/p>\n<p>\u201cRoeddent yn hapus fod yr adborth yn rhoi negeseuon clir iddynt am yr hyn yr oedd angen iddynt fynd i\u2019r afael ag ef, \u201d meddai\u2019r adroddiad.<\/p>\n<p>\u201cTeimlwyd ganddynt hefyd fod yr adborth geiriol yn bersonol iddyn nhw, a bod y personoli hwn yn cael ei gyfleu\u2019n well drwy adborth geiriol o gymharu ag adborth ysgrifenedig.\u201d<\/p>\n<p>Ymatebodd athrawon yn gadarnhaol hefyd, gan adrodd bod rheoli eu baich gwaith wedi dod yn haws\u00a0 a bod eu sgiliau TGCh eu hunain wedi gwella o ganlyniad yr astudiaeth.<\/p>\n<p>Dywedodd un athro \u201cMae disgyblion yn deall adborth geiriol yn well oherwydd gallaf esbonio\u2019r pwynt a phwysleisio agweddau\u2019n fwy clir iddynt nag y gallaf drwy ddefnyddio sylwadau ysgrifenedig. Gallaf ddangos iddynt yn union yr hyn yr ydwyf am ei gyfleu, ac mae hynny\u2019n beth grymus.\u201d<\/p>\n<p>Yn \u00f4l yr adroddiad, un o\u2019r prif heriau sy\u2019n wynebu\u2019r prosiect yw bod asesu adborth yn dibynnu ar y ffaith bod disgyblion yn gallu mynd ar-lein, ond nid oes gan rai ohonynt fynediad at y rhyngrwyd y tu allan i\u2019r ysgol.<\/p>\n<p>Daeth i\u2019r casgliad: \u201cYn Ysgol Bae Baglan, gwnaeth symud o sylwadau ysgrifenedig manwl i adborth geiriol gan ddefnyddio technoleg leihau baich gwaith athrawon a helpu disgyblion i deimlo bod adborth yn bersonol i\u2019w hanghenion unigol nhw.<\/p>\n<p>\u201cUn o gryfderau\u2019r ymagwedd hon oedd yr hyblygrwydd a roddwyd ganddi i\u2019r athrawon a\u2019r disgyblion yn ogystal. Gellid cymhwyso\u2019r adborth digidol at y gofynion gwahanol a oedd gan athrawon ledled yr ysgol gyfan \u2013 pe baent yn gysylltiedig ag oedran a cham datblygiadol y disgyblion, neu\u2019r pynciau yr oeddent yn eu haddysgu.<\/p>\n<p>\u201cDefnyddiodd athrawon gwahanol yr ymagwedd adborth mewn gwahanol ffyrdd. Er hynny, teimlodd pawb yn bositif am y broses.\u201d<\/p>\n<p>Argymhellodd yr adroddiad y dylid ymgorffori cyfleoedd adborth geiriol yn repertoire y prosesau adborth, a dylai athrawon ystyried a ddylid defnyddio ffyrdd eraill i ddychwelyd adborth seiliedig ar ddarnau hwy o waith.<\/p>\n<p>Ymgymerwyd ag astudiaethau tebyg yn Ysgol Gyfun Treforys ac Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw, Abertawe.<\/p>\n<p>Yn gyffredinol, roedd hi\u2019n well gan 80% o ddisgyblion Cwmrhydyceirw i gael y cyfle i siarad am eu gwaith gyda\u2019u hathro, o gymharu \u00e2 darllen sylwadau.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, dywedodd disgyblion Treforys fod ganddynt, ar \u00f4l defnyddio ysgolion cyrhaeddiad, well ddealltwriaeth o sut i wneud newidiadau i\u2019w gwaith.<\/p>\n<ul>\n<li>Gallwch ddarllen yr astudiaethau adborth yn eu cyfanrwydd yma:\u00a0<a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/BaeBaglan_welsh-1.pdf\">Bae Baglan<\/a> ,\u00a0<a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/Morriston_welsh.pdf\">Treforys<\/a>\u00a0&amp;\u00a0<a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/Cwmrhydyceirw_welsh.pdf\">Cwmrhydyceirw<\/a><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn \u00f4l adroddiad newydd, gall adborth geiriol gan ddefnyddio technoleg leihau baich gwaith athrawon a rhoi profiad adborth mwy personol i ddysgwyr. Dangosodd ymchwil a wnaed gan academyddion yn yr Athrofa fod amlbwrpasedd adborth geiriol gan ddefnyddio technoleg\u00a0 yn gryfder arbennig, oherwydd gallai fod yn gysylltiedig ag oedran a cham datblygiadol disgyblion, neu faes pwnc&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39121","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39121","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39121"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39121\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39121"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39121"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39121"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}