{"id":39123,"date":"2021-02-26T16:23:05","date_gmt":"2021-02-26T16:23:05","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/cyrraedd-yr-entrychion-a-dyfodol-llwyddiannus-safbwynt-athro-dan-hyfforddiant\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:05","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:05","slug":"cyrraedd-yr-entrychion-a-dyfodol-llwyddiannus-safbwynt-athro-dan-hyfforddiant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/cyrraedd-yr-entrychion-a-dyfodol-llwyddiannus-safbwynt-athro-dan-hyfforddiant\/","title":{"rendered":"Cyrraedd yr Entrychion \u00e2 \u2018Dyfodol Llwyddiannus\u2019 \u2013 safbwynt athro dan hyfforddiant"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae Connor Williams yn un o gannoedd o fyfyrwyr sy\u2019n cael eu hyfforddi i fod yn athrawon yng Nghymru. Yma, yn y blog craff hwn, mae\u2019n cyflwyno ei safbwynt unigryw ei hun ar y cyfleoedd a ddarperir gan \u2018Dyfodol Llwyddiannus\u2019&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod ei phryd ar gwricwlwm newydd yng Nghymru; hynny yw, mae wedi deall yr heriau a\u2019r rhwystredigaethau sydd wedi wynebu rhanddeiliaid hyd yn hyn.<\/p>\n<p>Er hynny, os ydym am i\u2019r trawsnewid fod yn llwyddiannus, yna, mae\u2019n hollbwysig ein bod yn deall nad yw cydnabod yr heriau a mynd i\u2019r afael \u00e2 nhw yn uniongyrchol yn ddigon. Ni allwch drin nifer o glwyfau sydd wedi\u2019u heintio drwy roi plastr ar bob un ohonynt.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae gennym ddysgwyr a\u2019u haddysgwyr yng Nghymru sy\u2019n ymwneud \u00e2 chwricwlwm nad yw bellach yn ateb y diben \u2013 ac er bod gan gwricwlwm diwygiedig lawer o botensial, ceir ochr yn ochr \u00e2 hwnnw, rywfaint o amwyster.<\/p>\n<p>Er budd ein dysgwyr, fy ngobaith yw y gwnaiff y sawl sy\u2019n hwyluso\u2019r newid hwn, a\u2019r sawl sydd wedi buddsoddi ynddo, ddarganfod pam y mae\u2019n angenrheidiol, gan dynnu ar yr athro, er lles ein cenedl, fel asiant i gyflawni\u2019r pam.<\/p>\n<p>Ym mis Ionawr, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/09\/29\/addysg-yng-nghymru-cenhadaeth-ein-cenedl\/\">gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams<\/a>, annerch yn bersonol athrawon y dyfodol yn ystod ei thaith o gwmpas sefydliadau AGA, ac roeddwn yn ffodus i fod yn aelod o\u2019r gynulleidfa.<\/p>\n<p>Wrth rannu ei gweledigaeth gyda\u2019r sawl sydd ar lefel sylfaenol addysgu, disgrifiodd Ysgrifennydd y Cabinet yr hyn y byddwn yn ei wneud fel cenedl o ran ein cwricwlwm newydd, ac esboniodd sut y byddwn yn mynd i\u2019r afael ag ef a\u2019i weithredu.<\/p>\n<p>Ar y cychwyn, roeddwn yn frwdfrydig dros fod yn rhan o\u2019r chwildro hwn, ac mae\u2019r posibilrwydd o gael cwricwlwm gyda newydd wedd yn fy nghyffroi o hyd. Ond ers hynny, sylweddolais nad oedd Ysgrifennydd y Cabinet na\u2019i chydweithwyr chwaith wedi s\u00f4n am y rheswm pam.<\/p>\n<p>Y mae tuedd ym myd addysg i athrawon gael eu beichio gan beth y disgwylir iddynt ei wneud a sut y dylent ei gyflawni, ond yr hyn sy\u2019n parhau i fod yn ddirgel yw\u2019r rheswm pam! Mae\u2019r diwylliant o fiwrocratiaeth ac atebolrwydd a geir ym myd addysg Cymru wedi dylanwadu ar y meddylfryd hwn.<\/p>\n<p>Yn fy marn i, tarddiad y meddylfryd hwn yw\u2019r sawl sydd y tu allan i\u2019r ystafell ddosbarth sy\u2019n credu bod arfer diogel ac effeithiol yn dibynnu ar ragor o wybodaeth a data. Gellid dadlau mai\u2019r rhain yw\u2019r grymoedd allweddol sy\u2019n gyrru ac yn dylanwadu ar y penderfyniadau pwysig hynny a gaiff eu gwneud o fewn ein system addysg.<\/p>\n<p>Ond y gwir yw, mae hyn yn creu system addysg sy\u2019n ceisio sicrhau bod pob penderfyniad yn cynhyrchu\u2019r canlyniadau gorau posib o fewn amgylchedd a gaiff ei reoli a\u2019i fonitro\u2019n llym. <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/10\/25\/36923\/\">Ar lefel ysgol, golyga hyn ein bod yn addysgu cwricwlwm penodedig<\/a>, yn monitro\u2019r dysgu sy\u2019n dilyn yn sgil y cwricwlwm hwnnw, yn gosod profion ac yna yn ceisio rhagweld llwyddiant y plentyn i\u2019r dyfodol ar sail i ba raddau y mae\u2019r plentyn hwnnw yn cydymffurfio ac yn ailadrodd gwybodaeth unigolion eraill.<\/p>\n<p>Y rheswm cyffredinol a roddir am yr ymagwedd hon yw er mwyn ein bod ni\u2019n gallu penderfynu ar beth y dylai plant ei wneud, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">neu sut y dylent ymddwyn ar gyfer cydymffurfio \u00e2 chwricwlwm sydd<\/a>, yn fy marn i, yn un goroedol\u00a0\u2013 dyna beth yw gwneud cam \u00e2\u2019n plant!<\/p>\n<p>\u2018Mae amcan cyffredinol \u2018Cenhadaeth ein Cenedl\u2019 yn syml, yn glir ac, yn hollbwysig, mae\u2019n uchelgeisiol. Gyda\u2019n gilydd gwnawn godi safonau, lleihau\u2019r bwlch mewn cyrhaeddiad a chyflwyno system addysgu sy\u2019n destun balchder a hyder i ni fel gwlad.\u2019<\/p>\n<p>Dyna sut dechreuodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hanerchiad ym <a href=\"http:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/\">Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/a>. Er, fel y soniwyd eisoes, mae\u2019r disgwyliadau hyn yn ymwneud \u00e2 beth y gwnawn fel cenedl a sut y gwnawn fynd ati.<\/p>\n<p>Y broblem, hyd y gwelaf, yw hyn: er i ni wynebu sefyllfaoedd o\u2019r blaen gyda\u2019r wybodaeth gywir ac arweiniad da ar gyfer dylanwadu ar newid, hyd yn oed wedyn, nid aeth pethau bob amser yn dda. Neu, roedd yr effaith yn fyrhoedlog oherwydd digwyddodd rhywbeth annisgwyl; \u2018p\u00eal dro\u2019 fel petai.<\/p>\n<p>Peidiwch \u00e2\u2019m camddeall, cytunaf fod y disgwyliadau a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn bwysig o ran penderfynu ar beth y gwnawn yn y dyfodol. Ond yn fy marn i, gwnaeth yr anerchiad ailadrodd hen nodau nad oeddent yn newydd i addysg yng Nghymru.<\/p>\n<p>Er enghraifft, yn 1999, gosodwyd gan y Llywodraeth Cymru a oedd wrth y llyw bryd hynny darged i ddileu tlodi plant erbyn 2020. Er gwaethaf hynny, yn \u00f4l Achub y Plant, mae bron un plentyn o dri yng Nghymru yn parhau i fyw mewn tlodi.<\/p>\n<p>Yn darged uchelgeisiol?, ydy; yn darged cyraeddadwy?, yn bendant! Er hynny, ar hyn o bryd, mae gennym dipyn o ffordd i fynd os ydym am gyrraedd y nod hwnnw.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae ein system addysg yn alinio \u00e2 pham y gorffennol; yn llwyddiannus unwaith, ond erbyn hyn, nid yw\u2019n ateb y diben. Nid oes s\u00f4n am pam sy\u2019n datseinio ar gyfer y dyfodol.<\/p>\n<p>Am hynny, gwnaeth clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu\u2019r enghraifft o arwyddair ysbyty Great Ormond Street yn ystod ei hanerchiad, sef \u2018the child first and always\u2019 \u2013 achosi i mi eistedd yn syth i fyny yn fy sedd.<\/p>\n<p>Mae ysbyty Great Ormond Street yn gwneud ei pam yn glir, a dyna oedd sylfaen ei lafur am y 160 o flynyddoedd diwethaf.\u00a0Sylweddolodd ei sylfaenydd, Doctor Charles West, fod angen gwahanol ofal ar blant o gymharu ag oedolion; a dyna PAM y gwnaeth ef sefydlu\u2019r ysbyty.<\/p>\n<p>Wrth adeiladu ar sylfaen gadarn pam, gwnaeth y sut a\u2019r beth ddilyn, ac erbyn heddiw, mae\u2019r ysbyty yn ganolfan rhagoriaeth ryngwladol ar gyfer gofal pediatrig.<\/p>\n<p>Yn yr ysbyty, daw gweithwyr proffesiynol a\u2019r meddyliau mwyaf disglair at ei gilydd, gan wynebu\u2019r afiechydon mwyaf cymhleth ac arloesi datblygiadau meddygol. Meddyliwch am hyn, oni bai bod Doctor West wedi sefydlu ac adeiladu\u2019r ysbyty ar y pam, ond yn hytrach, wedi canolbwyntio ar y beth a\u2019r sut, tybed a fyddai Great Ormond Street wedi bod yn wahanol i unrhyw ysbyty cyffredin arall?<\/p>\n<p>Mae\u2019r syniad bod gan ein system addysg y gallu bellach i gyfeiriadu ei hun a mabwysiadu cred sydd union yr un peth \u00e2 chred ysbyty Great Ormond Street, lle mai\u2019r weledigaeth the child first and always, yw\u2019r rheswm pam, a lle caiff yr hyn yr ydym yn ei wneud ei gynllunio o gwmpas y plentyn, ac er lles y plentyn, yn fy nghyffroi. Mae\u2019n llawn bryd!<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae ein system addysg wedi ei datgymalu gymaint oddi wrth ei hamcan, sef gwasanaethu yn gyfannol ac ychwanegu at werth y plentyn, nes iddi droi yn system ddosbarthu, wedi ei chwmpasu gan fiwrocratiaeth a phwrpas ansicr.<\/p>\n<p>Ers 1998, mae ein Llywodraethau sydd mewn grym wedi dod yn arbenigwyr mewn rhoi rhannau newydd mewn hen beiriant. Hynny yw, peiriant a allai gynhyrchu plant ar gyfer dyfodol rhagweladwy, ar gyfer gyrfaoedd ym myd diwydiant, neu ar gyfer swyddi rhagweladwy.<\/p>\n<p>Peiriant a allai ddarparu ffordd hawdd o fesur llwyddiant seiliedig ar feddylfryd llwyddo neu fethu, sy\u2019n hyrwyddo cydymffurfio yn hytrach nag arloesi, a pherffeithrwydd yn hytrach nag ymdrech. Yn y b\u00f4n, gwyddai\u2019r system a\u2019i phobl beth y dylid ei wneud a sut i\u2019w wneud, ond doedd dim s\u00f4n am y rheswm pam.<\/p>\n<p>Ond ymddengys un peth yn sicr \u2013 mae\u2019r weledigaeth a rennir gan y wlad bellach am ddigomisiynu\u2019r peiriant hwnnw. Fel cenedl, rydym wedi dechrau nodi\u2019r pam.<\/p>\n<p>Hynny yw, pam y mae angen diwygio arnom? Pam y mae angen arnom system sydd wedi\u2019i hadeiladu o gwmpas y plentyn?<\/p>\n<p>Er hynny, ymddengys bod yr ymagwedd y gwnawn ei defnyddio i weithredu\u2019r weledigaeth newydd yn canolbwyntio ar y beth yn hytrach nag ar y pam.<\/p>\n<p>Yng ngoleuni hyn, digwydda arloesi rhagorol; un ymagwedd sy\u2019n haeddu clod yw sefydlu\u2019r \u2018ysgolion arloesol\u2019 a\u2019r grwpiau llywio meysydd dysgu a phrofiad \u2013 ac mae pob un ohonynt yn dasg anodd.<\/p>\n<p>Eu her yw datgymalu peiriant sy\u2019n parhau i gael ei ddefnyddio, un y c\u00e2nt eu harolygu a\u2019u hystyried yn atebol o hyd yn ei erbyn, am ei fod yn un sy\u2019n \u201chawdd ei ddefnyddio\u201d ar gyfer mesur yr hyn a ystyriwyd unwaith yn ddysgu llwyddiannus; peiriant a allai godi braw yn hawdd a\u2019ch cyfrif yn atebol.<\/p>\n<p>Mewn oes a fu, cynlluniwyd hwn ar gyfer cynhyrchu mewn plant nodweddion dymunol a oedd yn cydweddu \u00e2 \u2018br\u00eeff\u2019, gan or-feithrin y plentyn unigol. Bellach, yr her ar gyfer yr ysgolion a\u2019r grwpiau llywio hyn yw cynllunio alldaith yn hytrach na pheiriant.<\/p>\n<p>Alldaith sydd ganddi nifer o fannau aros a chyfleoedd niferus i archwilio, un sy\u2019n ysbrydoli a gwahodd pob plentyn i\u2019w phrofi. Dyna syniad cyffrous a hardd!<\/p>\n<p>I feddwl bod gan y sawl sy\u2019n gwybod orau, sef yr athrawon, yr awdurdod i arwain a datblygu\u2019r newid; a chynllunio siwrne addysgol, am mai nhw sy\u2019n gwybod pam y mae angen hyn ar ein plant.<\/p>\n<p>Mae mor gyffrous gwybod bod hyn yn digwydd; mae ysgolion arloesol a grwpiau meysydd dysgu a phrofiad yn gwneud cynnydd sylweddol o ran arloesi a <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/11\/20\/golwg-holistig-ar-ddiwygior-cwricwlwm-yng-nghymru\/\">diwygio\u2019r cwricwlwm<\/a>.<\/p>\n<p>Er hynny, yr hyn sy\u2019n rhwystro eu cynnydd yw\u2019r disgwyl i greu \u2018sut\u2019 a \u2018beth\u2019 safonol ar gyfer pawb. Ond yn anffodus, dyna yw rhagosodiad y paradeim ac, fel y soniais, pan fo\u2019r sut a\u2019r beth yn ganolbwynt i unrhyw newid, strategaeth sy\u2019n hyrwyddo cyfranogiad a chydymffurfio gan athrawon, yn hytrach na chreadigedd ac ysbrydoliaeth yw\u2019r canlyniad.<\/p>\n<p>Mae gweithredu safon a rennir y bydd rhaid i\u2019r genedl gydymffurfio \u00e2 hi wedi ein rhoi yn y sefyllfa anodd hon; fel y gwyddoch, nid oes dwy ysgol yng Nghymru union yr un peth, ac mae angen ymagwedd bwrpasol ar bob un ohonynt, yn hytrach nag un ymagwedd safonol.<\/p>\n<p>Hoffwn rannu enghraifft o rym yr ymagwedd hon gyda chi, hynny yw, rhoi athrawon wrth galon y proffesiwn i arloesi\u2019r ffordd y dylem ei chymryd.<\/p>\n<p>Yn 1971, daeth Southwest Airlines yn enwog am greu\u2019r \u201810 minute turnaround\u2019; y broses o wacau\u2019r awyren, ei pharatoi a rhoi\u2019r teithwyr a\u2019u bagiau arni o fewn 10 munud. Dyna gamp!<\/p>\n<p>Ond, beth nad ydych efallai yn ei hystyried yw\u2019r ffaith y cafodd y broses hon ei datblygu yn ystod cyfnod anodd. Roedd cyllidebau\u2019r cwmni hedfan yn lleihau, ac roedd angen gwerthu un o\u2019i bedair awyren arno er mwyn parhau i fod yn gwmni hedfan proffidiol.<\/p>\n<p>Roedd y cwmni hedfan bellach yn dibynnu ar dair awyren i gadw at amserlen yr oedd arni, fel arfer, angen pedair awyren, ac felly roedd ganddo ddau ddewis: gallai Southwest naill ai leihau\u2019r nifer o hedfaniadau, neu ymdrechu i baratoi eu hawyrennau mewn 10 munud.<\/p>\n<p>Gallech ofyn \u2013 pwy oedd yn gyfrifol am yr arloesi hwn? \u2013 a\u2019r ateb i\u2019r cwestiwn hwnnw yw\u2019r gweithwyr: sef y peilotiaid, y porthorion, y cynorthwywyr hedfan a\u2019r llwythwyr bagiau \u2013 roedd pob un ohonynt yn haeddu diolch.<\/p>\n<p>Erbyn heddiw, mae Southwest yn cymryd 25 munud i baratoi eu hawyrennau. Ond pe baent yn caniat\u00e1u pum munud yn fwy ar gyfer yr un amserlen hedfan, byddai angen 18 awyren arall arnynt, a byddai hynny\u2019n costio bron biliwn o ddoleri.<\/p>\n<p>Yr hyn yr wyf am ei gyfleu yw\u2019r ffaith bod cwmni Southwest Airlines, er mwyn datrys y broblem, wedi troi at ei weithwyr, oherwydd nhw oedd yn gwybod orau; gwnaeth y cwmni ymddiried yn ei weithwyr, ac ni wnaethant ei siomi.<\/p>\n<p>Gallech hefyd ofyn pam wnaeth a sut gwnaeth y gweithwyr yr hyn y gwnaethant. Mae\u2019n bosib na fydd yr ateb yn eich synnu \u2013 gwnaethant hyn oherwydd roeddent am ei wneud.<\/p>\n<p>Fel cwmni, mae Southwest yn gofalu am ei weithwyr ac yn parchu eu barn, ac mae\u2019r cwmni yn gwybod, pe bai e\u2019n gwneud hyn, byddai safon y gofalu am ei gwsmeriaid bob amser o\u2019r radd uchaf.<\/p>\n<p>Mae\u2019n bosib eich bod yn gallu gweld yn barod y cyswllt yr wyf yn arwain ato ar sail yr enghraifft hon. Mae eisoes gennym reswm i addasu, ac mae ein pam yn datblygu\u2019n araf bach, ond gallwch hefyd fod yn hollol sicr, pe baech yn ymddiried ynddynt, gwnaiff y sawl sydd wrth galon y proffesiwn ddarganfod beth sydd angen i ni ei wneud a sut y dylem fynd ati.<\/p>\n<p>Hoffwn ddod \u00e2\u2019r cyfan i ben gyda\u2019r enghraifft olaf hon. A ydych chi erioed wedi hedfan gyda Southwest Airlines?<\/p>\n<p>Yn 2015, hedfanais o Denver, Colorado i Sacramento, California gyda thri chyfaill. Wrth i mi ymgartrefu yn fy sedd yng nghefn yr awyren, estynnais am y cerdyn diogelwch ar gyfer hedfan a dechreuais ei ddarllen.<\/p>\n<p>Dyma beth yr ydym yn ei wneud ym myd addysg, a dyna beth y cawn ein hannog i\u2019w wneud \u2013 darllen y polisi a pharatoi ein hunain i ddilyn y cyfarwyddiadau.<\/p>\n<p>Wrth i mi ddechrau darllen y cerdyn gwybodaeth ar gyfer y Boeing 737, daeth llais ysgytiedig o\u2019r tu cefn, gan ofyn: \u201cPam ydych chi\u2019n darllen hwnna? Does neb yn cymryd sylw ar gardiau diogelwch, felly rhowch ef i lawr! Rydych wedi fy ngwneud yn nerfus yngl\u0177n \u00e2 hedfan, ddyn!\u201d<\/p>\n<p>Daeth gw\u00ean i\u2019m gwefus wrth i mi droi er mwyn gweld pwy a wnaeth ddweud y math beth, a chefais fy synnu wrth ystyried mai\u2019r cynorthwyydd hedfan oedd yn gyfrifol amdano.<\/p>\n<p>Byddech yn gwybod, os ydych wedi hedfan o\u2019r blaen, na fyddai cwmni hedfan safonol yn dioddef ei staff i wneud sylwadau fel hyn.<\/p>\n<p>Ond wedi dweud hynny, nid yw Southwest yn gwmni hedfan safonol. A dweud y gwir, yn ei bencadlys yn Dallas, Texas, y mae bwrdd arddangos sy\u2019n rhannu ac yn dathlu\u2019r sylwadau paradocsaidd gorau y mae\u2019r cynorthwywyr hedfan wedi eu dweud wrth deithwyr dros y blynyddoedd.<\/p>\n<p>Yr hyn a allai hefyd eich synnu yw\u2019r ffaith bod swyddogion cwmni hedfan Southwest yn hyrwyddo\u2019r math ymddygiad, oherwydd maent yn ymddiried yn ei staff, ac maent yn hyderus bod y staff yn gofalu am eu teithwyr. A wyddoch chi beth?\u00a0\u2013 mae\u2019n gweithio!<\/p>\n<p>Fel teithiwr, roeddwn yn gwybod bod y cynorthwyydd hedfan wedi derbyn hyfforddiant o safon uchel, a byddai\u2019n mynd ati ar unwaith pe bai rhywbeth o\u2019i le yn digwydd ar yr awyren honno, ond roedd y ffaith ei fod yn gallu ymddwyn fel hyn wedi ennyn fy niddordeb.<\/p>\n<p>Roedd y bachan yn mwynhau ei waith, ac roedd hynny\u2019n dangos, ond oherwydd yr hyn a ddigwyddodd ar yr awyren honno, bob amser yr wyf wedi bod i\u2019r Union Daleithiau ers hynny, rwyf wedi ceisio hedfan gyda chwmni Southwest, ac mae fy ffrindiau hefyd yn dangos yr un ffyddlondeb at y cwmni hedfan hwnnw.<\/p>\n<p>Fy mhwynt i yw hyn, mae gan bolisi caeth bwrpas o fewn sefydliad, ond er hynny, efallai bod yr elfen ddynol yn fwy pwysig \u2013 mae\u2019n ychwanegu gwerth ychwanegol a chanddi hi y mae\u2019r effaith fwyaf.<\/p>\n<p>Ym myd addysg, ceir cyd-gymuned ecolegol o athrawon sydd ganddynt symbyliad, profiad a dealltwriaeth o\u2019r pam; gyda\u2019r fendith o ddiwygio\u2019r cwricwlwm yng Nghymru, dewch i ni beidio \u00e2 gwneud yr un camgymeriad eto a gadael polisi ein rheoli.<\/p>\n<p>Y tro hwn, peidiwch \u00e2 rhoi pwysau ar neb i gydymffurfio \u00e2 model safonol, oherwydd credaf ein bod yn ffodus i gael y cyfle, oherwydd <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/03\/26\/dysgu-gwersir-alban-adeiladu-cwricwlwm-ar-graig-ac-nid-ar-dywod\/\">\u2018Dyfodol Llwyddiannus\u2019<\/a>, i herio\u2019r status quo, i fod yn rhydd wrth i ni addysgu, i fod yn unigolion \u2013 yn hytrach na chlonau, a bod pobl yn ymddiried ynom.<\/p>\n<p>Pe baem yn parhau i wneud yr un peth, pam ddylem ni ddisgwyl felly i\u2019r canlyniad newid neu ein synnu?<\/p>\n<p>Ond dyna beth sy\u2019n digwydd os yw dyn yn dilyn polisi a chyfarwyddiadau caeth. Faint o weithiau ydych chi wedi hedfan gyda\u2019r un cwmni a chael gw\u00ean ffug, eich rhoi mewn sedd a\u2019ch gwneud i wrando ar yr un br\u00eeff ddiogelwch, cyn profi\u2019r un siwrne ddiflas?<\/p>\n<p>O\u2019m safbwynt i, y mae angen i ni ymdrechu ar gyfer cael system addysg yng Nghymru sy\u2019n rhannu gwerthoedd ac sy\u2019n parchu ei staff mewn ffordd debyg i\u2019r hyn sy\u2019n digwydd yng nghwmni hedfan Southwest, o\u2019i gymharu \u00e2 chwmni hedfan safonol.<\/p>\n<p>Yn fy marn i, y mae hedfan gyda chwmni hedfan mwy traddodiadol yn debyg i fod yn rhanddeiliad\u00a0 mewn addysg yng Nghymru \u2013 mae unffurfiaeth yn hanfodol, rhaid i\u2019r staff gwneud yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud oherwydd dyna beth yw\u2019r disgwyl, a disgwylir i\u2019r plant ddilyn trefn gaeth er mwyn cyrraedd diwedd eu taith \u2018yn ddiogel\u2019.<\/p>\n<p>Ar y llaw arall, nid oes rhaid i bethau fod fel hyn; os mai\u2019r ffocws ar draws Cymru yw&#8217;r weledigaeth sy\u2019n canolbwyntio ar y pam, yn hytrach nag ar y beth neu\u2019r sut, yna gallwch fod yn hollol sicr y gwnaiff yr athrawon gyflwyno\u2019r beth a\u2019r sut \u00a0llawn hwyl, effeithiol a hirbarhaol mewn ffyrdd ystyrlon.<\/p>\n<p>Bydd gan y cyfuniad hwn y potensial i fod yn hudol ac yn hirbarhaol, gan alluogi pawb sydd ym myd addysg ei gofleidio a\u2019i fwynhau, yn hytrach na\u2019i oroesi yn unig.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Connor Williams yn fyfyriwr ar ei drydedd flwyddyn yn Yr Athrofa, ac yn astudio ar y rhaglen BA Addysg Gynradd gyda SAC<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Connor Williams yn un o gannoedd o fyfyrwyr sy\u2019n cael eu hyfforddi i fod yn athrawon yng Nghymru. Yma, yn y blog craff hwn, mae\u2019n cyflwyno ei safbwynt unigryw ei hun ar y cyfleoedd a ddarperir gan \u2018Dyfodol Llwyddiannus\u2019&#8230; &nbsp; Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod ei phryd ar gwricwlwm newydd yng Nghymru; hynny yw,&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39123","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39123","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39123"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39123\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39123"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39123"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39123"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}