{"id":39124,"date":"2018-04-24T16:23:00","date_gmt":"2018-04-24T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/ysgrifennydd-y-cabinet-yn-cyflwyno-seminar-yr-athrofa\/"},"modified":"2021-02-28T21:35:16","modified_gmt":"2021-02-28T21:35:16","slug":"ysgrifennydd-y-cabinet-yn-cyflwyno-seminar-yr-athrofa","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/04\/24\/ysgrifennydd-y-cabinet-yn-cyflwyno-seminar-yr-athrofa\/","title":{"rendered":"Ysgrifennydd y Cabinet yn Cyflwyno Seminar yr Athrofa"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae\u2019r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cyflwyno ei gweledigaeth ar gyfer Addysg a Hyfforddiant \u00d4l-orfodol, fel rhan o Gyfres Seminarau\u2019r Athrofa.<\/strong><\/p>\n<p>Ddydd Llun bu\u2019r Athrofa Addysg, <a href=\"http:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/\">Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/a>, mewn partneriaeth \u00e2 Llywodraeth Cymru, yn llwyfan i anerchiad o bwys gan Ms Williams yn y Tramshed Tech, Caerdydd.<\/p>\n<p>Dywedodd Ms Williams wrth gynulleidfa o staff ysgol, darlithwyr prifysgol ac athrawon dan hyfforddiant, y dylai dysgwyr ddefnyddio\u2019r cyfleoedd niferus sydd ar gael ar eu cyfer, wrth iddynt symud ymlaen yn eu haddysg.<\/p>\n<p>Daeth y seminar i ben gyda phanel a wnaeth gynnwys Rhonwen Morris, pennaeth cynorthwyol Ysgol Bartner Arweiniol yr Athrofa, sef Ysgol Y Preseli, a leolir yn Sir Benfro; <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/04\/23\/cyrraedd-yr-entrychion-a-dyfodol-llwyddiannus-safbwynt-athro-dan-hyfforddiant\/\">Connor Williams, athro dan hyfforddiant ar ei drydedd flwyddyn yn yr Athrofa<\/a>; a Barry Liles, Pennaeth Coleg Sir G\u00e2r a Choleg Ceredigion.<\/p>\n<p>Cynhaliwyd y digwyddiad o flaen llaw ymgynghoriad technegol Llywodraeth Cymru sydd ar ddod ar Addysg a Hyfforddiant \u00d4l-orfodol (<a href=\"https:\/\/beta.llyw.cymru\/comisiwn-addysg-drydyddol-ac-ymchwil-i-gymru?_ga=2.241926021.609138717.1524562089-2072850325.1512392303\">Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus \u2013 Y Camau Nesaf<\/a>).<\/p>\n<p>Meddai Ms Williams: \u201cRwy\u2019n cefnogi a byddaf bob amser yn cefnogi dosbarthiadau chwech. Rwyf hefyd yn credu\u2019n gryf mewn cymysgedd da o ddarpariaeth pan ddaw i addysg a hyfforddiant \u00f4l-16.<\/p>\n<p>\u201cMae angen i ni gael llawer mwy o gysondeb wrth gefnogi ein dysgwyr drwy\u2019r cyfnod hollbwysig hwn yn eu haddysg ac ymlaen i ba lwybr bynnag y byddan nhw\u2019n penderfynu sydd orau iddyn nhw.\u201d<\/p>\n<p>Yngl\u0177n \u00e2\u2019i hymrwymiad i system deg a rhagorol, meddai: \u201cNid ydym ni\u2019n cyfrif unrhyw un, nac unrhyw le, yn fethiant. Mae gennym ni ddisgwyliadau uchel, gyda\u2019r gefnogaeth iawn, ar yr adeg iawn, i\u2019r holl fyfyrwyr, ysgolion a lleoliadau.<\/p>\n<p>\u201cTrwy gredu mewn system gyfun annetholus, rwy\u2019n cyfaddef ein bod ni\u2019n gosod her i\u2019n hunain, o gymharu \u00e2 systemau eraill. Ond her ydyw sydd ag argyhoeddiad moesol. Fel gwlad fach, ni allwn ni adael neb ar \u00f4l.<\/p>\n<p>Cyflwyniad Ms Williams oedd yr ail yng <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/10\/05\/straeon-o-doronto-penaethiaid-ysgolion-yn-adfyfyrio-ar-wersi-a-ddysgwyd-oddi-wrth-ganada\/\">Nghyfres Seminarau\u2019r Athrofa, a dilynodd yn sgil y digwyddiad llwyddiannus \u2018Straeon o Doronto\u2019 a gynhaliwyd ym mis Medi<\/a> ac a wnaeth gynnwys cyfraniadau gan staff y brifysgol, swyddogion Llywodraeth Cymru a phum pennaeth ysgol a deithiodd haf diwethaf gyda\u2019r Athrofa i Ganada.<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Dylan Jones, Deon <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">yr Athrofa<\/a>: \u201cRydym wrth ein boddau bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dewis i wneud ei chyhoeddiad yn yr Athrofa, un a wnaeth roi digon i ni feddwl amdano.<\/p>\n<p>\u201cRoedd Seminar yr Athrofa, a gynhaliwyd nos Lun, yn arbennig o ddiddorol, a dymunwn roi diolch i bawb a oedd yn bresennol. Diolchwn hefyd ein cydweithwyr yn Tramshed Tech, lleoliad ein gweithrediad Athrofa yng Nghaerdydd.<\/p>\n<p>\u201cRoedd hi\u2019n hyfryd gweld Barry, Rhonwen a Connor yn cymryd rhan ar y panel cloi, ac yn ateb cwestiynau gydag Ysgrifennydd y Cabinet ei hun. Mae hyn yn personoli popeth yr ydym yn ceisio ei wneud fel Athrofa, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/professional-learning-partnership\/\">un sydd wedi ei hadeiladu ar bartneriaethau ac ar rannu adnoddau er budd pawb yng Nghymru<\/a>.<\/p>\n<p>\u201cDrwy gydweithio, gallwn gyflawni cymaint yn fwy \u2013 ac ystyriwn mai ein cenhadaeth genedlaethol yw manteisio ar y cryfder hwnnw sydd i\u2019w gael o fewn system addysg Cymru a thu hwnt.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r Athrofa yn rhan o\u2019r system ac yn gweithio ar ran y system \u2013 rydym yma i wella cyfleoedd bywyd pob plentyn a pherson ifanc.\u201d<img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-37331 alignright\" src=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/04\/CQ2A1304-300x200.jpeg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\"><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-37330 alignleft\" src=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/04\/CQ2A1297-300x200.jpeg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cyflwyno ei gweledigaeth ar gyfer Addysg a Hyfforddiant \u00d4l-orfodol, fel rhan o Gyfres Seminarau\u2019r Athrofa. Ddydd Llun bu\u2019r Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mewn partneriaeth \u00e2 Llywodraeth Cymru, yn llwyfan i anerchiad o bwys gan Ms Williams yn y Tramshed Tech, Caerdydd. Dywedodd Ms Williams wrth&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39286,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[293],"tags":[],"class_list":["post-39124","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-293","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39124","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39124"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39124\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39440,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39124\/revisions\/39440"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39286"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39124"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39124"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39124"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}