{"id":39127,"date":"2021-02-26T16:23:05","date_gmt":"2021-02-26T16:23:05","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/prawf-i-addysg-cymru\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:05","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:05","slug":"prawf-i-addysg-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/prawf-i-addysg-cymru\/","title":{"rendered":"Prawf i addysg Cymru"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae Cymru yng nghanol cyfnod dwys o ddiwygio\u2019r gyfundrefn addysg. Yma, mae Nerys Defis yn adfyfyrio ar ddatganiadau diweddar gan ddau ffigwr allweddol yn y gyfundrefn honno, ac yn cwestiynu swyddogaeth asesu wrth i gwricwlwm newydd, cyffrous ddatblygu yng Nghymru\u2026<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Nid rhywbeth newydd mo arholiadau a phrofion ac erbyn hyn, ar hyd a lled y wlad, mae dechrau\u2019r haf yn dynodi dechrau\u2019r cyfnod arholi.<\/p>\n<p>Yn draddodiadol, rhywbeth yn perthyn i ddisgyblion yn sefyll eu harholiadau Lefel O a Safon Uwch oedd nerfau cyn-arholiad. Erbyn heddiw, mae\u2019r nerfau hynny\u2019n cael eu teimlo gan blant mor ifanc \u00e2 chwech oed wrth iddynt sefyll y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol.<\/p>\n<p>I\u2019r rhai sy\u2019n sefyll arholiadau TGAU neu Safon Uwch mae\u2019r pwysau fel petai\u2019n cael ei dderbyn. Maent yn gymwysterau sydd, ar y cyfan, yn cael eu hystyried yn hanfodol ar gyfer dyfodol llewyrchus.<\/p>\n<p>Mor belled ag y mae\u2019r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yn y cwestiwn, mae dirnad beth yw barn rhieni ac ysgolion amdanynt dipyn yn anoddach.<\/p>\n<p>Nid proses esmwyth oedd cyflwyno\u2019r Profion Cenedlaethol am y tro cyntaf yn 2013, ac roedd penawdau papur newydd yn cyhoeddi bod y trefniadau\u2019n draed moch yn awgrymu\u2019n gryf bod lle i wella.<\/p>\n<p>Erbyn 2018, mae gweithdrefnau\u2019r Profion Cenedlaethol wedi hen sefydlu, ac mae\u2019r gofidiau gwreiddiol am y gallu i olrhain cynnydd o flwyddyn i flwyddyn wedi eu hateb. Serch hynny, mae gofidiau eraill, megis y llwyth gwaith marcio a\u2019r gwrthdaro rhwng y profion ac athroniaeth y Cyfnod Sylfaen, yn parhau.<\/p>\n<p>Yn 2019, bydd hi\u2019n ddiddorol gweld sut fydd ysgolion yn ymdopi gyda chyflwyniad y profion ar-lein. Bydd y profion hynny yn addasu\u2019r cwestiynau yn \u00f4l anghenion dysgwyr unigol. Does bosib na fydd croeso i hyn, wedi\u2019r cyfan, mae\u2019r diffyg gwahaniaethu o fewn y profion presennol yn un o\u2019u hagweddau mwyaf negyddol.<\/p>\n<p>Erbyn Rhagfyr 2019, byddwn hefyd yn gwybod canlyniadau set arall o brofion, sef astudiaeth y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2018. <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2016\/11\/29\/peidiwch-a-mynd-i-banig-achos-i-fyfyrio-yn-sgil-profion-rhyngwladol\/\">Yn y gorffennol mae canlyniadau siomedig Cymru yn y profion PISA wedi peri gofid ar hyd coridorau sefydliadau addysg yng Nghymru<\/a>.<\/p>\n<p>Mewn erthygl ddiweddar, gwnaeth Gareth Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn Yr Athrofa, rybuddio y gallai set arall o ganlyniadau siomedig beryglu\u2019r broses o ddiwygio addysg yng Nghymru a\u2019i thaflu oddi ar y cledrau. Heb os, mae mwy o bwysau nag erioed i ddangos bod safonau yng Nghymru yn codi.<\/p>\n<p>Onid penderfyniad torcalonnus a gwrthgynhyrchiol fyddai rhoi stop ar y diwygiadau cyfredol ar sail cyfres arall o ganlyniadau PISA siomedig?<\/p>\n<p>Yn \u00f4l y Mudiad er Cydweithredu Economaidd a Datblygu (OECD), defnyddiwyd y term \u2018reform fatigue\u2019 fel un o\u2019r rhesymau honedig dros system addysg wanllyd Cymru. Serch hynny, mae tystiolaeth y gall diwygio addysg esgor ar ganlyniadau rhagorol os yw\u2019n amserol ac wedi ei gynllunio\u2019n dda.<\/p>\n<p>Ym 1997 dechreuodd Singapore ddiwygio ei system addysg gyda\u2019i gweledigaeth o \u2018Ysgolion yn Meddwl, Cenedl yn Dysgu\u2019. Pan ymunodd Singapore \u00e2\u2019r arolwg PISA yn 2009, cafodd ei hadnabod fel un o\u2019r gwledydd oedd yn perfformio orau yn y byd. Erbyn yr arlowg PISA diwethaf yn 2015, roedd Singapore ar frig pob un o dri tabl canlyniadau PISA yr OECD.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, nid oes gan Singapore hyd yn oed system addysg berffaith ond, heb os, mae\u2019n llwyddiannus ac yn sefydlog, heb arddangos dim o\u2019r gor-ddiwygio sy\u2019n gysylltiedig ag addysg yng Nghymru. Mae hefyd yn system addysg sydd \u00e2 disgwyliadau uchel o bob un disgybl.<\/p>\n<p>I\u2019r un perwyl, mewn araith ddiweddar a draddodwyd gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/04\/24\/ysgrifennydd-y-cabinet-yn-cyflwyno-seminar-yr-athrofa\/\">mewn seminar yn Yr Athrofa ym mis Ebrill<\/a>, pwysleisiodd ei gwelediaeth hi a Llywodraeth Cymru o fedru \u2018codi safonau i bawb a lleihau\u2019r bwlch cyrhaeddiad\u2019. Gweledigaeth o sicrhau bod pob disgybl, o bob cefndir a phob ardal yng Nghymru yn meddu ar yr un hawl i addysg o\u2019r radd flaenaf.<\/p>\n<p>Roedd angen degawdau ar Singapore i gyrraedd y nod hwn a llwyddo i eistedd ar frig y tablau addysg rhyngwladol. Pam ddylai Cymru, felly, fod yn wahanol?<\/p>\n<p>Mae angen gweledigaeth hir-dymor i\u2019r newidiadau arfaethedig i system addysg Cymru. Rhaid i ysgolion gael amser i addasu. Yn ogystal, mae angen ymddiried yn ein hysgolion a rhoi cyfle iddynt roi cynnig ar wahanol ddulliau. Fel rhan o hyn, mae angen parhau gyda\u2019r diwylliant presennol o rannu arfer dda a darparu cefnogaeth rhwng ysgolion.<\/p>\n<p>Yn gyffredinol, ceir teimlad bod y newidiadau i system addysg Cymru yn cael eu croesawi\u2019n fawr \u2013 newidiadau sydd, yn eironig ddigon, yn digwydd oherwydd i ddiffygion y system yng Nghymru gael eu hamlygu gan ganlyniadau gwael mewn profion megis y profion PISA.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cydsynio a welwyd yn dilyn adroddiad <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/04\/23\/cyrraedd-yr-entrychion-a-dyfodol-llwyddiannus-safbwynt-athro-dan-hyfforddiant\/\">Dyfodol Llwyddiannus<\/a> yr Athro Graham Donaldson yn parhau, ac mae\u2019r cydweithio sydd i\u2019w weld rhwng Llywodraeth Cymru, ei phartneriaid a\u2019r ysgolion arloesi wrth adeiladu\u2019r cwricwlwm newydd yn gyffrous, ac yn newid braf o\u2019r drefn arferol.<\/p>\n<p>Yn ystod ei ymweliad diweddar \u00e2 Chynhadledd <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/05\/02\/graham-donaldson-yn-fyw-yn-yr-athrofa\/\">Anelu at Ragoriaeth Yr Athrofa<\/a>, nododd yr Athro Donaldson nad oedd yn credu i\u2019r diwygiadau diweddaraf i addysg yn yr Alban fod mor effeithiol \u00e2\u2019r disgwyl o ganlyniad i or-bwyslais ar addysgu er mwyn ennill cymwysterau.<\/p>\n<p>Tra\u2019n cydnabod bod paratoi ar gyfer arholiadau TGAU a Safon A yn allweddol i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 4, a bod hyn yn cyfyngu\u2019r addysgu, cred Donaldson bod modd rheoli sut rydym yn trosglwyddo\u2019r cwricwlwm. Yn ogystal, gwnaeth ddarogan mai\u2019r nod yn y pendraw fydd cymwysterau wedi eu harwain gan y cwricwlwm ac a fydd yn adlewyrchu\u2019r cwricwlwm newydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019n anochel bod cymariaethau\u2019n cael eu tynnu <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/03\/26\/dysgu-gwersir-alban-adeiladu-cwricwlwm-ar-graig-ac-nid-ar-dywod\/\">rhwng Cymru a\u2019r Alban a\u2019u prosesau o ddiwygio addysg ond<\/a>, fel nododd yr Athro Donaldson yn glir \u2018Wales is not Scotland\u2019. Mae Cymru\u2019n torri ei chwys ei hun er mwyn gwella\u2019r system addysg, cwys na chaiff ei llywio gan ganlyniadau unrhyw arholiadau, gobeithio.<\/p>\n<p>Yn ei araith i fyfyrwyr PCYDDS, pwysleisiodd yr <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">Athro Donaldson<\/a> na ddylid gweld profion fel pwrpas addysg, wedi\u2019r cyfan, \u2018tests do not create a love of learning\u2019 meddai.<\/p>\n<p>Mae\u2019n bosib iawn bod cyfnodau anodd ar y gorwel i\u2019r system addysg yng Nghymru, o bosib o ganlyniad i\u2019r arlowg PISA arfaethedig ac, o bosib, o ganlyniad i ffactorau allanol megis newid person\u00e9l o fewn y Llywodraeth, yn dilyn ymadawiad y Prif Weinidog, Carwyn Jones.<\/p>\n<p>Er mwyn sicrhau bod Cymru\u2019n llwyddo i gael system addysg \u2018sy\u2019n destun balchder cenedlaethol\u2019 yn unol \u00e2 gweledigaeth Kirsty Williams, rhaid i drefnwyr polisi ar bob lefel sefyll yn gadarn ac ymddiried yn eu hysgolion.<\/p>\n<p>Oes, mae angen i bethau newid ond mae\u2019n anochel na fydd hyn yn digwydd dros nos. Rhaid i ni obeithio na wnaiff profion \u2013 o unrhyw fath \u2013 lesteirio\u2019r newidiadau hynny.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Nerys Defis yn ddarlithydd AGA yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Cymru yng nghanol cyfnod dwys o ddiwygio\u2019r gyfundrefn addysg. Yma, mae Nerys Defis yn adfyfyrio ar ddatganiadau diweddar gan ddau ffigwr allweddol yn y gyfundrefn honno, ac yn cwestiynu swyddogaeth asesu wrth i gwricwlwm newydd, cyffrous ddatblygu yng Nghymru\u2026 &nbsp; Nid rhywbeth newydd mo arholiadau a phrofion ac erbyn hyn, ar hyd a lled&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39127","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39127","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39127"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39127\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39127"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39127"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39127"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}