{"id":39128,"date":"2018-05-18T16:23:00","date_gmt":"2018-05-18T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/anelu-at-ragoriaeth-graham-donaldson-yn-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf-o-athrawon\/"},"modified":"2021-02-28T21:30:25","modified_gmt":"2021-02-28T21:30:25","slug":"anelu-at-ragoriaeth-graham-donaldson-yn-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf-o-athrawon","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/05\/18\/anelu-at-ragoriaeth-graham-donaldson-yn-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf-o-athrawon\/","title":{"rendered":"Anelu at Ragoriaeth &#8211; Graham Donaldson yn ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf o athrawon"},"content":{"rendered":"<p><strong>Gwahoddwyd un o ffigurau&nbsp;mwyaf&nbsp;blaenllaw byd addysg Cymru i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf o athrawon.<\/strong><\/p>\n<p>Rhoddwyd anerchiad gan <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/05\/02\/graham-donaldson-yn-fyw-yn-yr-athrofa\/\">yr Athro Graham Donaldson<\/a>, arbenigwr addysg ac awdur adroddiad \u2018Dyfodol Llwyddiannus\u2019 Llywodraeth Cymru, i gynulleidfa o dros 600 o athrawon cyfredol, yn ogystal ag athrawon y dyfodol, yn <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">Yr Athrofa<\/a>, Athrofa Addysg y Drindod Dewi Sant.<\/p>\n<p>Yr Athro Donaldson oedd y prif siaradwr yng nghynhadledd \u2018Anelu at Ragoriaeth\u2019 Yr Athrofa, dathliad blynyddol o\u2019r proffesiwn addysgu a\u2019r arfer ardderchog sy\u2019n digwydd mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru.<\/p>\n<p>Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Llanelli, a gwnaeth gynnwys cyflwyniadau, darlithwyr, staff ysgolion a llu o athrawon dan hyfforddiant talentog. Yn ystod ei brif anerchiad, esboniodd yr Athro Donaldson yn fanwl sut y byddai\u2019r cwricwlwm yn cael ei weithredu, yn ogystal \u00e2\u2019r goblygiadau wrth symud ymlaen.<\/p>\n<p>Meddai \u201cmae\u2019n amser gwych i gychwyn yn y proffesiwn yng Nghymru\u201d ac \u201cmae rhywbeth am yr hyn sy\u2019n digwydd yng Nghymru sy\u2019n gyffrous dros ben\u201d.<\/p>\n<p>Ym mis Mawrth 2014, comisiynwyd yr <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">Athro Donaldson<\/a> gan Lywodraeth Cymru i ystyried ac adolygu\u2019r Cwricwlwm a\u2019r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Mae\u2019r adroddiad \u2018Dyfodol Llwyddiannus\u2019 a ddilynodd yn sgil hyn yn edrych ar y cwricwlwm presennol a geir yng Nghymru ac yn awgrymu llawer o gynigion radical ar gyfer newid.<\/p>\n<p>Yn dilyn y gynhadledd, meddai\u2019r Athro&nbsp;Donaldson:&nbsp;&#8220;Mae cynnal cynadleddau fel y gynhadledd hon, a drefnwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn hanfodol wrth i ni geisio ennyn diddordeb yr unigolion hynny a fydd wrth galon yr hyn y byddwn yn ceisio ei wneud a\u2019i gyflawni yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf a thu hwnt.<\/p>\n<p>&#8220;Yr hyn a oedd yn amlwg yn y gynhadledd \u2018Anelu at Ragoriaeth\u2019 oedd y lefel o frwdfrydedd a phenderfyniad ymhlith ein hathrawon dan hyfforddiant i fynd \u00e2\u2019n cynigion ymlaen a gwneud iddynt weithio ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. O\u2019m safbwynt i, mae digwyddiadau fel digwyddiad heddiw yn gadarnhaol dros ben.<\/p>\n<p>&#8220;Dyma\u2019r cwricwlwm newydd yn cael ei lunio o flaen ein llygaid, a phopeth yr ydym wedi\u2019i weld heddiw, megis y stondinau a chyflwyniadau gan yr athrawon a\u2019r bobl ifanc \u2013 dyna yw gwir ystyr y diwygio cyfan yng Nghymru.&#8221;<\/p>\n<p>Agorwyd y digwyddiad, a wnaeth arddangos gwaith nifer o ysgolion <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/professional-learning-partnership\/\">Partneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa (PDPA)<\/a>, gyda neges fideo arbennig i\u2019r athrawon dan hyfforddiant gan Yr <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/04\/24\/ysgrifennydd-y-cabinet-yn-cyflwyno-seminar-yr-athrofa\/\">Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams<\/a>, a wnaeth siarad am y r\u00f4l hanfodol sydd ganddynt i\u2019w chwarae wrth roi ffurf i fywydau pobl ifanc. Trefnir y gynhadledd \u2018Anelu at Ragoriaeth\u2019 yn flynyddol&nbsp; gan Yr Athrofa gyda\u2019r bwriad o ddod \u00e2\u2019r holl athrawon BA (Add).<\/p>\n<p>Cynradd, a TAR Cynradd ac Uwchradd at ei gilydd&nbsp; er mwyn rhannu arfer da wrth iddynt baratoi ar gyfer gyrfa mewn addysgu. Mae\u2019r Athrofa \u2013 Yr Athrofa Addysg,&nbsp; yn glymblaid&nbsp; o arweinwyr addysg rhyngwladol sy\u2019n gweithio tuag at drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau yng Nghymru.<\/p>\n<p>Ychwanegodd Mathew Jones o\u2019r Athrofa, trefnydd y digwyddiad: &#8220;Rydym wrth ein boddau bod yr Athro Donaldson wedi cymryd amser, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/05\/18\/blaen-arbenigwr-ar-y-cwricwlwm-yn-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf-o-athrawon\/\">er gwaethaf&nbsp; ei amserlen brysur, i ymuno \u00e2 ni yn ein cynhadledd \u2018Anelu at Ragoriaeth\u2019 am yr ail flwyddyn yn olynol<\/a>. Roedd ei gyfraniad yn wir ysbrydoledig a rhodd y gynhadledd gyfle unigryw i\u2019n myfyrwyr rannu llwyfan gydag un o enwau blaenllaw byd addysg Cymru.<\/p>\n<p>&#8220;Gwnaethant fanteisio ar y cyfle hwn yn frwdfrydig, gan arddangos eu cyflawniadau aruthrol a rhannu\u2019r arfer rhagorol yr oeddent wedi bod wrthi\u2019n ei ddatblygu gyda chydweithwyr mewn ysgolion.<\/p>\n<p>&#8220;Gwnaeth gwrando ar yr Athro Donaldson yn siarad am ein cwricwlwm i\u2019r dyfodol gynhyrfu ein myfyrwyr yn fawr, a gwn y bydd y profiad hwn o les mawr iddynt, wrth iddynt edrych ymlaen at gychwyn ar eu gyrfaoedd eu hunain yn y proffesiwn addysgu.<\/p>\n<p>&#8220;Mae cynnal digwyddiad o\u2019r fath yn hanfodol, ac mae\u2019n gyfle i ddathlu popeth sy\u2019n wych am y sector. Mae\u2019n bwysig bod ein hathrawon dan hyfforddiant yn cael y cyfle i glywed pam y mae addysgu yn yrfa wych a boddhaol, ac roedd llawer o\u2019r cyflwyniadau a oedd yma heddiw yn wir ysbrydoledig.<\/p>\n<p>&#8220;Unwaith eto, roedd y gynhadledd yn eithriadol o lwyddiannus, gyda dros 600 o fyfyrwyr a chydweithwyr yn mynychu\u2019r digwyddiad, a bron 2000 yn ei wylio ar ein ffrydio byw. Erbyn hyn, mae\u2019r gynhadledd yn ei chweched flwyddyn ac mae\u2019n tyfu\u2019n fwy ac yn well bob blwyddyn. Rwy\u2019n edrych ymlaen yn fawr at ddigwyddiad blwyddyn nesaf, am ein gobaith yw adeiladu\u2019n bellach ar lwyddiant eleni.&#8221;<\/p>\n<p><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-37384 alignright\" src=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/GD33-300x201.jpeg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"201\"><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-37383 alignleft\" src=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/web1-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gwahoddwyd un o ffigurau&nbsp;mwyaf&nbsp;blaenllaw byd addysg Cymru i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf o athrawon. Rhoddwyd anerchiad gan yr Athro Graham Donaldson, arbenigwr addysg ac awdur adroddiad \u2018Dyfodol Llwyddiannus\u2019 Llywodraeth Cymru, i gynulleidfa o dros 600 o athrawon cyfredol, yn ogystal ag athrawon y dyfodol, yn Yr Athrofa, Athrofa&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39278,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[293],"tags":[],"class_list":["post-39128","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-293","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39128","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39128"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39128\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39437,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39128\/revisions\/39437"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39278"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39128"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39128"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39128"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}