{"id":39129,"date":"2018-06-01T16:23:00","date_gmt":"2018-06-01T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/dilyniant-dysgu-i-gymru\/"},"modified":"2021-02-28T21:28:42","modified_gmt":"2021-02-28T21:28:42","slug":"dilyniant-dysgu-i-gymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/06\/01\/dilyniant-dysgu-i-gymru\/","title":{"rendered":"Dilyniant Dysgu i Gymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae&#8217;r Prosiect CAMAU wedi cyhoeddi Adroddiad Ymchwil sylweddol heddiw sy&#8217;n llywio agwedd hanfodol ar ddiwygio&#8217;r cwricwlwm i Gymru.<\/strong><\/p>\n<p>Nod y prosiect CAMAU, a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Phrifysgol Glasgow, yw meithrin dealltwriaeth gyffredin o &#8216;ddilyniant&#8217; yn arferion dysgu plant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 mlwydd oed, a hynny yng nghyd-destun Dyfodol Llwyddiannus.<\/p>\n<p>Cyhoeddwyd adolygiad eang <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">yr Athro Graham Donaldson<\/a> o&#8217;r cwricwlwm a&#8217;r trefniadau asesu yn 2015, a chynigiodd gyfle i ailymweld ac ailddatgan dibenion sylfaenol addysg ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Roedd y glasbrint i ddiwygio&#8217;r cwricwlwm, a ddeilliai o hynny, yn amlygu nifer o argymhellion sy&#8217;n cael eu gweithredu, a hynny wrth baratoi ar gyfer cyflwyno&#8217;r cwricwlwm yn 2022.<\/p>\n<p>Sefydlwyd <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/02\/06\/cam-ymlaen-ir-cwricwlwm-cenedlaethol-newydd\/\">y prosiect CAMAU<\/a>, trwy gyllid gan PCYDDS a Llywodraeth Cymru, i gydweithio ag athrawon a gwneuthurwyr polisi i ddatblygu fframweithiau dilyniant ar gyfer pob rhan o&#8217;r cwricwlwm. Lluniwyd y disgrifiadau hyn o ddilyniant o ran dysgu ar sail tystiolaeth, ac maent yn cefnogi arferion asesu sy&#8217;n gyson ag &#8216;ysbryd&#8217;, yn hytrach na \u2018llythyren\u2019, y broses o asesu ar gyfer dysgu.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Adroddiad Ymchwil, a gyhoeddir heddiw, yn amlygu&#8217;r gwaith a wnaed hyd yma i nodi them\u00e2u allweddol sy&#8217;n codi yn sgil gwaith ymchwil, a hynny o ganlyniad i arolwg o bolis\u00efau ac arferion mewn sawl gwlad, yn ogystal ag o Dyfodol Llwyddiannus. Mae&#8217;r Adroddiad Ymchwil yn esbonio&#8217;r modd y mae&#8217;r canfyddiadau wedi cael eu hystyried gan athrawon o&#8217;r Ysgolion Arloesi, sy&#8217;n gyfrifol am ddatblygu&#8217;r cwricwlwm newydd i Gymru, wrth iddynt gydweithio \u00e2 th\u00eem CAMAU i ddatblygu&#8217;r fframweithiau dilyniant.<\/p>\n<p>Cyhoeddir yr Adroddiad Ymchwil mewn tri fformat:<\/p>\n<ul>\n<li>Yr adroddiad llawn;<\/li>\n<li>Is-adroddiadau ar bob un o&#8217;r chwe Maes Dysgu a Phrofiad;<\/li>\n<li>&#8216;O&#8217;r Syniad i&#8217;r Sylwedd&#8217;, sy&#8217;n crynhoi&#8217;r canfyddiadau allweddol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae&#8217;r dogfennau hyn yn cynnig cipolwg unigryw ar y ddamcaniaeth a&#8217;r drafodaeth sy&#8217;n sail i&#8217;r gwaith o ddatblygu Cwricwlwm i Gymru \u2013 Cwricwlwm am Oes.<\/p>\n<p>Mae staff o&#8217;r <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">Athrofa, PCYDDS<\/a>, Ysgol Addysg Prifysgol Glasgow, a Llywodraeth Cymru wedi cwrdd yn rheolaidd \u00e2 chyd-weithwyr mewn Ysgolion Arloesi i roi&#8217;r weledigaeth, a nodwyd yn nogfen lywio&#8217;r Athro Donaldson, ar waith.<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro Dylan Jones, Deon yr Athrofa: &#8220;Rydym yn falch iawn o gael y cyfle gan Lywodraeth Cymru i gefnogi&#8217;r gwaith pwysig hwn, ac rydym wedi cael ein cyffroi gan yr her i ddatblygu trefniadau asesu newydd ac arloesol i Gymru, a hynny mewn partneriaeth \u00e2 chyd-weithwyr.<\/p>\n<p>&#8220;Mae cyhoeddi&#8217;r adroddiad hwn yn garreg filltir bwysig yn y gwaith o ddatblygu&#8217;r cwricwlwm cenedlaethol newydd i Gymru \u2013 ac mae&#8217;n ffrwyth llafur misoedd lawer o ymrwymiad gan ysgolion a phrifysgolion, fel ei gilydd.<\/p>\n<p>&#8220;Mae Dyfodol Llwyddiannus yn torri tir newydd, ac mae gennym gyfle unigryw i saern\u00efo system addysg y gallwn fod yn hynod falch ohoni, ac un y mae cynnydd dysgwyr yn ganolog iddi.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro ar gyfer Asesu ac Arloesedd Addysgol, Prifysgol Glasgow, Louise Hayward:&nbsp;&#8220;Calon dysgu yw cynnydd, ac mae partneriaeth wrth wraidd newid. Mae Dyfodol Llwyddiannus yn cydnabod pwysigrwydd y ddwy egwyddor.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n fraint i Brifysgol Glasgow a PCYDDS, fel ei gilydd, gael y cyfle i gydweithio \u00e2 gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr yng Nghymru i ymchwilio i&#8217;r her asesu ryngwladol hon. Ni ellir cyflawni&#8217;r un newid ystyrlon oni bai fod ymchwilwyr, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr yn gweithio gyda&#8217;i gilydd.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r Adroddiad Ymchwil, a gyhoeddir heddiw, yn tystio&#8217;r modd pwerus y mae&#8217;r tair cymuned dan sylw yn gweithio gyda&#8217;i gilydd yn rhan o&#8217;r Prosiect CAMAU i lunio disgrifiadau dysgu sy&#8217;n seiliedig nid yn unig ar waith ymchwil a pholis\u00efau cenedlaethol a rhyngwladol, ond hefyd ar brofiadau go iawn o ddilyniant mewn ysgolion ac ystafelloedd dosbarth.&#8221;<\/p>\n<p>Gallwch lawrlwytho&#8217;r adroddiadau trwy glicio ar y dolenni isod:<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/CAMAU-Dysgu-am-Ddilyniant-Adroddiad-Ymchwil-2018-21.06.18.pdf\">CAMAU Dysgu am Ddilyniant Adroddiad Ymchwil 2018 21.06.18<\/a><\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/CAMAU-Adroddiad-Ymchwil-2018-Ieithoedd2c-Llythrennedd-a-Chyfathrebu.pdf\">CAMAU Adroddiad Ymchwil 2018 Ieithoedd Llythrennedd a Chyfathrebu<\/a><\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/Adroddiad-Ymchwil-Ebrill-2018_CAMAU-Adroddiad-Ymchwil-2018-Gwyddoniaeth-a-Thechnoleg.pdf\">Adroddiad Ymchwil Ebrill 2018_CAMAU Adroddiad Ymchwil 2018 Gwyddoniaeth a Thechnoleg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/Adroddiad-Ymchwil-Ebrill-2018_CAMAU-Adroddiad-Ymchwil-2018-Mathemateg-a-Rhifedd.pdf\">Adroddiad Ymchwil Ebrill 2018_CAMAU Adroddiad Ymchwil 2018 Mathemateg a Rhifedd<\/a><\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/Adroddiad-Ymchwil-Ebrill-2018_CAMAU-Adroddiad-Ymchwil-2018-Y-Celfyddydau-Mynegiannol.pdf\">Adroddiad Ymchwil Ebrill 2018_CAMAU Adroddiad Ymchwil 2018 Y Celfyddydau Mynegiannol<\/a><\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/Adroddiad-Ymchwil-Ebrill-2018_CAMAU-Adroddiad-Ymchwil-2018-Iechyd-a-Lles.pdf\">Adroddiad Ymchwil Ebrill 2018_CAMAU Adroddiad Ymchwil 2018 Iechyd a Lles<\/a><\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/Adroddiad-Ymchwil-Ebrill-2018_CAMAU-Adroddiad-Ymchwil-2018-O-Syniadau-i-Weithredu.pdf\">Adroddiad Ymchwil Ebrill 2018_CAMAU Adroddiad Ymchwil 2018 O Syniadau i Weithredu<\/a><\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/CAMAU-Adroddiad-Ymchwil-2018-Y-Dyniaethau-21.06.18.pdf\">CAMAU Adroddiad Ymchwil 2018 Y Dyniaethau 21.06.18<\/a><\/p>\n<p>Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ddatblygu&#8217;r cwricwlwm newydd i Gymru trwy ddilyn y ddolen hon: <a href=\"https:\/\/gov.wales\/topics\/educationandskills\/schoolshome\/curriculuminwales\/curriculum-for-wales-curriculum-for-life\/?skip=1&amp;lang=cy\">https:\/\/gov.wales\/topics\/educationandskills\/schoolshome\/curriculuminwales\/curriculum-for-wales-curriculum-for-life\/?skip=1&amp;lang=cy<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r Prosiect CAMAU wedi cyhoeddi Adroddiad Ymchwil sylweddol heddiw sy&#8217;n llywio agwedd hanfodol ar ddiwygio&#8217;r cwricwlwm i Gymru. Nod y prosiect CAMAU, a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Phrifysgol Glasgow, yw meithrin dealltwriaeth gyffredin o &#8216;ddilyniant&#8217; yn arferion dysgu plant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 mlwydd&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39298,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[293],"tags":[],"class_list":["post-39129","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-293","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39129","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39129"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39129\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39435,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39129\/revisions\/39435"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39298"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39129"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39129"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39129"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}