{"id":39132,"date":"2018-06-13T16:23:00","date_gmt":"2018-06-13T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/blas-cymreig-ar-gynhadledd-ryngwladol-ar-feddwl\/"},"modified":"2021-02-28T20:48:46","modified_gmt":"2021-02-28T20:48:46","slug":"blas-cymreig-ar-gynhadledd-ryngwladol-ar-feddwl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/06\/13\/blas-cymreig-ar-gynhadledd-ryngwladol-ar-feddwl\/","title":{"rendered":"Blas Cymreig ar gynhadledd ryngwladol ar feddwl"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae academydd o Gymru wedi cyflwyno dau bapur mewn cynhadledd ryngwladol bwysig yn yr Unol Daleithiau.<\/strong><\/p>\n<p>Siaradodd <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/staff\/helen-lewis\/\">Dr Helen Lewis<\/a>, uwch-ddarlithydd yn <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">yr Athrofa Addysg<\/a>, yn y 18fed Gynhadledd Ryngwladol ar Feddwl (International Conference on Thinking &#8211; ICOT) a gynhaliwyd ym Miami, Fflorida.<\/p>\n<p>Daeth y gynhadledd ag ymchwilwyr ac ymarferwyr blaenllaw ynghyd o bob rhan o\u2019r byd.<\/p>\n<p>Ceisiodd y digwyddiad archwilio strategaethau ar gyfer ennyn diddordeb pobl, o blant bach i bobl h\u0177n, ynghylch deall materion y byd sydd ohoni o wahanol safbwyntiau.<\/p>\n<p>Gyda\u2019i duedd drawsddisgyblaethol, tynnodd ar wahanol feysydd, megis addysg, niwrowyddoniaeth, gwyddorau iechyd, y celfyddydau, chwaraeon, busnes, anthropoleg, hanes a thechnoleg. Ymhlith y prif siaradwyr oedd yr Athrawon Howard Gardner, Shari Tishman, David Perkins, Guy Claxton a Carol McGuinness.<\/p>\n<p>Canolbwyntiodd papur cyntaf Dr Lewis ar sut y gall ymyriadau a gynorthwyir gan anifeiliaid, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/12\/18\/llawer-mwy-na-chyfaill-gorau-dyn\/\">yn benodol rhaglen darllen i g\u0175n<\/a>, wella sut mae plant yn gweld eu hunain fel dysgwyr galluog a hyderus.<\/p>\n<p>Archwiliodd ei hail bapur fanteision defnyddio fideos ar arferion ystafell ddosbarth fel man cychwyn ar gyfer adfyfyrio a chynnal trafodaeth.<\/p>\n<p>Awgryma ei hymchwil y gallai\u2019r dull hwn gynorthwyo athrawon i addysgu meddwl yn fwy effeithiol, yn ogystal \u00e2 chynorthwyo dysgwyr ifanc i feddwl yn fetawybyddol.<\/p>\n<p>Meddai Dr Lewis, a benodwyd yn ddiweddar yn Gydymaith Addysg Gynnar cyntaf Cymru, ac a enwebwyd yn rhan o bwyllgor \u2018Let\u2019s Think\u2019 y Fforwm Cenedlaethol: \u201cRoedd y gynhadledd yn wir ysbrydoledig. Roedd hwn yn gyfle ffantastig i glywed gan arbenigwyr mewn gwahanol feysydd, megis metawybyddiaeth, agweddau dysgu, a meddwl creadigol a beirniadol.<\/p>\n<p>\u201cDaeth cynrychiolwyr o bob rhan o\u2019r byd ynghyd i rannu eu hymchwil a\u2019u harferion ystafell ddosbarth. Yn arbennig o ddiddorol oedd cyflwyniad Temple Grandin, a wnaeth ystyried yr ymennydd awtistig; ymchwil Mary Helen Immordino-Young ar emosiynau a datblygiad yr ymennydd; trafodaeth David Perkins ar wir ystyr bod yn glyfar; a sgwrs Shari Tishman ar rym&nbsp;\u2018Meddwl yn Araf\u2019.<\/p>\n<p>\u201cTrafododd yr Athro Carol McGuinness dystiolaeth ryngwladol ar sut y caiff cymwyseddau meddwl eu hyrwyddo\u2019n effeithiol, a gwnaeth llawer o\u2019i negeseuon allweddol gyd-fynd \u00e2 chenhadaeth ein cenedl yma yng Nghymru. Ar \u00f4l fy nghyflwyniadau fy hun, roedd hi\u2019n galonogol i weld cymaint o ddiddordeb yn y datblygiadau arloesol i\u2019r cwricwlwm, a\u2019r ymchwil sy\u2019n digwydd yn y cyd-destun Cymreig.\u201d<\/p>\n<p>Yn ddiweddar, ysgrifennodd Dr Lewis ddau lyfr ar y cyd sy\u2019n ymwneud \u00e2 meddwl; y naill lyfr yn cynnwys syniadau ymarferol ar gyfer cynorthwyo meddwl creadigol a beirniadol plant, a\u2019r llall yn cynnwys astudiaethau achos lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar sut mae ysgolion yn mynd i\u2019r afael ag addysgu meddwl. Caiff y ddau ohonynt eu cyhoeddi yn hwyrach eleni.<\/p>\n<p>Ewch i e-bost h.e.lewis@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae academydd o Gymru wedi cyflwyno dau bapur mewn cynhadledd ryngwladol bwysig yn yr Unol Daleithiau. Siaradodd Dr Helen Lewis, uwch-ddarlithydd yn yr Athrofa Addysg, yn y 18fed Gynhadledd Ryngwladol ar Feddwl (International Conference on Thinking &#8211; ICOT) a gynhaliwyd ym Miami, Fflorida. Daeth y gynhadledd ag ymchwilwyr ac ymarferwyr blaenllaw ynghyd o bob rhan&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39280,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[293],"tags":[],"class_list":["post-39132","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-293","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39132","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39132"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39132\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39433,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39132\/revisions\/39433"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39280"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39132"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39132"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39132"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}