{"id":39133,"date":"2018-06-29T16:23:00","date_gmt":"2018-06-29T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/partneriaeth-dysgu-proffesiynol-yr-athrofa-yn-cael-achrediad-aga\/"},"modified":"2021-02-28T20:42:54","modified_gmt":"2021-02-28T20:42:54","slug":"partneriaeth-dysgu-proffesiynol-yr-athrofa-yn-cael-achrediad-aga","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/06\/29\/partneriaeth-dysgu-proffesiynol-yr-athrofa-yn-cael-achrediad-aga\/","title":{"rendered":"Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa yn cael achrediad AGA"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a\u2018r ysgolion sy\u2019n bartneriaid \u00e2 hi wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais i ddarparu rhaglenni newydd arloesol addysg gychwynnol athrawon (AGA) o fis Medi 2019 ymlaen.<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r rhaglenni a gyflwynwyd gan <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/professional-learning-partnership\/\">Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA)<\/a>, sef cydweithrediad sy\u2019n cynnwys Yr Athrofa\u2019r Drindod Dewi Sant a rhwydwaith o fwy na 100 o ysgolion, wedi derbyn achrediad gan <a href=\"https:\/\/t.co\/GwET7SxmWW\">Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA)<\/a>.<\/p>\n<p>Bu\u2019n rhaid i Bartneriaethau yng Nghymru gyflwyno erbyn 1 Rhagfyr, 2017, eu rhaglenni AGA arfaethedig, ar sail y meini prawf manwl a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i fodloni anghenion diwygiadau addysg amrywiol iawn.<\/p>\n<p>Wedyn ymwelodd panel achredu annibynnol \u00e2 PDPA , a bellach mae wedi argymell rhaglenni\u2019r PDPA i\u2019w cymeradwyo.<\/p>\n<p>Caiff y rhaglenni newydd eu rhoi ar waith ym mis Medi 2019 ac maent wedi eu llunio gyda golwg ar ofynion y cwricwlwm cenedlaethol a\u2019r Safonau Addysgu Proffesiynol newydd.<\/p>\n<p>Yn natblygiad PDPA, gwelir dull newydd ac arloesol o ddarparu addysg athrawon, a\u2019r Athrofa a\u2019r ysgolion sy\u2019n bartneriaid iddi yn gyfrifol ar y cyd am greu a darparu&#8217;r holl raglenni AGA.<\/p>\n<p>Wrth wraidd model AGA PDPA mae\u2019r ddealltwriaeth bod ysgolion a phrifysgolion yn gyd-bartneriaid, gyda rhan annatod i\u2019w chwarae yn natblygiad addysg athrawon, llywodraethu\u2019r bartneriaeth a\u2019r prosesau sydd eu hangen ar gyfer sicrhau ansawdd trwyadl.<\/p>\n<p>Mae cyhoeddiad heddiw yn garreg filltir bwysig arall yn hanes hir y brifysgol ym maes addysg athrawon, a gyda\u2019i gilydd mae gan Y Drindod Dewi Sant ac ysgolion partner hanes profedig o addysgu a mentora myfyrwyr israddedig ac \u00f4l-raddedig.<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Dylan Jones, Deon Yr Athrofa: \u201cRydym wrth ein bodd bod y rhaglenni arloesol a gyflwynwyd gan PDPA i\u2019w hachredu wedi eu cymeradwyo gan banel annibynnol y CGA.<\/p>\n<p>\u201cRoedd y rhaglenni\u2019n deillio o dros ddwy flynedd o gydadeiladu a oedd yn cynnwys llawer o fewnbwn gan y staff mewn ysgolion ac yn y brifysgol. Hoffwn longyfarch pawb a diolch i bob un a gyfrannodd i\u2019w datblygu.<\/p>\n<p>\u201cRhoddodd cydweithwyr lawer o\u2019u hamser a\u2019u hegni i baratoi ein cynnig AGA newydd \u2013 ac mae\u2019r canlyniad cadarnhaol hwn yn wobr haeddiannol am eu hymdrechion. Rhaid canmol ysbryd pawb wrth gyflawni\u2019r gwaith hynod bwysig hwn ac mae\u2019n adlewyrchu grym partneriaethau mewn addysg.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach \u00e2 phartneriaid ar draws y system addysg i sicrhau bod y to nesaf o athrawon dosbarth yn y lle gorau i arwain ar gwricwlwm cenedlaethol newydd a chyffrous Cymru.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn falch dros ben o\u2019r hyn rydym wedi ei greu gydag ysgolion ac yn eiddgar i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r cyfleoedd sy\u2019n ein disgwyl ni.\u201d<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant:&nbsp;\u201cRwy\u2019n hynod falch bod enw da hir-sefydlog y Brifysgol a\u2019i hanes arbennig o gryf ym maes addysg a hyfforddiant cychwynnol athrawon yn parhau a bydd ein partneriaeth gydag ysgolion yn arwain y ffordd er mwyn datblygu cymunedau dysgu hyderus ac adfyfyriol.<\/p>\n<p>\u201cWrth greu\u2019r Athrofa addysg ein bwriad oedd arwain newid trawsnewidiol a chefnogi system addysg hunan-wella, yn unol \u00e2 pholis\u00efau addysg athrawon, diwygio\u2019r cwricwlwm a gwella ysgolion Llywodraeth Cymru. Mae sefydlu Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa mewn partneriaeth \u00e2\u2019r proffesiwn yn rhan o\u2019r newid hwnnw.<\/p>\n<p>\u201cGyda\u2019n gilydd rydym wedi sefydlu canolfannau strategol ar draws y rhanbarth i gynnig rhaglenni newydd fydd yn darparu\u2019r sgiliau sydd eu hangen ar athrawon yfory er mwyn sicrhau bod plant Cymru yn cael pob cyfle i ddatblygu eu potensial ac i ffynnu.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a\u2018r ysgolion sy\u2019n bartneriaid \u00e2 hi wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais i ddarparu rhaglenni newydd arloesol addysg gychwynnol athrawon (AGA) o fis Medi 2019 ymlaen. Mae\u2019r rhaglenni a gyflwynwyd gan Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA), sef cydweithrediad sy\u2019n cynnwys Yr Athrofa\u2019r Drindod Dewi Sant a&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39268,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[293],"tags":[],"class_list":["post-39133","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-293","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39133","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39133"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39133\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39431,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39133\/revisions\/39431"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39268"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39133"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39133"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39133"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}