{"id":39134,"date":"2021-02-26T16:23:05","date_gmt":"2021-02-26T16:23:05","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/ailfeddwl-y-byd-sydd-on-hamgylch\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:05","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:05","slug":"ailfeddwl-y-byd-sydd-on-hamgylch","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/ailfeddwl-y-byd-sydd-on-hamgylch\/","title":{"rendered":"Ailfeddwl y byd sydd o\u2019n hamgylch"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae diogelu ein system addysg rhag y dyfodol a galwadau\u2019r 21ain ganrif yn dasg sylweddol. Ond mae hefyd yn gyfle. Yma, mae Dr Jan Barnes yn cefnogi creadigedd fel sgil hanfodol mewn Cymru fodern&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Yn fy marn i, mae\u2019n deg dweud nad yw\u2019r byd yr ydym yn gyfarwydd ag ef ond yn newid, mae hefyd, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi newid cymaint, ni allwn bron \u00e2\u2019i adnabod.<\/p>\n<p>Mae datblygiadau ffrwydrol mewn technoleg, yn enwedig technoleg ddigidol wedi golygu ein bod yn byw ein bywydau yn wahanol.<\/p>\n<p>Mae cyfryngau cymdeithasol yn ein cysylltu\u2019n fyd-eang; mae arferion gwaith yn hyblyg. Mae popeth yn ddi-oed; mae popeth wedi\u2019u cysylltu \u00e2\u2019i gilydd.<\/p>\n<p>Rydym yn byw o fewn rhwydwaith byd-eang; a dweud y gwir mae arloesi yn golygu bod llawer o\u2019r pethau\u00a0 yr oeddem unwaith yn credu na allent ddigwydd ond yn y pictiwrs neu ym myd ffuglen wyddonol yn dod yn ffaith &#8230; ceir heb yrwyr, deallusrwydd artiffisial a chyfathrebu ag ochr arall y byd drwy gyfrwng fideo.<\/p>\n<p>Er mwyn ein galluogi\u00a0 i fanteisio ar y \u2018byd dewr, newydd\u2019 hwn a llwyddo, bydd angen i ni drawsnewid ein hunain i fod yn arloesol ac yn hyblyg i newid.<\/p>\n<p>Mae angen ein bod ni\u2019n gallu holi a herio ein hathroniaethau a bod yn fodlon i feddwl ac ymateb mewn ffyrdd newydd a gwahanol i\u2019r cyfleoedd sydd bellach ar gael ar gyfer pob un ohonom.<\/p>\n<p>Rwyf bob amser wedi addysgu fy myfyrwyr ein bod ni fel addysgwyr yn addysgu\u2019r genhedlaeth nesaf i weithredu a byw mewn byd sydd yn dal i fod ar y bwrdd llunio \u2013 byd sydd eto heb ei ddyfeisio.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019r chwyldro newid eto wedi dod i ben, ac mae cyfleoedd newydd yn ein haros.<\/p>\n<p>Mae\u2019r byd yn dod yn gynyddol entrepreneuraidd ac arloesol. Oherwydd hyn, bydd rhaid i addysg gydweddu \u00e2\u2019r arloesi hwnnw.<\/p>\n<p>Er mwyn ein galluogi i addysgu ein cenhedlaeth nesaf ar gyfer y cyfleoedd hyn, dadleuwn fod angen i ni ddatblygu sgiliau newydd, ac yn fy marn i, yr ateb yw\u2019r fframwaith EntreComp ac EntreAssess &#8211; wedi\u2019r cyfan, sut arall y gallwch chi fesur priodweddau megis creadigedd ac arloesedd?<\/p>\n<p>Yn rhinwedd fy swydd fel addysgwr athrawon, caf gyfle i gysylltu ag amrywiaeth eang o athrawon ac academyddion gydag arbenigedd mewn amrywiol bynciau, ac sy\u2019n addysgu cyfnodau gwahanol.<\/p>\n<p>Rwy\u2019n adnabod rhai athrawon arloesol iawn, ac rwy\u2019n adnabod rhai sydd ond yn \u00a0hafalu sgiliau entrepreneuraidd \u00e2 busnes. Mae sylwadau megis \u201cie, mae hynny\u2019n wir, ond rwy\u2019n addysgu Daearyddiaeth, neu Fathemateg&#8230;\u201d yn gyffredin iawn.<\/p>\n<p>Ie, a thra bo EntreComp ac EntreAssess yn rhoi\u2019r ffocws ar dri phrif gymhwysedd, mae ganddynt weithredoedd galluogi, megis ymdrin \u00e2 syniadau a chyfleoedd, defnyddio adnoddau a rhoi ar waith.<\/p>\n<p>Ceir o fewn y tri chanolbwynt hyn gymwyseddau pellach sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r byd dewr, newydd y gwnes i s\u00f4n amdano yn gynharach ac sydd, fe ddadleuwn, yn holl bwysig os ydym am gefnogi a datblygu\u2019r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr a all gofleidio newid a byw eu bywydau i\u2019r eithaf.<\/p>\n<p>Pe baech yn athro pwnc arbenigol neu un sydd \u00e2 diddordeb arbennig mewn maes dysgu penodol, eich dysgwyr dylai fod y peth pwysicaf yn eich ystafell ddosbarth neu amgylchedd dysgu.<\/p>\n<p>P\u2019un ohonoch, tybed, sydd ddim am gael dysgwr entrepreneuraidd \u2013 un a all adnabod cyfleoedd bywyd yn ogystal \u00e2 chyfleoedd dysgu?<\/p>\n<p>Dysgwyr ydynt sydd \u00e2 gweledigaeth ac sy\u2019n greadigol; gall dysgwr creadigol gynhyrchu syniadau, defnyddio meddwl dargyfeiriol er mwyn creu cyfleoedd, ac edrych y tu hwnt i\u2019r syniadau hynny er mwyn gweld yr hyn y gallent fod &#8230; a dysgwyr ydynt a all gyflawni hyn \u2018oll mewn ffordd gynaliadwy a moesegol.<\/p>\n<p>Gall y math cymwyseddau droi addysg orfodol yn awydd i barhau i ddysgu drwy gydol eu hoes.<\/p>\n<p>Beth am ddysgwyr a all ysgogi eu hunain yn ogystal ag ysgogi eraill, gan wneud dysgu yn gyffrous?<\/p>\n<p>Dysgwyr sydd \u00e2 chydnerthedd sy\u2019n eu galluogi i ddysgu ar sail eu camgymeriadau a throi\u2019r methiant hwnnw yn brofiad cadarnhaol; gan ddatblygu\u2019r fath agwedd sy\u2019n eu galluogi i gymryd rheolaeth dros eu dysgu eu hunain?<\/p>\n<p>Mae\u2019r math dysgwyr yn debygol o allu ail-greu\u2019r dysgu er mwyn bodloni eu hanghenion eu hunain.<\/p>\n<p>Y mae llawer o dystiolaeth ar gael sy\u2019n dangos bod cydweithio a rhyngweithio cymdeithasol yn gallu hyrwyddo dysgu, a dweud y gwir, mae\u2019r damcaniaethau dysgu adeileddol gymdeithasol wedi\u2019u hadeiladu ar y cynsail hwnnw.<\/p>\n<p>Felly, beth am ddysgwyr a all gydweithio\u2019n llwyddiannus \u00e2\u2019u cymheiriaid, gan gynllunio ac achub y blaen yn yr ystafell ddosbarth ac mewn bywyd, ac wrth wneud hynny, datblygu\u2019r gallu i ymdopi ag amwysedd a risg?<\/p>\n<p>Os dyma\u2019r math o ddysgwyr yr ydym am gael, pa beth bynnag yw eu disgyblaeth neu eu hoedran, yna meddyliwch beth all y dysgwyr hyn gyfrannu wrth iddynt aeddfedu fel dinasyddion ar \u00f4l derbyn eu haddysg.<\/p>\n<p>Fel llawer o wledydd ar draws Ewrop, mae newid enfawr yn digwydd i\u2019r <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/06\/01\/dilyniant-dysgu-i-gymru\/\">cwricwlwm yng Nghymru<\/a>, newid sy\u2019n dechrau yn ein Cyfnod Sylfaen ac yn parhau drwy gydol addysg uwchradd, gyda\u2019r gobaith y gwnaiff gael effaith sy\u2019n ymestyn cyn belled ag addysg uwch.<\/p>\n<p>Un o amcanion ein haddysg newydd yw creu cwricwlwm a fydd yn cynorthwyo\u00a0 disgyblion sy\u2019n barod ar gyfer yr 21ain ganrif a phopeth sydd ganddi i gynnig.<\/p>\n<p>Er mwyn cyflawni hyn, mae\u2019r adolygiad o\u2019n cwricwlwm presennol a\u2019n trefniadau asesu, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/03\/26\/dysgu-gwersir-alban-adeiladu-cwricwlwm-ar-graig-ac-nid-ar-dywod\/\">Dyfodol Llwyddiannus<\/a>, yn awgrymu bod angen creu ar Gymru fath newydd o ddinesydd, drwy gyfrwng addysg, a dylai dinasyddion newydd Cymru\u00a0 fod:<\/p>\n<p>\u201cYn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy\u2019n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes. Yn\u00a0gyfranwyr mentrus, creadigol\u00a0sy\u2019n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a\u2019u gwaith. Yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy\u2019n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a\u2019r byd.\u201d<\/p>\n<p>Credaf fod yr amcan hwn gan Gymru a\u2019r <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">Cwricwlwm Cymreig<\/a> yn un ysbrydoledig a chyffrous.<\/p>\n<p>Credaf hefyd, pe baech yn dadansoddi\u2019r hyn y mae\u2019r adolygiad yn ei olygu wrth \u201cddysgwyr uchelgeisiol, galluog; cyfranwyr mentrus, creadigol; ddinasyddion egwyddorol, gwybodus; ac unigolion iach, hyderus\u201d fod datblygu\u2019r math hwn o \u2018Ddinesydd Cymru\u2019 yn cyd-fynd \u00e2 datblygu\u2019r sgiliau sydd wrth galon y fframweithiau EntreComp ac EntreAssess.<\/p>\n<p>Mewn byr eiriau, mae angen i ni hyrwyddo ym myd addysg ddiwylliant o greadigedd; lle gall ein dysgwyr ddysgu ar sail eu camgymeriadau; lle mae ganddynt gydnerthedd sy\u2019n eu galluogi i dderbyn methiant fel profiad dysgu cadarnhaol;\u00a0 a lle mae ganddynt yr hunan-effeithiolrwydd a\u2019r hunan-barch i wneud pethau ddigwydd.<\/p>\n<p>Y fath o addysg lle mae cymhelliant yn troi\u2019n gynnwrf.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Dr Jan Barnes yn Uwch Ddarlithydd mewn Ymchwil ac Ymholi Trawsgwricwlaidd sydd Agos at arfer yn Athrofa Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae diogelu ein system addysg rhag y dyfodol a galwadau\u2019r 21ain ganrif yn dasg sylweddol. Ond mae hefyd yn gyfle. Yma, mae Dr Jan Barnes yn cefnogi creadigedd fel sgil hanfodol mewn Cymru fodern&#8230; &nbsp; Yn fy marn i, mae\u2019n deg dweud nad yw\u2019r byd yr ydym yn gyfarwydd ag ef ond yn newid, mae&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39134","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39134","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39134"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39134\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39134"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39134"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39134"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}