{"id":39137,"date":"2021-02-26T16:23:05","date_gmt":"2021-02-26T16:23:05","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/torrir-mowld-ailystyried-rheolau-addysgu\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:05","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:05","slug":"torrir-mowld-ailystyried-rheolau-addysgu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/torrir-mowld-ailystyried-rheolau-addysgu\/","title":{"rendered":"Torri\u2019r mowld: ailystyried rheolau addysgu"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae ysgolion yn fannau arloesol ac ysbrydoledig, ac ynddynt, nid oes dau ddiwrnod yr un peth \u00e2\u2019i gilydd. Ond mae cymaint o fywyd gwaith athro yn seiliedig ar draddodiad a gwneud pethau fel y cawsant eu gwneud erioed. Yn y blog \u00a0mewnweledol hwn, mae\u2019r athrawes\u00a0 \u00a0\u00a0Sarah Withey yn adfyfyrio ar ei harfer ei hunan ac yn herio normau sefydledig&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Roedd y wers ar brynhawn Mercher gyda\u2019m disgyblion blwyddyn 4 wedi bod yn un heriol, a threuliais y deng munud diwethaf ohoni yn ceisio gorfodi fy ngr\u0175p arbennig o gynhyrfawr, mewn gwahanol ffyrdd, i eistedd yn dawel a chwblhau\u2019r dasg osod, pan ofynnodd un o\u2019m disgyblion \u2018pam y mae\u2019n rhaid i ni eistedd yn llonydd?\u2019 Ar yr eiliad hwnnw, daeth rhywbeth i\u2019m meddwl. Pam yr oeddwn wedi gofyn iddynt eistedd wrth eu desgiau?<\/p>\n<p>Yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol, ac ar brofiadau ymarfer dysgu, ymddengys fel petai cod ymddygiad cynhenid\u00a0 yn bodoli, rhyw set o ddisgwyliadau a dderbynnir yn gyffredinol gan athrawon, a oedd yn cynnwys rheolau megis eistedd wrth ddesgiau a bod yn dawel, pan wrthi\u2019n gweithio.<\/p>\n<p>Cofiais am yr ystafelloedd dosbarth y gwnes i addysgu ynddynt pan oeddwn yn athrawes gyflenwi a thrwy gydol fy lleoliadau, pob un ohonynt yn cynnwys rhyw fath o ddalennau cardbord\u00a0 laminedig, lliwgar a oedd yn dangos \u2018rheolau\u2019r ystafell ddosbarth\u2019 arnynt, pob un ohonynt yn dweud rhywbeth fel \u2018Rhaid i ni fod yn dawel pan mae eraill yn gweithio\u2019 neu \u2018rhaid i ni eistedd yn llonydd ar y carped\u2019. Nid oeddwn, tan hynny, wedi sylweddoli pa mor chwerthinllyd oedd y ffaith nad oeddwn wedi cwestiynu\u2019r rheolau annileadwy hyn yn ystod fy addysgu fy hunan.<\/p>\n<p>Pan edrychwch ar ymddygiad pobl yn fyd-eang, ac yn enwedig, yr ymddygiad penodol a geir mewn gwahanol wledydd, ymddengys nad oes ymagwedd \u2018un rheol ar gyfer pawb\u2019 yn bodoli. Mae\u2019n bosib dehongli ymddygiad sy\u2019n hollol dderbyniol mewn un wlad yn anfoesgar mewn gwledydd eraill.<\/p>\n<p>Yn y DU, ystyrir yr ystum syml o godi\u2019ch bawd yn ffordd o gymeradwyo, neu yn arwydd o lwyddiant, ond yn y Dwyrain Canol, ystyrir yr un ystum yn sarhad.\u00a0 Mae hyn yn fy arwain i feddwl, os ydy ymddygiad mor wahanol rhwng gwledydd, pam ydym felly yn cadw mor dyn at yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan blant sydd yn ein hystafelloedd dosbarth?<\/p>\n<p>Fel athrawon, ystyriwn bob disgybl yn unigolyn unigryw o ran ei ddysgu a\u2019i ddealltwriaeth o\u2019n haddysgu, ac felly, gofynnaf i\u2019m hunan, oni y dylwn ystyried pob disgybl ar wah\u00e2n, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/12\/18\/llawer-mwy-na-chyfaill-gorau-dyn\/\">o ran ein disgwyliadau o\u2019i ymddygiad<\/a>?<\/p>\n<p>Meddyliaf am fy ymddygiad dysgu fi fy hunan a\u2019r pleser sydd wedi dod i\u2019m rhan drwy ddysgu fel oedolyn; dysgu sy\u2019n digwydd mewn nifer mawr o leoliadau, dysgu sy\u2019n digwydd y tu allan i\u2019r ystafell ddosbarth a\u2019r rheolau a\u2019r normau cymdeithasol sy\u2019n ei reoli.<\/p>\n<p>Yn 2013, daeth adroddiad gan Sefydliad Meddygaeth Prifysgol Lund, Sweden, i\u2019r canlyniad bod disgyblion sydd fwyaf gweithgar yn yr ysgol yn dangos gwell ganolbwyntio, ganddynt gyflymderau prosesau gwybyddol mwy cyflym, ac yn perfformio\u2019n well mewn profion safonedig na disgyblion a oedd yn llai gweithgar; roedd hyn yn arbennig o berthnasol i addysg bechgyn.<\/p>\n<p>\u2018Mae perygl i ni feddwl bod plant sydd yn eistedd wrth eu desgiau, gyda\u2019u pennau i lawr, yn dawel ac yn ysgrifennu, hefyd yn dysgu.\u2019\u00a0 Brian Gatens, Uwch-arolygydd Ysgolion, Emerson, N.J.<\/p>\n<p>Medd yr Athro J.F. Sallis o Brifysgol California, San Diego, a wnaeth ymchwilio i\u2019r cysylltiad rhwng egwyliau yn ystod cyfnodau gweithgar ac ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth fod \u2018Gweithgaredd yn helpu\u2019r ymennydd mewn cymaint o ffyrdd\u2019. Darganfu pan fod disgybl yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol, mae hynny\u2019n symbylu mwy o wythiennau yn yr ymennydd sydd, yn y b\u00f4n, yn \u2018deffro\u2019r\u2019 ymennydd.<\/p>\n<p>Creda Steve Boyle, un o gyd-sylfaenwyr y National Association of <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/05\/12\/llythrennedd-corfforol-goroesi-storm-anferthol\/\">Physical Literacy<\/a> na ddylai disgyblion eistedd yn llonydd drwy\u2019r dydd er mwyn amsugno gwybodaeth. Mae\u2019n dadlau nad ydym fel oedolion wedi ein \u2018gwifro\u2019 fel hynny, ac felly, pam y dylem ddisgwyl i blant fod yn wahanol?<\/p>\n<p>Fel testun ymchwil eang sy\u2019n dod i\u2019r canlyniad nad yn unig bod y cysyniad o eistedd yn llonydd yn wrth-sythweledol ond ei fod hefyd yn wrthgynhyrchiol, gyda chyflogwyr yn cyflwyno desgiau sefyll ac amgylchoedd gwaith amlsynhwyraidd, oni ddylem, tybed, ailfeddwl sut y mae athrawon yn rhedeg ein hystafelloedd dosbarth?<\/p>\n<p>Edrychais yn \u00f4l at y bachgen a oedd o\u2019m blaen, a oedd, mewn \u00f4l-ddoethineb, wedi gofyn cwestiwn mor berthnasol, ac yn sydyn, teimlais don o gywilydd yn torri arnaf am fethu cwestiynu fy ymresymu fy hunan yngl\u0177n \u00e2\u2019r fath reolau sydd bob dydd yn chwarae rhan wrth i mi addysgu pobl eraill. Wrth ofyn i fi fy hunan pam yr oeddwn am i\u2019m disgyblion eistedd yn llonydd, sylweddolais y dylwn fod wedi gofyn iddynt \u2018Sut ydych chi\u2019n dysgu orau?\u2019<\/p>\n<p>Fel athrawes, deallaf fod angen ar ystafell ddosbarth ffiniau cyd-dderbyniol er mwyn osgoi\u2019r anhrefn y byddai\u2019n dilyn. Yr wyf hefyd wedi cymryd y pethau y gwnes ddysgu yn ganiataol, ac yn lle cwestiynu fy arfer fy hunan, rwyf yn aml wedi dilyn yn ddall arferion cyffredin, llawer ohonynt (wrth adfyfyrio) i\u2019w gweld yn hen-ffasiwn ac yn amherthnasol i\u2019r amgylchedd ystafell ddosbarth y ceisiaf ei greu.<\/p>\n<p>Fel un syniad olaf, gofynnaf \u2013 a ydy\u2019r holl reolau hyn yn wir hanfodol?<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Sarah Withey yn SENCO (Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig) ac yn Athrawes Arbenigol mewn ysgol Gynradd ac Uwchradd Annibynnol yn Abertawe. Mae hefyd yn fyfyrwraig flwyddyn gyntaf ar y rhaglen <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/doethuriaeth-addysg\/\">Doethuriaeth mewn Addysg<\/a> yr Athrofa<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae ysgolion yn fannau arloesol ac ysbrydoledig, ac ynddynt, nid oes dau ddiwrnod yr un peth \u00e2\u2019i gilydd. Ond mae cymaint o fywyd gwaith athro yn seiliedig ar draddodiad a gwneud pethau fel y cawsant eu gwneud erioed. Yn y blog \u00a0mewnweledol hwn, mae\u2019r athrawes\u00a0 \u00a0\u00a0Sarah Withey yn adfyfyrio ar ei harfer ei hunan ac&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39137","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39137","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39137"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39137\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39137"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39137"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39137"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}