{"id":39138,"date":"2021-02-26T16:23:05","date_gmt":"2021-02-26T16:23:05","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/mis-hanes-pobl-dduon-yng-nghymru\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:05","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:05","slug":"mis-hanes-pobl-dduon-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/mis-hanes-pobl-dduon-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Roedd Mis Hanes Pobl Dduon unwaith eto yn llwyddiant ysgubol eleni gyda digwyddiadau i\u2019w ddathlu yn cael eu cynnal ar draws y wlad. Ond beth y mae\u2019r cyfan amdano? Mae Dr Paul Hutchings a Katie Sullivan yn esbonio\u2026<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae Mis Hanes Pobl Dduon (Black History Month &#8211; BHM yw\u2019r talfyriad) wedi cael ei ddathlu bob mis Hydref yn y Deyrnas Unedig ers 1987, ond mae llawer o bobl naill ai yn ymwybodol ohono neu nid oes ganddynt lawer o ddealltwriaeth amdano na pham mae\u2019n cael ei ddathlu;\u00a0 a byddwn wedi cynnwys ein t\u00eem seicoleg ni yn yr ail gr\u0175p, o leiaf tan eleni.<\/p>\n<p>Sefydlwyd BHM i ddathlu cyraeddiadau a chyflawniadau pobl Brydeinig o Affrica, a dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i ddathlu ac amlygu amrywiaeth ar draws y DU, gan gynnwys anghyfiawnderau a phroblemau y mae aelodau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (Black, Asian and Minority Ethnic &#8211; BAME) o\u2019r gymuned yn parhau i\u2019w hwynebu (gweler <a href=\"https:\/\/www.blackhistorymonth.org.uk\/\">yma<\/a> am wybodaeth ar BMH BHM).<\/p>\n<p>Fel rhan o Seicoleg yn yr Athrofa, mae ein hymchwil yn canolbwyntio\u2019n gryf ar agweddau tuag at fewnfudo gan allgrwpiau hiliol ayyb, ac felly o safbwynt academaidd, rydym yn arbenigwyr ar faterion sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhagfarn a\u2019r gwahaniaethu y mae aelodau\u2019r gymuned BAME yn eu hwynebu, ond gweddw damcaniaeth heb unrhyw gymhwysiad, ac felly, roeddem am chwarae rhan fwy ymarferol fel petai.<\/p>\n<p>Eleni yn enwedig, oherwydd bod 70 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i\u2019r genhedlaeth Windrush gyrraedd (a\u2019r holl helynt eleni yngl\u0177n \u00e2\u2019u triniaeth fel dinasyddion Prydain), hanner canmlwyddiant ers cyhoeddi\u2019r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol yn y DU, a hefyd, hanner canmlwyddiant ers llofruddiaeth Dr Martin Luther King, yn ogystal \u00e2 materion sy\u2019n ymwneud \u00e2 mewnfudo a\u2019r ansicrwydd y mae Brexit wedi achosi i lawer o grwpiau ymfudol, gwnaethom deimlo ei bod hi\u2019n bwysig i ni fynd allan ac ymweld \u00e2\u2019n cymunedau gyda\u2019r hyn yr ydym yn ei wybod, ac yn ei dro, i ddysgu oddi wrth y cymunedau hynny.<\/p>\n<p>Drwy un o\u2019n cyn-fyfyrwyr sydd bellach yn gweithio i <a href=\"https:\/\/racecouncilcymru.org.uk\/\">Race Council Cymru<\/a> (RCC), gwnaethom gynnal trafodaethau ar sut i gael mwy o bobl i chwarae rhan yn yr hyn sy\u2019n digwydd yng Nghymru. Aethom at Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) i ofyn iddynt noddi digwyddiadau BHM ar draws Cymru, a gwnaethant gytuno gwneud hynny, ac felly aethom i\u2019r digwyddiadau hyn heb wybod yn iawn beth y dylem ddisgwyl; dau academydd gwyn yn mynychu digwyddiadau BHM ac yn ymdaflu eu hunain i\u2019w canol, yn rhoi sgyrsiau, yn cyflwyno dyfarniadau&#8230; a fydden nhw hyd yn oed am i ni fod yno?<\/p>\n<p>Yr ateb wrth gwrs yw, heb unrhyw amheuaeth, \u2018byddent\u2019. Ni chaiff problemau sy\u2019n ymwneud ag anghydraddoldeb, anghyfiawnder, amrywiaeth a dathlu eu datrys gan un gr\u0175p yn unig, ond drwy bob un ohonom yn cydweithio. Fel y dywedodd Simon Woolley, Cyfarwyddwr Operation Black Vote Operation Black Vote, yn un o\u2019i sgyrsiau yn ystod y digwyddiadau BHM, mae pawb sydd yn yr ystafell ac sydd \u00e2 diddordeb mewn cydraddoldeb yn blentyn i Dr Martin Luther King.<\/p>\n<p>Yn ystod y mis, cynhaliwyd digwyddiadau BHM ar draws Cymru, ac roedd y rhain yn bwysig oherwydd eu neges. Roedd hi\u2019n dipyn o hwyl hefyd eu mynychu. Mynychwyd y digwyddiad agoriadol a gynhaliwyd yn Adeilad Pierhead Cynulliad Cymru gan yr Aelodau Cynulliad Mark Drakeford a Vaughan Gething, Yr Arglwydd Herman Ouseley o D\u0177\u2019r Arglwyddi,\u00a0 Beverley Humphries o\u2019r BBC, a llawer mwy, ond y bobl a\u2019i stor\u00efau oedd uchafbwynt y digwyddiad; roedd eu cyraeddiadau, eu hymdrechion a\u2019u barn ar ein cymdeithas ni\u2019n anhygoel o addysgiadol i bawb, a dyna beth wnaeth y diwrnod hwnnw mor arbennig.<\/p>\n<p>Drannoeth, roeddwn yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar gyfer y digwyddiad celfyddydau diwylliannol. Roedd hwn yn gyfuniad gwych o ddod \u00e2\u2019r hanes a\u2019r cyfoes at ei gilydd, ynghyd \u00e2 pherfformiadau ffantastig gan rai o artistiaid cerddorol mwyaf talentog Cymru, a gwnaeth amlygu\u2019n fawr natur amrywiol ein cymdeithas Gymreig fodern, gyda llawer a oedd yn ymweld \u00e2\u2019r amgueddfa yn aros i ymuno yn y dathlu.<\/p>\n<p>Parhaodd y digwyddiadau BHM ar draws Cymru mewn llawer o leoliadau gwahanol: Aberystwyth, Casnewydd, Bangor, Abertawe, ond ceir ym mhob un ohonynt yr un naws o ddathlu, adfyfyrio a brwdfrydedd dros sicrhau cymdeithas gyfartal a llewyrchus i bawb. Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cyfrannu hyd yn oed ychydig at ddathlu BHM 2018, ac edrychwn ymlaen at gymryd rhan eto yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Gobeithiwn y gwnewch chwithau hefyd chwilio am rai o\u2019r digwyddiadau hyn a gynhelir yn eich ardal leol chi, a gwnawn eich annog eu mynychu a chymryd rhan; mae angen ar ein cymdeithas yr ymgysylltu hwnnw, ac yn ychwanegol at hyn, rwy\u2019n addo y gwnewch ei fwynhau!<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Dr Paul Hutchings a Katie Sullivan yn Seicolegwyr Cymdeithasol a Gwleidyddol yn Nisgyblaeth Academaidd Seicoleg Yr Athrofa. Eu maes ymchwil yw agweddau at aelodau grwpiau mewnol ac allgrwpiau<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Roedd Mis Hanes Pobl Dduon unwaith eto yn llwyddiant ysgubol eleni gyda digwyddiadau i\u2019w ddathlu yn cael eu cynnal ar draws y wlad. Ond beth y mae\u2019r cyfan amdano? Mae Dr Paul Hutchings a Katie Sullivan yn esbonio\u2026 &nbsp; Mae Mis Hanes Pobl Dduon (Black History Month &#8211; BHM yw\u2019r talfyriad) wedi cael ei ddathlu&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39138","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39138","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39138"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39138\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39138"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39138"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39138"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}