{"id":39139,"date":"2021-02-26T16:23:05","date_gmt":"2021-02-26T16:23:05","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/aros-neu-beidio-pam-maen-well-i-loegr-chwaraer-gem-aros-pan-maen-dod-ir-cwricwlwm\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:05","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:05","slug":"aros-neu-beidio-pam-maen-well-i-loegr-chwaraer-gem-aros-pan-maen-dod-ir-cwricwlwm","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/aros-neu-beidio-pam-maen-well-i-loegr-chwaraer-gem-aros-pan-maen-dod-ir-cwricwlwm\/","title":{"rendered":"Aros neu beidio? Pam mae\u2019n well i Loegr chwarae\u2019r g\u00eam aros pan mae\u2019n dod i\u2019r cwricwlwm"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Wrth i Gymru baratoi ar gyfer ei hatgyweiriad mwyaf o\u2019r cwricwlwm cenedlaethol mewn 30 mlynedd, mae Nick Rogers yn ystyried a ddylai Lloegr ei dilyn neu beidio&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Yn 2022 (os bydd popeth yn iawn a heb unrhyw rwystro pellach), bydd Cymru yn dechrau rhoi ar waith ei chwricwlwm cenedlaethol newydd ym mhob ysgol y wladwriaeth ar draws y wlad.<\/p>\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">cwricwlwm newydd a gynlluniwyd gan yr Athro Graham Donaldson<\/a>, mewn cydweithrediad ag athrawon ac ysgolion arloesol, yn cynrychioli cam ymlaen cyffrous i bolisi addysg Cymru.<\/p>\n<p>Gan symud i ffwrdd o bynciau traddodiadol a\u2019u newid am chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh), mae\u2019r cwricwlwm yn ceisio paratoi pobl ifanc yn well ar gyfer bywyd a\u2019u galluogi i ymaddasu\u2019n fwy cadarnhaol i sefyllfaoedd sy\u2019n newid, a\u2019u haddysgu, efallai am y tro cyntaf mewn cymaint o fanylder, am y byd digidol.<\/p>\n<p>Ar yr wyneb, mae\u2019r newid i weld yn gadarnhaol ac yn flaengar dros ben. Felly, tybed a ddylai Lloegr ddilyn?<\/p>\n<p>Yn gyntaf, byddai athrawon ar draws Lloegr wrth ei boddau yn manteisio ar y cyfle y cafodd athrawon Cymru i fod yn rhan o gynllunio\u2019r cwricwlwm.<\/p>\n<p>Gwn o brofiad fy hunan nad yw pob athro yn cytuno \u00e2 phopeth y mae\u2019n rhaid iddo ei addysgu sydd ar gwricwlwm cyfredol Lloegr.<\/p>\n<p>Byddai\u2019r rhan fwyaf o athrawon, o leiaf ar y cychwyn, yn croesawu\u2019r cyfle o fod yn rhan o gynllunio cwricwlwm ar gyfer pwnc maent yn ei hoffi\u2019n fawr.<\/p>\n<p>Ond gallai hyn newid unwaith y mae\u2019r athrawon yn ystyried faint o waith ychwanegol y byddai hyn yn ei olygu ar ben ei bywydau prysur, ond er hynny, mae\u2019r syniad o gael dweud eich dweud am gwricwlwm Lloegr yn un deniadol.<\/p>\n<p>Yn bendant, mae\u2019r ffocws newydd ar gymwyseddau digidol hefyd yn ddeniadol, gyda thechnoleg yn symud ymlaen mor gyflym ac yn dod (os nad yw yn barod) yn rhan mor annatod o\u2019r ffordd y mae\u2019r byd yn gweithio.<\/p>\n<p>Ond nid yw\u2019r ffaith y byddai athrawon yn croesawu\u2019r cyfle i lunio cwricwlwm newydd o reidrwydd yn golygu bod angen cwricwlwm newydd.<\/p>\n<p>Gadewch i ni edrych, er enghraifft, ar y Rhaglen ar gyfer Profion Rhyngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA).<\/p>\n<p>Defnyddir profion PISA gan lawer o wledydd ar draws y byd fel ffordd o gymharu eu systemau addysg.<\/p>\n<p>Roedd canlyniadau Lloegr ym mhrofion PISA 2015 yn uwch na sg\u00f4r cyfartalog Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth.<\/p>\n<p>Yn yr un flwyddyn, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/09\/29\/addysg-yng-nghymru-cenhadaeth-ein-cenedl\/\">roedd canlyniadau Cymru yn is na\u2019r sg\u00f4r cyfartalog yn yr un tri phrawf<\/a>.<\/p>\n<p>Mae\u2019n bosibl y gallai fod Cymru wedi penderfynu ar ddiwygio ei chwricwlwm am nad yw\u2019n perfformio gystal \u00e2 gweddill y DU. Mae canlyniadau Cymru yn is na sg\u00f4r cyfartalog yr OECD mewn profion PISA, ac mae\u2019n rhaid gwneud rhywbeth i fynd i\u2019r afael \u00e2 hynny.<\/p>\n<p>Os yw Lloegr yn perfformio\u2019n dda yn y profion PISA, yna, pam y mae Lloegr hyd yn oed yn ystyried atgyweirio ei chwricwlwm?<\/p>\n<p>Yr ateb yw \u2013 Ni ddylai Lloegr atgyweirio ei chwricwlwm&#8230; eto.<\/p>\n<p>Os atal Cymru rhag cwympo yn bellach yn \u00f4l na gweddill y DU yw bwriad y rhesymu sydd y tu \u00f4l i\u2019r diwygiadau i addysg Cymru, yna dylai gweddill y DU aros i weld beth sy\u2019n digwydd.<\/p>\n<p>Mae cwricwlwm newydd Cymru yn eithaf radical o ran ei ddatblygiad a\u2019i gynnwys (er iddo ddilyn tuedd ryngwladol diwygio\u2019r cwricwlwm), a dylai gweddill y DU gadw llygad barcud ar ganlyniadau\u2019r fath ddiwygio radical.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/03\/26\/dysgu-gwersir-alban-adeiladu-cwricwlwm-ar-graig-ac-nid-ar-dywod\/\">Y mae rhai elfennau o gwricwlwm newydd Cymru i\u2019w gweld<\/a>, i mi, fel athro, yn ddeniadol iawn.<\/p>\n<p>Er enghraifft, mae\u2019n ymddangos fel petai datblygiad y chwe maes dysgu a phrofiad, gan gynnwys un sy\u2019n canolbwyntio ar y celfyddydau mynegiannol, yn rhoi i bob pwnc yr un pwysigrwydd cyfartal, ac mae hyn o ddiddordeb mawr i mi (mae\u2019n cyferbynnu\u2019n hollol \u00e2\u2019r mesur Progress 8\u00a0Progress 8\u00a0y cyflwynodd Llywodraeth y DU, sy\u2019n ystyried mai mathemateg a Saesneg yw\u2019r pynciau mwyaf pwysig yn ysgolion Lloegr).<\/p>\n<p>Ond nid yw\u2019r ffaith ei fod yn edrych yn ddeniadol yn golygu y dylai Lloegr ruthro i gop\u00efo diwygio Cymru ar unwaith.<\/p>\n<p>Yr unig bren mesur go iawn sydd gennym ar gyfer mesur system addysg y naill wlad yn erbyn y llall yw\u2019r profion PISA. Felly, dylai gwneuthurwyr polis\u00efau yn Lloegr barhau i gadw llygad ar agor i weld a wnaiff sgoriau PISA Cymru wella unwaith i\u2019r cwricwlwm newydd gael amser i ymsefydlu.<\/p>\n<p>Gallai hyn olygu aros am 10 mlynedd neu fwy cyn penderfynu a yw\u2019r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn llwyddiannus neu beidio, ond am fod Lloegr yn perfformio\u2019n dda ar hyn o bryd, gallwn fforddio aros.<\/p>\n<p>Gallai hyn hefyd roi cyfle i wneuthurwyr polis\u00efau yn Lloegr nodi\u2019r meysydd penodol hynny yng nghwricwlwm newydd Cymru sy\u2019n gweithio\u2019n dda a\u2019u hymgorffori yn system Lloegr, gan adael ar \u00f4l y newidiadau hynny sydd yn llai effeithiol.<\/p>\n<p>Byddwn yn dadlau bod unrhyw newid sy\u2019n gwella cwricwlwm yn newid cadarnhaol, felly dylai Lloegr bob amser ystyried newid ei chwricwlwm os oes unrhyw bosibilrwydd o\u2019i wella.<\/p>\n<p>Er hynny, nid yw pob newid bob amser yn beth da, a gall Lloegr aros.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Nick Rogers yn athro cerddoriaeth mewn ysgol uwchradd yn Llundain. Mae hefyd yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf ar raglen <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/doethuriaeth-addysg\/\">Doethuriaeth mewn Addysg<\/a> Yr Athrofa<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth i Gymru baratoi ar gyfer ei hatgyweiriad mwyaf o\u2019r cwricwlwm cenedlaethol mewn 30 mlynedd, mae Nick Rogers yn ystyried a ddylai Lloegr ei dilyn neu beidio&#8230; &nbsp; Yn 2022 (os bydd popeth yn iawn a heb unrhyw rwystro pellach), bydd Cymru yn dechrau rhoi ar waith ei chwricwlwm cenedlaethol newydd ym mhob ysgol y&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39139","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39139","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39139"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39139\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39139"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39139"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39139"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}