{"id":39140,"date":"2019-01-13T16:23:00","date_gmt":"2019-01-13T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/toddi-plu-eira-ar-gyfer-oes-addysg-newydd\/"},"modified":"2021-02-28T22:30:39","modified_gmt":"2021-02-28T22:30:39","slug":"toddi-plu-eira-ar-gyfer-oes-addysg-newydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/01\/13\/toddi-plu-eira-ar-gyfer-oes-addysg-newydd\/","title":{"rendered":"Toddi plu eira ar gyfer oes addysg newydd"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae paratoi\u2019r genhedlaeth nesaf o athrawon ystafell ddosbarth yn bwysig dros ben, ond dadl Elaine Sharpling yw bod gor-ddiogelu myfyrwyr ac esgeuluso heriau go iawn yn gallu rhwystro eu datblygiad. Cynigia Elaine, yn y blog craff hwn, ddewis arall i\u2019r hyn a elwir \u2018y genhedlaeth blu eira\u2019 gan alw am ymagwedd fwy pragmatig at addysg athrawon&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Fel addysgwr athrawon, mae\u2019n fraint ac yn bleser gennyf i weithio gydag amrywiaeth eang o athrawon dan hyfforddiant sydd newydd ddechrau ar eu gyrfaoedd ym myd addysg. Yn gyffredinol, mae\u2019r myfyrwyr yn frwdfrydig, yn gryf eu cymhelliad ac am gyflawni eu gorau glas. Mae\u2019r rhinweddau hyn yn rhai campus, ac yn rhai yr hoffem weld gan bob dysgwr ar draws system addysg soffistigedig.<\/p>\n<p>Rwyf wedi bod yn adfyfyrio yn ddiweddar ar sut y mae\u2019r rhinweddau hyn yn cael eu hamlygu <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/professional-learning-partnership\/\">mewn rhaglenni addysg athrawon<\/a>, a sut mae pob un ohonom yn chwarae rhan wrth gyflawni\u2019r deilliannau a rennir hyn.<\/p>\n<p>Yn fwyfwy, caiff rhaglenni astudio prifysgolion eu hystyried yn atebol, a chaiff gwahanol fesurau eu rhoi mewn lle er mwyn penderfynu a ydynt yn ateb y gofyn neu beidio. Mae\u2019r Arolygon Cenedlaethol o Fyfyrwyr, Fframweithiau Rhagoriaeth Addysgu a data cyrchfannau, pob un ohonynt, yn enghreifftiau o\u2019r ffyrdd y caiff llais y myfyriwr ei glywed, ond yn fwy pwysig, ei gredu a\u2019i barchu.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, y mae hyn yn bwysig, ac ni fyddai neb yn dadlau y dylem ganiat\u00e1u rhaglenni gradd drud neu rai sy\u2019n cael eu cyflwyno\u2019n wael i redeg, ac wrth wneud hynny, cynnig gobaith gwag i fyfyrwyr o ran cyfleoedd gwaith a dilyniant gyrfa. Dylid gwerthfawrogi bod yn atebol i\u2019r cyhoedd a thryloywder, ac mae angen gwybodaeth gadarn ar fyfyrwyr os ydynt am wneud dewisiadau deallus.<\/p>\n<p>Er hynny, pe bai\u2019r myfyriwr a\u2019r tiwtor yn y brifysgol yn rhannu\u2019r un uchelgeisiau, sef y rhinweddau o fod yn frwdfrydig tuag at ddysgu, yn gryf eu cymhelliad ac yn ymdrechu i gyflawni\u2019r gorau, yna y mae lle i\u2019r ddau lais gael eu clywed.<\/p>\n<p>Mae\u2019r &#8216;The Coddling of the American Mind: How Good Intentions and Bad Ideas are Setting Up a Generation for Failure&#8217;, a ysgrifennwyd gan Greg Lukianoff a Jonathan Haidt, yn ddadansoddiad o sut y gallai fod bwriadau da ym myd addysg prifysgolion wedi arwain yn anfwriadol at or-ddiogelu myfyrwyr ac felly rhwystro eu datblygiad. Rwy\u2019n cefnogi\u2019r farn bod ceisio i greu cynwysoldeb drwy amddiffyn myfyrwyr rhag effaith geiriau, syniadau a ffordd o feddwl a allai achosi anghysur emosiynol arwain at \u2018genhedlaeth nad yw wedi\u2019i pharatoi\u2019n ddigonol, naill ai\u2019n ddeallusol nac yn emosiynol, ar gyfer byd cynyddol ddyrys a chymhleth\u2019 (Rabi Arglwydd Jonathan Sacks).<\/p>\n<p>Mae eraill yn disgrifio hwn fel&nbsp; nodweddion y \u2018genhedlaeth blu eira\u2019, un lle caiff pobl ifanc eu gor-ddiogelu, lle maent yn dangos llai hydwythdedd ac maent yn fwy tebygol na\u2019u rhagflaenyddion o ddigio.<\/p>\n<p>Pe baem yn disgrifio hyn naill ai fel maldodi meddyliau neu blu eira, bydd goblygiadau hirdymor i\u2019n system addysg gyfan os bydd myfyrwyr yn methu cofleidio\u2019r byd sydd ohoni (gyda\u2019i syniadau cymhleth a chystadleuol) gan orfodi newid er mwyn osgoi heriau ac er mwyn cyflawni eu hanghenion unigol. A dweud y gwir, sut gwnaiff athrawon dan hyfforddiant fynd i\u2019r afael ag amcan y cwricwlwm newydd i greu dysgwyr uchelgeisiol a galluog os nad ydynt yn hoff o gymryd risg ac os ydynt yn addysgu o sefyllfa gyfforddus?<\/p>\n<p>Mae fy mhrofiad innau fel tiwtor mewn prifysgol wedi gweld y math hwn o \u2018faldodi\u2019 yn dechrau ymddangos o fewn rhaglenni prifysgolion, er iddo ddigwydd oherwydd bwriadau da a theilwng.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar iawn, mae wedi ymddangos fel cynnydd yn nifer y cynigion diamod ac fel gostyngiad canfyddedig &nbsp;yn safonau\u2019r gofynion mynediad \u2013 ac mae\u2019r weithred hon hefyd yn cael effaith anfwriadol drwy ddiysgogi myfyrwyr a fyddai\u2019n flaenorol wedi ymdrechu i ennill graddau mynediad da.<\/p>\n<p>Ein nod ym myd addysg athrawon yw codi\u2019r bar o ran mynediad ac felly rhoi rhyw arwydd bod ein system addysg yn haeddu cael ei gwerthfawrogi. Er hynny, nid ydym yn rhydd o rai elfennau maldodi ac mae angen i ni ailffocysu ein nerthoedd wrth baratoi athrawon dan hyfforddiant i fod yn addysgwyr cenedlaethau\u2019r dyfodol. Credaf, yn enwedig, fod yna risg i ddatblygiad meddwl yn feirniadol, rhywbeth a ddylai fod wrth galon addysg mewn prifysgol ac yn sail i\u2019r proffesiwn addysgu.<\/p>\n<p>Mae Lukianoff a Haidt yn awgrymu bod caniat\u00e1u\u2019r myfyrwyr&nbsp; i fabwysiadu\u2019r safiad o &#8216;ymddiried bob amser yn eich teimladau&#8217; yn un ffordd y gellid rhwystro datblygiad meddwl yn feirniadol. Mae\u2019r elfen faldodi benodol hon yn dibynnu ar ymresymu emosiynol ac mae\u2019n rhoi lle i\u2019r myfyriwr greu sgem\u00e2u gwyrgam yngl\u0177n \u00e2 syniadau a thasgau. Wrth addysgu, gall hwn gael ei drosglwyddo i\u2019r disgyblion, er enghraifft \u2018Nid yw fy Mathemateg i yn dda\u2019 neu \u2018Rwyt ti\u2019n llawer gwell na fi yn arlunio\u2019.<\/p>\n<p>Os ydy meddwl yn feirniadol yn ymrwymiad i hysbysu eich syniadau gan ddefnyddio tystiolaeth ddibynadwy, ac i gydnabod efallai y bydd rhaid i\u2019r sefyllfa hon newid ar dderbyn tystiolaeth wahanol, yna, y mae buddsoddi mewn teimladau yn hollol annibynadwy ac yn anfeirniadol. Yn ogystal \u00e2 hyn, y mae dibynnu ar deimladau yn rhwystr i ymddygiad ysgolheigaidd ac mae ganddo\u2019r potensial i rwystro cynnydd ym maes addysg drwy ddibynnu ar feddwl mewn ffordd gul.<\/p>\n<p>Un elfen o ymddygiad a allai gyfrannu at y dibynnu ar deimladau hwn yw\u2019r tueddiad cynyddol o drychinebu \u2013 a gall hyn gynnwys canolbwyntio ar y canlyniad gwaethaf posibl&nbsp; e.e. \u201cRwyf yn mynd i fethu beth bynnag\u2019 a thrwy or-ddramateiddio digwyddiad penodol e.e. \u2018Nid oes gan y llyfrgell unrhyw lyfrau,\u2019 pan fo athro dan hyfforddiant wedi ymdrechu i ddod o hyd i erthygl benodol neu destun.<\/p>\n<p>Hyd yn oed ar ei orau, gall trychinebu arwain at diwtor yn y brifysgol, neu\u2019r mentor ysgol-seiliedig yn cael ei ymglymu gan y broses hir o ddiffiwsio ymateb emosiynol, naill ai gyda myfyrwyr unigol neu gyda charfan o fyfyrwyr. Dim ond ar \u00f4l llwyddo adfer cydbwysedd mwy gwrthrychol gall unrhyw ymgysylltu \u00e2 meddwl yn feirniadol hyd yn oed ddechrau.<\/p>\n<p>Ar ei waethaf, gall pwysau atebolrwydd, yn enwedig oherwydd yr arolygon allanol, arwain&nbsp; at drychinebu dwyochrog ar ran y tiwtor yn y brifysgol sydd hefyd mewn perygl o ymateb yn emosiynol. Mae\u2019r pryder o dderbyn adborth negyddol drwy amrywiol allfeydd Llais y Myfyriwr yn real iawn a gall roi bywoliaethau yn y fantol. Rywbryd, bydd rhaid i rywun gasglu\u2019r dystiolaeth a lleddfu\u2019r ystumiad er mwyn adfer y cydbwysedd.<\/p>\n<p>Mae dysgu sut i fod yn athro yn gymhleth. Nid yw\u2019r plant sy\u2019n cael eu casglu\u2019n artiffisial i mewn i ystafell ddosbarth yn gr\u0175p homogenaidd ond yn unigolion hynod sydd yn wastad yn newid. Bydd angen cyfarparu athrawon dan hyfforddiant os ydynt am lwyddo yn yr amgylchedd hwn drwy sicrhau bod ganddynt sgiliau meddwl yn feirniadol wrth flaenau eu bysedd a\u2019u bod nhw\u2019n ymwybodol o\u2019r risgiau sydd yn gysylltiedig ag ymateb yn emosiynol.<\/p>\n<p>Ceir wrth galon datblygu sgiliau beirniadol yr angen i ymgysylltu \u00e2, a chael eich hysbysu gan ymchwil \u2013 nid mewn hen d\u0175r llychlyd gyda llyfrau o\u2019ch cwmpas ond yn yr ystafell ddosbarth, ar safle\u2019r ymarfer. Mae angen addysgu\u2019n eglur mewn rhaglenni addysg athrawon y sgiliau ymarferol o fod yn foesegol, yn amheugar, yn ymchwilydd medrus, a bod yn rhan o broffesiwn holgar (Orchard a Winch 2015). Awgrymaf fod hyn yn wrthwenwyn cryf os am wrthsefyll y risg o faldodi.<\/p>\n<p>Y sgiliau hyn yw amddiffyniad athrawon dan hyfforddiant a\u2019u tocyn i dyfu \u2013 mae\u2019n hollol bosibl i gael eich herio, i oroesi ac oherwydd hynny, i ddatblygu safbwynt gwahanol sy\u2019n arwain at ddilyniant.<\/p>\n<p>Hefyd, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">mae lansiad y cwricwlwm newydd<\/a>, sydd ar ddigwydd, ac sydd wedi\u2019i seilio ar egwyddorion arweiniol cyfrifolaeth, yn golygu bod angen i\u2019r <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/11\/06\/torri-hualau-diwygior-cwricwlwm\/\">proffesiwn addysgu cyfan symud o gyflwyno cwricwlwm parod a throi yn ddylunwyr cwricwlwm<\/a>. Bydd rhaid trafod dogfennau cwricwlwm lefel uchel, a\u2019u dadlau a\u2019u dehongli yn feirniadol er mwyn cyrraedd at bersbectif unigryw ar gyfer pob lleoliad ysgol.<\/p>\n<p>Bydd angen dod \u00e2 holl briodoleddau meddwl yn feirniadol i\u2019r blaen ar hwn. Os ydy athrawon y dyfodol am gael doethineb ymarferol (pan fydd gwybodaeth ddeallusol a gwybodaeth drwy brofiad yn cwrdd yn yr ystafell ddosbarth) yna, bydd rhaid i\u2019r termau \u2018tystiolaeth ymchwil\u2019, \u2018a hysbysir gan ymchwil\u2019 a \u2018tystiolaeth broffesiynol\u2019 fod yn rhan o\u2019r eirfa addysgu newydd.<\/p>\n<p>Ac felly, mae gan bob un ohonom ran i\u2019w chwarae yn y tirlun newid addysg chwyldroadol hwn, ac rwy\u2019n hollol argyhoeddedig pe baem yn canolbwyntio o\u2019r newydd ar ddatblygu meddwl yn feirniadol, na chaiff ein hathrawon dan hyfforddiant eu maldodi, ac ni fyddant yn blu eira chwaith. Yr arloeswyr holgar sy\u2019n ymateb i her ac sy\u2019n dysgu\u2019n gyson yw\u2019r rhai a fydd yn gwneud yr holl wahaniaeth mewn byd ar \u00f4l Donaldson.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Elaine Sharpling yw Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon, Yr Athrofa: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae paratoi\u2019r genhedlaeth nesaf o athrawon ystafell ddosbarth yn bwysig dros ben, ond dadl Elaine Sharpling yw bod gor-ddiogelu myfyrwyr ac esgeuluso heriau go iawn yn gallu rhwystro eu datblygiad. Cynigia Elaine, yn y blog craff hwn, ddewis arall i\u2019r hyn a elwir \u2018y genhedlaeth blu eira\u2019 gan alw am ymagwedd fwy pragmatig at addysg&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39471,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[],"class_list":["post-39140","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39140","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39140"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39140\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39485,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39140\/revisions\/39485"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39471"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39140"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39140"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39140"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}