{"id":39141,"date":"2019-02-11T16:23:00","date_gmt":"2019-02-11T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/cwricwlwm-syn-perthyn-i-bobl-cymru\/"},"modified":"2021-02-28T22:24:38","modified_gmt":"2021-02-28T22:24:38","slug":"cwricwlwm-syn-perthyn-i-bobl-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/02\/11\/cwricwlwm-syn-perthyn-i-bobl-cymru\/","title":{"rendered":"Cwricwlwm sy\u2019n perthyn i bobl Cymru"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Wrth i\u2019r gwaith o ddatblygu cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru brysuro, galwa\u2019r Athro Mererid Hopwood ar yr holl randdeiliaid i fod yn uchelgeisiol a chadw meddwl agored o ran y cyfleoedd mae\u2019n eu cynnig&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Wrth i\u2019r tymor newydd ruthro yn ei flaen, rhaid edmygu\u2019r Arloeswyr sy\u2019n dal ati mor ddygn. Gyda dyddiad cyflwyno eu datganiadau ar orwel agos iawn, maen nhw\u2019n clwydo ychydig yn hwyrach a chodi ychydig ynghynt i baratoi gwersi, marcio ac asesu er mwyn gallu rhoi diwrnod arall at achos Creu\u2019r <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/06\/01\/dilyniant-dysgu-i-gymru\/\">Cwricwlwm Newydd<\/a>. C\u00e2nt eu gyrru ymlaen gan wybod, o blith yr holl ddatganiadau \u2018Yr Hyn Sy\u2019n Bwysig\u2019, fod hyn yn Bwysig Go Iawn.<\/p>\n<p>Dyma gyfle unigryw i sicrhau y bydd cenedlaethau nesaf Cymru\u2019n tyfu i fod yn ddinasyddion iach, creadigol, mentrus, uchelgeisiol, gwybodus am Gymru a\u2019r byd \u2013 ac yn ddysgwyr hyderus gydol-oes.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gair&nbsp;hyder&nbsp;yn bwysig. Dyma\u2019r allwedd sy\u2019n agor drws yr amcanion eraill. Heb roi&nbsp;hyder&nbsp;i\u2019n pobl ifanc ni, go brin y gellid disgwyl iddynt fagu uchelgais na mentergarwch na chreadigrwydd, heb s\u00f4n am fod yn iach o gorff a meddwl.<\/p>\n<p>Ac o ble daw&nbsp;hyder? Dywedir mai\u2019r athrylith o\u2019r Almaen, Goethe, a fathodd yr ymadrodd mai dau beth y dylid eu trosglwyddo i\u2019r genhedlaeth nesaf: \u2018gwreiddiau ac adenydd\u2019. Ac er bod tyndra amlwg rhwng y ddau syniad yma \u2013 y gwreiddiau ar y naill law yn ein cadw mewn un lle, yr adenydd ar y llall yn caniat\u00e1u i ni hedfan \u2013 mae rhywun yn deall yn iawn beth yw ergyd y dweud.<\/p>\n<p>Er gwaetha\u2019r paradocs ymddangosiadol, deallwn sut bod cael gwreiddiau cadarn yn gallu rhoi i blant yr hyder i fentro ar adenydd uchelgais a chywreinrwydd, a phrofi\u2019r byd mawr o\u2019u cwmpas.<\/p>\n<p>(Dylid nodi wrth gwrs bod gwahaniaeth sylfaenol rhwng \u2018ffoi\u2019 a \u2018hedfan\u2019 \u2013 \u2018flee and fly\u2019 yn Saesneg. Nid dianc yw ymgyrraedd yn uchel. Gwareded ni rhag creu cwricwlwm sy\u2019n plannu uchelgais ffoi yng nghalonnau\u2019n dysgwyr ni!)<\/p>\n<p>Sut felly mae meithrin y gwreiddiau? Mae hyn yn dibynnu ar feithrin synnwyr o berthyn, oherwydd mae\u2019n rhan o\u2019r syniad gwaelodol hwnnw o adnabod ein hunain yn eraill; ac fel holodd Waldo, beth yw adnabod ond cael \u2018un gwraidd dan y canghennau\u2019; yr un gwraidd hwnnw sy\u2019n ein hatgoffa ni ein bod i gyd yn rhannu\u2019r un stori yn y b\u00f4n.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar roeddwn yn annerch criw o bobl yn eu hugeiniau a oedd wedi derbyn eu haddysg yng Nghymru. Gofynnais iddynt daro ar bapur un peth diddorol am y lle y\u2019u maged. Bu tawelwch. Neb yn sgrifennu dim. Yna, rhoddais restr o ddyddiadau ar y bwrdd gwyn, 383, 1066, 1536, 1588, 1847, 6\/5\/1999. Yr unig ddyddiad a ganai gloch iddynt oedd 1066. Rhifau oedd y lleill heb unrhyw arwyddoc\u00e2d.<\/p>\n<p>Mae\u2019n hen bryd i ni yng Nghymru agor ein llygaid a\u2019n meddyliau a mynd ati i ddysgu am y stori sydd o\u2019n cwmpas yn ein caeau a\u2019n bryniau a\u2019n mynyddoedd, yn ein nentydd a\u2019n hafonydd a\u2019n moroedd, yn ein cymunedau a\u2019n teuluoedd. <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/04\/27\/celfyddyd-y-gymraeg-ac-addysg\/\">Mae hon yn stori sy\u2019n cynnwys pawb sydd ac a ddaw i fyw i Gymru<\/a>.<\/p>\n<p>Ein braint ni yw ei rhannu \u2013 yr hanesion a\u2019r hanes, ac ychwanegu ati, pob un ohonom yn dod \u00e2\u2019n lliwiau amrywiol ein hunain i\u2019w chyfoethogi. Dyma\u2019r ffordd i gryfhau\u2019r gwreiddiau sy\u2019n rhoi i ni ein synnwyr o berthyn. A dyma\u2019r ffordd a fydd wedyn yn cyfannu ein cymdeithas ac yn ein galluogi i gyrraedd dyfodol llwyddiannus.<\/p>\n<p>Gofynnais i\u2019r un criw faint oedd yn medru\u2019r Gymraeg. Llond dwrn yn unig gododd law, er eu bod i gyd wedi derbyn gwersi Cymraeg am ddeng mlynedd a mwy, a\u2019u bod, o raid felly, yn medru rhywfaint ar yr iaith.<\/p>\n<p>Wrth i\u2019r cwricwlwm newydd weithio tuag at gyflawni hawl pob disgybl yng Nghymru i ddod yn siaradwyr hyderus dwy iaith swyddogol y wlad y maen nhw\u2019n byw ynddi, rhaid i ni roi heibio\u2019r syniad cyfeiliornus mai ystyr \u2018bod yn ddwyieithog\u2019 yw medru siarad dwy iaith gydag union yr un rhuglder.<\/p>\n<p>Mae graddfeydd amrywiol iawn o ddwyieithrwydd, a gan mai un cam allweddol ar y daith i ddod yn siaradwyr ystwyth o unrhyw iaith yw cael digon o hyder i fentro arni, rhaid cofleidio pob graddfa. Fel rwy\u2019n hoffi atgoffa pobl, os ydych chi\u2019n gwybod nad ystyr arwydd fel \u2018Allan\/Exit\u2019 yw bod rhaid i bawb o\u2019r enw Alan adael ar frys, yna rydych eisoes wedi dechrau ar daith y Gymraeg\u2026 ac os allwch chi ddweud \u2018Llanelli\u2019 rydych wedi teithio milltir go lew!<\/p>\n<p>Fel gyda\u2019r gwaith o rannu ein hanes a\u2019n hanesion, rhaid i ni hefyd fod yn llawer mwy agored ein meddyliau wrth ymdrin ag iaith os ydym am weld y cwricwlwm newydd hwn yn ein cyfannu\u2019n ieithyddol.<\/p>\n<p>Nid creu unffurfiaeth ddi-liw mo hyn. I\u2019r gwrthwyneb. Creu amrywiaeth gynhwysol ydyw, lle mae gan bawb yr un breintiau a\u2019r un set o allweddi i gael mynediad at yr un stori fawr ac at yr hyder i ychwanegu ati \u2013 a hynny drwy gyfrwng o leiaf ddwy iaith.<\/p>\n<p>Allwn ni ddim gobeithio gweld dyfodol llwyddiannus i ni fel casgliad o unigolion oni bai ein bod ni\u2019n magu synnwyr o berthyn; ystyr \u2018Cymru\u2019, wedi\u2019r cyfan, yw\u2019r \u2018wlad ar y cyd\u2019 \u2013 ac rwy\u2019n meddwl yn aml y byddai \u2018The Together Land\u2019 yn gyfieithiad mwy cymwys na \u2018Wales\u2019.<\/p>\n<p>Bid a fo am hynny. Gyda\u2019n gilydd rhaid cofleidio\u2019r cyfle hwn i\u2019n cyfannu fel trigolion gwlad fach a thrigolion byd mawr, er mwyn codi\u2019n hyder a thrwy hynny ymgyrraedd at bedwar diben clodwiw\u2019r <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">cwricwlwm newydd<\/a>.<\/p>\n<p>Arloeswyr: daliwch ati!<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae\u2019r Athro Mererid Hopwood yn arbenigwraig mewn Ieithoedd a\u2019r Cwricwlwm Cymreig yn yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth i\u2019r gwaith o ddatblygu cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru brysuro, galwa\u2019r Athro Mererid Hopwood ar yr holl randdeiliaid i fod yn uchelgeisiol a chadw meddwl agored o ran y cyfleoedd mae\u2019n eu cynnig&#8230; &nbsp; Wrth i\u2019r tymor newydd ruthro yn ei flaen, rhaid edmygu\u2019r Arloeswyr sy\u2019n dal ati mor ddygn. Gyda dyddiad cyflwyno eu datganiadau&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39473,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[],"class_list":["post-39141","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39141","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39141"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39141\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39480,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39141\/revisions\/39480"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39473"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39141"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39141"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39141"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}