{"id":39142,"date":"2019-02-22T16:23:00","date_gmt":"2019-02-22T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/cwricwlwm-arloesol-dan-arweiniad-athrawon-trawsnewidiol\/"},"modified":"2021-02-28T22:20:15","modified_gmt":"2021-02-28T22:20:15","slug":"cwricwlwm-arloesol-dan-arweiniad-athrawon-trawsnewidiol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/02\/22\/cwricwlwm-arloesol-dan-arweiniad-athrawon-trawsnewidiol\/","title":{"rendered":"Cwricwlwm arloesol dan arweiniad athrawon trawsnewidiol"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae cwricwlwm cenedlaethol Cymru yn datblygu\u2019n gyflym ac mae ysgolion, colegau a phrifysgolion ar draws y wlad yn paratoi ar gyfer newid. Ond gyda newidiadau y daw cyfleoedd ac, yn \u00f4l yr Athro Dylan E. Jones, ni fu erioed gwell amser i fod yn athro yng Nghymru\u2026<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae Addysg yng Nghymru yn newid \u2013 a rhoddwyd rhyddid i athrawon ein tywys trwy\u2019r trawsnewid hwnnw.<\/p>\n<p>Am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd, mae\u2019r proffesiwn yn cael ei annog i arloesi, rhoi cynnig ar bethau newydd a meddwl o\u2019r newydd am yr hyn mae\u2019n ei olygu i fyw, gweithio a dysgu yng Nghymru.<\/p>\n<p>Nid yw ein trefniadau cwricwlwm presennol, a luniwyd yn 1988 cyn y We Fyd-eang, yn addas at y diben bellach.<\/p>\n<p>Rydym yn byw mewn byd gwahanol iawn; mae datblygiadau technolegol wedi newid y meini prawf ac mae\u2019r sgiliau lefel uwch a fynnir gan gyflogwyr wedi newid.<\/p>\n<p>Mae beth a sut mae plant yn dysgu wedi esblygu, ac mae <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/02\/11\/cwricwlwm-syn-perthyn-i-bobl-cymru\/\">cwricwlwm newydd<\/a> yn cael ei lunio a\u2019i ddatblygu yn barod ar gyfer cyfnod newydd cyffrous.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cynllun y cytunwyd arno i gynorthwyo symud arfer dosbarth yn ei flaen yn seiliedig ar bedwar diben, sef bod plant a phobl ifanc yn datblygu:<\/p>\n<ul>\n<li>yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy\u2019n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes<\/li>\n<li>yn gyfranwyr mentrus, creadigol, sy\u2019n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a\u2019u gwaith<\/li>\n<li>yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a\u2019r byd<\/li>\n<li>yn unigolion iach, hyderus sy\u2019n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae chwe \u2018Maes Dysgu a Phrofiad\u2019 (MDPh) yn cael eu sefydlu i helpu ysgolion i gyflawni\u2019r pedwar diben, ac maent yn rhychwantu\u2019r ystod oedran gyfan o 3 i 16.<\/p>\n<p>Maent yn hyrwyddo ac yn darparu sail ar gyfer parhad a dilyniant, ac yn annog athrawon i weithio\u2019n greadigol ac yn gydweithredol ar draws ffiniau pwnc traddodiadol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r chwe MDPh a\u2019u deunyddiau ategol, bron wedi\u2019u cwblhau ac yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Celfyddydau mynegiannol<\/li>\n<li>Iechyd a lles<\/li>\n<li>Dyniaethau<\/li>\n<li>Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu<\/li>\n<li>Mathemateg a rhifedd<\/li>\n<li>Gwyddoniaeth a thechnoleg<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019r Athrofa ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi bod yn flaenllaw ac yn ganolog yn yr esblygiad hwn.<\/p>\n<p>Mae ein staff addysgu ac ymchwil arbenigol wedi cynorthwyo ysgolion i ddatblygu\u2019r chwe MDPh a lluniwyd fframwaith i olrhain cynnydd dysgwyr.<\/p>\n<p>Yn gysylltiedig \u00e2 hynny, mae cydweithwyr yn yr Athrofa\u2019n gweithio gydag athrawon ar hyn o bryd i nodi\u2019r goblygiadau dysgu proffesiynol yn deillio o\u2019r trefniadau newydd, yn barod ar gyfer cyflwyno\u2019r cwricwlwm am y tro cyntaf yn 2022.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/06\/01\/dilyniant-dysgu-i-gymru\/\">Nid oes yr un brifysgol arall yng Nghymru wedi cael yr un lefel o gyfranogiad yn y broses ddiwygio<\/a> ac rydym ni\u2019n eithriadol o falch o\u2019n cyfraniadau hyd yn hyn.<\/p>\n<p>Dywedir yn aml na all ansawdd system addysg ragori ar ansawdd ei hathrawon.<\/p>\n<p>Ac nid yw hynny\u2019n fawr o syndod, o gofio\u2019r effaith arwyddocaol a pharhaol a gaiff athrawon ar y disgyblion yn eu gofal.<\/p>\n<p>Mae athrawon yn weithredwyr newid a, hebddynt, does fawr o obaith i Gymru gyrraedd yr uchelfannau yr ydym ni i gyd yn anelu atynt.<\/p>\n<p>Mae\u2019r athrawon rydw i\u2019n eu hadnabod yn angerddol, yn gadarn ac yn adfyfyriol a\u2019r rhinweddau hyn fydd yn eu galluogi i fwrw ymlaen yn ddygn \u00e2\u2019r system addysg newydd a chyffrous yr ydym wrthi\u2019n ei datblygu ar y cyd.<\/p>\n<p>Ond mae gan brifysgolion hefyd ran arwyddocaol i\u2019w chwarae ac mae\u2019n hanfodol fod gan athrawon y presennol a\u2019r dyfodol y sgiliau a\u2019r wybodaeth angenrheidiol i ddarparu cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru.<\/p>\n<p>Bydd gwella ansawdd yr hyfforddiant sydd ar gael, ar bob cam yn natblygiad gyrfa, yn hanfodol ac nid yw cynnal y status quo bellach yn opsiwn.<\/p>\n<p>Dyna pam <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/addysg-athrawon\/\">mae casgliad newydd yr Athrofa o raglenni addysg athrawon<\/a> wedi\u2019u llunio gydag agenda ddiwygio uchelgeisiol Cymru yn gadarn mewn cof.<\/p>\n<p>Mae ein cwricwlwm newydd yn arloesol a blaengar, ac wedi denu diddordeb o wledydd ar draws y byd.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019r cyfle i saern\u00efo rhywbeth gwirioneddol wahanol, gyda buddiannau gorau Cymru\u2019n greiddiol iddo, yn codi\u2019n aml.<\/p>\n<p>Dyma\u2019ch cyfle chi i ymuno \u00e2 ni ar y daith honno.<\/p>\n<p>Ysbrydolwch genhedlaeth &#8211; <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/addysg-athrawon\/\">gwnewch wahaniaeth&#8230; Addysgwch!<\/a><\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Yr Athro Dylan E. Jones yw Deon Yr Athrofa, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cwricwlwm cenedlaethol Cymru yn datblygu\u2019n gyflym ac mae ysgolion, colegau a phrifysgolion ar draws y wlad yn paratoi ar gyfer newid. Ond gyda newidiadau y daw cyfleoedd ac, yn \u00f4l yr Athro Dylan E. Jones, ni fu erioed gwell amser i fod yn athro yng Nghymru\u2026 &nbsp; Mae Addysg yng Nghymru yn newid \u2013&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39475,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[],"class_list":["post-39142","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39142","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39142"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39142\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39478,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39142\/revisions\/39478"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39475"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39142"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39142"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39142"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}