{"id":39144,"date":"2019-04-24T16:23:00","date_gmt":"2019-04-24T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/maer-llanw-ar-lanw-yn-codi-pob-cwch\/"},"modified":"2021-02-28T22:14:22","modified_gmt":"2021-02-28T22:14:22","slug":"maer-llanw-ar-lanw-yn-codi-pob-cwch","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/04\/24\/maer-llanw-ar-lanw-yn-codi-pob-cwch\/","title":{"rendered":"Mae\u2019r llanw, ar lanw, yn codi pob cwch"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Wrth i ddatblygiad cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru gyrraedd carreg filltir bwysig, mae Elaine Sharpling yn galw ar randdeiliaid i fanteisio ar y cyfle i godi safonau ymhellach ac i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r bwlch cyrhaeddiad&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae\u2019r sawl ohonom sy\u2019n gweithio ym myd addysg yng Nghymru yn disgwyl yn awyddus lansiad y cwricwlwm yn ddiweddarach yn ystod y mis hwn.<\/p>\n<p>Sut bynnag mae\u2019r ddogfennaeth yn edrych \u2013 pe bai hi\u2019n rhy eang, yn rhy fanwl, neu yn rhy ddryslyd, gallwn fod yn hyderus bod sybsidiaredd wedi cael ei gofleidio a bod yr athrawon a wnaeth ei ysgrifennu wedi seilio cynllun y cwricwlwm ar ymchwil, polisi ac arfer proffesiynol.<\/p>\n<p>Mae hon yn wir ymagwedd unigryw, ac mae llygaid addysgwyr agos a phell yn gwylio gyda diddordeb mawr beth fydd canlyniadau\u2019r math ddull o\u2019r gwaelod i fyny.<\/p>\n<p>Efallai ei bod hi\u2019n amser i atgoffa ein hunain pam bod angen <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/02\/22\/cwricwlwm-arloesol-dan-arweiniad-athrawon-trawsnewidiol\/\">cwricwlwm newydd<\/a> ar Gymru yn y lle cyntaf. Yn <em>Dyfodol Llwyddiannus&nbsp;<\/em>(2015, t10), mae\u2019r <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/07\/10\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/\">Athro Graham Donaldson<\/a> yn amlinellu dadl argyhoeddiadol am newid.<\/p>\n<p>Mae\u2019n nodi bod \u2018nodweddion hanfodol&nbsp; cwricwlwm a ddyfeisiwyd ym 1988 yn adlewyrchu byd nad oedd eto wedi gweld y We Fyd-eang a\u2019r cynnydd mewn technoleg a globaleiddio sydd wedi trawsnewid ein ffordd o fyw a gweithio\u2019.<\/p>\n<p>Ychwanega fod y cwricwlwm wedi cael ei orlwytho, ei fod yn gymhleth a bod rhannau ohono wedi dyddio. Dylai\u2019r fath eiriau atal unrhyw feirniaid rhag ei feirniadu yn syth. Rhoddir i ni gyfle oes i drawsnewid addysg plant a phobl ifanc Cymru.<\/p>\n<p>Dywedwyd mai JFK bathodd yr ymadrodd \u2018Mae\u2019r llanw, ar lanw, yn codi pob cwch\u2019 sy\u2019n golygu pe bai\u2019r economi cyffredinol yn ffynnu, yna bydd hyn o fudd i <em>bob un<\/em> ohonom.<\/p>\n<p>Gan adael economeg naill ochr am eiliad, yn sicr dyma ein nod o ran y cwricwlwm \u2013 os yw ein system addysg yn un gref a chadarn, yna bydd safonau yn gwella ymhellach ar gyfer pob dysgwr ar draws Cymru.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, mewn amser, ein gobaith yw bydd codi safonau yn effeithio\u2019n uniongyrchol ar lwyddiant economaidd ein gwlad wrth i system addysg gref wneud Cymru\u2019n fwy cystadleuol ar lwyfan byd-eang.<\/p>\n<p>Mae Adroddiad y Sutton Trust, <em>Global Gaps<\/em> (2017), yn dangos bod angen i bob dysgwr elwa oherwydd y <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/02\/11\/cwricwlwm-syn-perthyn-i-bobl-cymru\/\">cwricwlwm newydd<\/a>. Wedi\u2019i gynllunio er mwyn cymharu\u2019r bylchau economaidd-gymdeithasol ym mherfformiad rhyngwladol disgyblion galluog iawn y D.U., mae\u2019r adroddiad yn dod at rai casgliadau di-blewyn-ar-dafod:<\/p>\n<ul>\n<li>Gwyddoniaeth \u2013 mae\u2019r bwlch economaidd-gymdeithasol yn llai yng Ngogledd Iwerddon a Chymru. Er hynny, mae\u2019n adlewyrchu\u2019r perfformiad lled wan ymhlith y gr\u0175p economaidd- gymdeithasol uchaf, yn enwedig yng Nghymru, yn hytrach nag unrhyw lefel o gyrhaeddiad rhagorol ymhlith disgyblion sy\u2019n academaidd alluog ac sy\u2019n dod o gartrefi statws economaidd gymdeithasol isel.<\/li>\n<li>Mathemateg \u2013 Mae Cymru yn cymharu yn enwedig o wael yn y pwnc hwn, gyda thair gwlad OECD yn unig (Chile, Twrci a Mecsico) yn perfformio yn waeth o lawer o ran cyrhaeddiad y disgyblion mwyaf galluog ym mathemateg. Mae myfyrwyr galluog yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn perfformio\u2019n waeth na\u2019r rhan fwyaf o wledydd sydd wedi\u2019u diwydianeiddio.<\/li>\n<li>Darllen \u2013 Mae\u2019r sawl sy\u2019n cyflawni uchaf mewn darllen yn Lloegr tua o gwmpas y canolrif OECD. Er bod Gogledd Iwerddon a\u2019r Alban yn perfformio\u2019n ychydig yn waeth na\u2019r canolrif OECD, mae cyflawnwyr uwch Cymru yn gwneud yn enwedig o wael. Mewn tair gwlad yn unig sydd wedi\u2019u diwydianeiddio (Chile, Twrci a Mecsico) y mae sgiliau darllen y cyflawnwyr uchaf yn is nag yng Nghymru.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Dyma\u2019r nodweddion sy\u2019n achosi pryder ac sy\u2019n arwydd o berfformiad gwael, pa beth bynnag yw\u2019r grwpiau economaidd-gymdeithasol. Mae\u2019n debyg bod grwpiau \u2018gorau\u2019 Cymru yn tanberfformio i\u2019r un graddau o gymharu \u00e2 meincnodau rhyngwladol.&nbsp;Yna, mae\u2019r adroddiad yn dweud:<\/p>\n<p><em>&#8216;Y mae hefyd gwersi pwysig i\u2019w dysgu gan Gymru a\u2019r Alban, y ddwy wlad yn dechrau ar eu hymagweddau eu hunain at ddiwygio addysg. Mae ganddynt hefyd broblemau go iawn yngl\u0177n \u00e2\u2019r nifer a dderbynnir gan brifysgolion, ac felly mae perfformiad gwael Cymru a\u2019r dirywiad ym mathemateg yn yr Alban yn achosi llawer o bryder.&#8217; (t3)<\/em><\/p>\n<p>Os nad yw\u2019r fath gasgliadau yn mynd i fod yn rhan o dirwedd addysgol Cymru, bydd angen edrych ar ddiben y cwricwlwm drwy lens ddidwyll. Mae gennym gyfrifoldeb cyfunol i wella safonau ar gyfer pawb ac ar bob lefel addysg \u2013 o bolisi hyd at arfer; o addysg gynradd hyd at Addysg Uwch. Ni all neb sy\u2019n rhan o addysg fod yn wyliedydd, yn gwylio wrth i ddiwygio\u2019r cwricwlwm fynd heibio.<\/p>\n<p>Er hynny, mae\u2019r bwlch cyrhaeddiad a achosir gan effaith ddinistriol anfantais yn broblem sylweddol o ran addysg yng Nghymru. Mae Achub y Plant Cymru yn nodi bod \u20181 plentyn o 3 yng Nghymru yn dal i fyw mewn tlodi. Mae\u2019r gyfran hon yn uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig ac mae\u2019n cyfateb i bron 200,000 o blant\u2019.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gyfran hon yn uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig ac mae\u2019n cyfateb i bron 200,000 o blant (LlC, 2016; Achub y Plant, 2017). Ac felly, os yw \u2018llanw, ar lanw, yn codi pob cwch\u2019, yn sicr gwnaiff y bwlch rhwng yr iot fwyaf moethus a\u2019r cwch rhwyfo pren barhau i fod union yr un peth pa beth bynnag yw\u2019r pellter maent yn codi.<\/p>\n<p>Sut dylem felly wella\u2019r safonau ymhellach ar draws y system a chau\u2019r bwlch cyrhaeddiad ar yr un pryd \u2013 mae\u2019n her y bydd rhaid i\u2019r cwricwlwm newydd fynd i\u2019r afael \u00e2 hi\u2019n weithredol, os ydym am wireddu\u2019r <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/10\/03\/36898\/\"><em>Genhadaeth Genedlaethol<\/em><\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Gwella safonau a chau bylchau<\/strong><\/p>\n<p>Yn ei lyfr diweddaraf <em>Making Kids Cleverer<\/em> (2019), mae David Didau and trafod yr union broblem hon, ac yn bendant, mae\u2019n cydnabod bod \u2018plant sydd ganddynt gefndir difreintiedig yn debygol o gael mwy o anawsterau yn yr ysgol\u2019.<\/p>\n<p>Er hynny, mae\u2019n dadlau mai cam cyntaf mynd i\u2019r afael \u00e2 hyn yw archwilio\u2019r bwlch yn fwy manwl. Nid ffawd yw\u2019r bwlch cyrhaeddiad, ond bydd angen i ni ddeall a chydnabod ein ffordd o ymdrin \u00e2\u2019r bwlch er mwyn ein bod ni\u2019n gallu symud ymlaen.<\/p>\n<p>Pe baem yn ystyried mai cynnyrch economeg gymdeithasol yn unig yw\u2019r bwlch cyrhaeddiad, yna cawn farn wyrgam am gyrhaeddiad, gyda rhai plant yn cael eu rhannu\u2019n ddau gr\u0175p polar \u2013 y sawl \u2018sydd \u00e2\u2019 a\u2019r sawl&nbsp; \u2018sydd heb\u2019.<\/p>\n<p>Er gwaethaf hyn, gwyddom y gall cyflawnwyr uwch &nbsp;fod yn rhan o unrhyw gr\u0175p economaidd-gymdeithasol, o ystyried amrywiaeth gyfoethog a chymhlethdod ystafell ddosbarth. &nbsp;\u00c2 Rosling (2018) ymhellach, gan awgrymu \u2018nad oes fwlch\u2019 \u2013 ac eithrio yn unig yr un a gr\u00ebwyd yn artiffisial o fewn system addysg.<\/p>\n<p>Hefyd, awgryma y dylai addysgwyr fod yn wyliadwrus rhag natur ddeniadol meddwl yn nhermau bwlch, a\u2019i heffaith ar arfer ystafell ddosbarth.&nbsp;Mae hon yn ddatganiad cythruddol sy\u2019n herio ein barn sylfaenol yngl\u0177n \u00e2 diben addysg a\u2019i pherthynas gynhennus \u00e2 pholisi.<\/p>\n<p>Pe baem yn rhoi\u2019r gorau i edrych drwy lens grwpio\u2019n economaidd-gymdeithasol ac yn ei le yn canolbwyntio ein hymdrechion ar yr hyn sy\u2019n debygol o weithio ar gyfer pob plentyn, yna daw diben ein system addysg yn gliriach \u2013 mae\u2019n ymwneud \u00e2 chreu dysgwyr uchelgeisiol a galluog drwy roi\u2019r grym a\u2019r wybodaeth i bob plentyn i ddewis.<\/p>\n<p>Yn yr Athrofa, gwnaiff ein hathrawon dan hyfforddiant ymgysylltu \u00e2 newid cymdeithasol a pharatoi\u2019u disgyblion i fod yn weithredwyr newid mewn cymdeithas. Mae hyn yn golygu mwy na \u2018gwybod am\u2019 neu \u2018werthfawrogi\u2019 materion sy\u2019n ymwneud \u00e2 chyfiawnder cymdeithasol \u2013 mae\u2019n golygu mabwysiadu agwedd actifydd sy\u2019n aflonyddu ar y status quo ac yn gwella\u2019r deilliannau ar gyfer pob dysgwr.<\/p>\n<p>Fel yr awgryma Didau, un ffordd o fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn yw \u2018dadgyplu\u2019 plant o\u2019u cefndiroedd a rhoi\u2019r gorau i\u2019r farn ei bod hi\u2019n bosibl i rannu plant a phobl ifanc yn ddau gr\u0175p, y sawl \u2018sydd \u00e2\u2019 a\u2019r sawl \u2018sydd heb\u2019. Mae\u2019r syniad bod pob plentyn yn symud ar hyd y cwricwlwm ar daith ddilyniant yn ddefnyddiol o safbwynt disodli\u2019r grwpiau polar hyn.<\/p>\n<p>Cytunaf \u00e2\u2019r farn hon, a chredaf yn gryf na ddylai statws economaidd-gymdeithasol teulu plentyn chwarae rhan bendant wrth benderfynu ar debygrwydd llwyddiant neu fethiant yn ein system addysg.<\/p>\n<p>Ni all pawb fod yn gyfartal o ran pob peth, ac felly ni ddylid cydweddu gweithredu\u2019r cwricwlwm i unrhyw gr\u0175p penodol \u2013 rwyf wedi dadlau eisoes bod canolbwyntio ein hymdrechion ar yr hyn sy\u2019n debygol o weithio i bob plentyn yn beth da. Er hynny, mae\u2019r ddadl ynghylch hwn \u2013 sut, beth a pham y mae plant yn dysgu yn fyw ac yn iach, gyda gwybodaeth wrth galon y ddadl.<\/p>\n<p>O\u2019m safbwynt i, wrth feddwl am wybodaeth, caf fy atgoffa am fy nghwestiwn Iaith Saesneg Lefel A:<\/p>\n<p><em>&nbsp; &nbsp; &nbsp; &nbsp; &nbsp; &nbsp;Pwrpas addysg \u2013 i drosglwyddo gwybodaeth neu i hyrwyddo newid cymdeithasol. Trafodwch.<\/em><\/p>\n<p>Er bod ein rheswm am addysgu yn awr yn llawer cliriach, am ei fod wedi\u2019i fapio\u2019n bedair rhan wahanol, y berthynas rhwng gwybodaeth a newid cymdeithasol sydd angen ei dadlau o hyd. A oes yna gysylltiad rhwng gwybodaeth a newid cymdeithasol, ac os oes, a ydy hi\u2019n bosibl ei ddeall mewn ffordd gynhwysol sy\u2019n galluogi pob dysgwr i elwa o\u2019i herwydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019n bosibl mai\u2019r ateb yw aflonyddu ar y lens meddwl yn economaidd-gymdeithasol ac ystyried y cwricwlwm yn gyfle i bob dysgwr. Nid&nbsp; cynnwys neu ddyluniad y cwricwlwm yn unig fydd yn gyrru\u2019r cyfleoedd hyn ymlaen, ond hefyd, ac efallai yn fwy pwysig, yr addysgeg a ddewisir ac a ddefnyddir gan athrawon.<\/p>\n<p>Mae athrawon yn gwneud gwahaniaeth ac mae addysgu da yn gwneud gwahaniaeth. Mae\u2019n amser bod pob athro yn ystyried yr ymgynghoriad ar y cwricwlwm newydd yn gyfle i fod yn weithredwr newid \u2013 gan roi llais i\u2019w brofiadau helaeth a\u2019i arbenigedd wrth lunio cwricwlwm sy\u2019n cynnig yr hyn sydd fwyaf effeithiol i bob plentyn.<\/p>\n<p>Yna, gwnaiff&nbsp; y llanw, ar lanw, godi pob cwch&#8230; a daw cynnig cyfartal o ddyfodol llwyddiannus i ran y ddau ohonynt, yr iot foethus, a\u2019r cwch rhwyfo pren yn ogystal.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Elaine Sharpling yw Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon, Yr Athrofa: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth i ddatblygiad cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru gyrraedd carreg filltir bwysig, mae Elaine Sharpling yn galw ar randdeiliaid i fanteisio ar y cyfle i godi safonau ymhellach ac i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r bwlch cyrhaeddiad&#8230; &nbsp; Mae\u2019r sawl ohonom sy\u2019n gweithio ym myd addysg yng Nghymru yn disgwyl yn awyddus lansiad y cwricwlwm yn ddiweddarach&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39467,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[],"class_list":["post-39144","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39144","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39144"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39144\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39470,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39144\/revisions\/39470"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39467"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39144"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39144"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39144"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}