{"id":39149,"date":"2019-05-24T16:23:00","date_gmt":"2019-05-24T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/maer-gweinidog-addysg-yn-lansio-canolfan-ddadansoddi-ac-adolygu-polisi-addysg-newydd\/"},"modified":"2021-02-28T19:58:13","modified_gmt":"2021-02-28T19:58:13","slug":"maer-gweinidog-addysg-yn-lansio-canolfan-ddadansoddi-ac-adolygu-polisi-addysg-newydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/05\/24\/maer-gweinidog-addysg-yn-lansio-canolfan-ddadansoddi-ac-adolygu-polisi-addysg-newydd\/","title":{"rendered":"Mae\u2019r Gweinidog Addysg yn lansio Canolfan Ddadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg newydd"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae canolfan newydd sy\u2019n anelu at gyfrannu\u2019n ystyrlon i ddatblygu a thrafod polis\u00efau addysg yng Nghymru wedi ei lansio gan Yr Athrofa ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. &nbsp;<\/strong><\/p>\n<p>\u2018Cyfaill beirniadol\u2019 fydd r\u00f4l CEPRA &#8211; <a href=\"http:\/\/cepra.wales\/cy\/\">Canolfan Ddadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg<\/a>, o dan arweiniad yr arbenigwr addysg a&#8217;r sylwebydd uchel ei barch, Gareth Evans, er mwyn cefnogi llunwyr polisi a\u2019r rheini sy\u2019n ymwneud \u00e2 byd addysg Cymru.<\/p>\n<p>Cynigia lwyfan ar gyfer trafod a dadansoddi ym maes polis\u00efau addysg, heria arferion a thybiaethau presennol, gan fyfyrio ar yr amgylchedd lle gweithreda addysgwyr ar bob lefel o ddydd i ddydd.<\/p>\n<p>Mae CEPRA yn edrych ymlaen at chwarae r\u00f4l ganolog yng Nghenhadaeth Genedlaethol Cymru i godi safonau i bawb.<\/p>\n<p>Cyfarchodd Gweinidog Addysg Cymru Kirsty Williams y gynulleidfa adeg y lansio yn TramShed, Caerdydd, a oedd yn cynnwys cyflwyniadau gan ysgolion partner yn ogystal \u00e2 thrafodaeth ar ffurf ddrafft Cwricwlwm Cymru 2022 Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-37782 alignright\" src=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/05\/618be5b263e586b21881d74a30a8dadc558cca681779a88517aed47727af9a6b-1-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\"><\/p>\n<p>Gwnaeth y Gweinidog y sylw: \u201c<a href=\"https:\/\/twitter.com\/WG_Education\/status\/1127977577920905221\">Mae\u2019n braf gen i fod yn bresennol ar gyfer lansio CEPRA<\/a>. Rwy\u2019n sylwi mai nod CEPRA yw bod yn gyfaill beirniadol a chefnogi Llywodraeth Cymru a\u2019r gwaith o lunio polis\u00efau. Wrth i ni gyrraedd cerrig milltir pwysig ar ein taith ddiwygio, bydd eisiau digon o drafod a thafoli, yn ddi-os, ac mae gan brifysgolion ran hanfodol yn hyn o beth.<\/p>\n<p>\u201cFel llywodraeth, ac fel sector addysg, bydd dadansoddi a deall yn fanylach bolisi a gafodd ei greu yng Nghymru, sy\u2019n effeithio ac sy\u2019n dylanwadu ar Gymru, o fudd i bawb. Ar sail mwy o werthfawrogiad a dealltwriaeth o\u2019r pethau hyn gallwn ni ehangu ein cyfeillion beirniadol sy&#8217;n gallu ac a ddylai ein cwestiynu a\u2019n herio ni. Mae gennym ni ymrwymiad cyffredin i lunio polis\u00efau, a\u2019r rheini\u2019n anelu at godi safonau a chreu disgwyliadau uchel ar gyfer pawb dan sylw ym myd addysg Cymru ac rwy\u2019n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda CEPRA wrth iddi fynd o nerth i nerth.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Cyfarwyddwr CEPRA, Gareth Evans: \u201cRydyn ni\u2019n lansio CEPRA ar adeg allweddol ar y daith i ddiwygio addysg yng Nghymru. Fe\u2019i sefydlwyd am nifer o resymau, ac yn enwedig yr angen mawr i graffu, dadansoddi a herio polisi addysg yng Nghymru.<\/p>\n<p>\u201cOnd nid yw CEPRA yn ceisio herio am resymau hunanol neu fasnachol.&nbsp;Rydyn ni\u2019n gwneud hynny i herio cam argraffiadau, rhoi prawf ar feddwl uwch a chyfrannu\u2019n adeiladol i ddylunio, datblygu a gweithredu polisi a fydd yn llunio addysg yng Nghymru am genedlaethau.<\/p>\n<p>\u201cYn fwy nag erioed erbyn hyn, mae\u2019n bwysig rhoi prawf ar yr hyn rydyn ni\u2019n ei wneud er mwyn cael gwared ar faglau posibl a chryfhau ein gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru.<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-37795 alignright\" src=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/05\/rhian-300x300.jpeg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"300\"><\/p>\n<p>\u201cDyw hi ddim yn bosibl datblygu na gweithredu polisi addysg ar ei ben ei hun, ac er mwyn newid system gyfan mae angen arfarnu\u2019n onest a chael mewnbwn gan amrywiaeth eang o randdeiliaid.&nbsp;<a href=\"https:\/\/twitter.com\/WG_Education\/status\/1127977577920905221\">Mae angen ymdrech gydweithredol i ddarparu Dyfodol Llwyddiannus<\/a>.<\/p>\n<p>\u201cMae CEPRA yn cynnig llwyfan ar gyfer adolygu a dadansoddi polis\u00efau addysg; lle diogel ar gyfer sylwadau a beirniadu materion cyfoes y mae addysgwyr yn eu hwynebu ledled Cymru.\u201d<\/p>\n<p>\u201cManteisia CEPRA ar arbenigedd academyddion gyda\u2019r Athrofa yn Y Drindod Dewi Sant ac mae hyn yn esgor ar nifer o wahanol ddeilliannau. Mae\u2019r gwaith ymchwil a\u2019r dadansoddi ar y cwrs ar hyn o bryd yn cynnwys yr hyn sydd i\u2019w gael yn y Rhaglen Arweinyddiaeth Fyd-eang, gyda chymorth Cyngor Prydeinig Cymru; ymchwil sy\u2019n cefnogi\u2019r Dull Cenedlaethol tuag at Ddysgu Proffesiynol, datblygu cylchoedd o ymholi proffesiynol mewn ysgolion; <a href=\"http:\/\/cepra.wales\/cy\/ein-gwaith\/\">yn ogystal ag astudiaeth ryngwladol, pum gwlad o ddysgu a chynhwysiant cydweithredol<\/a>.\u201d<\/p>\n<p>Aeth Gareth Evans yn ei flaen: \u201cMae drafft cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru wedi cael ei gyhoeddi ac yn ddiweddar lansiwyd ymgynghoriad ar ei ddogfennau ategol.<\/p>\n<p>\u201cNi fydd yn syndod i neb, felly, ein bod ni wedi dewis defnyddio digwyddiad lansio heddiw i ganolbwyntio ar y datblygiadau hynny \u2013 a rhoi cyfle i rai o\u2019r rheini sy\u2019n arwain y camau gweithredu s\u00f4n wrthym am rai o\u2019u canfyddiadau cynnar.\u201d<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-37783 alignright\" src=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/05\/e988670b0ea4075ad6b7f430bd2ad68028152055dd9ab3f4c55d4fb17bf3991c-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\"><\/p>\n<p>Dwy o\u2019r ysgolion sydd wedi cofleidio her y cwricwlwm yw Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff ym Mro Morgannwg, un o 16 \u2018ysgol arloesi\u2019 a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru i ystyried y cwricwlwm drafft yn ei gyfanrwydd, ac Ysgol Llanhari yn Rhondda Cynon Taf, ysgol pob oed arloesol sy\u2019n darparu ar gyfer plant rhwng 3 a 19 oed. Yn ystod lansio CEPRA, cafodd Gareth Rein o Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff, a Rhian Phillips a Meinir Thomas o Ysgol Llanhari gyfle i ddangos sut yr oedd y naill ysgol a\u2019r llall wedi mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r cwricwlwm newydd mewn gwahanol ffyrdd a sut mae eu hagwedd yn crisialu i\u2019r dim egwyddor cyfrifolaeth sydd wrth wraidd ein cwricwlwm newydd.<\/p>\n<p>Meddai Gareth eto: \u201cRhaid sicrhau bod pawb yn cael cyfle i roi mewnbwn ar ein cwricwlwm cenedlaethol newydd \u2013 ac mae\u2019n hollbwysig bod pawb sy\u2019n cyfrannu i\u2019r drafodaeth yn cael llais.<\/p>\n<p>\u201cO ran faint o le sydd i amrywio ar gyfer cyd-destunau penodol, rwy\u2019n credu bod dadl gref dros gynnwys yn ein cwricwlwm restr o elfennau anhepgor; y dylai pob plentyn eu cael, ni waeth ble y bo\u2019n astudio yng Nghymru. Gallai\u2019r rhain fod yn them\u00e2u bras, neu eitemau a gasglwyd ynghyd yn&nbsp;glystyrau o dan y Meysydd Dysgu a Phrofiad priodol.&nbsp;Wrth reswm, bydd hi\u2019n amhosibl sicrhau cydraddoldeb dysgu ac addysgu byth a bydd gwahaniaethau o hyd oddi mewn i ysgolion ac ar draws ysgolion, ond, yn sicr, mae rhywfaint o le ar gyfer ystyried pa mor wag y bydd y cynfas y caiff athrawon i beintio arno.<\/p>\n<p>\u201cYn y pen draw, wrth i bob un ohonom bori trwy\u2019r dogfennau cwricwlwm drafft, mae\u2019n sicr y bydd rhai pethau at ein dant, rhai na fydd, a phethau, fwy na thebyg, y byddem ni wedi eu gwneud yn wahanol.&nbsp;Ond rhaid i bawb ym myd addysg barchu\u2019r amser a\u2019r egni a dreuliwyd gan lu o Ysgolion Arloesi i ddod \u00e2 ni i\u2019r fan hon heddiw.&nbsp;Yn wir, nid hwn yw\u2019r amser i ddiystyru dehongliad neb o ble rydyn ni arni, ond yn hytrach mae\u2019n gyfle i loywi, ac os bydd angen, ailffurfio\u2019r fframwaith llac sydd wedi ei sefydlu.<\/p>\n<p>\u201cNid gwiw i ni laesu dwylo a cholli\u2019r cyfle i fwydo i mewn i Ddyfodol Llwyddiannus.&nbsp;Fel addysgwyr, mae rheidrwydd mawr arnom ni i helpu i ofalu bod hyn yn cael ei wneud yn iawn.\u201d<\/p>\n<p>I wybod rhagor am CEPRA ewch i:&nbsp;<a href=\"http:\/\/cepra.wales\/cy\/\">http:\/\/cepra.wales\/cy\/<\/a><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-37784 alignleft\" src=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/05\/c3f24c87e9c9ef0f95174f92c3e3f2768eb8d33f4aef4105ec666eb59ff4d394-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-37785 alignright\" src=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/05\/7e6c2cafe70b7f078718b2678be3031a4609214264b31523a3eb303dc424a789-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae canolfan newydd sy\u2019n anelu at gyfrannu\u2019n ystyrlon i ddatblygu a thrafod polis\u00efau addysg yng Nghymru wedi ei lansio gan Yr Athrofa ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. &nbsp; \u2018Cyfaill beirniadol\u2019 fydd r\u00f4l CEPRA &#8211; Canolfan Ddadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg, o dan arweiniad yr arbenigwr addysg a&#8217;r sylwebydd uchel ei barch, Gareth Evans,&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39243,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[293],"tags":[],"class_list":["post-39149","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-293","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39149","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39149"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39149\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39424,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39149\/revisions\/39424"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39243"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39149"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39149"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39149"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}