{"id":39150,"date":"2019-06-14T16:23:00","date_gmt":"2019-06-14T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/yr-athrofa-yn-dathlu-codi-ei-safle-ar-gyfer-addysg\/"},"modified":"2021-02-28T19:56:14","modified_gmt":"2021-02-28T19:56:14","slug":"yr-athrofa-yn-dathlu-codi-ei-safle-ar-gyfer-addysg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/06\/14\/yr-athrofa-yn-dathlu-codi-ei-safle-ar-gyfer-addysg\/","title":{"rendered":"Yr Athrofa yn dathlu codi ei safle ar gyfer addysg"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae Athrofa Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi symud ymhellach i fyny tabl cynghrair uchel ei barch. <\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r Guardian University Guide wedi gosod yr Athrofa yn safle 43 yn y DU \u2013 sef codiad o saith safle ers cyhoeddi tabl cynghrair 2018.<\/p>\n<p>Yn fuan ar \u00f4l ei lansio yn 2016 gosodwyd yr Athrofa yn safle 76 yn y DU.<\/p>\n<p>Mae\u2019r safle yn y tabl cynghrair yn cynnwys rhaglenni dan ofal y disgyblaethau <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/blynyddoedd-cynnar\/\">Blynyddoedd Cynnar<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/cyfiawnder-chynhwysiant-cymdeithasol\/\">Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol<\/a> ac <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/addysg-athrawon\/\">Addysg Athrawon<\/a> o fewn yr Athrofa.<\/p>\n<p>Mae llwyddiant yr Athrofa yn cyd-fynd \u00e2 llwyddiant y brifysgol ei hun, gyda\u2019r Drindod Dewi Sant yn codi 29 safle \u2013 sef y trydydd codiad uchaf ar y cyd ymhlith y 121 o brifysgolion y DU sydd wedi\u2019u cynnwys yn y tabl.<\/p>\n<p>Bellach mae\u2019r Drindod Dewi Sant yn safle 57 yn gyffredinol yn y Guardian University Guide.<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Dylan Jones, Deon <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">Yr Athrofa<\/a>: \u201cMae\u2019r Athrofa ar daith ac mae\u2019r canlyniad hwn yn cadarnhau ein cred gadarn ein bod yn symud i\u2019r cyfeiriad iawn.<\/p>\n<p>\u201cMae ein staff ymroddedig a\u2019n cydweithwyr arloesol mewn ysgolion partner yn canolbwyntio\u2019n gadarn ar godi safonau i bawb yng Nghymru ac mae\u2019r canlyniadau hyn yn arwydd sylweddol o hyder yn y gwaith rydym ni\u2019n ei wneud gyda\u2019n gilydd.<\/p>\n<p>\u201cMae <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/professional-learning-partnership\/\">Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa<\/a> a achredwyd yn ddiweddar yn mynd o nerth i nerth, ac mae\u2019r cyfleoedd a gyflwynir gan ein cydweithredu ar draws y system yn destun cyffro i ni.<\/p>\n<p>\u201cRydym ni wrth ein boddau bod ein gwaith caled wedi cael ei gydnabod yn y Guardian University Guide, ond mae angen gwneud llawer mwy er mwyn cyflawni ein nodau cyffredin ar gyfer addysg yng Nghymru.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy\u2019n gweithio gyda ni am eu cefnogaeth barhaus \u2013 ac edrychwn ymlaen at gryfhau ein perthnasoedd yn y blynyddoedd i ddod.\u201d<\/p>\n<p>Yr Athrofa yw darparwr mwyaf addysg athrawon yng Nghymru ac mae\u2019n chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu cwricwlwm cenedlaethol newydd i Gymru a\u2019r ddarpariaeth dysgu proffesiynol, fel rhan o gyfres o brosiectau sy\u2019n parhau gyda Llywodraeth Cymru.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Athrofa Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi symud ymhellach i fyny tabl cynghrair uchel ei barch. Mae\u2019r Guardian University Guide wedi gosod yr Athrofa yn safle 43 yn y DU \u2013 sef codiad o saith safle ers cyhoeddi tabl cynghrair 2018. Yn fuan ar \u00f4l ei lansio yn 2016 gosodwyd yr Athrofa&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39173,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[293],"tags":[],"class_list":["post-39150","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-293","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39150","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39150"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39150\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39423,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39150\/revisions\/39423"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39173"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39150"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39150"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39150"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}