{"id":39151,"date":"2019-06-27T16:23:00","date_gmt":"2019-06-27T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/ymweliad-astudio-rhyngwladol-yn-cyfoethogi-agenda-ddiwygio-cymru\/"},"modified":"2021-02-28T19:52:02","modified_gmt":"2021-02-28T19:52:02","slug":"ymweliad-astudio-rhyngwladol-yn-cyfoethogi-agenda-ddiwygio-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/06\/27\/ymweliad-astudio-rhyngwladol-yn-cyfoethogi-agenda-ddiwygio-cymru\/","title":{"rendered":"Ymweliad astudio rhyngwladol yn cyfoethogi agenda ddiwygio Cymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Rhoddwyd cipolwg unigryw ar addysg yn yr Iseldiroedd i athrawon o bob cwr o dde Cymru yn ystod ymweliad astudio rhyngwladol \u00e2\u2019r Iseldiroedd.<\/strong><\/p>\n<p>Roedd y daith bum diwrnod yn cynnwys taith o gwmpas tair ysgol, cyfarfod \u00e2 chynghrair VO-raad o lywodraethwyr ysgol, a briffio ar bolisi gan gynghorwyr y Weinyddiaeth Addysg yn yr H\u00e2g.<\/p>\n<p>Cafodd y cynrychiolwyr gyflwyniad hefyd gan arbenigwyr sy\u2019n arwain y gwaith o ddiwygio\u2019r cwricwlwm yn yr Iseldiroedd, lle mae llunwyr polisi\u2019n dilyn trywydd tebyg iawn i\u2019r un sy\u2019n cael ei ddilyn yng Nghymru.<\/p>\n<p>Ym mis Mai cyhoeddwyd amlinelliad o\u2019r cwricwlwm gan gynnwys naw \u2018maes dysgu\u2019 a rhoddwyd tan ddiwedd yr haf i athrawon yr Iseldiroedd roi sylwadau ar ddogfennau drafft.<\/p>\n<p>Arweiniwyd yr ymweliad astudio gan y <a href=\"http:\/\/cepra.wales\/cy\/\">Ganolfan Ddadansoddi ac Adolygu Polisi Addysg (CEPRA)<\/a> yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn rhan o\u2019i Rhaglen Arweinyddiaeth Fyd-eang a gyllidir gan y <a href=\"https:\/\/wales.britishcouncil.org\/\">Cyngor Prydeinig<\/a>.<\/p>\n<p>Dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr CEPRA, y rhoddwyd cipolwg diddorol iawn i aelodau\u2019r ymweliad astudio ar un o systemau addysg gorau\u2019r byd.<\/p>\n<p>\u201cRoedd amserlen lawn yn cynnwys ymweliadau ag ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, lle rhoddwyd cyfle i\u2019r ymwelwyr sgwrsio\u2019n benagored \u00e2 phenaethiaid, athrawon a disgyblion,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cRoedd hi\u2019n amlwg o\u2019r sgyrsiau hynny fod Cymru a\u2019r Iseldiroedd yn wynebu nifer o heriau cyffredin, yn enwedig y rheini sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 thegwch, asesu ac atebolrwydd.<\/p>\n<p>\u201cMae diwygio\u2019r cwricwlwm yn yr Iseldiroedd yn cyfateb yn fanwl i\u2019r hyn sy\u2019n cael ei wneud yng Nghymru, a byddai\u2019n fuddiol i Lywodraeth Cymru ddilyn y datblygiadau wrth i\u2019r prosiect fynd yn ei flaen.<\/p>\n<p>\u201cMae llawer i\u2019w ddysgu o brofiadau\u2019r Iseldiroedd, ac roedd hi\u2019n galonogol dysgu nad yw Cymru ar ei phen ei hun wrth iddi weithio\u2019i ffordd drwy broblemau parhaol er lles pawb yn y byd addysg.<\/p>\n<p>\u201cOnd er bod yr Iseldiroedd yn rhagori mewn llawer o feysydd, roedd hi\u2019n amlwg y gall pobl gyfatebol i ni yn Utrecht, yr H\u00e2g ac Almere ddysgu o\u2019r hyn rydym ni\u2019n ei wneud yng Nghymru hefyd.\u201d<\/p>\n<p>Cymerodd athrawon o ardaloedd GCA, ERW a CSC ran yn yr ymweliad a ganolbwyntiai ar ddiwygio\u2019r cwricwlwm, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/04\/12\/ymchwil-newydd-yn-tanio-cynnig-dysgu-proffesiynol-cenedlaethol-cymru\/\">dysgu proffesiynol<\/a> ac addysg athrawon.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 dysgu gan gydweithwyr yn yr Iseldiroedd, roedd y daith yn gyfle i\u2019r athrawon ar daith ymgymryd \u00e2 deialog broffesiynol ynghylch nifer o fentrau allweddol sy\u2019n cael eu gweithredu yng Nghymru.<\/p>\n<p>Meddai Kelly Gipson, Uwch Fentor yn Ysgol Pentrehafod, Abertawe: \u201cRoedd hi\u2019n ddiddorol dros ben gweld sut roedd y diwygiadau mewn hyfforddi athrawon yn yr Iseldiroedd yn adlewyrchu ein diwygiadau ni mewn nifer o agweddau, a\u2019u bod nhw\u2019n cael eu gyrru gan yr un ysgogiad, sef argyfwng recriwtio athrawon.<\/p>\n<p>\u201cFel gwlad sy\u2019n cael ei hystyried yn fyd-eang yn un o arweinwyr y byd ym maes addysg, roedd hi\u2019n galonogol gweld bod yr hyn maen nhw\u2019n ei hystyried yn arfer gorau\u2019n nodweddion cyffredin rhaglen AGA gyffrous newydd Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa a fydd yn cael ei lansio yn yr hydref.<\/p>\n<p>\u201cYn yr un modd, o ran diwygio\u2019r cwricwlwm, roedd hi\u2019n ddiddorol nodi\u2019r pethau tebyg rhyngddyn nhw a ni. O ystyried y bwlch eang rhwng yr Iseldiroedd a ni yn nhabl cynghrair y byd ar gyfer addysg, roedd hi\u2019n galonogol nodi faint o gynnydd rydym ni wedi\u2019i wneud eisoes a\u2019r ffaith eu bod nhw\u2019n dilyn llwybrau ymholi tebyg iawn.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Jamie Goddard, pennaeth cynorthwyol Ysgol Cas-gwent, Sir Fynwy: \u201cRhoddodd yr ymweliad gyfle unigryw i gael dirnadaeth o ddysgu proffesiynol, cwricwlwm newydd a hyfforddiant cychwynnol athrawon yn yr Iseldiroedd.<\/p>\n<p>\u201cRoedd yn fraint gweld \u00e2\u2019n llygaid ein hunain system addysgol tra effeithiol a llwyddiannus yn yr Iseldiroedd a thrwy gwrdd \u00e2 gwneuthurwyr polisi allweddol, ynghyd ag athrawon mewn ysgolion, cawsom nifer o syniadau i ddod n\u00f4l \u00e2 nhw gyda ni a\u2019u defnyddio i wella dysgu gydol oes yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Cyhoeddir adroddiad a fydd yn nodi canfyddiadau\u2019r gr\u0175p ar-lein, a bwriedir cynnal <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/10\/05\/straeon-o-doronto-penaethiaid-ysgolion-yn-adfyfyrio-ar-wersi-a-ddysgwyd-oddi-wrth-ganada\/\">symposiwm yn cynnwys cyfraniadau<\/a> gan yr holl gynrychiolwyr yn yr hydref.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rhoddwyd cipolwg unigryw ar addysg yn yr Iseldiroedd i athrawon o bob cwr o dde Cymru yn ystod ymweliad astudio rhyngwladol \u00e2\u2019r Iseldiroedd. Roedd y daith bum diwrnod yn cynnwys taith o gwmpas tair ysgol, cyfarfod \u00e2 chynghrair VO-raad o lywodraethwyr ysgol, a briffio ar bolisi gan gynghorwyr y Weinyddiaeth Addysg yn yr H\u00e2g. Cafodd&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39240,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[293],"tags":[],"class_list":["post-39151","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-293","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39151","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39151"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39151\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39422,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39151\/revisions\/39422"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39240"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39151"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39151"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39151"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}