{"id":39153,"date":"2019-11-07T16:23:00","date_gmt":"2019-11-07T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/ysbrydoli-plant-i-garu-darllen-ac-ysgrifennu\/"},"modified":"2021-02-28T19:47:20","modified_gmt":"2021-02-28T19:47:20","slug":"ysbrydoli-plant-i-garu-darllen-ac-ysgrifennu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/11\/07\/ysbrydoli-plant-i-garu-darllen-ac-ysgrifennu\/","title":{"rendered":"Ysbrydoli plant i garu darllen ac ysgrifennu"},"content":{"rendered":"<p><strong>Yn ddiweddar fe wnaeth Pop Up Projects, ar y cyd \u00e2 Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gyflwyno cyfres o weithdai i athrawon ac awduron er mwyn iddynt archwilio, ymgysylltu ac arbrofi gyda ffyrdd newydd o ddod \u00e2 llyfrau yn fyw.<\/strong><\/p>\n<p>Cynhadledd undydd oedd Pop Up Lab a gynhaliwyd yng ngwesty&#8217;r Village yn Abertawe. Drwy rannu ymarfer da a fydd, bu&#8217;n gynhadledd a alluogodd gyfranogwyr i ddarganfod ffyrdd newydd a dychmygus o feithrin ymdeimlad o gariad tuag at ddarllen ac ysgrifennu yn yr ystafell ddosbarth.<\/p>\n<p>Fe wbnaeth y gynhadledd Pop Up Lab ganolbwyntio ar greadigrwydd trawsgwricwlaidd trwy lenyddiaeth plant yn yr ystafell ddosbarth. Mae&#8217;r arfer a rennir gan awduron ac athrawon eisoes wedi cael ei brofi yn ystod G\u0175yl Pop Up, sef g\u0175yl lenyddiaeth genedlaethol i blant sy&#8217;n dod \u00e2 llyfrau&#8217;n fyw mewn ysgolion ledled y DU, gan gynnwys yn ardaloedd &nbsp;Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot dros y tair blynedd ddiwethaf, gyda chefnogaeth y Paul Hamlyn Foundation. &nbsp;Yr ysgolion a fu&#8217;n cymryd rhan oedd:<\/p>\n<ul>\n<li>Ysgol Gynradd Gwyrosydd, Abertawe<\/li>\n<li>Ysgol Gynradd Awel y M\u00f4r, Port Talbot<\/li>\n<li>Ysgol Cynradd Coedffranc, Castell Nedd<\/li>\n<li>Ysgol Cynradd Trallwn, Abertawe<\/li>\n<li>Ysgol Gymradd Gymraeg Tirdeunaw, Abertawe<\/li>\n<\/ul>\n<p>Cyflwynwyd Pop Up Lab ar y cyd ag Athrofa Addysg y Brifysgol sydd wedi bod yn gwerthuso gwaith Pop Up yng Nghymru.<\/p>\n<p>Dywedodd Dr Alex Southern, o\u2019r Athrofa: \u201cBu&#8217;r&nbsp;Pop Up Lab yn gyfle cyffrous i addysgwyr ac ymarferwyr creadigol rannu syniadau ar gyfer ysbrydoli cariad at ddarllen ac ysgrifennu yn yr ystafell ddosbarth, sydd hefyd yn llawn dop o weithgareddau ymarferol. Roedd Yr Athrofa yn falch iawn o weithio gyda Pop Up i gefnogi&#8217;r digwyddiad. Roedd hi&#8217;n wych clywed gan athrawon ac ysgrifenwyr ysbrydoledig, a gobeithio y bydd y creadigrwydd yn parhau i ffynnu mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru.\u201d<\/p>\n<p>Bwriad y gweithdai oedd helpu cyfranogwyr i ddysgu o brofiad athrawon o weithio gydag awduron yn yr ystafell ddosbarth ynghyd \u00e2 datblygu syniadau newydd, ymarferol ar gyfer darllen, ysgrifennu a chreadigrwydd o fewn Meysydd Dysgu a Phrofiad sydd i&#8217;w lansio fel rhan o&#8217;r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn 2022.<\/p>\n<p>Cafodd y cyfranogwyr hefyd gyfle i wneud, darlunio, neu ysgrifennu\u2019n greadigol eu hunain. Daeth y diwrnod i ben gyda phrif-araith &#8211; <em>&#8216;A poet\u2019s guide to not paying attention in class&#8217;<\/em>&nbsp;gan Jay Hulme &#8211; perfformiwr, siaradwr cyhoeddus, ac awdur nifer o gasgliadau barddoniaeth ar gyfer oedolion, plant ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau.<\/p>\n<p>Dywedodd Franziska Liebig, o Pop Up Projects: \u201cRoedd yn wych medru&nbsp;rhannu dysgu ac arfer gorau sydd wedi deillio o awduron ac athrawon yn cydweithio\u2019n ddychmygus mewn pump o ysgolion yn Ne Cymru dros dair blynedd, gan rymuso athrawon i ddysgu\u2019n fwy creadigol a gwella sgiliau darllen ac ysgrifennu y disgyblion.<\/p>\n<p>&#8220;Trwy ein g\u0175yl lenyddiaeth plant genedlaethol fe wnaethon ni alluogi 5,500 o ddisgyblion i gael profiad o 180 o weithdai creadigol ac i gwrdd ag awduron a oedd yn fodelau r\u00f4l ysgrifennu, gan hefyd ailgyflenwi llyfrgelloedd yr ysgolion gyda 1,750 o lyfrau. Diolch i\u2019r Athrofa ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am eu cefnogaeth amhrisiadwy wrth wneud y Pop Up Lab hwn yn bosibl.&#8221;<\/p>\n<p>I ddysgu mwy am Pop Up Projects, ewch i&nbsp;<a href=\"https:\/\/pop-up.org.uk\/\">https:\/\/pop-up.org.uk\/<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ddiweddar fe wnaeth Pop Up Projects, ar y cyd \u00e2 Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gyflwyno cyfres o weithdai i athrawon ac awduron er mwyn iddynt archwilio, ymgysylltu ac arbrofi gyda ffyrdd newydd o ddod \u00e2 llyfrau yn fyw. Cynhadledd undydd oedd Pop Up Lab a gynhaliwyd yng ngwesty&#8217;r Village yn Abertawe. Drwy&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39236,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[293],"tags":[],"class_list":["post-39153","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-293","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39153","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39153"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39153\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39419,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39153\/revisions\/39419"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39236"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39153"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39153"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39153"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}