{"id":39157,"date":"2021-02-26T16:23:08","date_gmt":"2021-02-26T16:23:08","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/ymweliad-astudion-rhoi-addysg-cymru-ar-fap-y-byd-3\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:08","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:08","slug":"ymweliad-astudion-rhoi-addysg-cymru-ar-fap-y-byd-3","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/ymweliad-astudion-rhoi-addysg-cymru-ar-fap-y-byd-3\/","title":{"rendered":"Ymweliad astudio&#8217;n rhoi addysg Cymru ar fap y byd"},"content":{"rendered":"\n<p><strong>Bu academyddion o\u2019r Drindod Dewi Sant ar ymweliad ag Awstralia i ddysgu gan gydweithwyr a rhannu datblygiadau\u2019n ymwneud \u00e2 thaith diwygio addysg Cymru.<\/strong> <\/p>\n\n\n\n<p>Derbyniwyd papur gan staff o\u2019r Athrofa Addysg a\u2019r Dyniaethau yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Ymchwil mewn Addysg Awstralia (AARE) \u2013 sy\u2019n dod ag arbenigwyr addysg at ei gilydd o bob cwr o\u2019r byd.<\/p>\n\n\n\n<p>A hithau\u2019n un o brif gynadleddau ymchwil addysg yn y byd, roedd tua 1,000 o gynadleddwyr yn mynychu\u2019r digwyddiad eleni yn Brisbane.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn rhan o\u2019r gynhadledd, cymerodd <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">Yr Athrofa<\/a> ran mewn symposiwm yn dwyn y teitl \u2018Cyfiawnder Cymdeithasol a Diwygio Addysg yn Genedlaethol yng Nghymru\u2019, a fu\u2019n edrych ar daith diwygio addysg yng Nghymru, datblygiadau mewn addysg athrawon, a dysgu proffesiynol.<\/p>\n\n\n\n<p>Bu\u2019r staff yn cyflwyno ar y cyd \u00e2\u2019r Athro John Furlong, Athro Emeritws mewn Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen, a chyn gadeirydd Bwrdd Achredu AGA Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA).<\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnaeth yr Athro Furlong rannu \u00e2\u2019r cyfeillion yn y gynhadledd ei adroddiad o 2015, \u2018Addysgu Athrawon Yfory\u2019, a arweiniodd at ddiwygio sylweddol yn y maes addysg athrawon yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Cafwyd cyflwyniad gan yr Athro Kay Livingston, arbenigwraig ar ymchwil addysgol sy\u2019n gweithio ym Mhrifysgol Glasgow, ar y gwaith y mae wedi bod yn ei ddatblygu gyda chydweithwyr yn y Drindod Dewi Sant i fapio effaith y newidiadau hyn ar staff mewn ysgolion a\u2019r brifysgol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhoddodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg yn Yr Athrofa, drosolwg&nbsp; o ddatblygiad polisi addysg&nbsp; yng Nghymru ers datganoli, yn ogystal \u00e2\u2019r heriau a\u2019r cyfleoedd a gynigir gan y diwygio uchelgeisiol o\u2019r cwricwlwm yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Bu\u2019r addysgwyr athrawon, Rachel Wallis, Arweinydd&nbsp; Mathemateg a Rhifedd Yr Athrofa, a darlithydd y Dyniaethau, Dr Sioned Hughes, yn trafod eu cyfraniad at y <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/06\/01\/dilyniant-dysgu-i-gymru\/\">prosiect arloesol CAMAU<\/a>, sy\u2019n cefnogi cynnydd dysgwyr trwy eu haddysg orfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yna cymerodd y ddirprwyaeth ran mewn ymweliad astudio byr \u00e2 Phrifysgol Newcastle, lle cawsant eu croesawu gan yr Athro Llawryfol Jenny Gore a\u2019i th\u00eem yng nghanolfan ddylanwadol y brifysgol ar Ymchwil Athrawon ac Addysgu. Manteisiodd y ddau barti ar y cyfle i rannu eu gwaith cyfredol i gefnogi dysgu proffesiynol a datblygiad ymchwil athrawon.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/01\/aare1-1-1024x821.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-37898\"\/><figcaption> <strong>Bu academyddion o\u2019r Drindod Dewi Sant ar ymweliad ag Awstralia i ddysgu gan gydweithwyr a rhannu datblygiadau\u2019n ymwneud \u00e2 thaith diwygio addysg Cymru<\/strong> <\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Meddai Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg yn Yr Athrofa: \u201cRydym yn ddiolchgar iawn i gael y cyfle i rannu \u2018stori Cymru\u2019 o ran diwygio addysg gyda chydweithwyr o bedwar ban byd.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cYn sicr roedd llawer o ddiddordeb yn yr hyn yr ydym ni yng Nghymru\u2019n ei wneud i ddiwygio a datblygu ein system addysg, a llawer o optimistiaeth ein bod ni\u2019n mynd i\u2019r cyfeiriad cywir.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRoedd yr angen am ddewrder, ymrwymiad ac ymddiriedaeth yn ein haddysgwyr i wneud yr hyn sy\u2019n iawn i\u2019w dysgwyr yn them\u00e2u a gododd dro ar \u00f4l tro, er i faterion yn ymwneud ag ariannu, capasiti ac atebolrwydd gael eu nodi fel rhwystrau posibl.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019n amlwg nad yw Cymru ar ei phen ei hun wrth wynebu nifer o heriau o ran diwygio addysg, ac mae\u2019n bwysig ein bod yn ceisio dysgu gan gydweithwyr sydd wedi rhannu\u2019r un profiadau.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRan o\u2019r ffordd yn unig y&nbsp; mae Cymru trwy ei thaith ddiwygio, ac mae\u2019n rhaid i ni fanteisio ar ein \u2018cyfeillion beirniadol\u2019 o bob rhan o\u2019r dirwedd addysgol i lywio a siapio ein system addysg yn well wrth symud ymlaen.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cHoffem ddiolch i\u2019r Athro Gore a\u2019i th\u00eem talentog am eu croeso cynnes ac am roi mor hael o\u2019u hamser mewn cyfnod prysur ar ddiwedd y flwyddyn academaidd &nbsp;Mae ein hymweliad ag Awstralia wedi rhoi cyfle unigryw i ni greu perthnasau proffesiynol newydd ac ymestyn cyrhaeddiad Cymru i ochr arall y byd &#8211; ac edrychwn ymlaen yn fawr at barhau \u00e2\u2019n trafodaethau yn ystod y misoedd a\u2019r blynyddoedd i ddod.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bu academyddion o\u2019r Drindod Dewi Sant ar ymweliad ag Awstralia i ddysgu gan gydweithwyr a rhannu datblygiadau\u2019n ymwneud \u00e2 thaith diwygio addysg Cymru. Derbyniwyd papur gan staff o\u2019r Athrofa Addysg a\u2019r Dyniaethau yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Ymchwil mewn Addysg Awstralia (AARE) \u2013 sy\u2019n dod ag arbenigwyr addysg at ei gilydd o bob cwr o\u2019r byd.&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39157","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39157","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39157"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39157\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39157"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39157"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39157"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}