{"id":39158,"date":"2021-02-26T16:23:08","date_gmt":"2021-02-26T16:23:08","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/gweld-cwricwlwm-i-gymru-a-golwg-20-20-ydy-en-gwneud-synnwyr\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:08","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:08","slug":"gweld-cwricwlwm-i-gymru-a-golwg-20-20-ydy-en-gwneud-synnwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/gweld-cwricwlwm-i-gymru-a-golwg-20-20-ydy-en-gwneud-synnwyr\/","title":{"rendered":"Gweld Cwricwlwm i Gymru \u00e2 golwg 20\/20 &#8211; Ydy e\u2019n gwneud synnwyr?"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Mae\u2019r cynllun ar gyfer cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru bron \u00e2\u2019i gwblhau, a gyda hynny\u2019r gobaith am gyfnod cyffrous newydd i system addysg y genedl. Yma, yn y blogiad cyntaf o ddau, mae Ty Golding yn archwilio\u2019r heriau a\u2019r cyfleoedd a gyflwynir gan y dull arloesol newydd o ddarparu addysg yng Nghymru&#8230; <\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n 2020 a bellach mae gennym olwg glir ar ddydd Mawrth, 28 Ionawr a chyhoeddi ein cwricwlwm newydd \u2013 <em><a href=\"https:\/\/hwb.gov.wales\/cwricwlwm-drafft-i-gymru-2022\/?_ga=2.101374594.2091678458.1578310355-1562064623.1574078299\">Cwricwlwm i Gymru<\/a><\/em>. Yn fy mhrofiad i, mae\u2019r dirwedd addysg ehangach a welwn yn ymddangos o flaen ein llygaid, yma yng Nghymru, yn un a luniwyd ac a ffurfiwyd i raddau helaeth gan rifau. <\/p>\n\n\n\n<p>Rhai o\u2019r rhifau amlwg yw\u2019r pum mlynedd a gymerodd i\u2019w greu gyda miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad, miloedd o ymarferwyr, cannoedd o randdeiliaid ehangach, llu o academyddion, dwsinau o sefydliadau addysg, amrediad o arweinyddion polisi, nifer o staff wedi eu secondio o ysgolion, pedwar diben a, gellid dadlau, tri gweinidog addysg a dwy flynedd ar \u00f4l i baratoi. Fodd bynnag, mae nifer o gwestiynau heb eu hateb o hyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Beth fydd lluoswm yr holl rifau hynny? Fydd y lluoswm\nterfynol yn ddigon i fodloni uchelgais, ac yn bwysicach, anghenion ein system\naddysg genedlaethol? Gaiff y proffesiwn gymorth i ddeall algorithm y cwricwlwm\nnewydd ac yn bwysicach, fyddan nhw\u2019n barod i\u2019w wireddu? Dewch i ni\nystyried pob un o\u2019r rhain yn ei dro.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><em>Beth fydd lluoswm yr holl rifau hynny?<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y rhifau hynny\u2019n darparu mwy na chwricwlwm, does dim dwywaith am hynny. I\u2019r rhai cadarnhaol ac optimistaidd yn ein plith, mae\u2019r diwygiad hwn yn gyfle i sicrhau y bydd y buddsoddiad enfawr o ran egni, deall ac arian, yn fwy o lawer na chyfanswm y rhannau. Efallai mai\u2019r cwricwlwm yw\u2019r lens y bydd y rhan fwyaf o\u2019m cydathrawon yn dewis gwylio sbectrwm y diwygio trwyddo ond nid hwn yw\u2019r unig lens. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn debyg iawn i jig-so, ni fydd anferthedd a photensial y diwygiad hwn yn amlwg ond pan fyddwn yn peidio \u00e2 chanolbwyntio ar y darnau unigol a\u2019r manion, ac yn camu n\u00f4l i weld y cysylltiad a chydberthynas y rhannau sy\u2019n ganolog iddo.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae elfennau mwyaf nodedig y diwygiad yn cwmpasu cyfnod amser sylweddol, a\u2019i ganghennau\u2019n lledu ymhell ar draws system addysg Cymru, gan ddechrau yn 2016 gyda dyfodiad y Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD). <\/p>\n\n\n\n<p>Ers hynny, rydym wedi gweld gweledigaeth genedlaethol yn cael ei mynegi yn 2017 gydag <em><a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/09\/29\/addysg-yng-nghymru-cenhadaeth-ein-cenedl\/\">Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl<\/a><\/em>, dyfodiad \u2018safonau proffesiynol\u2019 diwygiedig, y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd, y <em>Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol<\/em> (a\u2019r tri olaf yn dod yn 2018) a fersiwn ddrafft o\u2019r cwricwlwm ym mis Ebrill 2019. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Trefniadau Gwerthuso a Gwella a ail-ddychmygwyd gennym yn parhau i fod dros y gorwel.&nbsp; Gobeithio, yr unig beth sy\u2019n gyffredin rhyngddynt a\u2019u hynt, a\u2019r ddrama gan Eugene O\u2019Neill o\u2019r un enw, yw eu natur wibiog ar hyn o bryd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><em>Fydd y lluoswm terfynol yn ddigon i fodloni uchelgais, ac yn bwysicach, anghenion ein system addysg genedlaethol?<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Yn fy marn i, trwy gip cynnar ar y cwricwlwm, sylwebaeth gyhoeddus a\u2019r adborth swyddogol roedd hi\u2019n hawdd gweld bod risg o hyd a oedd yn codi dro ar \u00f4l tro, ac a fu\u2019n bresennol gydol y broses. <\/p>\n\n\n\n<p>Y risg yw y bydd angen bod gan y proffesiwn, a\u2019r rhai sydd \u00e2 diddordeb ehangach mewn addysg, ddealltwriaeth a gwybodaeth drylwyr am y cwricwlwm er mwyn gallu, a hyd yn oed dymuno <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2018\/04\/23\/cyrraedd-yr-entrychion-a-dyfodol-llwyddiannus-safbwynt-athro-dan-hyfforddiant\/\">gweithredu\u2019r cwricwlwm hwn yn llwyddiannus<\/a>. Mae angen o hyd archwilio, trafod ystyr llwyddiant yn llawn a chytuno arno \u2013 ac mae hynny\u2019n fwy heriol fyth oherwydd maint y rhanddeiliaid y mae eu hagend\u00e2u\u2019n aml yn gwrthdaro.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid credu yw gweld bob tro. Mae gen i nifer\no brofiadau personol ac rwy wedi gwrando ar straeon di-ben-draw gan gydweithwyr\nsy\u2019n dangos bod cydweithwyr, nid yn unig heb unrhyw ffydd yng ngallu ein\ncwricwlwm newydd i symud dysgu ac addysgu ymlaen, ond hefyd yn parhau i gredu,\nmewn gwirionedd, na fydd neu na ddylai byth \u2018ddigwydd\u2019!&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae barn wrthgyferbyniol, herio a thrafodaeth ddeallus yn\nrhan o broses iach o gyfarwyddo, gwerthuso a gwella \u2013 h.y. newid. Fodd bynnag,\nmae\u2019n arswydus meddwl mai hon yw barn, er i raddau amrywiol, rhai sydd agosaf\nat y gwaith o\u2019i ddatblygu ac y mae\u2019r cyfrifoldeb o sicrhau ei lwyddiant wedi ei\nymddiried iddyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Gaiff y proffesiwn gymorth i ddeall algorithm y cwricwlwm newydd ac yn bwysicach, fyddan nhw\u2019n barod i\u2019w wireddu?<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Mae agweddau ar ddiwygiad addysg Cymru, yn fwy ac yn fwy, yn cael sylw disgwrs proffesiynol cenedlaethol sy\u2019n araf aeddfedu ond nid oes un yn cael mwy o sylw na\u2019n cwricwlwm. Nid yw\u2019r cyfryngau cymdeithasol, y wasg a chynigion ymgynghorwyr preifat yn cefnogi\u2019r camau i\u2019n gwneud yn barod bob tro. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn aml yr hyn y maen nhw\u2019n ei wneud yw rhoi golwg hawdd ar ddau beth. Yn gyntaf, diffyg dyfnder o ran yr amser ymgysylltu a meddwl sydd ei angen i <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/11\/06\/torri-hualau-diwygior-cwricwlwm\/\">ddeall y cwricwlwm yn iawn<\/a> ac yn ail canlyniadau di-fudd a achosir yn aml trwy borthi trafodaeth sydd wedi ei phegynnu\u2019n ddiangen.&nbsp; Yr hyn nad yw\u2019r rhain yn ei wneud yw helpu i hoelio ein sylw ar y dysgu proffesiynol y mae ei angen ar bawb.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Er yr holl gynllunio, y trafod a\u2019r datblygiad yr ydw i\nwedi eu cael ar lefel genedlaethol ac ar lefel ysgol, ac ar \u00f4l ceisio mynegi fy\nsyniadau ynghylch y tri chwestiwn uchod, mae\u2019n rhaid i mi ofyn tri chwestiwn\npellach. Dyna yr\nydw i am fynd i\u2019r afael ag e yn ail ran y blogiad hwn:<\/p>\n\n\n\n<p>1.&nbsp; &nbsp;&nbsp;<em>Beth a olygir wrth gwricwlwm?<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>2.&nbsp; &nbsp;&nbsp;<em>Beth yw Cwricwlwm i Gymru?<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>3.&nbsp; &nbsp;&nbsp;<em>Sut y byddwn ni\u2019n symud o wybod am i wybod sut i wneud?<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn sicrhau bod y gweithlu\u2019n barod i wireddu\u2019r cwricwlwm, bydd angen dealltwriaeth gyffredin o sut rydyn ni yng Nghymru yn gyntaf wedi archwilio, ac wedyn trafod ac yn y pendraw gweithredu ar yr atebion i\u2019r union gwestiynau hynny. Dim ond trwy wneud hyn y gallwn gael eglurder a chymryd camau priodol. <\/p>\n\n\n\n<p>Os diwygiad a luniwyd gan rifau yw hwn mewn gwirionedd, wiw i ni esgeuluso\u2019r rhif pwysicaf oll \u2013 y rhif un. Rydym yn byw ac yn gweithio mewn system ryfeddol o amrywiol, cymhleth a chynnil ond rydyn ni\u2019n un genedl, mae angen i ni gael un weledigaeth a dim ond un cyfle a gawn ni i ddarparu addysg i blant ar gyfer eu hunig ddyfodol.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong><em>Ty\u00a0Golding yw Pennaeth Ysgol y Ddraig, ym Mro Morgannwg, ac mae\u2019n fyfyriwr ar raglen Doethuriaeth mewn Addysg Yr Athrofa\u00a0<\/em><\/strong><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r cynllun ar gyfer cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru bron \u00e2\u2019i gwblhau, a gyda hynny\u2019r gobaith am gyfnod cyffrous newydd i system addysg y genedl. Yma, yn y blogiad cyntaf o ddau, mae Ty Golding yn archwilio\u2019r heriau a\u2019r cyfleoedd a gyflwynir gan y dull arloesol newydd o ddarparu addysg yng Nghymru&#8230; Mae\u2019n 2020 a bellach&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39158","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39158","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39158"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39158\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39158"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39158"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39158"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}