{"id":39162,"date":"2020-02-24T16:23:00","date_gmt":"2020-02-24T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/oedi-i-adfyfyrio-defnyddio-ymchwil-i-lywio-arfer-yn-yr-ysgol\/"},"modified":"2021-02-28T21:59:25","modified_gmt":"2021-02-28T21:59:25","slug":"oedi-i-adfyfyrio-defnyddio-ymchwil-i-lywio-arfer-yn-yr-ysgol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2020\/02\/24\/oedi-i-adfyfyrio-defnyddio-ymchwil-i-lywio-arfer-yn-yr-ysgol\/","title":{"rendered":"Oedi i adfyfyrio \u2013 defnyddio ymchwil i lywio arfer yn yr ysgol"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Mae\u2019r Athrofa wedi bod yn cynorthwyo ysgolion ar draws De Cymru i wneud ymchwil agos-at-arfer yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain.Yma, yn y cyntaf o gyfres o flogiau, mae Jonathan Davies o Ysgol Gyfun Treorci yn egluro ei ran yn y prosiect \u2018Ysgolion Ymchwil\u2019&#8230;<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<p>Mae Ysgol Gyfun\nTreorci (YGT) wedi\u2019i lleoli yng Nghwm Rhondda ac mae\u2019n gwasanaethu cymuned\nwledig amrywiol a\u2019r cymoedd cyfagos. Ar hyn o bryd mae 1606 o ddisgyblion ar y\ngofrestr gydag ychydig o dan 400 o ddisgyblion yn y 6ed dosbarth a hyd at 180 o\nstaff, gyda 98 ohonynt yn staff addysgu. Mae tua 25% o\u2019r disgyblion yn gymwys i\ngael prydau ysgol am ddim ac mae tua 41% o\u2019r disgyblion yn byw yn yr 20% o\nardaloedd mwyaf amddifad yng Nghymru. Ers blynyddoedd lawer, mae\u2019r ysgol, dan\narweiniad pennaeth hynod ymroddedig ac ysbrydoledig, wedi bod ar flaen y gad yn\ny byd addysg yng Nghymru gan sicrhau graddau rhagorol yn y tri arolygiad Estyn\ndiwethaf. Ym mhob un o\u2019r rhain, disgrifiwyd amrywiol strategaethau fel rhai sy\u2019n arwain\ny sector (e.e. Dwyieithrwydd, y system Fugeiliol a Phartneriaeth i enwi ond\nrhai). <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhesymwaith<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae ymchwil\nagos-at-arfer yn datblygu\u2019n un o\u2019r prif ddulliau o gefnogi datblygiad a\ngwelliant ysgol gyfan. Mae\u2019r rhesymau am hyn yn ddeublyg; gall staff\nddatblygu eu datblygiad proffesiynol eu hunain a gall disgyblion elwa o gael eu\nhaddysgu a\u2019u cefnogi gan aelodau staff cymwys iawn, oll yn unol \u00e2 <em>Chenhadaeth\nein Cenedl<\/em>. Mae\u2019r blog hwn yn canolbwyntio ar brosiect ymchwil lle bu addysgwyr\nathrawon ac ymarferwyr dosbarth yn cydweithio mewn astudiaethau ymchwil\nagos-at-arfer i ystyried Lles staff a disgyblion yn yr ysgol. <\/p>\n\n\n\n<p>Fel ysgol Arweiniol o fewn <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/addysg-athrawon\/\">Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA)<\/a>, cawsom ni (YGT) gyfle i fod yn rhan o ddatblygu ymchwil (o fewn ysgolion) yn gysylltiedig \u00e2 datblygu\u2019r rhaglen newydd ar gyfer Addysg Athrawon. Roedd hwn yn argymhelliad yn adroddiad John Furlong, \u2018Addysgu Athrawon Yfory\u2019. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Dylai athrawon ac addysgwyr athrawon ymgysylltu ag ymchwil, nid yn unig fel defnyddwyr craff, ond hefyd fel y gallant gynnal eu hymholiadau eu hunain;<\/li><li>Mae\u2019n hanfodol fod ysgolion a phrifysgolion yn cydweithio o ran hyfforddi a datblygu athrawon.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Gan weithio mewn partneriaeth \u00e2 PDPA, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/canolfannau-ymchwil-ac-arloesi\/\">gweithredwyd y canlynol i gynorthwyo staff i ddatblygu techneg ymchwil<\/a>:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Paru darlithydd o\u2019r brifysgol gyda phob ysgol;<\/li><li>Sgyrsiau dysgu yn seiliedig ar;<\/li><li>Ddibenion ymchwil;<\/li><li>Dylunio ymchwil;<\/li><li>Moeseg;<\/li><li>Adolygiadau llenyddiaeth;<\/li><li>Dadansoddi data\/codio.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Y Prosiect Ymchwil<br> <\/strong>Cred yr ysgol yn gryf fod angen sgiliau annibyniaeth a chyd-ddibyniaeth ar bob disgybl i sicrhau llwyddiant yn yr ysgol ac yn y dyfodol. Rhaid rhoi cymorth a hyfforddiant i ddisgyblion i ddatblygu\u2019r sgiliau hyn ynghyd \u00e2 chyfleoedd i\u2019w datblygu yn ystod y diwrnod ysgol. Bu\u2019r sgiliau&nbsp; hyn yn flaenllaw yng Nghynllun Gwella\u2019r Ysgol (CGY) dros y blynyddoedd diwethaf ac yn fwyaf diweddar, gwnaed newidiadau arwyddocaol i wythnos yr ysgol a\u2019r cwricwlwm i gefnogi\u2019r weledigaeth hon. Yn ystod y flwyddyn academaidd 2017-18, gweithredwyd y ddwy strategaeth ganlynol i gefnogi lles staff a disgyblion ynghyd \u00e2 datblygu ymddygiadau annibynnol disgyblion:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>1. Yr wythnos\nanghymesur <\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r wythnos anghymesur ar ffurf amserlen pythefnos gyda mwy o oriau o\nddydd Llun i ddydd Iau a diwrnod byrrach ar ddydd Gwener.&nbsp; Dros y cyfnod o\nbythefnos, mae un dydd Gwener yn caniat\u00e1u i staff fynychu cyfarfodydd adran ac\narweinyddiaeth sydd hefyd yn cynnwys cyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol\nparhaus. Mae\u2019r ail ddydd\nGwener yn cynnig cyfle i staff adael yr ysgol yn gynnar (90 munud) a allai\ngynnwys; mynd i\u2019r gampfa, cael penwythnos hir, casglu plant o\u2019r ysgol, cwblhau\ngwaith cyn y penwythnos, ac ati. Ymhellach, mae datblygu\u2019r wythnos anghymesur, gyda gwersi wedi\u2019u cwtogi o\n5 munud, wedi galluogi gweithredu&nbsp; amser\n\u2018Paratoi\u2019 deirgwaith yr wythnos i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 7 i 11. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>2. Datblygu\namser Paratoi yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 <\/strong><em>(i ddatblygu sgiliau annibynnol a cyd-ddibynnol)<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Lluniwyd amser paratoi i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau annibynnol a\nchyd-ddibynnol o fewn y cwricwlwm. Diben y sesiynau Paratoi yw datblygu sgiliau megis cydnerthedd,\nannibyniaeth a chyd-ddibyniaeth trwy amrywiol weithgareddau, gan hefyd gynnig\namser i ddisgyblion ddechrau gwaith cartref, testunau ymchwil a diweddaru\u2019u\nhunain ar faterion cyfoes trwy ddarllen papurau newydd a defnyddio technolegau. Mae cynllun y sesiynau\nParatoi hefyd yn darparu cymorth \u2018cofleidiol\u2019 ar gyfer anghenion bugeiliol o\nfewn pob gr\u0175p blwyddyn wrth i\u2019r Anogwyr Dysgu (Tiwtoriaid Dosbarth) gwrdd \u00e2\u2019u gr\u0175p bob bore\na\u2019r wers olaf bob yn ail ddiwrnod i ddarparu\u2019r wers bwrpasol hon. Mae\u2019r gwersi i gyd yn\ncael eu harwain a\u2019u cefnogi gan Anogwyr Dysgu hyfforddedig, sy\u2019n derbyn\nadnoddau a chynlluniau ar gyfer y gwersi wythnosol.&nbsp;&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>O fewn y prosiect ymchwil, bu t\u00eem o staff, a benodwyd o amrywiol adrannau ac sy\u2019n gwahaniaethu o ran profiad, yn ystyried:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>beth fu effaith ganfyddedig yr wythnos anghymesur newydd ar ddisgyblion a staff;<\/li><li>sut mae disgyblion wedi datblygu eu sgiliau annibynnol dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac; <\/li><li>i ba raddau mae\u2019r newidiadau hynny\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r newidiadau strategol arwyddocaol a weithredwyd.<\/li><\/ol>\n\n\n\n<p><strong>Beth ydyn ni\nwedi\u2019i ddysgu? <\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Fel ysgol roeddem ni\u2019n newydd iawn i ymchwil ac yn fuan ar \u00f4l dechrau\u2019r\nprosiect, daethom i sylweddoli maint y dasg dan sylw. Y bwriad gwreiddiol oedd canolbwyntio ar hyn am\nflwyddyn ond buan y sylweddolom yr angen i ymestyn y prosiect dros ddwy\nflynedd. Pwrpas hyn oedd\ncaniat\u00e1u i\u2019r ymchwil gael set o ddata sylfaenol, data canol prosiect a set\nderfynol. Roedd hyn wedyn\nyn caniat\u00e1u i ni ystyried unrhyw effaith. Roedd y t\u00eem o staff wedi gwirfoddoli ar gyfer y prosiect ac roeddent yn\nawyddus i ddysgu a bod yn rhan o\u2019r prosiect cydweithredol hwn gyda\u2019r Brifysgol. Erbyn y diwedd, roedd\ncynrychiolaeth o bump allan o\u2019r chwe Maes Dysgu a Phrofiad. <\/p>\n\n\n\n<p>Roedd ymgymryd \u00e2 phrosiect o\u2019r fath yn cynnig rhai heriau. Roedd y rhain yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Dyraniad amser (cyllid i staff gwblhau\u2019r casgliadau data a dadansoddi\u2019r canlyniadau);<\/li><li>Gweithio mewn ysgol o faint sylweddol (Disgyblion a Staff) \u2013 ystyried; maint grwpiau ffocws ac amlder cyfarfodydd;<\/li><li>Deall a gweithio gyda data ar lefel ymchwil \u2013 codio;<\/li><li>Paratoi a chwblhau ffurflenni Moesegol;<\/li><li>Diystyru unrhyw syniadau rhagdybiedig a bod yn gwbl ddiduedd.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Un her sylweddol oedd y newid mewn staff o fewn y t\u00eem ac o fewn yr ysgol. Yn gyffredinol roedd hyn\nyn gysylltiedig \u00e2 dyrchafiad i ysgolion eraill. Cafodd hyn effaith ar y data a gasglwyd a\u2019r rhai\noedd yn ymwneud \u00e2\u2019r prosiect ei hun. Fodd bynnag, buan y llenwyd y bylchau a adawyd gan rai o staff y prosiect\ngan staff brwdfrydig a pharod a fu\u2019n rhan o\u2019r prosiect mewn ffyrdd eraill. Mewn nifer o ffyrdd\nroedd hyn yn gyfle o\u2019r newydd i bawb i ailaddasu a chael ffocws newydd ar gyfer\nyr ail flwyddyn. <\/p>\n\n\n\n<p>Gan ystyried yr uchod, aeth y Prosiect yn hwylus iawn a thrwy\u2019r t\u00eem o\nstaff ymroddgar ac ymroddedig, ynghyd \u00e2 chefnogaeth ardderchog gan PDPA,\nllwyddom i ddod i gasgliadau a ffurfio argymhelliad ar sail y cwestiynau\nallweddol a ofynnwyd. Fel gydag unrhyw\nbrosiect da, roedd llinellau amser priodol, cyfathrebu ardderchog a rhesymwaith\nglir yn sail i\u2019r gwaith.\n<\/p>\n\n\n\n<p>Un o brif gasgliadau\u2019r prosiect oedd nad oes raid i ymchwil fod yn ddarn\no waith ar raddfa eang. Rhaid iddo, fodd\nbynnag, gael gweithdrefnau a disgwyliadau clir a chyn dechrau prosiect dylid\nystyried y cwestiynau canlynol;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Pam\nrydyn ni\u2019n gwneud hyn? <\/li><li>Beth\nfyddwn ni\u2019n ennill ohono? <\/li><li>Pwy\nfydd yn elwa ohono? <\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Os bydd yr uchod yn darparu datblygiad parhaus a chyfleoedd i bob\nrhanddeiliad yn yr ysgol, yna dyna yw\u2019r peth iawn i wneud. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y Camau Nesaf <\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>O ganlyniad i ymwneud \u00e2\u2019r prosiect ymchwil hwn, ac yn unol \u00e2 chynllun y\nCwricwlwm i Gymru, mae\u2019r ysgol yn manteisio ar gyfleoedd i gefnogi ymchwil\nagos-at-arfer trwy ddatblygu prosiectau eraill i edrych ar feysydd megis:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Datblygu Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol;<\/li><li>Asesu ar gyfer Dysgu ar draws yr ysgol;<\/li><li>Effaith gwaith cartref ar y dysgwr.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong><em>Mae Jonathan Davies yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gyfun Treorci ac yn Arweinydd Rhwydwaith ar gyfer HCA ym <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/addysg-athrawon\/\">Mhartneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA)<\/a>. Mae Jonathan wedi helpu datblygu\u2019r defnydd o ymchwil yn yr ysgol<\/em><\/strong><\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r Athrofa wedi bod yn cynorthwyo ysgolion ar draws De Cymru i wneud ymchwil agos-at-arfer yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain.Yma, yn y cyntaf o gyfres o flogiau, mae Jonathan Davies o Ysgol Gyfun Treorci yn egluro ei ran yn y prosiect \u2018Ysgolion Ymchwil\u2019&#8230; Mae Ysgol Gyfun Treorci (YGT) wedi\u2019i lleoli yng Nghwm Rhondda ac&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39186,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[],"class_list":["post-39162","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39162","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39162"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39162\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39457,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39162\/revisions\/39457"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39186"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39162"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39162"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39162"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}