{"id":39163,"date":"2020-03-08T16:23:00","date_gmt":"2020-03-08T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/streipiau-cochion-sut-ydym-yn-cefnogi-darpar-athrawon-drwy-daith-ddiwygio\/"},"modified":"2021-02-28T21:55:20","modified_gmt":"2021-02-28T21:55:20","slug":"streipiau-cochion-sut-ydym-yn-cefnogi-darpar-athrawon-drwy-daith-ddiwygio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2020\/03\/08\/streipiau-cochion-sut-ydym-yn-cefnogi-darpar-athrawon-drwy-daith-ddiwygio\/","title":{"rendered":"\u2018Streipiau Cochion\u2019 \u2013 sut ydym yn cefnogi darpar athrawon drwy daith ddiwygio?"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Mae\u2019r dorf o newidiadau sy\u2019n digwydd i system addysg Cymru yn ddigon i ddanto hyd yn oed yr athro mwyaf profiadol \u2013 felly dychmygwch sut beth fyddai trafod diwygio\u2019r cwricwlwm i\u2019r sawl sydd newydd ymuno \u00e2\u2019r proffesiwn. Yma, mae Elaine Sharpling yn annog sgwrs agored a gonest rhwng addysgwyr ar bob lefel er mwyn paratoi pawb ar gyfer yr heriau sydd yn ein hwynebu&#8230;<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<p>Lawer o flynyddoedd yn \u00f4l, dechreuais yn frwdfrydig fy hyfforddiant fel Nyrs Gofrestredig yn ysbyty Selly Oak, Birmingham, sydd bellach wedi\u2019i ddymchwel.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>Wrth feddwl yn \u00f4l, roedd yr hyfforddiant hwnnw\u2019n adlewyrchu llawer o agweddau ar daith <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/addysg-athrawon\/\">darpar athro<\/a>, sef treulio adegau yn yr Ysgol Nyrsio a leolwyd mewn rhan ddiflas o\u2019r ysbyty a oedd unwaith yn dloty, a\u2019i ddilyn gan nifer o brofiadau ar wahanol wardiau. <\/p>\n\n\n\n<p>Nid oedd unrhyw fentoriaid ar y cyfryw, ac yn bendant nid oedd unrhyw ddealltwriaeth ffurfiol o\u2019r r\u00f4l honno chwaith, ond roedd un arwydd gweladwy i ddangos fy mod yn nyrs newydd a dibrofiad nad oedd efallai ganddi\u2019r atebion. <\/p>\n\n\n\n<p>Yr arwydd hwnnw oedd un streipen lydan goch ar ein capiau. Roedd gan fyfyrwyr mwy profiadol un, dwy neu dair streipen las tywyll a oedd yn adlewyrchu eu lefelau o astudio.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhoddwyd i ni\u2019r enw \u2018streipiau cochion\u2019 gan ein cydweithwyr, y cleifion a\u2019r ymwelwyr, gan wybod mai camau cynnar oedd y rhain yn natblygiad ein sgiliau. Cofiaf yn glir iawn fy mod wedi gallu mesur tymheredd, gwneud gwelyau a chreu corneli fel newydd i ddillad gwely\u2019r ysbyty ond roeddwn yn hollol ddigalon pan ofynnid i mi fesur pwysedd gwaed rhywun.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth gwrs, dros gyfnod, datblygodd fy ngwybodaeth a\u2019m sgiliau, ac roeddwn\nyn gallu gofalu am y claf mewn ffordd gyfannol gan roi\u2019r unigolyn yn gyntaf ac\nedrych y tu hwnt i\u2019r technegau meddygol gofynnol. Hysbysir bob amser y\ndatblygiad hwn gan arbenigedd nyrs arall, a goruchwyliwyd yn agos y \u2018streipiau\ncochion\u2019 tan iddynt gyrraedd eu hannibyniaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewn cyferbyniad i hyn, nid yw <em><a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/addysg-athrawon\/\">darpar athrawon<\/a><\/em> yn gwisgo unrhyw fath o bl\u00e2t dysgu \u2018D\u2019&nbsp;\u2013 a dweud y gwir, ni fyddai hyn yn arwydd defnyddiol i\u2019r dysgwyr maent yn eu haddysgu. Ond i\u2019r sawl ohonom sy\u2019n ymwneud ag addysg athrawon, rhaid i ni gydnabod mai dyma union yr un sefyllfa y mae ein myfyrwyr yn ei phrofi yn yr ystafell ddosbarth.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y llyfr <em>Beginner Teachers\u2019 Learning<\/em> (2014), mae\u2019r awduron yn ein hannog i gydnabod cymhlethdod\naddysgu a\u2019r heriau y bydd rhaid i ddarpar athrawon eu hwynebu. O\u2019r diwrnod\ncyntaf yn yr ystafell ddosbarth, mae angen ar ein darpar athrawon newydd iawn ddealltwriaeth\no weithredu\u2019r canlynol yn drwyadl: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cynllunio<\/li><li>Strwythuro<\/li><li>Dyfeisio<\/li><li>Dod o\nhyd i adnoddau<\/li><li>Gwahaniaethu\nar gyfer disgyblion niferus<\/li><li>Darparu\nadborth effeithiol<\/li><li>Creu\nperthnasau ystyrlon.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Er i mi fesur tymheredd y claf a throi at nyrs arall i gofnodi\u2019r pwysedd\ngwaed, ni all y darpar athro ddim ond dewis ymgymryd \u00e2\u2019r agweddau uchod wrth\naddysgu gwers; rhaid iddo jyglo pob elfen er mwyn creu rhyw fath o daith ddysgu\ngydlynol, gyda chymorth cydweithwyr mwy profiadol.<\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;Her arall yw bod yr athro profiadol, sy\u2019n gallu, mae\u2019n debyg, ystyried pob un o\u2019r agweddau hyn yn ei dro, yn gwneud hynny\u2019n ddigrybwyll mewn ffordd a allai fod yn anweladwy neu heb ei hesbonio i\u2019r darpar athro. Mae\u2019r diffyg gwelededd ac esboniad hwn yn gadael myfyrwyr mewn perygl o fethu deall y \u2018pam\u2019 sydd y tu cefn i benderfyniadau athrawon.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>Heb y ddealltwriaeth ddofn hon, gall arfer darpar athrawon fod naill ai wedi\u2019i seilio ar gamsyniadau neu hyd yn oed ar ddynwared yr athro dosbarth profiadol.&nbsp;Ni fydd y naill ymagwedd neu\u2019r llall o unrhyw fudd wrth iddynt ddatblygu eu hunaniaeth eu hunain fel athrawon. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r &nbsp;broblem hon yn gofyn i ni fel <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/01\/13\/toddi-plu-eira-ar-gyfer-oes-addysg-newydd\/\">addysgwyr athrawon<\/a> i adfyfyrio ar ein dulliau wrth gynorthwyo dysgu darpar athrawon. Er enghraifft, rydym yn aml yn defnyddio arsylwi fel ffordd o ddeall byd cymhleth yr ystafell ddosbarth ac yn anfon myfyrwyr i wylio amrywiaeth fawr o wahanol athrawon sydd ag enw am fod yn arbenigwyr mewn rhai agweddau ar arfer. <\/p>\n\n\n\n<p>Ond rydym yn cydnabod bod y dasg o arsylwi ar natur ddigrybwyll a chymhleth addysgu yn un amhosibl, ac ar ei gorau caiff myfyrwyr eu gadael yn dyfalu\u2019n annigonol am yr hyn a ddigwyddodd. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae angen i ni fod yn llawer mwy cadarn wrth ofyn i\u2019n hunain \u2013 \u2018sut ydym yn cynorthwyo ein darpar athrawon i ddysgu am natur addysgu?\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>Un ymagwedd ddefnyddiol yw bod darpar athrawon yn cael sgyrsiau gydag\nathrawon profiadol am benderfyniadau a wnaed yn yr ystafell ddosbarth. Nid yw\u2019n dasg hawdd oherwydd mae rhannu a siarad am arbenigedd a dweud y\ngwir yn eithaf anodd wrth ystyried rhediad cyflym a natur gymhleth yr ystafell\nddosbarth.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>Caiff hyn ei waethygu\u2019n bellach gan gyflwr yr ansicrwydd presennol wrth roi\u2019r cwricwlwm newydd ar waith.&nbsp;Mae rhannu arbenigedd \u00e2 myfyrwyr yn ddigon anodd&nbsp; ar gyfer cwricwlwm sefydledig gyda llwybrau cyfarwydd parthed sut caiff pethau eu cynllunio, eu haddysgu a\u2019u hasesu; o fewn tirlun o ddiwygio, mae hyd yn oed yn fwy anodd.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ei hanfod, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/01\/13\/toddi-plu-eira-ar-gyfer-oes-addysg-newydd\/\">er mwyn dysgu sut i addysgu<\/a>, mae angen bod darpar athrawon yn cael sgyrsiau ystyrlon cyfredol gydag athrawon profiadol am sut caiff penderfyniadau eu gwneud yn yr ystafell ddosbarth. Ond mae\u2019r cyfnod hwn yn un pan fydd y proffesiwn cyfan efallai yn teimlo\u2019n ansicr iawn am y byd newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Un ffordd ymlaen yw bod holl lefelau\u2019r system, o ddarpar athro i\u2019r sawl sy\u2019n arwain, yn hyderus wrth agor trafodaethau am ddewisiadau addysgegol gan ardystio bod gan addysgwyr hunaniaeth unigryw, sef maent yn ddysgwyr ac yn athrawon. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r mantra \u2018rydym yn dysgu i gyd a dysgu o hyd\u2019 yn galonogol iawn i ddarpar athrawon ac a dweud y gwir, mae\u2019n cofleidio priodweddau\u2019r gallu a\u2019r uchelgais. <\/p>\n\n\n\n<p>Ni ddylid cynnal y math sgyrsiau yn \u00f4l yr angen ond mae angen eu hymgorffori\u2019n systematig mewn trafodaethau am arferion cwricwla\u2019r dyfodol.&nbsp;Mae cyfleoedd cynlluniedig sy\u2019n galluogi athrawon a darpar athrawon i rannu ac adfyfyrio ar syniadau yn fenter wir fuddiol. <\/p>\n\n\n\n<p>Er bydd darpar athrawon bob amser yn \u2018streipiau cochion\u2019 a bydd gan athrawon profiadol gyfoeth o brofiad i\u2019w ddefnyddio, nid oes cyfnod mwy hanfodol wedi bod erioed ar gyfer annog sgyrsiau gonest am y cwricwlwm a sut y gallai ei wireddu fod o fudd i bawb. <\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><em><strong>Elaine Sharpling yw <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/addysg-athrawon\/\">Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon<\/a>, Yr Athrofa: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/em> <\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r dorf o newidiadau sy\u2019n digwydd i system addysg Cymru yn ddigon i ddanto hyd yn oed yr athro mwyaf profiadol \u2013 felly dychmygwch sut beth fyddai trafod diwygio\u2019r cwricwlwm i\u2019r sawl sydd newydd ymuno \u00e2\u2019r proffesiwn. Yma, mae Elaine Sharpling yn annog sgwrs agored a gonest rhwng addysgwyr ar bob lefel er mwyn paratoi&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39188,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[],"class_list":["post-39163","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39163","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39163"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39163\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39455,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39163\/revisions\/39455"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39188"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39163"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39163"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39163"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}