{"id":39164,"date":"2020-04-08T16:23:00","date_gmt":"2020-04-08T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/diwylliannaun-newid-cydnabod-angen-dysgu-wrth-eich-pwysau\/"},"modified":"2021-02-28T21:53:52","modified_gmt":"2021-02-28T21:53:52","slug":"diwylliannaun-newid-cydnabod-angen-dysgu-wrth-eich-pwysau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/diwylliannaun-newid-cydnabod-angen-dysgu-wrth-eich-pwysau\/","title":{"rendered":"Diwylliannau\u2019n newid: cydnabod angen \u2018dysgu wrth eich pwysau\u2019"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Bydd datblygiad proffesiynol i\u2019r gweithlu addysg yn hollbwysig er mwyn gweithredu\u2019r cwricwlwm cenedlaethol newydd i Gymru yn llwyddiannus. Ond mae dysgu\u2019n broses raddol nad oes nodd ei rhuthro, yn \u00f4l Catherine Kucia&#8230; <\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<p>Yn ddiamau mae \u2018llesiant\u2019 yn un o\u2019r geiriau ffasiynol presennol yn y byd addysg. Roedd sgwrs diweddar ar Twitter (<em><a href=\"https:\/\/twitter.com\/networkEDcymru\">@networkEDcymru<\/a><\/em>) wedi nodi bod gan athrawon o bob cwr o Gymru brofiadau amrywiol o ran eu dealltwriaeth o lesiant a\u2019r modd y caiff ei ddatblygu mewn ysgolion. <\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn darparu man cychwyn i ddiffinio beth sydd, heb amheuaeth, yn gysyniad cymhleth, mae\u2019r Oxford English Dictionary yn disgrifio \u2018wellbeing\u2019 fel \u2018the state of being comfortable, healthy, or happy\u2019. <\/p>\n\n\n\n<p>Credaf fel addysgwyr ei bod yn ddyletswydd foesol arnom i sicrhau bod y plant dan ein gofal yn hapus a diogel. I mi, mae\u2019r syniad o lesiant ym myd addysg yn fwy na\u2019r diffiniad yn y geiriadur yn unig, dyma hanfod bod yn barod i ddysgu. <\/p>\n\n\n\n<p>Felly os gofynnir i ysgolion ddatblygu a chefnogi llesiant, rhaid mai\u2019r her yw sicrhau bod llesiant ymarferwyr hefyd yn cael ei ystyried. Daw\u2019r cysyniad \u2018<em>rhowch eich masg ocsigen eich hun ymlaen yn gyntaf\u2019<\/em> i\u2019r meddwl. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r disgwyliadau o\u2019r proffesiwn addysgu\u2019n uchel, a byth yn fwy nag yn yr hinsawdd cyfredol o <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/02\/22\/cwricwlwm-arloesol-dan-arweiniad-athrawon-trawsnewidiol\/\">ddiwygiadau addysg niferus yma yng Nghymru<\/a>. Mae\u2019n hollbwysig bod ymarferwyr yn gofalu am eu llesiant eu hun. <\/p>\n\n\n\n<p>Fel pennaeth gallaf weld bod modd mynegi hyn mewn dwy ffordd \u2013 yn broffesiynol ac yn bersonol. Yn bersonol, rwy\u2019n gwneud amser i redeg; gwisgo fy sgidiau rhedeg, mynd tu allan a mwynhau heriau newydd. Yn aml caf sylwadau yn gofyn sut mae gen i amser i redeg. <\/p>\n\n\n\n<p>F\u2019ymateb i bob tro yw \u2018Rwy\u2019n gwneud yr amser\u2019. Trwy wneud hyn fy ngobaith yw gosod esiampl, er bod honno\u2019n un fach, fy mod yn gwneud rhywbeth rwy\u2019n frwdfrydig amdano, sy\u2019n gwella fy llesiant ac yn cael effaith gadarnhaol ar fy ngwaith proffesiynol. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn broffesiynol, mae\u2019n ymwneud \u00e2 sicrhau mai dysgu yw\u2019r prif ffocws ym mhopeth rwy\u2019n ei wneud a bod amser ar gyfer dysgu\u2019n cael ei werthfawrogi. Yn ein cymdeithas sy\u2019n symud mor gyflym, mae amser yn rhywbeth prin, yn aml rydym yn brin o amser ond yn gyforiog o weithgarwch. Os hoffem yn wir sicrhau lefelau uchel o lesiant, mae angen i ni barchu <em>dysgu wrth eich pwysau<\/em>. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn fy mhrofiad i, er mwyn datblygu <em>dysgu wrth eich pwysau<\/em> i ymarferwyr a phlant, rhaid iddo ddechrau gyda diwylliant yr ysgol. Mae diwylliant \u00e2 ffocws ar ddysgu\u2019n gofyn am weledigaeth ac ymddygiadau sy\u2019n gyrru arweinwyr, staff a phlant. <\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag gall hyn ddigwydd dim ond os oes perthnasoedd cryf o fewn a thu hwnt i gymuned yr ysgol. Mae hinsawdd cadarnhaol ar gyfer dysgu\u2019n gofyn am gyfathrebu eglur, agored a gonest. Mae hefyd yn gofyn am lefelau uchel o ymddiriedaeth. <\/p>\n\n\n\n<p>Arweinwyr ysgol sy\u2019n gosod yr hinsawdd a\u2019r diwylliant o ymddiriedaeth mewn ysgol. Mae galluogi <em>dysgu wrth eich pwysau<\/em> yn gofyn am arweinwyr sy\u2019n ystyried yn ofalus systemau a strwythurau sy\u2019n canolbwyntio ar ddysgu. <\/p>\n\n\n\n<p>O brofiad, mae darparu amser i ymarferwyr siarad a chydweithio\u2019n hanfodol. Mae darparu rhyddid i staff ddatblygu syniadau heb deimlo eu bod wedi\u2019u clymu gan hualau traddodiadol addysg yn ganolog i\u2019r ffordd hon o weithio. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r disgwyliadau cyfredol ynghylch y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru yn cael eu hystyried gan lawer o athrawon yn or-feichus ac yn orlawn. Yn fy marn i, mae\u2019r <em>Cwricwlwm newydd i Gymru<\/em>, sydd ar gael ar hyn o bryd mewn fersiwn drafft ac a ddaw\u2019n statudol ym mis Medi 2022, yn dileu cyfyngiadau o\u2019r fath ac yn caniat\u00e1u lefel o ryddid nas profwyd yn flaenorol. <\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw hyn yn golygu bod agwedd laissez faire tuag at ddysgu. I\u2019r gwrthwyneb, mae cwricwlwm \u00e2 dyluniad eglur a ddatblygwyd gan ac ar y cyd ag athrawon ac sy\u2019n darparu braslun ar gyfer cynllunio cyfleoedd dysgu yn hanfodol. <\/p>\n\n\n\n<p>Fel pennaeth ysgol sydd wedi penderfynu mabwysiadu hanfod y <em><a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2020\/01\/24\/gweld-cwricwlwm-i-gymru-a-golwg-20-20-ydy-en-gwneud-synnwyr-2\/\">Cwricwlwm newydd i Gymru<\/a><\/em>, rwy\u2019n cael sgyrsiau gydag athrawon sydd bellach yn teimlo bod ganddynt fwy o amser i feddwl a thrafod them\u00e2u dysgu. Nid ydynt yn bustachu drwy gynlluniau gwaith o fewn cyfnodau amser penodedig. <\/p>\n\n\n\n<p>Maent yn hyblyg gyda chyfeiriad y dysgu gan sicrhau bod dysgu\u2019n cael ei yrru gan anghenion a galluoedd y plant yn hytrach na phwysau allanol. Mae hyn ond yn bosibl gyda diwylliant sy\u2019n ymddiried ynddynt er mwyn iddynt drefnu\u2019r dysgu mewn ffordd sydd orau i\u2019w plant. <\/p>\n\n\n\n<p>Galluogir hyn drwy ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel. Anogir galluogedd athrawon, disgwylir galluogedd cydweithredol a darperir amser i\u2019r holl staff ymchwilio, siarad a threialu syniadau newydd. Mae pwrpas eglur ac mae hyn ynghyd \u00e2 <em>dysgu wrth eich pwysau<\/em> yn effeithio ar staff a phlant.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>Mae plant yn dysgu o bopeth o\u2019u cwmpas \u2013 pobl, amgylchedd, awyrgylch, y drefn arferol a phrofiadau. Mae datblygu <em>dysgu wrth eich pwysau<\/em> yn effeithio ar deimladau plant o fod yn hapus. Nid yw dysgu\u2019n teimlo fel ras. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae plant yn cael eu meithrin a\u2019u cefnogi i ddatblygu a rhoddir amser iddynt ymwneud \u00e2\u2019r profiadau a gynigir iddynt. Er mwyn galluogi hyn mae angen ymarferwyr sy\u2019n mynd ati\u2019n fwriadol i arfer <em>dysgu wrth eich pwysau<\/em>.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r term llesiant yn llawer mwy na diffiniad geiriadur, i mi dyma graidd dysgu. Mae\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r diwylliant iawn, y perthnasoedd iawn ac amser. Pwrpas a ddylai ei yrru yn ei flaen, nid beth mae pobl yn ei wneud yn yr ysgol, ond pam maen nhw\u2019n ei wneud. <\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn annog arweinwyr ysgol sy\u2019n cychwyn ar heriau cwricwlwm newydd i ystyried <em>dysgu wrth eich pwysau<\/em> er mwyn i\u2019r holl ymarferwyr a phlant gael y cyfle i ffynnu. <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong><em>Catherine Kucia yw pennaeth Ysgol Gynradd Parc Jiwbil\u00ee, Casnewydd, ac mae\u2019n fyfyriwr ar raglen <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/doethuriaeth-addysg\/\">Doethuriaeth mewn Addysg<\/a> yr Athrofa Addysg<\/em><\/strong><\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd datblygiad proffesiynol i\u2019r gweithlu addysg yn hollbwysig er mwyn gweithredu\u2019r cwricwlwm cenedlaethol newydd i Gymru yn llwyddiannus. Ond mae dysgu\u2019n broses raddol nad oes nodd ei rhuthro, yn \u00f4l Catherine Kucia&#8230; Yn ddiamau mae \u2018llesiant\u2019 yn un o\u2019r geiriau ffasiynol presennol yn y byd addysg. Roedd sgwrs diweddar ar Twitter (@networkEDcymru) wedi nodi bod&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39452,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[],"class_list":["post-39164","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39164","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39164"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39164\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39454,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39164\/revisions\/39454"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39452"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39164"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39164"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39164"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}