{"id":39165,"date":"2020-06-29T16:23:00","date_gmt":"2020-06-29T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/mewngofnodi-i-addysgu-ar-lein\/"},"modified":"2021-02-28T21:50:00","modified_gmt":"2021-02-28T21:50:00","slug":"mewngofnodi-i-addysgu-ar-lein","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2020\/06\/29\/mewngofnodi-i-addysgu-ar-lein\/","title":{"rendered":"Mewngofnodi i addysgu ar-lein"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ailagor ysgolion Cymru ar Fehefin 29<sup>ain<\/sup>, mae Nerys Defis yn ystyried rhai o&#8217;r heriau sydd ynghlwm \u00e2 dysgu o bell, a&#8217;i effaith ar ysgolion, athrawon, disgyblion a rhieni<\/em>&#8230;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<p>Yn dilyn holl effeithiau pandemig\nCOVID-19 ar ein bywydau, ystyria rhai bod ailagor ysgolion Cymru ar ddiwedd mis\nMehefin, yn arwydd bod pethau\u2019n dychwelyd i rywfaint o normalrwydd. Wedi\u2019r\ncyfan, mae\u2019n galluogi addysg i ail-ymgartrefu yn ei gynefin \u2013 yr ystafell\nddosbarth. <\/p>\n\n\n\n<p>Mewn gwirionedd, bydd ein plant yn dychwelyd i ystafelloedd dosbarth gwahanol iawn i\u2019r cyfarwydd.&nbsp; Ar gyfer gweddill tymor yr haf, ymweliadau ysbeidiol gyda\u2019r ysgol fydd y \u2018normal-newydd\u2019, nid wythnos ysgol Llun i ddydd Gwener. Bydd y niferoedd o blant ym mhob dosbarth dipyn yn llai, ac ni fydd rhai disgyblion yn dychwelyd o gwbl cyn mis Medi. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn \u00f4l canllawiau Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar Fehefin 10<sup>fed<\/sup>, mae\u2019n debygol mai dim ond traean o&#8217;r disgyblion fydd yn gallu mynychu&#8217;r ysgol ar unrhyw un adeg. O ganlyniad, p\u2019un ai fydd eu plant yn dychwelyd i\u2019r ysgol ai peidio, am y rhan fwyaf o\u2019r wythnos bydd rhieni&#8217;n parhau i addysgu eu plant o adref.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r profiad o addysgu o adref\nwedi bod yn agoriad llygad i lawer o rieni. Gall ysgogi eich plant i gwblhau\ntasgau fod yn her; gall rhai dulliau addysgu fod wedi newid ers eich cyfnod chi\nyn yr ysgol; a gall gweithio gyda&#8217;ch plentyn fod yn brofiad arbennig ac yn un\ni\u2019w drysori hefyd. <\/p>\n\n\n\n<p>I athrawon, aethpwyd ati i\nddechrau addysgu ar-lein bron dros nos. Roedd angen bwrw iddi ar unwaith gan osod\ntasgau ar lwyfannau fel Google Classrooms, ac addasu adnoddau a gwersi. Does\ndim dwywaith fod ein gweithlu addysg wedi datblygu ystod eang o sgiliau\ntechnolegol dros yr wythnosau diwethaf, er mwyn medru parhau i gyfleu eu gwersi\na&#8217;u syniadau dysgu i&#8217;r disgyblion &#8211; ond o bell. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn yr enghreifftiau gorau, mae\nathrawon (a staff cynorthwyol) wedi llwyddo i addasu eu haddysgu arferol, wyneb-yn-wyneb\nmewn ffyrdd creadigol wrth ddarparu profiadau addysgu ar-lein. Fel enghreifftiau\no hyn maent wedi darparu fideos recoridio sgr\u00een; creu clipiau fideo i egluro\nac arddangos; ac wedi bod yn barod i fodelu, cysylltu a hyd yn oed canu i&#8217;w\ndisgyblion, tra&#8217;n defnyddio amrywiaeth o apiau a meddalwedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Serch hynny, nid yw pob athro wedi teimlo\u2019n gyfforddus wrth orfod newid i addysgu o bell. Rhesymau posib dros hyn yw diffyg amser i addasu, salwch, absenoldeb a hyd yn oed diffyg hyder. Er bod rhai ysgolion a dosbarthiadau&#8217;n paratoi deunyddiau wedi&#8217;u haddasu&#8217;n dda ar gyfer eu disgyblion, mae eraill yn parhau i weithio mewn modd mwy traddodiadol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir tasgau wedi&#8217;u rhestru, ac mae darnau o lyfrau gwaith a thaflenni gwaith PDF yn cael eu cop\u00efo ar-lein. Yn yr enghreifftiau hyn tueddir i osod gweithgareddau caeedig, yn hytrach na rhai penagored, gyda phosibiliadau gwahaniaethu a chyfleoedd i gynnwys llais y disgybl yn brin.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid mater o\nosod tasgau ar fformat digidol yw addysgu ar-lein effeithiol. Dyma farn a\nrennir gan arbenigwyr mewn addysgu ar-lein megis y Brifysgol Agored, sefydliad\nwnaeth ddechrau gosod cyrsiau yn gyfan gwbl ar-lein bron i 20 mlynedd yn \u00f4l.\nFodd bynnag, er nad yw addysgu ar-lein yn newydd wrth ddarparu addysg uwch, nac\ni raddau llai wrth ddarparu addysgu uwchradd; o fewn y sector cynradd mae&#8217;n\ntorri tir newydd. Yn sicr, nid yw addysgu ar-lein effeithiol yn rhywbeth sydd\nwedi ei archwilio\u2019n fanwl o fewn y sector cynradd.<\/p>\n\n\n\n<p>Un agwedd sydd wedi cael ei\narchwilio fwy fwy dros y cyfnod clo, yw safbwynt y dysgwyr o\u2019r profiad o addysgu\nar-lein. Mae\u2019r dystiolaeth hyd yn hyn yn awgrymu bod y profiad yn un amrywiol\nac anghyson.&nbsp; Mae ffactorau megis natur y\nddarpariaeth; mynediad disgyblion at y ddarpariaeth; a\u2019r gefnogaeth sydd ar\ngael, i gyd yn medru cael effaith. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r amrywiaeth hwn yn cael ei\namlygu yn adroddiad \u2018<em>Schoolwork in\nlockdown\u2019<\/em> gan Sefydliad Addysg UCL. Darganfyddodd yr Athro Francis Green bod\ny math o waith a ddarperir yn amrywio\u2019n helaeth, a bod gwahaniaeth yn yr amser\nmae disgyblion yn treulio ar waith ysgol. Darganfyddwyd, yn ddigon trawiadol,\nbod 21.6% o\u2019r disgyblion a holwyd yng Nghymru yn gwneud llai nag awr y dydd neu\nddim gwaith ysgol o gwbl. O fewn y Deyrnas Unedig, dim ond yr Alban oedd \u00e2\nchyfradd uwch, ar 26%.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal, roedd y ddarpariaeth gaiff disgyblion o Gymru ychydig yn wahanol i\u2019r hyn a welwyd mewn rhannau eraill o\u2019r Deyrnas Unedig. Awgryma\u2019r ymchwil bod disgyblion yng Nghymru yn derbyn llai o wersi ar-lein na rhannau eraill o\u2019r Deyrnas Unedig: 14.6% o ddisgyblion yng Nghymru yn derbyn pedair neu fwy o wersi ar-lein y dydd, o\u2019i gymharu \u00e2\u2019r gyfradd uchaf o 28% o ddisgyblion yn ne-ddwyrain Lloegr. <\/p>\n\n\n\n<p>Roedd natur y ddarpariaeth yng Nghymru yn wahanol hefyd, gyda dim ond 2% o ddigyblion Cymru yn derbyn addysgu ar-lein \u2018byw\u2019, o\u2019i gymharu \u00e2 12.5% o ddisgyblion a holwyd yn Llundain. <\/p>\n\n\n\n<p>Yr hyn nad yw fel pe bai\u2019n cael ei ystyried yn adroddiad yr Athro Green, yw bod penderfyniadau polisi rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn effeithio ar ddewisiadau athrawon o ran darparu gwersi ar-lein, megis cynghori athrawon i beidio addysgu sesiynau ar-lein heb fod dau aelod o staff yn bresennol. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal, nid oes trafodaeth yn yr adroddiad o dasgau sy\u2019n gofyn am waith dyddiol wrth y disgyblion, ond nid o reidrwydd wrth weithio fesul gwers. Gellid ystyried tasgau estynedig, prosiectau, a gweithgareddau sy\u2019n rhoi cyfle i\u2019r disgybl weithio\u2019n annibynnol, neu\u2019n greadigol, dros gyfnod o nifer o wersi fel enghreifftiau o hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd\nbynnag, mae\u2019r brif neges yn adroddiad <em>Schoolwork in lockdown<\/em> yn\nymddangos yr un mor berthnasol i Gymru ag i ardaloedd eraill y Deyrnas Unedig,\nsef hyn: \u201cThe closure of schools, and their only-partial re-opening, constitute\na potential threat to the educational development of a generation of children.\u201d\nYmhellach, mae\u2019r bygythiad hwn i\u2019w weld yn effeithio&#8217;n drwm ar ddatblygiad\naddysgiadol disgyblion o ardaloedd neu gefndiroedd difreintiedig.<\/p>\n\n\n\n<p>Un agwedd o addysgu ar-lein sy\u2019n\neffeithio disgyblion difreintiedig yn benodol yw cael mynediad at y gwaith. I\nrai dysgwyr, gall y ddarpariaeth ar-lein fod yn wych ond ychydig iawn o gyfle sydd\nganddynt i ymwneud ag ef. <\/p>\n\n\n\n<p>Yng nghynllun <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2020\/01\/24\/gweld-cwricwlwm-i-gymru-a-golwg-20-20-ydy-en-gwneud-synnwyr-2\/\">gweithredu Llywodraeth Cymru \u2018<em>Cenhadaeth ein Cenedl\u2019<\/em><\/a>, mae\u2019r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yn datgan ei bwriad i sicrhau \u201cnad yw\u2019r un plentyn yn cael ei adael ar \u00f4l\u201d. Un esiampl o hyn oedd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar Ebrill 29<sup>ain<\/sup> fod pecyn cymorth gwerth \u00a33m ar gael i gefnogi disgyblion sydd \u201cwedi&#8217;u hallg\u00e1u o\u2019r byd digidol\u201d yn ystod y pandemig coronafeirws.<\/p>\n\n\n\n<p>Ymddengys\nfelly, bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o\u2019r heriau sy\u2019n wynebu plant\ndifreintiedig a\u2019u bod yn cymryd camau cadarnhaol er mwyn eu cefnogi. Ar y llaw\narall, gorfod defnyddio hen offer technolegol neu orfod rhannu offer gydag\naelodau eraill sydd yn creu rhwystr i ddysgwyr eraill. O ychwanegu problemau\ngyda chysylltiad rhyngrwyd mewn rhai ardaloedd o Gymru at hyn, mae pob math o\nbroblemau yn ymwneud gyda mynediad gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i\u2019w\nhystyried.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i ni\nedrych at y trefniadau hirdymor ar gyfer darparu addysg ar-lein i\u2019n disgyblion,\nmae\u2019n werth gwrando ar farn plant Cymru. Barn sydd i\u2019w chael&nbsp; yn arolwg Comisiynydd Plant Cymru, \u2018<em>Coronafeirws\na fi\u2019<\/em>. Gwnaeth dros 23,700 o blant rhwng tair a\ndeunaw oed gymryd rhan yn yr arolwg, gan ymateb i gwestiynau ar faterion megis\nchwarae a hamdden, teimladau ac addysg.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae atebion \u2018testun rhydd\u2019 yr arolwg yn cyfleu\u2019r effaith mae cau ysgolion wedi ei gael ar fywydau plant mewn modd na all rhifau a ffeithiau ei wneud. Mae sylwadau gan ddisgyblion blwyddyn chwech yn amlygu\u2019r colli cyfle i ddod i oed, wrth symud o addysg gynradd i addysg uwchradd. <\/p>\n\n\n\n<p>Canslo arholiadau yw un o brif ofidiau disgyblion h\u0177n o fewn y sector uwchradd, gyda rhai yn teimlo dicter wrth ystyried bod eu gwaith paratoi i\u2019r arholiadau fel petai wedi bod yn wastraff llwyr.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r\narolwg hefyd yn cyfleu&#8217;r teimlad o fod yn ynysig. Wrth holi\u2019r disgyblion sut\nallent gael ei helpu ymhellach atebodd nifer o blant a phobl ifanc y byddent yn\nhoffi cael \u201cmwy o gefnogaeth a chyswllt gan yr ysgol\u201d.&nbsp;&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>Mae ymchwil i addysgu ar-lein yn dangos bod dysgwyr yn medru teimlo\u2019n unig ac ynysig os nad oes trefniadau bugeiliol gofalus mewn lle. Gall diffyg cefnogaeth gyda gwaith ysgol gyfrannu ar yr unigedd hwn. Er enghraifft, diffyg cefnogaeth yn y cartref, neu ddiffyg cyswllt rhwng disgyblion a\u2019r ysgol. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhai ysgolion yn cysylltu gyda disgyblion a rhieni yn ddyddiol, ond nid yw hyn yn ymarferol i bawb. Yn ogystal, hyd yn oed pan fo ysgolion yn cysylltu\u2019n rheolaidd gyda\u2019u disgyblion , gall negeseuon a galwadau ff\u00f4n gael eu hanwybyddu, heb unrhyw bosibilrwydd i staff fod yn sicr a yw pob dysgwr yn ymdopi\u2019n dda.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewn\ngwirionedd, ychydig iawn o gyfleoedd i adfyfyrio sydd wedi bod ers symud i\naddysgu ar-lein yn sg\u00ecl y \u2018clo mawr\u2019. Heb os nac oni bai, nid problem unigryw i\nGymru mo hyn. Mewn adroddiad annibynnol i UNESCO yn edrych ar ddulliau addysgu\nar-lein yn ystod cau ysgolion oherwydd COVID-19, gwelwyd ar adeg ysgrifennu\u2019r\nadroddiad ym Mawrth 2020, bod 165 o wledydd wedi cau eu hysgolion fel rhan o\nstrategaeth i arafu lledaeniad y feirws. Roedd hyn yn effeithio 1.5 biliwn o\nfyfyrwyr ledled y byd.<\/p>\n\n\n\n<p>Awgryma\nadroddiad UNESCO, dylid cynllunio addysg mewn tri cham yn ystod y pandemig. Yng\nNghymru, mae\u2019r cam cyntaf wedi digwydd, gydag ysgolion yn cael eu cau o ran\ndiogelwch. Yn naturiol, yr ystyriaeth hon o ddiogelwch yw\u2019r elfen bwysicaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar hyn o\nbryd, rydym yng nghanol yr ail gam o gynllunio addysg yn ystod y pandemig. Mae\narferion yn cael eu datblygu; atebion hirdymor yn cael eu hystyried i\u2019r heriau\no addysgu ar-lein ac o bell.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p>Unwaith\neto, gwelwn fod y drefn o gau ysgolion ym mhedwar ban y byd yn amlygu a\ngwaethygu\u2019r annhegwch sydd eisoes yn bodoli o fewn systemau addysg. Fodd\nbynnag, mae&#8217;r adroddiad hefyd yn ystyried y gallai mentro ac arloesi gydag\naddysgeg a dulliau dysgu cyfunol yn ystod y cyfnod hwn sicrhau gwell cyfleoedd\ni bawb: \u201cinclusive and equitable education for all\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p>Y cwestiwn i\u2019r sector addysg yng\nNghymru yw \u2013 sut gallwn ni gyflawni a chyflwyno addysg sy&#8217;n gynhwysol ac yn deg\ni bawb? Mewn cymhariaeth \u00e2 llawer o wledydd, mae Cymru mewn sefyllfa gymharol\ngref. Mae atebion technolegol i broblemau a dysgu cyfunol yn bosibilrwydd\ngwirioneddol. Mae&#8217;r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno platfform dysgu\nHwb, ac ychwanegu cyfres ehangach o feddalwedd ato yn 2019, bellach yn edrych\nfel gweledigaeth athrylithgar. Mae&#8217;r seiliau technolegol eisoes gennym.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/diwylliannaun-newid-cydnabod-angen-dysgu-wrth-eich-pwysau\/\">datblygiad proffesiynol pellach athrawon<\/a> yn allweddol wrth symud ymlaen a sicrhau bod platfform Hwb yn cael ei ddefnyddio i\u2019w botensial llawn. Fodd bynnag, mae adroddiad UNESCO hefyd yn pwysleisio y dylai addysgu fod yn canolbwyntio ar ddatblygiad y plentyn cyfan. Bydd technoleg yn bwysig wrth gynorthwyo\u2019r broses ddysgu, ond mae&#8217;n bwysig cofio ei fod hefyd yn ffordd o gyfathrebu a chefnogi \u2013 ar gyfer disgyblion, rhieni, ac i athrawon a\u2019r gymuned addysgu.<\/p>\n\n\n\n<p><em>&nbsp;\u201cThe point is to ensure teachers have the resources, skills, support and conditions to teach, and that students have the resources, infrastructure and support to learn.\u201d <\/em><\/p>\n\n\n\n<p>(Thinking about Pedagogy in an Unfolding Pandemic, t.1)<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong><em>Mae Nerys Defis yn Ddarlithydd<a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/addysg-athrawon\/\"> yn adran Addysg Athrawon<\/a> Yr Athrofa<\/em><\/strong><\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ailagor ysgolion Cymru ar Fehefin 29ain, mae Nerys Defis yn ystyried rhai o&#8217;r heriau sydd ynghlwm \u00e2 dysgu o bell, a&#8217;i effaith ar ysgolion, athrawon, disgyblion a rhieni&#8230; Yn dilyn holl effeithiau pandemig COVID-19 ar ein bywydau, ystyria rhai bod ailagor ysgolion Cymru ar ddiwedd mis Mehefin, yn arwydd&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39192,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[],"class_list":["post-39165","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39165","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39165"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39165\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39450,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39165\/revisions\/39450"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39192"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39165"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39165"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39165"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}