{"id":39167,"date":"2021-01-07T16:23:00","date_gmt":"2021-01-07T16:23:00","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/ymchwil-yn-bwrw-goleuni-newydd-ar-wythnosau-ysgol-anghymesur\/"},"modified":"2021-03-23T20:18:35","modified_gmt":"2021-03-23T20:18:35","slug":"ymchwil-yn-bwrw-goleuni-newydd-ar-wythnosau-ysgol-anghymesur","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/01\/07\/ymchwil-yn-bwrw-goleuni-newydd-ar-wythnosau-ysgol-anghymesur\/","title":{"rendered":"Ymchwil yn bwrw goleuni newydd ar wythnosau ysgol anghymesur"},"content":{"rendered":"\n<p><strong>Cyhoeddwyd adroddiad sy\u2019n tynnu sylw at y manteision a&#8217;r heriau sy&#8217;n deillio o wythnosau ysgol anghymesur gan Yr Athrofa: Canolfan Addysg (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant).<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae <em>Gwerth\nwythnosau ysgol anghymesur: Gwersi a ddysgwyd o ysgolion yng Nghymru <\/em>yn\nadeiladu ar agenda diwygio addysg uchelgeisiol y genedl, ac yn cynnig\nmyfyrdodau unigryw ar ddau ddull arloesol o strwythuro&#8217;r wythnos ysgol.<\/p>\n\n\n\n<p>Wedi&#8217;i\nysbrydoli gan sefydlu comisiwn cenedlaethol newydd i &#8216;ail-ddychmygu addysg&#8217;,\nmae&#8217;r adroddiad yn ystyried effaith trefniadau anghymesur ar ddwy ysgol \u2013 Ysgol\nGyfun Treorci, yn Rhondda Cynon Taf, ac Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn Sir\nBenfro \u2013 gyda&#8217;r bwriad o ddeall yn well yr heriau a&#8217;r cyfleoedd posibl.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel arfer yn gyfuniad\no ddyddiau hwy a byrrach, mae&#8217;r wythnos ysgol anghymesur yn caniat\u00e1u i ysgolion\ndorri i ffwrdd oddi wrth amserlenni sefydledig a newid yn sylfaenol y ffordd y\nmaent yn gweithredu ar gyfer y staff a\u2018r disgyblion. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r papur yn\nrhoi sylw arbennig i effaith bosibl trefniadau anghymesur ar iechyd meddwl a\nlles athrawon, yn ogystal \u00e2&#8217;r amodau sy&#8217;n ffafriol i ffyrdd amgen o weithio. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n ystyried\nbarn disgyblion a rhieni, yn ogystal \u00e2 barn staff, ac yn dod i gyfres o\ngasgliadau sy\u2019n seiliedig ar sylwadau aelodau allweddol o gymuned yr ysgol.\nMae&#8217;n nodi manteision pendant i ddysgu proffesiynol athrawon, cydbwysedd\nbywyd-gwaith addysgwyr a mwy o gyfleoedd i ryngweithio&#8217;n gymdeithasol \u00e2 theulu\na ffrindiau.<\/p>\n\n\n\n<p>Awdur yr astudiaeth yw Gareth Evans, cyfarwyddwr <a href=\"http:\/\/cepra.wales\/cy\/\">Canolfan Adolygu a Dadansoddi Polisi Addysg<\/a> (CEPRA) yn yr Athrofa. Meddai: &#8220;Mae&#8217;r adroddiad yn gallu cynnig &#8216;gwersi a ddysgwyd&#8217; yn y ddwy ysgol yn unig oherwydd gonestrwydd, uniondeb a pharodrwydd arweinwyr yr ysgolion hyn i gymryd rhan lawn yn y broses ymchwil. Diolch o galon, felly, i Michele Thomas a Rhys Angell Jones am eu cefnogaeth, yn enwedig ar adeg y mae pawb yn gwybod ei bod hi\u2019n heriol iawn i addysgwyr ledled Cymru a&#8217;r byd ehangach.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Yn fras, mae&#8217;r canfyddiadau a gyflwynir yn y papur hwn yn rhoi darlun cymysg o effaith yr wythnos anghymesur, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2019\/02\/22\/cwricwlwm-arloesol-dan-arweiniad-athrawon-trawsnewidiol\/\">ac mae&#8217;n bwysig bod unrhyw ysgol sy&#8217;n ystyried y newidiadau hyn yn cydbwyso&#8217;n ofalus gostau a manteision gwneud hynny<\/a>. Mae cyfraniadau pawb oedd yn rhan o\u2019r astudiaeth yn ein hatgoffa ni na fydd yr wythnos anghymesur yn gweithio i bawb, ac nad yw&#8217;r hyn sy&#8217;n gweithio mewn un ysgol yn sicr o weithio mewn un arall. <\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Yr hyn y\nmae&#8217;r wythnos anghymesur yn ei gynnig i bob ysgol, fodd bynnag, yw cyfle i\nailystyried dulliau presennol a mwy traddodiadol o strwythuro addysg a\nmanteision creu cyfleoedd dysgu proffesiynol ychwanegol i\u2019r staff, yn enwedig\nyng nghyd-destun y Cwricwlwm newydd i Gymru.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan\nganfyddiadau&#8217;r adroddiad nifer o oblygiadau i ysgolion sy&#8217;n ceisio mabwysiadu\nwythnos anghymesur, a chynigir cyfres o argymhellion lefel uchel i&#8217;r rhai sy&#8217;n\narchwilio trefniadau anghymesur.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai\u2019r Athro\nMick Waters, cynghorydd &nbsp;allanol i\nLywodraeth Cymru a chadeirydd ei phanel arbenigol ar ail-ddychmygu addysg yng\nNghymru: &#8220;Os ydyn ni&#8217;n mynd i ail-ddychmygu addysg, mae&#8217;n bwysig ein bod ni\u2019n mynd\nati mewn modd disgybledig.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Mae&#8217;n rhaid ystyried a\ndadansoddi pob cam wrth symud ymlaen o system ysgolion sydd wedi bod ar waith\ners cyhyd fel bod manteision a phroblemau&#8217;n cael eu hystyried yn briodol. Mae\nymchwil o\u2019r fath hon yn gyfraniad anhepgor. Mae\u2019n cynnig cipolwg ar yr hyn sydd\nwedi&#8217;i geisio yn ogystal \u00e2 bwrw goleuni ar bosibiliadau.&#8221;<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ariannwyd y papur ymchwil hwn yn rhannol gan <a href=\"https:\/\/nael.cymru\/cy\/hafan-newydd\/\">Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru<\/a>.  Gellir gweld yr adroddiad yn llawn <a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/CEPRAasymmetricFINAL061020.pdf\">yma<\/a> <\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyhoeddwyd adroddiad sy\u2019n tynnu sylw at y manteision a&#8217;r heriau sy&#8217;n deillio o wythnosau ysgol anghymesur gan Yr Athrofa: Canolfan Addysg (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant). Mae Gwerth wythnosau ysgol anghymesur: Gwersi a ddysgwyd o ysgolion yng Nghymru yn adeiladu ar agenda diwygio addysg uchelgeisiol y genedl, ac yn cynnig myfyrdodau unigryw ar ddau&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":39203,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[293],"tags":[],"class_list":["post-39167","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","category-293","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39167","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39167"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39167\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39744,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39167\/revisions\/39744"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39203"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39167"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39167"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39167"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}