{"id":39732,"date":"2021-03-23T14:53:15","date_gmt":"2021-03-23T14:53:15","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/?p=39732"},"modified":"2021-03-23T20:23:34","modified_gmt":"2021-03-23T20:23:34","slug":"dysgu-yn-y-blynyddoedd-cynnar-os-yw-paratoin-allweddol-ydym-nin-ei-wneud-yn-iawn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/03\/23\/dysgu-yn-y-blynyddoedd-cynnar-os-yw-paratoin-allweddol-ydym-nin-ei-wneud-yn-iawn\/","title":{"rendered":"Dysgu yn y Blynyddoedd Cynnar: Os yw paratoi\u2019n allweddol, ydym ni\u2019n ei wneud yn iawn?"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Afraid dweud bod blynyddoedd ffurfiannol plant yn hanfodol i&#8217;w datblygiad yn ddiweddarach mewn bywyd. Ond pa mor dda ydyn ni&#8217;n paratoi ein dysgwyr ieuengaf ar gyfer y byd o&#8217;u cwmpas? Allison Jones sy\u2019n ymchwilio&#8230;<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn dystion i newidiadau i addysg yng Nghymru, er bod rhai ohonynt dros dro, ac efallai bod y rhai mwyaf arwyddocaol eto i ddod. Mae Cwricwlwm 2022 ar y gorwel, ymyriad i\u2019w groesawu sy\u2019n tynnu ein sylw rhag sgyrsiau am Covid, felly mae\u2019n teimlo\u2019n amserol i oedi am funud ac adfyfyrio cyn manteisio ar y cyfle i chwilio am y ffyrdd gorau i roi i\u2019n dysgwyr ifanc sgiliau hanfodol sydd wedi\u2019u dynodi, meintoli a\u2019u hamlygu ar y cyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n ddiogel dweud nad oes neb yn gwybod sut y bydd addysg yng Nghymru yn edrych y flwyddyn nesaf, heb s\u00f4n am ymhen pum mlynedd. Felly, gan roi Covid i\u2019r neilltu am y tro, ydym ni\u2019n paratoi dysgwyr yn ddigonol ar gyfer dyfodol anhysbys, amhenodol?<\/p>\n\n\n\n<p>Yn \u00f4l adroddiad 2018 a gyhoeddwyd gan Dell Technologies, nid yw tua 85% o yrfaoedd a fydd ar gael yn 2030 hyd yn oed yn bodoli eto. Felly sut allwn ni baratoi gweithlu ar gyfer rolau nad ydym yn gwybod dim amdanynt? Mae technoleg yn newid yn gyflym iawn ac mae\u2019n fwyfwy awtomataidd, ac mewn ffordd rydym yn addysgu sgiliau a fydd i bob cyfryw yn ddiangen erbyn y bydd ein plant ieuengaf yn ymuno \u00e2\u2019r ras-lygod.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n hyderus y byddai\u2019r rhan fwyaf o ymarferwyr yn cytuno y dylai cwricwlwm blynyddoedd cynnar gynnig profiadau eang, meithrin chwilfrydedd a datblygu cariad at ddysgu ac wrth wneud hyn, rydym yn gosod sylfeini y gallwn adeiladu unigolion brwdfrydig, annibynnol arnynt sy\u2019n barod i wynebu\u2019r heriau sydd o\u2019u blaenau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Syr Ken Robinson, addysgwr ac un sy\u2019n cefnogi pwysigrwydd y celfyddydau mewn ysgolion, yn archwilio r\u00f4l creadigrwydd yn y cwricwlwm. Mae\u2019n cwestiynu pam bod plant pedair oed yn fodlon mynd amdani hyd yn oed os ydynt yn ansicr am rywbeth \u2013 maen nhw\u2019n ei mentro hi oherwydd, beth yw\u2019r gwaethaf all ddigwydd? Mae Robinson yn gofyn pam bod eu gallu i gymryd risgiau mewn ffordd mor naturiol, yn chwalu erbyn oedolaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd fy nyddiau\u2019n athro meithrin yn llawn dop o blant tair a phedair oed yn mynd a dod yn brysur yn yr ystafell ddosbarth, rhai yn cydio mewn glud, yn rhyfeddu ar eu creadigaethau diweddaraf, rhai yn penderfynu sut i wella ymhellach ar eu metropolis diweddaraf, ac eraill yn ffynnu yn yr awyr agored. Roedd amrywiaeth o ddiddordebau, profiad a sgiliau ond anaml y byddai plentyn yn dweud \u201cAlla\u2019i ddim\u201d. Roedden nhw\u2019n rhoi cynnig arni, yn barod i drio ac ni waeth beth oedd y canlyniad, roedden nhw fel arfer yn eithriadol o falch o\u2019u hymdrechion.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewn gwrthgyferbyniad amlwg \u00e2 hyn oedd fy mhrofiad o addysgu\u2019r un plant pan oeddynt yn wyth neu naw oed. Wrth neidio ymlaen rhyw bedair blynedd, gwelwn yn barod, mae\u2019r plant yma wedi datblygu barn gadarn iawn yngl\u0177n ag a oedden nhw\u2019n \u2018dda\u2019 am wneud rhywbeth, yn arbennig mewn perthynas \u00e2 chelf, cerddoriaeth neu chwaraeon. Ynghlwm wrth hyn roedd gwrthwynebiad cadarn rhai i wneud eu gorau glas wrth fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r cyfryw orchwylion. O\u2019u holi, roedd y cacoffoni o resymau\u2019n rhannu them\u00e2u tebyg \u2013 ofn methu, gwneud camgymeriad, neu edrych yn wirion.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae dysgu drwy brofiadau, datrys problemau ac archwilio yn gysyniadau sy\u2019n frith yn y Cyfnod Sylfaen, y cwricwlwm i blant tair i saith oed yng Nghymru. Er bod natur flaengar y Cyfnod Sylfaen yn cefnu\u2019n radical ar ei ragflaenydd, y Cwricwlwm Cenedlaethol, fe atgyfnerthodd gyflwyniad y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol yn 2013 y disgwyliad y dylai sgiliau plant alinio \u00e2 nodau cronolegol, drwy amlinellu\u2019r sgiliau roedd disgwyl iddynt eu datblygu drwy bennu datganiadau deilliant ar gyfer disgyblion tair i 16 oed.<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, er ei ffocws datblygiadol amlwg, mae addysgeg y Cyfnod Sylfaen, yn ei hanfod yn mynd yn groes i fesur cynnydd drwy roi \u2018sg\u00f4r\u2019 rhifiadol i blant.<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda chyfleoedd dysgu wedi\u2019u categoreiddio\u2019n bynciau \u00e2 diffiniadau twt, efallai ein bod yn atgyfnerthu\u2019r syniad bod gwneud yn \u2018dda\u2019 yn yr ysgol yn rhywbeth sy\u2019n digwydd pan gewch chi sg\u00f4r uchel. Gan nad yw pynciau creadigol yn fesuradwy yn yr un ffordd rydym, yn anfwriadol, yn rhoi statws is iddynt. Go brin y bydd rhywun yn cyfeirio at eu hunain fel rhywun sy\u2019n gwneud yn \u2018dda\u2019 yn yr ysgol os ydynt yn rhagori ar gerddoriaeth, celf neu chwaraeon.<\/p>\n\n\n\n<p>Ni all fod yn gyd-ddigwyddiad nad oedd sgoriau\u2019n cael eu haseinio i\u2019r pynciau hyn, yn fy mhrofiad i, ac nid oeddynt fel arfer yn cael eu holi gan Estyn nac Ofstead, na\u2019u dathlu, na\u2019u graddio na\u2019u rhannu\u2019n genedlaethol nac yn y prosbectws ysgol. Rydym wedi creu hierarchaeth o bynciau, gyda llythrennedd a mathemateg ar y top a\u2019r pynciau creadigol ar waelod y rhestr, fel yr awgryma Robinson.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae blynyddoedd ffurfiannol plentyn ym myd addysg yn frith o gyfleoedd i gasglu data drwy roi sgoriau rhifiadol, ond eto mae\u2019r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn awgrymu nad oes lawer o dystiolaeth bod hyn yn cyfoethogi eu profiadau dysgu.<\/p>\n\n\n\n<p>O fewn wythnosau i ddechrau eu blwyddyn Derbyn, mae\u2019n ofyniad yng Nghymru i blant gael eu mesur yn erbyn cyfres o ddeilliannau ac yna cyflwyno\u2019r sg\u00f4r Proffil Cyfnod Sylfaen hwn i\u2019r awdurdod lleol. Caiff hwn ei gasglu\u2019n genedlaethol a\u2019i ddefnyddio i dracio cynnydd plant a rhagfynegi deilliannau\u2019r dyfodol. Yn ddim ond pedair oed, rydym yn aseinio sgoriau rhifiadol nad oes ganddynt, gellir dadlau, fawr o bwrpas ar wah\u00e2n i roi ymarferwyr, rhieni a phlant ifanc dan straen gan atgyfnerthu blaenoriaethau cwricwlaidd ar yr un pryd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os rhoddir llai o bwys i bynciau fel celf, cerddoriaeth a chwaraeon trwy gydol y cyfnod cynradd, does dim rhyfedd bod plant yn colli eu hyder a\u2019u parodrwydd i gymryd risgiau, arbrofi ac archwilio. Gan ein bod yn paratoi plant ar gyfer dyfodol anhysbys lle gall dawn ymgyfaddasu, datrys problemau ac arbrofi fod yn fantais, yna mae angen ailedrych ar werth pynciau creadigol yn y cwricwlwm newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn hytrach na dim ond paratoi ein plant ar gyfer amgylcheddau ysgol \u2018fawr\u2019, addysg uwchradd, prifysgol neu fyd gwaith sy\u2019n cael eu gyrru gan ddeilliannau, pam na wnawn ni ganiat\u00e1u iddyn nhw ymhyfrydu yn eu taith a meithrin datblygiad sgiliau a fydd yn orau eu paratoi ar gyfer bywyd, ac nid dim ond y cam nesaf&#8230;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong><em>Mae Allison Jones yn Athro Ymgynghorol Blynyddoedd Cynnar ar gyfer Abertawe, ac yn fyfyriwr ar raglen <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/doethuriaeth-addysg\/\">Doethuriaeth mewn Addysg Yr Athrofa<\/a><\/em><\/strong><\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Afraid dweud bod blynyddoedd ffurfiannol plant yn hanfodol i&#8217;w datblygiad yn ddiweddarach mewn bywyd. Ond pa mor dda ydyn ni&#8217;n paratoi ein dysgwyr ieuengaf ar gyfer y byd o&#8217;u cwmpas? Allison Jones sy\u2019n ymchwilio&#8230; Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn dystion i newidiadau i addysg yng Nghymru, er bod rhai ohonynt dros dro,&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":39737,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291,12],"tags":[295],"class_list":["post-39732","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","category-news","tag-cwricwlwm-2","category-291","category-12","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39732","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39732"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39732\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39749,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39732\/revisions\/39749"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39737"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39732"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39732"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39732"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}