{"id":39878,"date":"2021-03-29T10:47:24","date_gmt":"2021-03-29T10:47:24","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/?p=39878"},"modified":"2021-03-29T10:58:55","modified_gmt":"2021-03-29T10:58:55","slug":"wynebau-hapus-a-chodir-bawd-ymateb-addysg-athrawon-i-waith-cynrychiolwyr-myfyrwyr-tar-yn-y-pandemig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/03\/29\/wynebau-hapus-a-chodir-bawd-ymateb-addysg-athrawon-i-waith-cynrychiolwyr-myfyrwyr-tar-yn-y-pandemig\/","title":{"rendered":"Wynebau hapus a chodi\u2019r bawd: Ymateb Addysg Athrawon i waith cynrychiolwyr myfyrwyr TAR yn y pandemig"},"content":{"rendered":"\n<p><em><strong>Cyn i\u2019r eiliad fynd yn angof, mae staff a darpar athrawon o\u2019r Athrofa: Canolfan Addysg Athrawon yn disgrifio datblygiad cadarnhaol o ran arfer&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Dychmygwch fod yn ddarpar athro mewn pandemig byd-eang. &nbsp;&nbsp;Mae beth bynnag oedd i\u2019w ddisgwyl o ran bywyd ar raglen <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/addysg-athrawon\/\">Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)<\/a> yn wir wedi\u2019i ail-ddychmygu a\u2019i ail-ddyfeisio \u2013 weithiau heb fawr o rybudd ac amser cyfyngedig i baratoi. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>I ddarpar athrawon, yn eu sefyllfa unigryw o fod yn ddysgwr ac yn athro ar yr un pryd, mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol. &nbsp;Un funud maen nhw\u2019n dysgu <em>sut<\/em> i ddysgu drostyn nhw eu hunain yn y byd hwn o brofiadau cydamserol ac anghydamserol, y funud nesaf maen nhw\u2019n ceisio defnyddio <em>beth<\/em> maen nhw wedi\u2019i ddysgu fel athrawon plant a phobl ifanc. &nbsp;Nid yw\u2019n dasg hawdd.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar yr un pryd, ar ein campws sydd ar-lein yn bennaf, mae\u2019r t\u00eem AGA wedi bod yn gweithio allan sut i gyflwyno\u2019r rhaglenni gan gynnal rhyw lun ar drefn sy\u2019n rhoi hyder i\u2019r myfyrwyr a\u2019r darlithwyr fel ei gilydd. &nbsp;Tasg anodd&nbsp; arall.<\/p>\n\n\n\n<p>Ac eto, ynghanol newid ac ansicrwydd cyson, mae nifer o arferion gwerthfawr yn dechrau dod i\u2019r amlwg ac mae\u2019n bwysig dal y rhain cyn i\u2019r eiliad fynd yn angof. Un enghraifft sy\u2019n haeddu ei harchwilio\u2019n fanylach yw r\u00f4l y cynrychiolydd darpar athrawon neu\u2019r \u2018cynrychiolydd gr\u0175p\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae r\u00f4l y cynrychiolydd gr\u0175p yn un bwysig ac nid ar chwarae bach y mae ymgymryd \u00e2 hi. &nbsp;Mae\u2019n ddeniadol iawn i lawer: y cyfle i feithrin perthnasoedd \u00e2 chyd-fyfyrwyr a chael eistedd wrth y bwrdd o ran dylanwadu ar brosesau gwneud penderfyniadau; y cyfle i ddatblygu sgiliau bywyd hollbwysig, gan gynnwys arweinyddiaeth a gwaith t\u00eem; ac mae\u2019n ychwanegiad gwych at CV. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Er hynny, nid yw\u2019n r\u00f4l i\u2019r gwangalon: mae\u2019n gofyn am rywfaint o danbeidrwydd i sefyll o blaid eich cyd-fyfyrwyr a chynrychioli safbwyntiau amrywiol, hyd yn oed pryd maen nhw\u2019n gwrthdaro \u00e2\u2019ch rhai eich hun. &nbsp;Mae\u2019n gofyn am amser, tact a dycnwch, ond pwy allai fod wedi rhagweld pa mor hanfodol y byddai rhinweddau o\u2019r fath pan gychwynnon ni ar ein taith AGA gyda\u2019n gilydd yng nghanol pandemig byd-eang?<\/p>\n\n\n\n<p>Yn gonfensiynol, bydd cyfarfodydd staff\/myfyrwyr ffurfiol yn cael eu cynnal deirgwaith y flwyddyn, a thra oedd y cyfarfodydd hyn bob amser yn ymdrech ar y cyd ac yn gyffredinol yn gadarnhaol, maen nhw wedi\u2019u seilio ar fodel o drosglwyddo deialog; rydych chi\u2019n dweud wrthym ni beth sydd a beth nad yw\u2019n gweithio, ac rydym ni\u2019n dweud wrthych chi beth gallwn a beth na allwn ei wneud yn well.<\/p>\n\n\n\n<p>Er gwaethaf pob ymdrech ar ein rhan i symud tuag at ddeialog fwy cydweithredol lle oedd mwy o bosibilrwydd i lunio rhaglenni ar y cyd, yn hanesyddol ni lwyddon ni\u2019n gyfan gwbl i gyflawni hyn yn ein cyfarfodydd staff\/myfyrwyr \u2013 nid oeddem yn y lle deallusol, proffesiynol na chwaith cymdeithasol i hyn ddigwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan newidiwyd ym Mawrth 2020 i ddysgu ar-lein gyda sydynrwydd syfrdanol, gwyddem na fyddai\u2019r cyfarfodydd teirgwaith y flwyddyn yn ddigon a bod angen rhywbeth gwahanol er mwyn cynnal cyfathrebu ystyrlon \u00e2\u2019n carfannau. &nbsp;Ac felly trefnwyd cyfarfodydd anffurfiol ychwanegol gyda chynrychiolwyr gr\u0175p gyda\u2019r hwyr i\u2019w cynnal bob pythefnos. &nbsp;Y cyfarfodydd hyn oedd dechrau ein taith i le newydd mwy cydweithredol&#8230;<\/p>\n\n\n\n<p>Y daith: symud o adborth i gydweithredwr<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ddiau mae\u2019r cynrychiolwyr wedi chwarae rhan hanfodol drwy ddarparu ffenest i brofiadau go iawn ein darpar athrawon, gan weithredu\u2019n llefarwyr dros yr unigolion maen nhw\u2019n eu cynrychioli. &nbsp;Ond mae eu swyddogaeth wedi datblygu i fod gymaint yn fwy na hynny; wrth i ni barhau i gwrdd yn ystod yr wythnosau cynnar hynny, newidiodd rhywbeth yn sylfaenol. Mae\u2019n amhosibl nodi\u2019n union pryd digwyddodd y trawsnewid; nid oes eiliad penodol o sylweddoli syfrdan pryd gallen ni hawlio bod y newid wedi digwydd, ond yn ddiau fe newidiodd pethau.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn gyntaf, mae\u2019n bosibl tybio, yn rhy aml o lawer, fod cyfarfodydd cynrychiolwyr gr\u0175p yn gallu arwain at blatfform i fyfyrwyr gwyno. &nbsp;Nid yw hynny\u2019n gwadu pwysigrwydd cwyno \u2013 mae\u2019n caniat\u00e1u mynegi eiliadau o argyfwng ac angen i godi llais, a gall hyn fod yn aruthrol o gathartig. &nbsp;Wedi\u2019r cyfan, mae mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r doreth o heriau sydd wedi eu hanelu tuag atom ni wrth i ni addasu i\u2019r byd gyda Covid a ffyrdd newydd o weithio wedi rhoi achos i bob un ohonom gwyno. &nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, agwedd allweddol ar gyfarfodydd anffurfiol newydd y cynrychiolwyr yw\u2019r rhagosodiad sylfaenol bod yr holl \u2018broblemau\u2019 a osodir gerbron yn gofyn am \u2018ateb\u2019 posibl hefyd; mae hyn yn caniat\u00e1u i ni fynd i\u2019r afael \u00e2 materion sy\u2019n aml yn gymhleth, mewn ffordd fwy cynhyrchiol. &nbsp;Er enghraifft, mater arwyddocaol a godwyd ar y dechrau oedd profiadau myfyrwyr o ddysgu ar-lein. &nbsp;Sonion nhw am anawsterau ymgymryd \u00e2 sesiynau cydamserol hir, a\u2019r problemau a ddaeth i\u2019w rhan ynghylch prosesu cynnwys a oedd efallai wedi\u2019i gyflwyno\u2019n rhy gyflym i ddysgu\u2019n effeithiol, gydag amser annigonol i ffwrdd o\u2019r sgrin. &nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Rhoddodd ein darpar athrawon gipolwg i ni ar heriau ymgymryd \u00e2 chynnwys darlithoedd, yn aml gan gystadlu \u00e2 gofynion aelodau\u2019r teulu a Wi-Fi annibynadwy. &nbsp;Ond yn hollbwysig, rhoddon nhw atebion hefyd: mwy o sesiynau anghydamserol i ganiat\u00e1u hyblygrwydd, cyflwyno ar gyflymder mwy araf ac egwyliau amlach i ffwrdd o\u2019r sgrin \u2013 dangosyddion addysgeg ar-lein effeithiol y gallwn ni i gyd bellach eu gwerthfawrogi.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd ymateb t\u00eem addysgu\u2019r Athrofa yn gyflym ond gwnaethom droi\u2019r fantol yn rhy bell y ffordd arall; yn y cyfarfod nesaf roeddem yn wynebu cwyn o <em>ormod<\/em> o gynnwys anghydamserol. Eiliad doniol oedd hwnnw \u2013 roedd llawer o chwerthin gan staff a myfyrwyr fel ei gilydd pan sylweddolodd y myfyriwr a gododd y mater ei bod yn cwyno am yr union beth y gofynnwyd amdano ond bythefnos ynghynt. &nbsp;\u2018Gofalwch rhag yr hyn a ddymunwch\u2019 oedd ein hateb parod. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ac anghofio unrhyw j\u00f4c, mae\u2019r newid barn yma wedi chwarae rhan hanfodol yn y broses o ymateb i\u2019n myfyrwyr. &nbsp;Y tro hwn rhoddodd ganllaw hollbwysig i staff academaidd o ran sefydlu cydbwysedd priodol rhwng dysgu cydamserol ac anghydamserol, ond mae wedi caniat\u00e1u i ni hefyd fod yn barod iawn i ymateb i faterion eraill ynghylch profiadau myfyrwyr, yn y brifysgol ac ar leoliad. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn bwysicaf oll, roedd yn dystiolaeth weladwy bod lleisiau ein myfyrwyr yn cael eu clywed ac yn ennyn ymateb gan aelodau\u2019r t\u00eem cyfan ac nid gan y staff yng nghyfarfodydd y cynrychiolwyr yn unig. &nbsp;Roedd hyn yn dangos neges glir bod eu profiadau\u2019n bwysig, a byddai hyn yn dod yn hanfodol yn y misoedd wedi hynny pan wynebodd ein darpar athrawon heriau dysgu ac addysgu ar-lein yn eu hysgolion lleoliad.<\/p>\n\n\n\n<p>Lle newydd \u2013 y cyfarfod ar-lein<\/p>\n\n\n\n<p>Does dim amheuaeth bod y cyfarfodydd anffurfiol mwy cyson wedi chwarae rhan bwysig o ran meithrin perthnasoedd cryfach, gan ddatblygu ymddiriedaeth ac atal problemau rhag datblygu. &nbsp;Ond mae cwestiwn diddorol ynghylch a ydy\u2019r amgylchedd ar-lein wedi bod yn rym galluogi ynddo\u2019i hun.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel y gallwn oll gydnabod, nid yw cyfarfod staff\/myfyrwyr traddodiadol fel arfer yn creu trafodaeth hir \u2013 mae\u2019r Cadeirydd yn llywio\u2019r cyfraniadau ac fel arfer mae\u2019r drafodaeth yn dilyn patrwm deialog \u2018cychwyn \u2013 ymateb \u2013 adborth\u2019. &nbsp;Mae\u2019r Cadeirydd yn gwahodd cyfraniad gan gynrychiolydd gr\u0175p, mae\u2019r cynrychiolydd yn ymateb ac mae\u2019r Cadeirydd yn cynnig rhyw fath o ddilyniant.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ddiddorol, gwelon ni nad yw\u2019r patrwm deialog hwn yn cael ei atgynhyrchu yn yr un ffordd yn yr amgylchedd ar-lein ac roedd ffordd wahanol o gyfathrebu\u2019n dechrau dod i\u2019r amlwg. &nbsp;Ar y cyfan, ymddangosai fod hyn yn gysylltiedig \u00e2\u2019r defnydd o\u2019r cyfleuster \u2018sgwrsio\u2019 sy\u2019n cyd-redeg \u00e2\u2019r sgwrsio llafar ar y sgrin. &nbsp;&nbsp;Ychwanegodd y cyfnewid ysgrifenedig hwn ddimensiwn arall at y gair llafar gan roi cyfle unigryw i ddeialog ysgrifenedig ddigwydd nad yw\u2019n bodoli mewn cyfarfodydd traddodiadol; am y tro cyntaf, mae\u2019r cyfathrebu rhwng y cyfranogwyr yn cynnwys deuoliaeth deialog lafar ac ysgrifenedig.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth edrych yn \u00f4l drwy \u2018sgwrsio\u2019 cyfarfodydd anffurfiol y cynrychiolwyr, ymddengys fod y drafodaeth yn cyflawni\u2019r swyddogaethau hyn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>cadarnhau cyfraniad unigolyn &nbsp;<\/li><li>direidi \u2013 defnyddio hiwmor yn aml mewn cyfnewid cyflym<\/li><li>gwneud awgrymiadau heb aros i gael eich dewis drwy\u2019r cyfleuster \u2018codi llaw\u2019 ar y sgrin<\/li><li>llesiant \u2013 gofyn sut mae pobl<\/li><li>creu consensws &nbsp;<\/li><li>postio dolenni i ddogfennau\/gwefannau defnyddiol<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>At hynny, mae pob un o\u2019r swyddogaethau hyn yn cael ei chefnogi\u2019n nodweddiadol gan haen <em>arall<\/em> eto o gyfathrebu \u2013 y defnydd symbolaidd o wenogluniau. &nbsp;Yn aml gwelwn ddefnyddio eiconau \u2018codi bawd\u2019 a wynebau \u2018hapus\u2019 i gadarnhau, a \u2018chalonnau\u2019 a wynebau \u2018trist\u2019 i fynegi cydymdeimlad ac empathi. &nbsp;I\u2019r rheini sy\u2019n cymryd rhan yn y cyfarfod, mae symud rhwng y drafodaeth lafar ac ysgrifenedig yn digwydd mewn ffordd ddi-dor sy\u2019n ymddangos yn ddiymdrech. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r sgwrsio ysgrifenedig \u00e2\u2019i fywyd ei hun a gall unrhyw aelod o\u2019r cyfarfod gyfrannu. &nbsp;Mae r\u00f4l draddodiadol y Cadeirydd \u00e2\u2019i fonopoli ar gychwyn-ymateb-adborth wedi diflannu. &nbsp;Mae\u2019r sgwrsio\u2019n fwy cynhwysol gyda\u2019r rhan fwyaf o\u2019r cynrychiolwyr yn cymryd rhan, a byddai rhai\u2019n dweud ei fod yn fwy democrataidd gyda\u2019i opsiwn i bleidleisio drwy \u2018godi bawd\u2019 i fynegi consensws.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ein profiad ni, mae hyn wedi arwain at greu lle newydd, lle sy\u2019n cyfuno elfennau cyfnewidiadau llafar ar y sgrin ag agwedd ysgrifenedig gyflym a symbolaidd y sgwrsio. &nbsp;<a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/2020\/03\/05\/red-stripes-how-do-we-support-student-teachers-through-a-journey-of-reform\/\">Hoffem awgrymu bod y lle \u2018newydd\u2019 hwn yn darparu\u2019r amgylchedd cymdeithasol cywir i gydweithredu go iawn ffynnu rhwng staff a darpar athrawon<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Covid wedi creu mwy o heriau nag y gallwn ni feiddio eu dychmygu ac eto, mae rhywbeth nodedig iawn wedi dod i\u2019r amlwg yn y broses. &nbsp;Mae\u2019r lle cyfarfod ar-lein wedi creu ffordd newydd o gydweithio sydd o bosibl yn fwy democrataidd, yn llai ffurfiol ac efallai\u2019n fwy cynhwysol. &nbsp;Mae hyn wedi rhoi\u2019r cyfle i\u2019n cynrychiolwyr gr\u0175p chwarae rhan hollbwysig yn bartneriaid yn y broses o wneud penderfyniadau strategol ac maen nhw wedi tystio\u2019n uniongyrchol i\u2019w heffaith hwythau ar ffurf a strwythur taith y myfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;I staff, mae wedi bod yn fraint mynychu\u2019r cyfarfodydd; mae\u2019r cynrychiolwyr wedi rhoi dealltwriaeth amrywiol i ni o brofiadau myfyrwyr ac wedi ein galluogi i ymateb yn gyflym ac yn briodol. &nbsp;Mae perthnasoedd wedi\u2019u cryfhau wrth i staff a darpar athrawon symud i mewn i le cydweithredol proffesiynol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae un o\u2019n cynrychiolwyr TAR, Gabriella Blenkinsop, yn adfyfyrio bod realaeth ei rhaglen AGA yn hollol wahanol i\u2019r hyn yr oedd wedi\u2019i ddychmygu. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai: \u2018Roedd y diwrnod agored a fynychais ar adeg pan oedd modd i ni gyd eistedd mewn ystafell, anadlu\u2019r un awyr a chwrdd wyneb yn wyneb. Cerddais o gwmpas yr adeilad i synhwyro a fyddwn i\u2019n gallu dysgu yno \u2013 adeilad rydw i brin wedi rhoi troed ynddo ers dechrau\u2019r cwrs. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Ar y dechrau doeddwn i ddim wedi rhagweld bod yn gynrychiolydd cwrs, ond pan ddaeth y cyfle, roeddwn i\u2019n gyffrous iawn i gael y cyfle i weithio gyda staff y brifysgol. &nbsp;Roedd cymryd rhan yn y cyfarfodydd a rhoi adborth nid yn unig wedi rhoi dealltwriaeth i mi o sut roedd y cwrs yn cael ei redeg, ond hefyd dysgais gynrychioli t\u00eem a thrafod anawsterau ac atebion mewn lleoliadau anffurfiol a ffurfiol.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Rydw i wedi gallu gweld yn uniongyrchol sut mae staff y brifysgol wedi addasu i Covid gan barhau i ddarparu\u2019r cwrs gorau posibl ar gyfer y myfyrwyr. &nbsp;Mae bod yn gynrychiolydd cwrs yn ystod pandemig wedi rhoi profiad amhrisiadwy i mi y byddaf yn ei gario gyda mi tu hwnt i\u2019r brifysgol.\u2019&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Felly i gloi, mae ein cynrychiolwyr myfyrwyr wedi ein harwain at benderfyniadau na fyddai wedi digwydd efallai hebddynt; maen nhw wedi rhagweld problemau posibl oedd o\u2019u blaenau ac wedi caniat\u00e1u i ni eu hosgoi neu eu lliniaru. &nbsp;&nbsp;Mae eu gwerthfawrogiad cynyddol o bryderon ar lefel strategol wedi caniat\u00e1u iddyn nhw reoli llif y drafodaeth yn \u00f4l ac ymlaen, rhwng staff a myfyrwyr, ac yn fwy pwysig <em>\u00e2\u2019i gilydd<\/em>. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r arddangosiad hwn o broffesiynoldeb a diplomyddiaeth oll wedi digwydd yn yr ystafell gyfarfod ar-lein ac mae wedi bod yn ddim llai nag agwedd sy\u2019n ysbrydoli. &nbsp;Yn y dyfodol, byddwn yn parhau i ddefnyddio\u2019r lle newydd cydweithredol hwn gan wybod ei fod wedi gwella cynifer o agweddau ar ein gwaith gyda\u2019r cynrychiolwyr gr\u0175p, a byddwn, heb amheuaeth, yn parhau i groesawu cyfuno\u2019r ddeialog lafar ac ysgrifenedig ynghyd \u00e2\u2019i hwynebau hapus a thrist, pleidleisio drwy godi bawd a chalonnau bach coch. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><em><strong>Lluniwyd y blog hwn ar y cyd gan dri o bobl a gymerodd ran yng nghyfarfodydd y cynrychiolwyr gr\u0175p: \u00a0mae Gabriella Blenkinsop yn gynrychiolydd gr\u0175p ar y rhaglen <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/pgce-primary\/\">TAR Cynradd<\/a>, mae Julia Holloway ac Elaine Sharpling yn staff o\u2019r <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/addysg-athrawon\/\">Ganolfan Addysg Athrawon<\/a><\/strong><\/em><\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyn i\u2019r eiliad fynd yn angof, mae staff a darpar athrawon o\u2019r Athrofa: Canolfan Addysg Athrawon yn disgrifio datblygiad cadarnhaol o ran arfer&#8230; Dychmygwch fod yn ddarpar athro mewn pandemig byd-eang. &nbsp;&nbsp;Mae beth bynnag oedd i\u2019w ddisgwyl o ran bywyd ar raglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yn wir wedi\u2019i ail-ddychmygu a\u2019i ail-ddyfeisio \u2013 weithiau heb&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":39876,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[297,296],"class_list":["post-39878","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","tag-addysg-gychwynnol-athrawon-2","tag-tar","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39878","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39878"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39878\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39881,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39878\/revisions\/39881"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39876"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39878"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39878"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39878"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}