{"id":39888,"date":"2021-03-31T11:07:38","date_gmt":"2021-03-31T11:07:38","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/?p=39888"},"modified":"2021-03-31T11:07:40","modified_gmt":"2021-03-31T11:07:40","slug":"yr-athrofa-ac-ysgolion-partner-yn-meddwl-yn-fyd-eang-cyn-y-gynhadledd-ryngwladol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/03\/31\/yr-athrofa-ac-ysgolion-partner-yn-meddwl-yn-fyd-eang-cyn-y-gynhadledd-ryngwladol\/","title":{"rendered":"Yr Athrofa ac ysgolion partner yn meddwl yn fyd-eang cyn y gynhadledd ryngwladol"},"content":{"rendered":"\n<p><strong>Mae prosiect ymchwil cydweithredol sy&#8217;n cynnwys yr Athrofa: Canolfan Addysg ac ysgolion partner yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o gymhwysedd a dinasyddiaeth fyd-eang ledled Ewrop.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Think Global, <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/addysg-athrawon\/\">prosiect Erasmus a gynlluniwyd i feithrin cymhwysedd byd-eang mewn ysgolion<\/a>, yn dod \u00e2 saith sefydliad at ei gilydd, gan gynnwys ysgolion, awdurdodau lleol a phrifysgolion, o Gatalwnia, Gwlad Belg a Chymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Y nod yw archwilio addysgeg a gweithgareddau i gefnogi sgiliau, gwybodaeth a thueddiadau cymhwysedd byd-eang ar lawr dosbarth, sy&#8217;n defnyddio fframwaith Cymhwysedd Byd-eang PISA a Nodau Datblygu Cynaliadwy&#8217;r OECD.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae iddo gynulleidfa darged amrywiol ac mae\u2019n cynnwys nodau a dyheadau ar gyfer pob lefel o&#8217;n systemau addysg.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn fwy penodol, y gobaith yw y bydd y prosiect yn cefnogi disgyblion i ddatblygu eu dealltwriaeth o gymhwysedd byd-eang drwy weithgareddau cyfnewid byrdymor; bydd athrawon yn datblygu ac yn lledaenu arferion da; bydd ymchwilwyr prifysgol yn rhoi cyngor ar ddysgu proffesiynol; a bydd awdurdodau addysgol yn gwella eu polis\u00efau ar gymhwysedd byd-eang.<\/p>\n\n\n\n<p>I gefnogi&#8217;r gweithgaredd hwn, mae staff o&#8217;r Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a Phrifysgol Barcelona wedi cefnogi&#8217;r gwaith o ddatblygu adnoddau ystafell ddosbarth a fframwaith damcaniaethol i adeiladu arno.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/blocs.xtec.cat\/thinkglobal\/files\/2020\/10\/Theoretical-Framework-1.pdf\">Fframwaith Damcaniaethol Think Global<\/a> yn penderfynu, er mwyn cefnogi dysgwyr i fod yn gymwys yn fyd-eang, bod angen i athrawon greu diwylliannau ystafell ddosbarth diogel lle gall dysgwyr eu mynegi eu hunain, dyfalu, cwestiynu a thrafod yn barchus.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y diwylliant hwn, mae&#8217;r athro&#8217;n gweithredu\u2019n hwylusydd, gan gynnig her a chefnogaeth, wrth fodelu gwerthoedd cymhwysedd byd-eang, megis cydraddoldeb, parch, urddas ac amrywiaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas, Abertawe, ac Ysgol Gymunedol Doc Penfro, Sir Benfro, ymhlith yr ysgolion a wahoddwyd i lunio astudiaethau achos i helpu i fodelu rhywfaint o&#8217;r gwaith hwn yn ymarferol.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai\u2019r uwch <a href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/addysg-athrawon\/\">ddarlithydd yn yr Athrofa ac arweinydd prosiect Y Drindod Dewi Sant<\/a>, Gail Parker: &#8220;Drwy&#8217;r prosiect rwyf wedi ymgysylltu ag ysgolion yng Nghymru, Gwlad Belg a Chatalwnia; gan weld \u00e2\u2019m llygaid fy hun sut mae plant yn dysgu am gymhwysedd byd-eang ac yn datblygu eu dealltwriaeth o&#8217;r hyn sy&#8217;n bwysig yn y byd, ar raddfa leol a byd-eang.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Yr un yw\u2019r nodau hyd yn oed os yw&#8217;r wlad neu&#8217;r iaith yn wahanol \u2013 rydym yn addysgu ein plant i edrych y tu hwnt i&#8217;w cymuned leol i wneud penderfyniadau am y byd o&#8217;u cwmpas, gan werthfawrogi&#8217;r hyn sy&#8217;n bwysig yn y cyd-destun byd-eang. Mae&#8217;r prosiect wedi creu adnoddau y gall pob ysgol fanteisio arnyn nhw ac wrth wneud hynny mae&#8217;n dod \u00e2 dysgwyr at ei gilydd i frwydro am ddyfodol gwell.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Rwy&#8217;n edrych ymlaen at weld partneriaid yma yng Nghymru yn ddiweddarach eleni i drafod deunyddiau hyfforddi a chynhadledd luosogi Abertawe sydd i ddod a fydd yn dathlu cymhwysedd byd-eang a&#8217;r camau y mae ein plant yn eu cymryd i greu dyfodol mwy disglair.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Cynhelir cyfarfod partner trawswladol yn Y Drindod Dewi Sant ym mis Hydref 2021, cyn cynhadledd luosogi ym mis Mai 2022.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y prosiect yn parhau i greu deunyddiau hyfforddi nes iddo gau ddiwedd 2022. Caiff diweddariadau a chylchlythyrau rheolaidd eu dosbarthu i gydweithwyr ledled Ewrop, yn unol \u00e2 nodau&#8217;r prosiect.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae prosiect ymchwil cydweithredol sy&#8217;n cynnwys yr Athrofa: Canolfan Addysg ac ysgolion partner yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o gymhwysedd a dinasyddiaeth fyd-eang ledled Ewrop. Mae Think Global, prosiect Erasmus a gynlluniwyd i feithrin cymhwysedd byd-eang mewn ysgolion, yn dod \u00e2 saith sefydliad at ei gilydd, gan gynnwys ysgolion, awdurdodau lleol a phrifysgolion, o Gatalwnia,&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":39886,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[293],"tags":[301,300],"class_list":["post-39888","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion","tag-gail-parker-2","tag-think-global-2","category-293","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39888","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39888"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39888\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39889,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39888\/revisions\/39889"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39886"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39888"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39888"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39888"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}