{"id":39895,"date":"2021-04-13T11:10:54","date_gmt":"2021-04-13T11:10:54","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/?p=39895"},"modified":"2021-04-13T11:10:56","modified_gmt":"2021-04-13T11:10:56","slug":"dysgu-ar-lein-pam-nad-yw-myfyrwyr-yn-cymryd-rhan","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/04\/13\/dysgu-ar-lein-pam-nad-yw-myfyrwyr-yn-cymryd-rhan\/","title":{"rendered":"Dysgu ar-lein \u2013 pam nad yw myfyrwyr yn cymryd rhan?"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Mae effaith pandemig COVID-19 ar ein system addysg wedi bod yn sylweddol ac mae pawb yn addasu i ffyrdd newydd o weithio. Yma, mae Linda Kelly yn ymchwilio i ba raddau y mae myfyrwyr coleg wedi cymryd rhan mewn dysgu ar-lein&#8230;<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd fy ngharfan bresennol o fyfyrwyr eu geni gan mwyaf ar \u00f4l y flwyddyn 2000. Nhw yw&#8217;r genhedlaeth ddigidol. <\/p>\n\n\n\n<p>Maen nhw wedi tyfu i fyny gyda thechnoleg a&#8217;i heffaith ar bron pob agwedd ar eu bywydau bob dydd. Gallan nhw fanteisio swm o dechnoleg gwybodaeth na welwyd ei debyg o\u2019r blaen, yn wir nid yw&#8217;r rhan fwyaf ohonyn nhw erioed wedi bod heb y rhyngrwyd.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Cenhedlaeth Z&#8217;, neu &#8216;<em>GenZ<\/em>&#8216; &nbsp;neu &nbsp;&#8216;<em>zoomers<\/em>&#8216; yw\u2019r enw arnyn nhw.&nbsp; Enw arall yw &#8216;iGenhedlaeth&#8217;, &nbsp;neu, yn fyr, &#8216;<em>iGens<\/em>&#8216;.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Amcangyfrifir bod gan 80% o&#8217;r bobl ifanc hyn ff\u00f4n symudol ac yn ei ddefnyddio bob dydd. Bydd nifer yn mynd ar eu ffonau dros 70 gwaith y dydd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn wir, yn aml mae\u2019n ymddangos eu bod nhw\u2019n gaeth i&#8217;w ffonau a cholli\u2019r rhain neu&#8217;u torri fyddai&#8217;r peth gwaethaf a allai ddigwydd iddyn nhw byth!<\/p>\n\n\n\n<p>Maen nhw wedi tyfu i fyny gyda&#8217;r &#8216;Rhyngrwyd Pethau,&#8217; maen nhw\u2019n gyfarwydd \u00e2 chynhyrchion cartref sydd \u00e2 microsglodion ac sydd yn &#8216;glyfar&#8217;. Maen nhw\u2019n siarad ag Alexa, neu Echo neu Siri i ofyn cwestiynau neu reoli offer cartref, i droi goleuadau a\u2019r gwres ymlaen neu i ffwrdd, neu i wrando ar gerddoriaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r <em>iGens<\/em> hefyd &nbsp;wedi tyfu i fyny gydag offer dysgu digidol yn rhan annatod o\u2019u haddysg. Maen nhw yn aml yn defnyddio&#8217;r un offer at ddibenion addysg ag at ddibenion personol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mewn ysgolion a cholegau, mae ganddyn nhw fyrddau gwyn rhyngweithiol, cyflwyniadau PowerPoint, clipiau fideo a chyfryngau rhyngweithiol. Os nad ydyn nhw\u2019n si\u0175r o rywbeth, maen nhw\u2019n &#8216;gwglo&#8217; ac yn gallu dod o hyd i symiau di-ben-draw o wybodaeth.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Felly, os ydyn nhw\u2019n feistri technolegol, os nad ydyn nhw byth wedi gwahanu oddi wrth eu dyfais symudol na mynediad i&#8217;r rhyngrwyd, pam nad ydyn nhw\u2019n ymwneud yn llawn \u00e2 dysgu ar-lein ar hyn o bryd?&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Anfonais i e-bost at fyfyrwyr o &nbsp;dair carfan wahanol i gael gwybod. Dyma un yn ateb!&nbsp; Mae&#8217;n amlwg nad &nbsp;yw negeseuon e-bost at eu dant nhw!&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, roedd yr ateb yn gadarnhaol iawn:&#8221;<em>Rwy&#8217;n<\/em><em> hoffi dysgu ar-lein gan ei fod yn caniat\u00e1u i bawb<\/em><em> gymryd rhan a siarad \u00e2&#8217;r athro, ac rwy&#8217;n hoffi\u2019r ffaith ein bod ni\u2019n gallu gwneud hynny o gysur ein cartref ein hunain. Yr unig broblem sydd gen i yw diffyg cymhelliant gydag gyda rhai gwersi a\u2019i bod yn hawdd i bethau eraill fynd \u00e2\u2019m sylw.&#8221;<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Gofynnais hefyd i&#8217;r myfyrwyr beth oedd eu barn mewn cyfarfod Teams. Dywedodd y rhan fwyaf y byddai&#8217;n well ganddyn nhw fod yn y coleg a dyna fyddai eu hoff ddewis. Dywedodd rhai &nbsp;nad oedden nhw yn hoffi aros i bobl ymuno \u00e2&#8217;r cyfarfod ar-lein cyn y gallai&#8217;r wers ddechrau. Dywedodd eraill fod y dechnoleg yn gyflymach o lawer gartref a bod pethau&#8217;n llwytho&#8217;n gynt.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedon nhw nad yw dysgu ar-lein yn brofiad wyneb yn wyneb. <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/03\/29\/wynebau-hapus-a-chodir-bawd-ymateb-addysg-athrawon-i-waith-cynrychiolwyr-myfyrwyr-tar-yn-y-pandemig\/\">Gwnes i herio hyn, gan eu hatgoffa bod ein cyfarfodydd Teams yn rhai wyneb yn wyneb, ond nid yw&#8217;r rhan \u00a0fwyaf ohonyn nhw yn troi eu camer\u00e2u ymlaen<\/a>. Pan ofynnwyd am y rheswm, doedden nhw ddim yn si\u0175r iawn. Dywedodd rhai mai&#8217;r rheswm am hynny oedd nad oedd cysondeb, roedd rhai athrawon yn eu gorfodi ac eraill ddim, ond fe waethon nhw gyfaddef, pan ofynnwyd iddyn nhw droi eu camer\u00e2u ymlaen, fod llawer yn dweud celwydd ac yn esgus nad yw&#8217;r camera&#8217;n gweithio.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn fy mhrofiad i, mae addysgu&#8217;n symud i ffwrdd oddi wrth fyfyrwyr sy&#8217;n eistedd mewn neuaddau darlithio ac sy\u2019n cymryd nodiadau , mae dyddiau\u2019r &#8216;sialc a siarad&#8217; wedi hen fynd. Mae adborth gan fy nysgwyr yn awgrymu eu bod nhw\u2019n awyddus i ymwneud \u00e2\u2019r broses ddysgu a bod yn rhan lawn ohoni. Mae&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;m myfyrwyr yn dysgu orau drwy wneud a mwynhau trafodaethau dosbarth ac amgylcheddau dysgu rhyngweithiol. Hefyd, mae&#8217;n well ganddynt ddysgu cydweithredol a rhannu syniadau a barn.<\/p>\n\n\n\n<p>Felly efallai mai cynnwys yr hyn a ddysgir ar-lein yn hytrach na&#8217;r dull darparu yw&#8217;r broblem. Er ei bod hi\u2019n amlwg nad yw eistedd o flaen cyfrifiadur am gyfnodau hir, fel sydd wedi digwydd yn ystod pandemig COVID-19, yn helpu.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar lawr dosbarth gall dysgu fod yn fwy egn\u00efol, gall myfyrwyr symud o gwmpas ar gyfer gweithgareddau gwaith gr\u0175p neu i roi adborth. Maen nhw\u2019n mynd am seibiannau a chinio gyda&#8217;i gilydd ac yn gyffredinol mae&#8217;n fwy cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n ymddangos i mi ei bod yn bryd dechrau arbrofi, er mwyn eu denu i ymgysylltu\u2019n fwy. Mae syniad gan Brifysgol Ontario yn cynnwys cyflwyno munudau digidol i wers. Mae munud ddigidol yn un ciplun ar wythnos myfyriwr, gallai fod yn llun, yn ddyfyniad neu gerdd, lliw, neu ddolen, mewn gwirionedd unrhyw beth i ddisgrifio wythnos y person neu sut maen nhw&#8217;n teimlo.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Cynhaliwyd yr ymchwil mewn pedwar cam ac edrychodd ar effeithiolrwydd defnyddio eiliadau digidol i greu cymunedau ar-lein dilys. Roedd pob cam yn cynnwys meintiau sampl rhwng 21 a 26 o fyfyrwyr ac yn defnyddio dulliau ansoddol i amseru teithiau&#8217;r myfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Nododd yr ymchwil fod munudau digidol yn cynyddu presenoldeb ac ymgysylltiad myfyrwyr. Canfu fod myfyrwyr &nbsp;yn mwynhau rhyngweithio \u00e2&#8217;i gilydd ac roeddent yn dechrau cyrraedd yn gynnar ar gyfer gwersi. Nododd fod munudau digidol yn creu ymdeimlad o gymuned ac yn annog rhyngweithio cymdeithasol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy&#8217;n mynd i gyflwyno hyn unwaith yr wythnos i bob carfan o&#8217;m myfyrwyr. Gofynnir i&#8217;r myfyrwyr ddod \u00e2 munud ddigidol i&#8217;w rhannu. Mae&#8217;n amlwg bod rhaid i gamer\u00e2u fod ymlaen, a bydd yn rhaid i fyfyrwyr siarad \u00e2&#8217;i gilydd. Gellid arddangos eu munud ddigidol yn gefndir iddynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y drafodaeth yn rhoi pwrpas iddyn nhw wrth aros i eraill ymuno \u00e2&#8217;r cyfarfod. <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2020\/06\/29\/mewngofnodi-i-addysgu-ar-lein\/\">Bydd yn eu cadw&#8217;n brysur ac yn annog cyfathrebu<\/a>. Gellir ei ddatblygu i gynnwys elfen o gystadleuaeth \u2013 y llun anifeiliaid anwes gorau, y mwgwd gorau, hoff anifail ac ati.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Yn fy mhrofiad i, bu diffyg o ran ymwneud myfyrwyr \u00e2 dysgu ar-lein yn ystod pandemig COVID-19. Yng Nghymru, nid yn unig y mae angen inni ddatrys materion mynediad, rwy\u2019n credu bod angen inni edrych yn ofalus hefyd ar gynnwys y cwrs a sut y caiff ei ddarparu.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy&#8217;n credu bod angen dybryd i wneud dysgu digidol yn fwy rhyngweithiol ac yn fwy &nbsp;pleserus. Dylai dysgu fod yn hwyl \u2013 &nbsp;gadewch i ni fynd ati i sicrhau hynny!<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><em><strong>Mae Linda Kelly yn ddarlithydd mewn TG a Busnes yng Ngr\u0175p Colegau Castell-nedd Port Talbot, <\/strong><\/em><strong><em>ac yn fyfyriwr ar raglen<\/em><\/strong> <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/doctorate-education\/\" target=\"_blank\"><em><strong>Doethuriaeth Addysg<\/strong><\/em><\/a><strong><em>\u00a0Athrofa<\/em><\/strong><\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae effaith pandemig COVID-19 ar ein system addysg wedi bod yn sylweddol ac mae pawb yn addasu i ffyrdd newydd o weithio. Yma, mae Linda Kelly yn ymchwilio i ba raddau y mae myfyrwyr coleg wedi cymryd rhan mewn dysgu ar-lein&#8230; Cafodd fy ngharfan bresennol o fyfyrwyr eu geni gan mwyaf ar \u00f4l y flwyddyn&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":39893,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[291],"tags":[305,306,304],"class_list":["post-39895","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog-cy","tag-cenhedlaeth-z","tag-covid-19-2","tag-dysgu-ar-lein","category-291","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39895","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39895"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39895\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":39896,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39895\/revisions\/39896"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/39893"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39895"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39895"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39895"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}